Agenda item

Cymorth Seiliedig mewn Ysgol ar gyfer Llesiant Emosiynol

Trafodaeth gyda’n Seicolegwyr Addysgol arweiniol ar y cymorth a roddir mewn ysgolion i gynorthwyo llesiant emosiynol yn ystod pandemig Covid-19.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Seicolegwyr Addysgol Morwenna Wagstaff a Lucie Doyle y cyflwyniad ac ateb cwestiynau gan aelodau, gydag ymatebion ychwanegol gan Will Mclean a Sharon Randall-Smith.

 

Her:

A yw’r gwasanaeth yn seiliedig yng Ngwent neu yn Sir Fynwy?

 

Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Sir Fynwy ydyn ni, er ein bod yn gweithio’n gynyddol ar lefel rhwydwaith gyda’n chydweithwyr rhanbarthol.

 

Mae ADY yn cynnwys gwahanol gyflyrau, sydd angen gwahanol ddulliau gweithredu. Sut y caiff athrawon eu hyfforddi yn y gwahanol feysydd yma?

 

Ydyn, rydyn ni’n cwmpasu holl anghenion ADY. Ynghyd â’r gwaith a ddisgrifiwyd yn y cyflwyniad, mae llawer o linynnau eraill i’r gwaith yr ydym yn ymwneud ag ef, yng nghyswllt strategaeth ADY. Yn neilltuol, mae ein ffocws ar blant gyda ADY, cyfathrebu cymdeithasol, awtistiaeth, ymddygiad heriol ac yn y blaen. Fel Gwasanaeth Seicoleg Addysgol rydym yn cynnig haenau o waith: os yw’n ddisgybl cymhleth, byddem yn ymgysylltu o amgylch y plentyn hwnnw’n unigol gyda gweithwyr proffesiynol eraill, staff a rhieni. Medrem wedyn weithio ar lefel ysgol, gan ddynodi beth mae pob ysgol ei angen – os byddai ysgol yn cael budd o hyfforddiant ysgol gyfan mewn ardal neilltuol, er enghraifft. Rydym hefyd yn meddwl ar lefel systemig am yr hyn y gallwn ei gynnig yn y maes hwnnw ar draws yr awdurdod.

Gan nad oes gennym anghenion ysgol arbennig wedi ei dynodi yn Sir Fynwy, bydd rhai plant yn mynd i’r ysgol tu allan i’r sir. Sut gallwn sicrhau fod y plant mewn ysgol breifat yn cael budd o’r un hyfforddiant a chefnogaeth â rhai mewn ysgolion gwladol?

 

Rydym yn y broses o ymchwilio sut i gyflwyno hyfforddiant. Er nad oes gennym ysgol arbenigol mwyach, mae gennym bedair canolfan adnoddau anghenion arbennig. Yr ydym ni (Dr Wagstaff a Dr Doyle) yn rhan o rwydwaith canolfan adnoddau anghenion  arbennig ar draws Sir Fynwy, sy’n dod â gweithwyr proffesiynol ynghyd o ADY, ein gwasanaeth a phob un o’r canolfannau i ddatblygu’r hyfforddiant a’r sgiliau i gefnogi ein plant gyda’r anghenion mwyaf cymhleth. Pan mae gan blentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, rydym yn aml yn ymwneud gyda’r plant hynny sy’n mynychu ysgol tu allan i’r sir, p’un ai yw hynny’n rhan o adolygiadau, gan ddiweddaru cefnogaeth. Gall y rhain fod yn rhai o’n hachosion mwyaf cymhleth. Mae gennym lefel uchel o waith i gefnogi’r plant hynny, gyda’r tîm ADY a chydweithwyr eraill, tebyg i Ofal Cymdeithasol, i sicrhau fod lleoliadau yn addas, bod staff wedi cael hyfforddiant da, a bod ansawdd yr addysg yr hyn y byddem eisiau iddynt.

 

Mae’r hybiau yn seiliedig yn yr ysgolion gwladol, ond a yw’r un gefnogaeth ar gael i ysgolion heb fod yn rhai gwladol?

 

Byddai ein gwasanaeth yn ymwneud ar lefel unigol, h.y. pe byddai angen hyfforddiant unigol am blentyn o Sir Fynwy yn un o’r ysgolion hynny. Mae’r broses yr awn drwyddi cyn lleoli plant mewn ysgol tu allan i’r sir yn helaeth. Bydd y tîm yn ymwneud yn helaeth mewn gweithio gyda’r ysgol, rhieni a gweithwyr proffesiynol iechyd i gyrraedd diagnosis sy’n arwain at ddatganiad o ADY. Rydym wedyn yn mynd drwy broses helaeth lle’r ydym yn comisiynu lle mewn ysgol arbennig ar gyfer y plentyn hynny, os na allwn ddiwallu eu hanghenion yn un o ganolfannau adnoddau anghenion arbennig yn y sir. Rydym yn adolygu eu datganiad yn flynyddol, mewn ymgynghoriad gyda’r ysgolion. Er y gallai fod angen hyfforddiant penodol weithiau, holl ddiben y broses yw rhoi’r plentyn mewn ysgol lle mae’r ysgol yn darparu’r gefnogaeth ac addysg hynny – byddai’n anarferol, felly, i ni roi hyfforddiant sylweddol i ysgolion arbennig annibynnol, gan mai dyna’r union beth yr ydym yn ei gomisiynu yn y lle cyntaf.

 

A ydym wedi medru targedu’r ysgolion a fynychir gan blant o’r aelwydydd mwyaf amddifadus?

 

Nid yw cydnerthedd yn sefydlog. Er fod llawer o blant â bywydau cartref anodd, a ffactorau risg ychwanegol, un o’r ffactorau diogelu yw’r berthynas a chefnogaeth a gaiff plant gan ysgolion. Felly er na allwn newid llawer o’r ffactorau seiliedig mewn cartref hyn, gall ysgolion wneud llawer i ddatblygu a magu cydnerthedd. Ddwy wythnos yn ôl, fe wnaethom gynnal hyfforddiant oedd ar gael i’r holl staff ar draws yr ysgolion, lle roedd y ffocws ar fagu cydnerthedd yn dilyn y pandemig. Roedd llawer o adnoddau a deunyddiau yr aeth ysgolion â nhw i ffwrdd gyda nhw, ac fe gawsant yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn.. Mae gan ein hysgolion Seicolegydd Addysgol cyswllt penodol sydd mewn cysylltiad i drafod grwpiau neilltuol o blant a fedrai fod ag anghenion neilltuol.

 

Bu atchweliad 6-mis mewn mathemateg ar gyfer ein disgyblion Blwyddyn 7 yn Ysgol Brenin Harri VIII - os byddwn yn mynd i gyfnod clo pellach, a ydym mewn risg o golli cenhedlaeth o addysg?

 

Mae plant yn cymryd camau yn ôl yn ystod gwyliau’r haf beth bynnag, felly mae’n naturiol i gau hir gael effaith. Mae Gwasanaethau Plant wedi gwneud peth gwaith gyda Sharon Randall-Smith ar grant ‘Cau’r Bwlch’ gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n gweithio gydag ysgolion i ddatblygu plant mewn modd holistig fel fod yr hyder a chapasiti arall ganddynt pan ddaw i geisio cau’r bwlch.

 

Sharon Randall Smith: Buom yn gweithio gyda Seicolegwyr Addysgol i edrych sut y gallwn ddefnyddio peth o’n cyllid ar gyfer darpariaeth ddysgu carlam, i gefnogi dysgwyr sydd wedi symud o Bl 6 i Bl 7 yr ydym wedi eu dynodi fel bod yn cael ychydig o drafferth. Rydym wedi edrych sut y byddwn yn cynorthwyo ysgolion yn eu cynllun dysgu carlam, lle mae ganddynt staff ychwanegol i ganolbwyntio’n neilltuol ar lythrennedd a rhifedd, i gyflymu’r cynnydd hwnnw dros y chwe mis nesaf, i gau cymaint ag sydd modd i gau’r bwlch.

 

Mae rhieni yn crynhoi wrth glwydi ysgolion yn broblem. A oes ffordd y gallwn ymyrryd fel awdurdod?

