Agenda item

Cymorth Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Plant Bregus

Rhoi diweddariad i aelodau am y cymorth a roddir yn ystod pandemig Covid-19.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddogion Jane Rodgers a Rebecca Stanton y cyflwyniad ac atebodd gwestiynau aelodau, gydag ymatebion ychwanegol gan Will Mclean.

 

Her:

Yn ystod y cyfnod clo, byddech wedi disgwyl effaith oherwydd nad oedd ysgolion yn atgyfeirio i’ch tîm. O ble daeth yr atgyfeiriadau bryd hynny?

 

Ni wnaeth y gyfradd atgyweirio ostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod clo. Roedd llawer o atgyfeiriadau gan yr Heddlu, yn bennaf yn ymwneud â cham-drin domestig. Roedd hefyd hunan-atgyfeiriadau gan rieni oedd yn ei chael yn anodd gyda’r problemau oedd yn effeithio ar eu teulu yn ystod y cyfnod hwn. Ni ddaeth darpariaeth cymorth cynnar i ben, na chwnsela mewn ysgolion; felly er nad oeddem yn cael atgyfeiriadau’n syth i Gwasanaethau Plant, roedd gennym y cyfathrebu agored hwnnw gyda’r gwasanaethau help a chymorth cynnar. Felly, pan ddaeth problemau i’r amlwg, roedd modd i ni gael  yr atgyfeiriadau. Mae problemau o fewn teuluoedd yn dod yn amlwg er y gallai’r ysgolion fod ar gau – mae ysgolion yn atgyfeirwyr mawr, ond felly hefyd y Gwasanaeth Iechyd a’r Heddlu. Gwelsom gynnydd cyson pan ddaeth ysgolion yn ôl ond yr Heddlu sy’n parhau i atgyfeirio mwyaf.

 

A oes tystiolaeth o gynnydd mewn trais domestig yn ystod cyfnod clo?

 

Yn anffodus, nid ydym dod i wybod am bob cam-drin domestig. Po fwyaf y gallwn greu amodau lle gall plant a phobl ifanc rannu’r hyn sy’n digwydd gartref drwy wasanaethau a ddarperir gan y tîm cymorth i deuluoedd, y mwyaf y gallwn geisio mynd i’r afael â’r problemau hynny yn gynnar. Fel y soniwyd eisoes, mae lefel atgyfeiriadau heddlu wedi cynyddu – mae’r mwyafrif ohonynt yn ymwneud â cam-drin domestig.

 

Yng nghyswllt cyfarfodydd rhieni dan oruchwyliaeth, os yw dau deulu yn cwrdd a fydd risg o drosglwyddo feirws? Ond os dychwelwn i gyfarfodydd rhithiol, a fydd hynny’n effeithio ar gydnerthedd plant?

 

Buom yn glir am beidio troi digidol i ffwrdd yn llwyr – rydym wedi parhau i gynnig y ddau ddull. Rhan o’r rhesymeg dros hynny oedd, os byddwn yn dychwelyd i gyfnod glo llawn, na fydd plant dan anfantais, byddwn yn syml yn cynyddu’r elfen ddigidol. Yn ddi-os, fodd bynnag, bydd effaith ar blant sydd eisiau gweld eu rhieni nad ydyn nhw’n byw gyda nhw. Cafodd ein canolfannau cyswllt a chanolfannau amser teulu asesiad risg manwl, ac mae’r rheoli sy’n mynd gyda sut mae teuluoedd yn chwarae gyda teganau, y system lanhau ac yn y blaen, i gyd yn ei le. Felly, lle’r ydym yn dal i fedru cael cyswllt wyneb-i-wyneb, cafodd y camau angenrheidiol eu rhoi yn eu lle yn gywir.

 

Faint o’ch staff oedd yn fregus ac angen iddynt ynysu, a beth oedd pwysau cyfraddau absenoldeb? A allwn gefnogi hynny fel awdurdod?

 

Bu pwysau cymdeithasol ac emosiynol sylweddol ar staff. Byddwn yn parhau i wneud beth bynnag a fedrwn i gefnogi eu cydnerthedd. Mae mynd i mewn i’r cyfnod hwn yn anodd. Nid yw ein cyfraddau absenoldeb dros y cyfnod wedi bod i’r graddau y mae effaith go iawn ar y gwasanaeth; mewn gwirionedd, buont yn rhyfeddol o dda. Roedd angen i rai unigolion fod ar y rhestr warchod, neu mewn cartrefi lle’r oedd rhywun ar y rhestr warchod – rydym wedi gweithio’n ofalus gyda nhw, ac wedi cynnal asesiad risg arnynt i weld beth fedrant ei wneud. Gallodd llawer o’r bobl hynny barhau i weithio gartref. Fe wnaethom fonitro’r data yn y maes hwn yn agos iawn rhag ofn ein bod yn cyrraedd lefelau critigol o brinder staff.

 

Beth yw eich sylwadau cyffredinol ar oblygiadau y posibilrwydd o ail gyfnod clo cenedlaethol?

 

Mae’n anodd iawn dweud. Rydym wedi paratoi’n well ar gyfer y cyfnod clo nawr nag oeddem y tro cyntaf. Rydym wedi gwneud llawer o waith i’n gwneud ein hunain yn weithredol ac yn deall rhai o’r heriau yn well, a’r ffyrdd y gallwn eu lliniaru. Byddem yn sicr yn bryderus am yr effaith ar deuluoedd, ac rydym yn arbennig felly am lesiant emosiynol hirdymor y plant a phobl ifanc.

 

A ydych yn gobeithio cadw’r bartneriaeth gyda banciau bwyd yn gweithio?

 

Ydym, mae hyn yn uchel iawn ar ein hagenda. Rydym yn siarad gyda chydweithwyr sy’n rhedeg y banciau bwyd ac yn gwneud y gwaith cymunedol am sut y gallwn barhau’r gwaith hwnnw. Rydym hefyd yn edrych sut i ddod â’r trydydd sector i mewn, i wneud mwy o ddull gweithredu cymuned gyfan. Rydym hefyd yn cynnal arolwg drwy ein panel cymorth cynnar, i sicrhau y caiff ein bwriadau eu derbyn yn yr un ffordd gan y teuluoedd, ac i gael gwared ag unrhyw broblemau. Bu’n rhaid i ni fod yn ofalus i weithio gyda chydsyniad, a bod yn dryloyw i deuluoedd am rannu gwybodaeth rhwng y timau.

 

A oes gennym syniad pam fod cyfraddau atgyfeirio wedi cynyddu? Pwysau neilltuol?

 

Bu cynnydd mewn problemau presennol a deinameg teuluol oherwydd pwysau Covid. Bu cyllid yn un o’r problemau. Nodwedd fawr arall ar gyfer plant a phobl ifanc fu pryder o amgylch y pandemig a diffyg diwedd arno, sydd wedi codi teimladau o alar a cholled: mae plant wedi colli blwyddyn yn yr ysgol, gweithgareddau gyda ffrindiau ac, wrth gwrs, bu llawer o farwolaethau mewn teuluoedd. Rydym wedi gweithio’n galed ar sut i dderbyn a thrin galar a cholled mewn gosodiad teulu. Anelwn gynnal y digwyddiad Cofio blynyddol am alar a cholled yn rhithiol eleni. Rydym hefyd yn cadw golwg agos ar gamfanteisio ar-lein, yn droseddol ac yn rhywiol, camddefnydd o sylweddau ac alcohol ac iechyd meddwl rhieni.

 

Pa gefnogaeth mae plant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ei dderbyn, nawr nad oes ysgol arbenigol iddynt (gyda T? Mounton wedi cau)?

 

Ie, dyma rai o’n plant mwyaf bregus yn ystod y cyfnod hwn. Ni allai pob un ohonynt fynd i’w hysgolion, yn bendant yn ystod cyfnod clo. Ein rôl yw rhoi seibiant a chefnogaeth i blant gydag anableddau, a gwnaethom hynny drwy ein gwasanaeth cymorth anabledd Gweithredu dros Blant: fe wnaethom dreulio nifer o oriau bob dydd gyda rhai o’n plant mwyaf bregus yn ystod y cyfnod hwn er mwyn rhoi seibiant i’r teulu a cheisio cadw rhyw fath o drefn arferol. Roedd gennym ein gwasanaeth seibiant dydd, lle gallai plentyn fynd yn ystod y dydd, ac roedd rhieni’n parhau i ddefnyddio taliadau uniongyrchol yn ystod y cyfnod hwn. Felly er na allwn byth gymryd lle’r hyn y byddai plentyn yn ei gael o ysgol, gallwn roi cymorth ychwanegol lle mae ei angen.

 

Roedd llawer iawn o waith cadarnhaol rhwng cydweithwyr Plant a Phobl Ifanc a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy gydol y cyfnod clo er mwyn sicrhau ein bod yn gwybod am yr holl blant a fedrai fod angen cymorth, a sicrhau y gallai plant bregus gael mynediad i gymorth a dysgu. Mae’n bwysig cofio fod T? Mounton ar agor drwy gydol y cyfnod hwnnw, felly roedd yn rhoi cefnogaeth ac addysg i’r plant yn ystod y cyfnod clo. Mae nifer o blant a gefnogwn, yn aml mewn cysylltiad gyda Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n gorfod mynd i ysgolion tu allan i’r sir: mewn rhai achosion roeddent  wedi medru parhau i fynychu’r ysgol, ond os na, roeddem yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion i sicrhau eu fod yn cadw eu cysylltiad gyda’r plant. Nid yw ein disgwyliadau am ysgolion tu allan i’r sir yn ddim gwahanol i’n disgwyliadau gan y rhai yn y sir.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Mynegodd yr aelodau eu diolch am waith y swyddogion a’u cydweithwyr. Mae’n gysur bod Gwasanaethau Plant wedi ymateb yn gyflym, mewn sefyllfa anodd iawn. Fe wnaeth yr ysgolion ymateb yn dda iawn hefyd. Cawsom adroddiad cynhwysfawr am sut y gweithredodd Gwasanaethau Plant yn ystod y cyfnod hwn yn rhithiol, ac yn gynyddol – wyneb yn wyneb. Rydym yn ddiolchgar am y cwestiynau a atebwyd am drais yn y cartref, sy’n bryder mawr yn i’r pwyllgor hwn. Mae’n dda clywed fod y gwasanaeth wedi parhau i ddynodi plant a theuluoedd sydd mewn risg, ac wedi rhoi’r gefnogaeth angenrheidiol. Rydym hefyd yn falch i glywed am y strategaethau ar gyfer cefnogi staff. Roedd yn dda clywed fod atgyfeiriadau’n parhau, a bod absenoldeb staff yn isel. Fe wnaethom hefyd glywed am y gwaith parhaus gyda sefydliadau allanol.

 

Dogfennau ategol: