Agenda item

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

I rannu eich adborth am adroddiad Darparu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dyfodol neu’r Wasanaeth Casgliadau Gardd:

 

·         Anfonwch e-bost at registertospeak@monmouthshire.gov.uk 

·         a byddwch yn cael ymateb awtomatig gyda chyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno'r ffeiliau hynny i'r pwyllgor.   

·         Gallwch wedyn: 

o   lanlwytho ymateb ysgrifenedig (uchafswm o 500 gair), neu

o   recordio clip fideo neu sain er mwyn rhannu eich barn (uchafswm o 4 munud).


Os bydd cyflwyniadau'n fwy nag awr yn gyfan gwbl, caiff sylwadau eu rhannu yn ôl thema (a heb eu chwarae’n llawn) ond bydd pob cyflwyniad ar gael i'r pwyllgor.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau cyhoeddus yw dydd Mercher 23ain Medi am 5pm. Mae manylion llawn am y broses siarad cyhoeddus ar gael ar dudalen 4 y pecyn agenda. 

 

 

Cofnodion:

Yn dilyn y cyflwyniad fideo o ymatebion preswylwyr Brynbuga, cyflwynodd Alison Ivin, aelod o Gyngor Tref Brynbuga, ymateb i’r argymhelliad a wneir yn yr adroddiad i gau Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) Brynbuga fel a ganlyn:

 

 “Mae llawer i’w ystyried yn yr adroddiad. Oherwydd y cyfyngiad amser, byddaf yn canolbwyntio ar ambell i bwynt allweddol yn unig. Yn gyntaf, £40 mil yw’r arbediad a wneir yn sgil cau Brynbuga – nid ydym yn derbyn hyn fe rheswm dros gau. Mae bron i 19,000 o gartrefi ym Mrynbuga a’r ardal gyfagos; mae cyfartaledd y treth cyngor am gartref tair llofft yn £2000, felly telir am y ffigur yma gan daliad treth cyngor 20 o gartrefi yn unig. Cost gwaith hanfodol yw £30 mil; eto, gellir talu am hyn gan 15 cartref.

 

Un pwynt sydd wedi ei wneud yw bod perfformiad Brynbuga a Mitchel Troy yn tynnu cyfrannau ailgylchu i lawr, ac felly’n effeithio ar berfformiad yn erbyn targedau Llywodraeth Cymru. Nid dyma’r sefyllfa eleni, gan fod y pandemig wedi gwella cyfraddau ailgylchu. Dyfynnwyd bod y gyfradd uchaf o ran ailgylchu yn Sir Fynwy wedi ei chyrraedd yn 2021 , sef 74% - felly, pe byddai Brynbuga’n aros ar agor ac yn cael y cyfle i dderbyn yr un gefnogaeth ac y mae canolfannau eraill wedi ei derbyn (o ran addysg, systemau bwcio, ac ati), mae gennym amser i wella. Mae disgwyl i’r broses caffael ddod i ben ym mis Medi 2021; nid oes angen ei gohirio oherwydd gellir gwneud cais am gaffael gyda dwy sefyllfa wahanol. Nid oes angen gwneud penderfyniad o ran cau Brynbuga nawr.

 

Mae rhai ffigurau cost yn yr adroddiad, o ran y gymhariaeth gyda Mitchel Troy a Brynbuga, nad wyf yn gallu eu dilyn, ond beth bynnag, mae’r rhain yn ffigurau hanesyddol. Rydym bellach mewn cyfnod newydd, un nad oedd neb yn disgwyl bod ynddo, o ran y pandemig, sydd wedi dod â newid sydd nid yn unig yn effeithio ar ffigurau ailgylchu y sir gyfan, ond rhai Brynbuga hefyd. Rydym eisiau’r cyfle ym Mrynbuga i ddangos sut y mae ffigurau ailgylchu wedi elwa o newidiadau mewn ymddygiad . Mae’r newidiadau yma wedi digwydd yn ystod y pandemig.

 

Bydd angen gwneud gwaith, yn ôl pob sôn, er mwyn gwella Brynbuga. Bydd y gwaith yn costio tua £30 mil, ond mae symiau mawr wedi eu gwario’n barod yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn diogelu dyfodol y cyfleuster – nid ydym eisiau i’r arian yma gael ei daflu i ffwrdd. Roedd yn fuddsoddiad; mae angen buddsoddiad bob amser er mwyn cynnal gwasanaeth. Mewn cyferbyniad â hyn mae cost o dros £1.5 miliwn wedi ei ddyfynnu ar gyfer diweddaru Mitchel Troy. Un sylw sydd wedi ei wneud yw nad oes modd i Frynbuga ail agor am resymau sy’n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol; mae dau weithiwr ar un safle. Rydym wedi clywed nad yw’n addas ar gyfer pobl anabl, ond gallai’r gweithwyr dan sylw helpu pobl. Gellir rheoli hyn oll drwy gadw pellter cymdeithasol, yn union fel yr ydym yn ei wneud wrth gerdded i lawr y stryd. Rydym yn gwrthwynebu un thema benodol, mai CAGC Brynbuga sy’n perfformio waethaf yn y sir, ac na fydd hyn yn gwella. Rydym yn herio hyn.

 

Mae un o’r ffigurau yn Nhabl 1, tudalen 4, yn dangos fod Brynbuga’n perfformio ar raddfa Ailgylchu v Gwastraff Gweddillol o  47.92%, yr agosaf at hyn yw Mitchel Troy. Dyma’r ffigurau ar gyfer 2018/19. Mae’n tanlinellu’r her amlwg sef nad yw canolfannau llai’n ailgylchu’r holl wastraff a gynigir fel y canolfannau mwy. Rhoddwyd rhestr i ni o’r eitemau a ailgylchir mewn mannau eraill; mae’r rhain yn eitemau swmpus, nwyddau gwynion, rwbel. Dim ond wrth gymharu gwasanaeth cyfatebol y mae ystadegau’n ddefnyddiol – fe ddylai ffigurau Brynbuga gael eu cymharu â ffigurau’r safleoedd ychwanegol yma, dim ond wedi i’r eitemau ailgylchu ychwanegol yma gael eu tynnu o’r cyfrifiad. Fel arall, mae’r mesur sero a roddir i Frynbuga’n cael ei ddehongli fel methiant Brynbuga i’w ailgylchu, yn hytrach na’r ffaith nad oes cyfle i wneud hynny yno. Mewn geiriau eraill, mae’r gallu i ailgylchu rwbel a plastfwrdd mewn safleoedd eraill yn rhoi Brynbuga dan anfantais. Ni ddylai hyn fod, sef bod diffyg cyfleuster yn cael ei ddefnyddio i gynrychioli perfformiad gwael. Mae Adroddiad Eunomia yn mesur pob pennawd, ac wrth eithrio rwbel a phlastfwrdd yn unig, daw a Mitchel Troy i 48.52% ailgylchu gweddilliol, sydd yr un fath â Brynbuga, ac sy’n lleihau canrannau ailgylchu’r ddwy ganolfan fwy o rhwng 8 a 10% - felly cymhariaeth agosach gyda Brynbuga.

 

Gwelir gwastraff bwyd yn uchel yma ym Mrynbuga ond derbynnir bod hynny’n seiliedig ar samplu anghyson, ac nad yw hyn yn gynrychioliadol. Roedd y sampl yn rhu fach a gallai’r gwastraff fod wedi deillio o ddefnydd masnachol, yn hytrach na gan breswylwyr. Mae ailgylchu gwych yn digwydd ym Mrynbuga yn gyffredinol, a chaiff cyfleusterau yn yr Hwb a’r Orsaf Dân eu defnyddio ond ni chaiff y rhain eu cynnwys yn y cyfrif. Mae gennym siop stryd fawr newydd ar gyfer Sero Wastraff ac ail lenwi. Mae ymddygiad da ar draws y dref yn cael effaith negyddol ar y tunelli a ailgylchir ond dyma’r pethau iawn i’w gwneud. Ni ddylai hyn ein rhoi dan anfantais o ran cymharu cyfrannau gwastraff gweddilliol.

 

Yn ôl yr hyn a ddywedir, mae ffigurau wedi gwella’n sylweddol ar draws y sir o ganlyniad i gyfnod clo Covid, sy’n golygu bod gwell ffigurau stepen drws a bod budd o systemau trefnu apwyntiadau. Ond mae rhagdybiaeth wedi ei wneud na fyddai Brynbuga’n elwa yn yr un ffordd pe byddai’n ail agor – nid ydym yn deall hyn. Dro ar ôl tro, gwneir datganiadau sy’n dweud na fydd Brynbuga’n gwella, mai dyma’r ganolfan ailgylchu a fydd perfformio waethaf yng Nghymru –caiff hyn ei ddatgan fel ffaith, ond barn yn unig ydyw. Mae gweddill yr adroddiad yn tynnu sylw penodol at lwyddiannau sydd i’w priodoli i ail-addysgu neu newid mewn ymddygiadau yn ystod Covid, gwelliannau sydd wedi eu gwneud i ailgylchu ar stepen y drws o ganlyniad i’r system trefnu apwyntiadau, ac mae’r llwyddiannau yma wedi eu gwadu i Frynbuga, gan nad yw wedi cael yr hawl i ail-agor. Nid yw’n wahanol iawn i’r tri safle arall. Wrth edrych ar y tabl, sy’n seiliedig ar arolwg y cwsmeriaid, mae’r holl eitemau gweddilliol a’r gwastraff a allai fod wedi eu casglu ar stepen y drws yn cyfrif am tua 65% o’r cyfanswm ar draws bob un o’r pedwar safle. Gall Brynbuga wella, fel y mae eraill wedi ei wneud.