Cytunwn y dylai rhieni ddangos y mathau o ymddygiad y disgwyliwn i blant eu dilyn. Mae’r safleoedd ysgol yn glir iawn am lif symudiad a phellter cymdeithasol. I geisio gostwng y nifer o rieni sy’n ymgasglu mewn rhai lleoedd, rydym yn edrych ar gau ffyrdd mewn rhai ysgolion. Os yn llwyddiannus, byddwn yn ymestyn hyn ymhellach. Tu hwnt i hynny, mae’r berthynas rhwng penaethiaid ysgol a rhieni yn hollbwysig, ond byddai’r neges yn gryfach yn dod gan benaethiaid ysgol eu hunain. Rydym wedi trafod y mater gyda phenaethiaid ysgol yn yr ychydig gyfarfodydd diwethaf a byddwn yn mynd â’r pwynt hwn i’r timau Menter a Gweithrediadau i weld os oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud.

 

Sut ydych yn ymdopi i wneud eich gwaith gyda’r cyfyngiadau Covid?

Rydym wedi bod yn mynd i ysgolion, ac yn dal i wneud hynny, lle mae hynny’n hanfodol, yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru – mae hyn ychydig yn amwys, felly rydym bob amser yn cymryd dull gweithredu sy’n canoli ar yr unigolyn, gan edrych ar yr amgylchiadau unigol. Mewn rhai achosion, mae rhieni yn berffaith alluog i gymryd rhan mewn cyfarfodydd Teams gyda gweithwyr proffesiynol eraill; bu hyn yn eithaf cadarnhaol. Ond mewn achosion eraill, mae angen i ni gael y cyfarfodydd hynny mewn ysgolion, yn unol gydag asesiadau risg. Rydym yn ceisio gwneud cymaint o’n gwaith ar-lein ag sydd modd. Bu ein hysgolion, gweithwyr proffesiynol a rhieni yn wych wrth symud ymlaen gyda hynny.

 

Sut mae ELSA yn llwyddo i fynd i mewn heb dorri’r swigod?

Unwaith eto, mae hyn yn dibynnu ar ysgolion unigol a sut y defnyddiant eu ELSA. Mae galw cryf gan ysgolion i gael mwy o ELSA wedi eu hyfforddi a rydym yn edrych ar y rhwydwaith cenedlaethol am sut y gellir gwneud hynny, gan ei fod fel arfer wyneb yn wyneb. Mae rhai ysgolion yn rheoli eu ELSA o fewn swigod – byddant yn parhau ynddynt dros gyfnod. Bu hyn yn broblem mewn rhai ysgolion, a dyna pam eu bod angen eisiau mwy o ELSA, yn ymarferol un ym mhob swigen. Mae gan bob ysgol eu hasesiad risg eu hunain fydd yn effeithio sut i ddefnyddio eu ELSA.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae’r Pwyllgor yn ddiolchgar iawn i’r swyddogion am eu gwaith, yn arbennig yn ystod y cyfnod hwn. Rydym wedi trafod pwysigrwydd y pedair canolfan anghenion arbennig wrth gefnogi dysgwyr bregus a chefnogaeth y gwasanaeth i bob plentyn gyda datganiad. Mae gwytnwch yn gysyniad anodd ac yn bwysig iawn ar hyn o bryd ar gyfer staff a phlant: os nad yw staff yn gydnerth, ni fyddant yn medru trosglwyddo’r cydnerthedd hwnnw i’r plant. Mae’r cysylltiadau rhwng cynradd ac uwchradd yn bwysig ac mae mwy o berygl i blant yn cymryd camau’n ôl nawr nag mewn amgylchiadau arferol. Rydym yn falch i glywed am yr holl gefnogaeth barhaus. Mae rhieni yn crynhoi yn parhau i fod yn broblem a rydym yn gobeithio fod yr awdurdod yn gweithredu mesurau tebyg i gau ffyrdd. Mae gwaith parhaus ELSA yn bwysig iawn a rydym yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw hi i roi cefnogaeth wyneb yn wyneb yn yr ysgolion. Mae bob amser angen i ni gadw mewn cof yr athrawon sydd ar y rheng flaen..

 

Dogfennau ategol: