Cofnodion:
Croesawyd Nicola Rossiter, Uwch Ymgynghorydd ac Arweinydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Victoria Robinson, Uwch Gynllunydd, Arup i’r cyfarfod. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent ddechrau mis Tachwedd a bydd y sleidiau a gyflwynir heddiw ar gael yr adeg honno.
Prif bwyntiau’r cyflwyniad:
· Cyflwyno Astudiaeth Trafnidiaeth WelTAG Cam 2 ar gyfer Ardal Cas-gwent a’r cyd-destun presennol (COVID 19, Brexit, dileu tollau Pont Hafren, cyhoeddiadau newid hinsawdd ac yn y blaen).
· Cafodd y problemau i’w cyfarch eu haileirio a’u haildrefnu a sefydlwyd blaenoriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r materion hyn yn canolbwyntio ar lefelau uchel o dagfeydd, cynyddu llif traffig ac ansawdd aer. Yn ychwanegol mae cysylltiadau bws yn gyfyngedig a theithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn gymharol uwch o ran cost. Y nod yw cael datrysiadau sydd ag allyriadau isel, sy’n gynaliadwy ac sy’n integreiddio ac yn annog teithio llesol.
· Cafodd 21 cynllun y rhestr hir eu hadolygu a’u rhoi i bum categori i effeithio ar:
o Gostwng yr amser i deithio
o Teithio llesol a seiclo
o Opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus
o Cerbyd allyriadau isel iawn
o Opsiynau priffyrdd
· Cafodd y 21 opsiwn eu profi o gymharu ag amcanion yr astudiaeth yn cynnwys peth ymgysylltu â rhanddeiliaid. Gostyngwyd nifer yr opsiynau o 21 i 15 a gafodd eu profi ymhellach.
· Cafodd y pump categori eu gostwng i bedwar, gyda’r ddau olaf yn cael eu cyfuno.
· Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar ym mis Tachwedd a gofynnwyd i’r gr?p annog cynifer o bobl ag sy’n bosibl i gymryd rhan.
Gofynnwyd cwestiynau fel sy’n dilyn:
· Gofynnodd Aelod os yw’r astudiaeth wedi rhoi ystyriaeth i ddarganfyddiad diweddar mwy o ddifrod i hen Bont Cas-gwent gan holi os y bydd yn rhaid ei chau i gael ei thrwsio. Cadarnhaodd Gerallt Dafydd, Arup, y rhoddwyd ystyriaeth i’r agwedd hon yn yr astudiaeth. Esboniwyd nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gau’r bont gan ei bod yn llwybr pwysig. Pwysleisiwyd fod hwn yn gynllun ar draws y ffin a gefnogir gan Gyngor Dosbarth Fforest y Ddena, Cyngor Sir Swydd Caerloyw, Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gymreig a’r Adran Trafnidiaeth dan arweiniad Cyngor Sir Fynwy.
· Gofynnodd Aelod pa model a ddefnyddir i fesur llif traffig ar draws y ffin. Esboniodd Gerallt Dafydd fod mynediad ar gael i fodel Tollau Pont Hafren. Caiff y cynlluniau priffordd yn yr opsiynau eu profi’n unol â hynny. Gofynnwyd os oedd unrhyw fodelu o gyfeiriad Fforest y Ddena. Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu gyda’r aelod gr?p ar ôl y cyfarfod.
· Gofynnodd Aelod sut y trefnir yr ymgynghoriad cyhoeddus. Atebwyd na fydd cyfle ar gyfer cyfarfod ymgynghori cyhoeddus gyda phobl yn bresennol oherwydd y pandemig. Caiff y digwyddiad ei drefnu mewn gofod digidol ond bydd copi caled o’r dogfennau a’r arolwg ynghyd ag amlen rhadbost i’w dychwelyd ar gael i’r bobl hynny nad oes ganddynt fynediad i dechnoleg (neu ddymuniad i’w ddefnyddio). Cynigiodd y Cadeirydd help Tîm Cyfathrebu Sir Fynwy. Mae Partneriaeth Economaidd y Fforest hefyd wedi cynnig hyrwyddo’r ymgynghoriad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r cyfranwyr am yr adroddiad interim, gan ychwanegu y croesewir unrhyw wybodaeth bellach i’w chylchredeg i’r Gr?p.