Agenda item

Trafod ymateb ymgynghoriad i’r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig i Gwricwlwm Cymru: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Mae’r ddogfen berthnasol a ffurflenni ymateb ar gael yma: https://gov.wales/legislative-proposals-religion-values-and-ethics

 

 

 

Cofnodion:

Roedd yr Aelodau'n ddiolchgar am y nodiadau a ddarparwyd gan Paula Webber i baratoi ar gyfer cwblhau'r ymateb i'r ymgynghoriad mewn perthynas â Chwricwlwm Cymru:  Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.  Cytunwyd y byddai Paula yn drafftio ymateb, yn seiliedig ar y nodiadau yr oedd wedi'u dosbarthu cyn y cyfarfod, ac i ychwanegu'r pwyntiau a godwyd yn y drafodaeth heddiw.  Byddai'r ymateb drafft yn cael ei ystyried yn y cyfarfod cyffredin ar 26ain Mehefin 2020.

 

Ystyriwyd ei bod yn bwysig cwblhau un blwch ar gyfer pob cwestiwn (Cytuno, Anghytuno neu Ddim yn Cytuno nac yn Anghytuno) er mwyn sicrhau bod safbwyntiau'n cael eu cyfrif yn enwedig mewn dadansoddiad cryno rhag ofn y caiff naratif ei ddiystyru.

 

Lleisiwyd y safbwyntiau a'r sylwadau canlynol, a darllenwyd allan sylwadau gan gynrychiolydd athrawon (yn ymwneud â chwestiynau C1, C2 ac C9), nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod:

 

Cwestiwn 1 – Ydych chi'n cytuno y dylai crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) gwmpasu credoau crefyddol ac anghrefyddol sy'n gredoau athronyddol (yn unol â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol) fel y disgrifir yn y ddogfen ymgynghori?

·         Mae’r ddogfen ymgynghori'n aneglur o ran credoau athronyddol - nid yw’n gwestiwn syml.

·         Byddai dysgu ac arweiniad proffesiynol yn hanfodol

·         Mynegwyd pryder ynghylch newid enw i CGM yn groes i farn a fynegwyd gan ymgyngoreion. 

·         Mae'n ymddangos bod y gofyniad ar gyfer addysgu crefyddol ac anghrefyddol fod ar sail gyfartal yn groes i Ddeddf Addysg 1996, Adran 375 (3). Pryder ynghylch gwanhau'r amser a dreulir ar addysg grefyddol.   Pwynt gwahanol oedd bod yn rhaid cynnwys safbwyntiau eraill y byd, gan o bosibl nad oes gan rai plant ffydd.  Cytuno y dylai addysg grefyddol fod yn lluosogaethol, ond heb ddiffiniad clir gallai fynd i bob cyfeiriad a gellir colli ffocws.    Holwyd beth yw ystyr "cwmpasu" yn y cyd-destun hwn.

·         Ni ddylai'r 23 o safbwyntiau a restrir o reidrwydd fod â'r un sylfaen â chrefyddau mawr.

·         Pryder bod y pwynt hwn yn drysu beth yw’r CYSAGau â chynnwys Addysg Grefyddol.

 

Yn dilyn pleidlais, cafwyd penderfyniad mwyafrifol i "Anghytuno" nes bod termau’r ymgynghoriad wedi'u diffinio'n well.

 

Cwestiwn 2 – Ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i gynadleddau maes llafur cytûn roi sylw i ganllawiau statudol pan fyddant yn datblygu eu maes llafur cytûn lleol?

·         Nid yw paramedrau'r cwestiwn yn glir e.e. p'un a yw cyfeirio at ganllawiau cwricwlwm statudol neu fframwaith Addysg Grefyddol anstatudol.   Mae angen mwy o ddiffiniad.

·         Os yw CYSAGau ond yn ystyried canllawiau cwricwlwm heb y manylion sydd yn y fframwaith AG, gellid colli sgiliau a chynnwys.

·         Ni chytunwyd bod yn rhaid i'r cynadleddau maes llafur cytûn ystyried canllawiau statudol. Dylai hwn fod yn faes llafur cytûn lleol sy'n cyfeirio at ganllawiau anstatudol er mwyn ystyried barn rhieni, athrawon, llywodraethwyr ac ysgolion yn y cyd-destun lleol ac felly'n llai rhagnodol.

·         I gytuno, dylai ymgyngoreion weld y Bil drafft, y canllawiau statudol a'r fframwaith AG.  Byddai'n rhaid diffinio'r cwestiwn yn well.  Teimlai'r Aelodau nad oeddent yn barod i ateb y cwestiwn felly.

·         Yn gyffredinol, ni fyddai'n disgwyliad bod manylion y pwnc gael eu cynnwys mewn canllawiau statudol.

 

Cytunwyd, drwy gonsensws, i "Anghytuno" yn seiliedig ar y sylwadau a fynegwyd.

 

Cwestiwn 3 – Ydych chi'n cytuno â'n cynnig y dylid ei wneud yn ofynnol i ysgolion cymunedol ac ysgolion sefydledig a gwirfoddol heb gymeriad crefyddol roi sylw i faes llafur cytûn wrth ddylunio a gweithredu CGM?

·         Cwestiwn wedi'i osod yn wael y gellir ei gamddehongli.

·         Dylai nodi maes llafur cytûn lleol, neu fel arall byddai ysgolion (yn enwedig y rhai heb gymeriad crefyddol) yn gallu dilyn unrhyw faes llafur cytûn. Roedd angen esbonio sut y gellir symud i ffwrdd o’r maes llafur cytûn, pwy fyddai'n monitro'r agwedd hon a beth fyddai'n rhesymau derbyniol dros beidio â dilyn y maes llafur.

·         Iaith ddryslyd o ran defnydd "yn ofynnol" a "rhoi sylw". Pryder ynghylch y goblygiadau i CYSAG a’r tybiaethau sy'n cael eu gwneud

 

Drwy gonsensws, gwnaed y penderfyniad i "Anghytuno"

 

Cwestiwn 4 – Ydych chi'n cytuno â'n cynnig na ddylai rhieni/gofalwyr dysgwyr mewn ysgolion heb gymeriad crefyddol allu gofyn am ddarpariaeth CGM mwyach yn unol â daliadau o ffydd benodol?

·         Anghytuno – yn bwysig i ysgolion barchu cefndir crefyddol a hiliol diwylliannol y plentyn a'r teulu a chaniatáu'r rhyddid presennol i gydwybod meddwl a chrefydd a chynnal parch at gymunedau ffydd.  Gallai hyn fod yn groes i brotocol 1 erthygl 2 Deddf Hawliau Dynol 1998.

·         Anghysondebau o ran y dull o gael hawliau rhieni mewn perthynas ag ysgolion ffydd ond nid mewn ysgolion a gynhelir sydd heb gymeriad crefyddol. 

·         Barn bod angen i'r Gweinidog ailedrych ar ddileu eithriad o Addysg Grefyddol yng ngoleuni cyfraith achos Papageorgiou ac Eraill v Gwlad Groeg.  Yn Sir Fynwy, nid oes ysgol ffydd uwchradd ac o ganlyniad nid oes y rhyddid i ddewis.

·         Pryder y gallai mwy o ddisgyblion gael eu haddysgu gartref

·         Nid yw’n beth da i gael cwricwlwm cenedlaethol gyda llawer o gyfleoedd i optio allan.

 

O ran cael ei gyflwyno i'r bleidlais, cytunwyd yn unfrydol i "Anghytuno"

 

Cwestiwn 5 – Ydych chi'n cytuno â'r cynnig bod ysgolion a reolir yn wirfoddol sydd â chymeriad crefyddol yn gallu addysgu CGM yn unol â gweithredoedd ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ffydd yr ysgol os bydd rhieni/gofalwyr yn gofyn amdanynt?

·         Mae'r Eglwys yng Nghymru yn ymchwilio i weld a yw'r newid yn yr enw o AG i CGM yn cael effaith ar weithredoedd ymddiriedolaeth ysgolion, gan fod gweithredoedd ymddiriedolaethau yn datgan AG.  Rhaid cydymffurfio â’r gweithredoedd ymddiriedolaeth.