 

Dywedir wedyn na fydd Brynbuga’n gwella ddigon; eto, rydym yn herio hyn. Mae profiad diweddar y swyddog yn dangos bod gwelliannau’n cael eu gwneud drwy addysg a’r system trefnu apwyntiadau, ac mae ein gr?p SURF newydd yn dîm newydd brwdfrydig a fydd yn effeithio ar newid. Yn wir, mae gennym rwymedigaeth i genedlaethau’r dyfodol i effeithio ar newid. Mae Swyddogion ac Aelodau o MCC wedi rhoi cadarnhad i Gyngor Tref Brynbuga na fydd Covid yn cael ei ddefnyddio fel dyfais i gau’r cyfleuster ym Mrynbuga, ond eto, drwy beidio â chaniatáu i’r cyfleuster ail agor, dyma’n union sy’n digwydd. Mae’r ganolfan wedi cau er mwyn cynnal ymgynghoriad pellach ar y ddarpariaeth CAGC, ac ar gyfer dadansoddiad cyfansoddol ychwanegol o ffrydiau gwastraff. Nid yw hyn wedi digwydd oherwydd Covd a’r cyfnod clo, ond mae Brynbuga yn parhau ar gau.

Nid ymgynghoriad ar lefel sir gyfan yr oedd aelodau’r Cyngor Tref yn ei ddisgwyl yn dilyn cyfarfodydd gyda MCC. Yr hyn a ddisgwyliwyd oedd arolwg ym Mrynbuga. Dim ond 959 o atebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad a wnaed, a digwyddodd yr ymgynghoriad rhwng canol Mawrth a chanol Ebrill, pan oedd pawb yn sigledig oherwydd effaith y cyfnod clo a’r pandemig. Gan bod pethau bellach yn symud yn eu blaen o ran y Cyngor Tref a’r gr?p SURF, byddai modd i ni gael ymatebion gwell, sydd wedi eu targedu, a defnyddio’r cyfle hwnnw i addysgu pobl yngl?n â’r hyn y gellir ei ailgylchu a pha welliannau y bydd defnyddio stepen y drws yn arwain atynt. Nid oedd 75% o’r bobl a ymatebodd eisiau gweld canolfannau’n cau. Canfyddiad yn unig a roddodd yr ymgynghoriad, ond roedd y canfyddiad yma’n debyg ar draws y pedair canolfan ailgylchu: sef bod 65% o’r gwastraff yn cynnwys deunydd y gellid ei gasglu ar stepen y drws. Nid oedd Brynbuga ddim gwaeth. Ymatebodd llawer mwy i’n deiseb a chysylltu gyda SURF. Peidiwch ag anwybyddu’r trigolion os gwelwch yn dda. Ymatebodd yn agos at 2000 o bobl i’r ddeiseb. Mae dros 540 o lythyrau personol yn cefnogi’r cyfleuster wedi eu derbyn. Ac mae mwy’n cyrraedd. Hyn oll mewn cyfnod byr iawn.

 

Mae teimlad sy’n cael ei gyfleu yn adroddiad Christine Wilkinson, bod Brynbuga’n darged, dro ar ôl tro, o ran cael gwared â gwasanaethau. Gadewch i ni wneud achos gyda’n gilydd i gadw’r cyfleuster ar agor. Roedd yr adroddiad yn annelwig ar y pwynt yma, ond gadewch i mi leisio’n eglur mai’r ymateb llethol gan y dref a’r ardal gyfagos yw y dylai’r cyfleuster aros ar agor. Mae’r gr?p gweithredu SURF yn gwbl ymroddedig i achub y cyfleuster. O ganlyniad i’r cynnydd o ran ailgylchu sydd wedi ei weld yn ystod covid, ac o herwydd yr oedi o ran caffael, mae gan MCC amser i roi amser i SURF a’r Cyngor Tref gynnal ymgynghoriad wedi ei dargedu a gwneud gwelliannau. Gofynnwn i MCC i ohirio cau’r ganolfan, fel y cytunwyd yn flaenorol, er mwyn rhoi amser y tu allan i’r cyfnod clo i gynnal ymgynghoriad priodol, a hynny tra mae’r ganolfan ar agor – fel arall, mae Covid wedi ein hamddifadu o’r cyfle i ddangos newid. Mae gan MCC’r gallu i gadw cyfleuster sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr, yng nghefn gwlad Sir Fynwy, ar agor. Mae’n hybu ailgylchu ar lefel y gall pawb ei werthfawrogi ac mae’n deall bod gweithredoedd dydd i ddydd yn cyfrif ac yn gwneud gwahaniaeth. Eto, mae MCC eisiau ei gau, heb roi’r un cyfle i ni ag y mae lleoliadau eraill o fewn y sir wedi eu cael, a chaniatáu’r newid byd y mae Covid wedi ei greu i weithio a chreu manteision. Gallai’r newidiadau positif o ran ymddygiadau sydd wedi eu gweld mewn mannau eraill helpu yma hefyd.

 

Mae’r adroddiad yn nodi bod gostyngiad enfawr wedi bod o ran ymwelwyr, gan fod y system trefnu apwyntiadau bellach yn ei lle, o’i gymharu â 2019, gan fod mwy o ailgylchu’n digwydd ar stepen y drws. Does dim yn awgrymu nad dyma fyddai’r sefyllfa ym Mrynbuga hefyd. Mae’r adroddiad wedi tynnu sylw at y negyddol, ond fe hoffwn droi hyn ar ei ben a thynnu sylw at y positif: rydym yn dadlau y bydd pobl yn dod yn rhwystredig wrth fethu ag ailgylchu popeth ym Mrynbuga; mater o wybod beth y gellir ei ailgylchu yn unig yw hyn. Os yw’r system yn eglur, sef bod angen trefnu apwyntiad, yna bydd ymddygiad wedi’i ddysgu’n cymryd drosodd, a bydd pobl yn gwybod ble y dylent fynd â’u gwastraff. Nid yw’r ffaith nad yw Brynbuga’n ailgylchu rwbel a nwyddau gwynion yn reswm da i gael gwared â’r holl gyfleusterau ailgylchu eraill sydd yno. Neges glir sy’n dweud nad yw Brynbuga’n ailgylchu’r eitemau yma, ac y bydd angen bwcio mewn canolfan arall, yw’r oll sydd ei angen er mwyn lleihau tarfiad.

 

Crybwyllir bod 18 man parcio wedi eu tynnu o’r maes parcio oherwydd y trefniadau mynediad newydd – Mae’r Cyngor Tref yn herio’r ffigur yma, gan fod trefniadau wedi eu gwneud i fannau eraill fod ar gael. Does dim sôn am yr effaith ar y stryd fawr o ganlyniad i gael gwared â chyfleuster arall. Mae Brynbuga wedi bod yn dref hwb ar gyfer ardaloedd cefn gwlad, dro ar ôl tro mae cyfleusterau sy’n denu ymweliadau i’r dref yn cael eu herydu oddi yno, ac mae hyn yn cael effaith gan nad yw’r dref yn elwa o fwy o bobl yn ymweld â’r stryd fawr. Unwaith y mae’r cyfleusterau yma wedi mynd, mae’r adroddiad yn amlinellu pa mor anodd fydd eu hail-greu, o ran cynllunio a thrwyddedau, ac ati. Mae MCC yn haeddu cadw gwasanaethau pwysig, ac mae preswylwyr yn haeddu’r cyfle i ddangos y gellir gwneud newidiadau parhaol yma ym Mrynbuga, y mae pawb yn elwa ohonynt.

 

Mae’r adroddiad yn ystyried llai o ddefnydd ac ymweliadau yn bethau negyddol. Ond does yr un o’r rhain yn ddrwg, gellir rheoli’r ddau’n rhwydd, os yw hyn yn achosi problemau, drwy’r system trefnu apwyntiadau newydd. Ystyrir defnydd nad yw’n cael ei herio’n beth drwg; yn gyffredinol, rydym yn cytuno. Bydd y swyddog wedi clywed mai’r profiad a geir ym Mrynbuga, yn anad dim arall, yw nad oes neb yn gofyn i weld trwyddedau, ac nad yw’r defnydd o sgip gweddilliol yn cael ei gwestiynu na’i herio. Mae’r adroddiad yn dyfynnu ystadegau sy’n dangos bod gwastraff traws-ffiniol yn broblem nes i drwyddedau preswylwyr gael eu cyflwyno. Os nad yw trwyddedau’n cael eu harchwilio, yna nid oes unrhyw reolaeth dros wastraff traws-ffiniol ym Mrynbuga. Dim ond pymtheg munud i ffwrdd yw Sir Casnewydd, sy’n nes nag y byddai disgwyl i breswylwyr Brynbuga deithio pe byddai’r ganolfan yn cau. Mae twristiaeth gwastraff yr un mor hawdd ym Mrynbuga ag yn y Fenni.

 

Rhoddir enghreifftiau mai dim ond un cyfleuster neu ddau sydd gan awdurdodau lleol eraill ar gyfer y sir gyfan, ond mae’r awdurdodau lleol a ddyfynnir yn ardaloedd adeiledig megis Caerdydd. Mae Sir Fynwy’n sir wledig. Mae ystyriaethau gwahanol yn berthnasol i siroedd gwledig os ydym am leihau effaith teithiau nad ydynt yn angenrheidiol ar ein ôl troed carbon. Gadewch i ni ystyried canolfannau ailgylchu llai, fwy lleol a fyddai’n llwyddiant, yn hytrach na chydymffurfio â’r isafswm o ran y gofyn statudol, neu’r hyn a ddarperir mewn dinas neu ardal ddaearyddol lai. Mae gan ailgylchu lleol ei le, ac os gwelwch yn dda, peidiwch ac anghofio bod Brynbuga’n dref sydd â phoblogaeth h?n – nid pawb sydd â char. Mae tipio anghyfreithlon yn destun pryder. Mae’n ddrud i’w glirio. Does yr un ohonom yn gwybod, yn y cyfnod yn dilyn Covid, pa effaith fydd colli’r cyfleuster yma yn ei gael ar dipio anghyfreithlon.

 

Yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yw pwysleisio mai casglu ar ochor y stryd yw'r ffordd fwyaf ecogyfeillgar o reoli gwastraff ac ailgylchu’r cartref, ac atgyfnerthu’r sylw a wnaed gan MCC fod peidio â defnyddio gwasanaeth casglu ar stepen y drws ar gyfer biniau du a gwastraff gweddilliol yn annerbyniol. Rydym eisiau pwysleisio bod y ganolfan yn gyfleuster ailgylchu dilys, nid tomen wastraff, a bod cael gwared â bagiau du gyda gwastraff cymysg ynddynt yn tanseilio’r mwyafrif helaeth sy’n ailgylchu’n effeithiol. Mae angen i ni wneud pobl yn ymwybodol o gosbau Llywodraeth Cymru – does neb eisiau i MCC orfod talu’r rheiny. Rydym yn nodi fod didoli cynnwys bagiau du’n ddymunol – hoffem weithio gyda’n gilydd er mwyn gweld sut y gallwn gyflawni hyn ym Mrynbuga, er mwyn casglu mwy o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu. Yr hyn yr hoffem i’r Cyngor ei wneud yw gwirio trwyddedau – er mwyn rhoi stop ar ddefnydd traws-ffiniol – stopio gwastraff masnachol, ein cefnogi gydag addysg a systemau trefnu apwyntiadau, ac yna, yn yr un modd â phawb arall: adolygu mesurau arbed costau megis oriau llai yn ystod y gaeaf ac ar benwythnosau, caniatáu i’r arbedion sy’n cael eu creu drwy’r dyddiau llai i gael effaith ar gostau. Yn olaf, peidio gadael i Covid fod y rheswm yr ydym wedi cau, am mai gwneud dim oedd yr opsiwn. Gweithio gyda ni i ail-agor, a rhoi amser i ni wneud newid.

 

Nid yw cau nawr, ar ôl cyfnod clo, yn rhoi’r cyfnod wedi’i ohirio a addawyd, ac mae’n gwbl bosib – yn wir, yn debygol – y bydd y manteision a’r newidiadau positif o ran ymddygiadau sydd wedi eu gweld yng ngweddill y sir yn cael eu gweld ym Mrynbuga hefyd. Dylem ninnau hefyd gael y cyfle i elwa o’r tro pedol o ran ailgylchu ar draws y sir o ganlyniad i ymgyrch effeithiol a negeseuon am ailgylchu, a mesurau cau oherwydd covid. Gweithiwch gyda ni os gwelwch yn dda, yn yr un ffordd ag yr ydych yn gweithio gyda chyfleusterau eraill er mwyn gwella’r cyfraddau ailgylchu. Gwnewch argymhelliad y dylid ail-agor Brynbuga er mwyn i ni allu gweithio gyda’n gilydd a chael y cyfnod wedi’i ohirio ac ymgynghoriad. A chefnogwch y dref hon sydd wrth galon Sir Fynwy os gwelwch yn dda.”