·         Dylid caniatáu i ysgolion addysgu yn unol ag egwyddorion y ffydd.  Ni ddylai hyn fod "os gofynnir amdano gan ofalwyr a rhieni" oherwydd gallai hynny arwain at optio allan gan yr ysgol gyfan os bydd un rhiant yn gwneud cais.  Dylid caniatáu ceisiadau gan yr esgobaeth, yr ysgol, y rhieni (ar gyfer eu plentyn eu hunain) a llywodraethwyr

 

Drwy gonsensws penderfynwyd "Cytuno" yn amodol ar y pwyntiau a godwyd uchod

 

Cwestiwn 6 – Ydych chi'n cytuno y dylid bod yn ofynnol i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol addysgu'r maes llafur cytûn pan fo rhiant/gofalwr yn gofyn iddo ac ni ddylai fod ganddynt ddisgresiwn i wrthod gwneud hynny?

·         Pryder bod rhagdybiaeth bod ysgolion sydd â chymeriad crefyddol yn gwthio syniadau ar ddisgyblion.  Nid oes tystiolaeth i gefnogi'r farn hon.

·         Roedd canfyddiad o wrthdaro â C4 (cynnig i ddileu hawliau rhieni mewn ysgol anghrefyddol i ofyn am CGM yn unol ag egwyddorion ffydd benodol) ac iaith rymus bod yn rhaid i ysgolion ffydd addysgu'r maes llafur cytûn os bydd rhiant yn gofyn amdano. 

·         Ddylai ddatgan maes llafur cytûn lleol

·         Tybiaeth o’r angen am fwy o sylw i faes llafur cytûn yn hytrach na’r maes llafur cytûn lleol, ar gyfer ysgolion ffydd gwirfoddol a gynorthwyir (mae ysgolion a gynhelir yn "rhoi sylw" yn hytrach na gweithredu "yn unol ag".

·         Mae ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn addysgu lluosogaeth o ran ffydd a gwerthoedd ehangach; y pedwar diben "dinasyddion gwybodus y byd".  Byddai'n anodd darparu dwy faes llafur mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir.

·         Mynegwyd y farn na ddylid gorfodi ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir i addysgu meysydd llafur eraill. Mater pwysig i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, gan fod y cynnig hwn yn gwrthdaro â gweithredoedd ymddiriedolaethau

·         Os oes angen dau faes llafur byddai effaith andwyol ar lwyth gwaith athrawon a'r angen am ddysgu proffesiynol.   Yn ymarferol, byddai'n anodd gwneud i hyn weithio.

 

Drwy gonsensws, roedd "Anghytuno" cryf â'r cynnig hwn

 

Cwestiwn 7 – Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael, mewn perthynas â chrefydd, gwerthoedd a moeseg, ar y Gymraeg, ac yn benodol ar:

i)          y cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg

ii)         beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

 

Yn eich barn chi, pa effeithiau a fydd? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu liniaru effeithiau andwyol?

·         Mynegwyd pryder bod gair wedi'i hepgor o'r cyfieithiad.

·         Mae angen cyfieithu cywir

·         Pwysig iawn bod y Gymraeg yn cael ei thrin mewn modd teg a phriodol ynghyd â dysgu proffesiynol.

·         Dim ond pan fyddant ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg y dylid cyhoeddi deunyddiau cymorth.

 

Y consensws oedd "Cytuno"

 

Cwestiwn 8 – Esboniwch hefyd sut rydych yn credu y gellid llunio neu newid y polisi arfaethedig ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yng Nghwricwlwm Cymru er mwyn:

 

i)          cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

ii)         dim effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg nac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

Sylwadau fel ar gyfer Cwestiwn 7

 

Cwestiwn 9 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol.  Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig, nad ydym wedi mynd i'r afael â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i roi gwybod amdanynt.

·         Pryder cryf am y dybiaeth lethol nad yw AG mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn lluosogaethol. Nid oes tystiolaeth i gefnogi hyn.

·         Mae'r ymarfer ymgynghori wedi'i gyhoeddi ar yr adeg anghywir cyn i'r Bil drafft, canllawiau statudol y cwricwlwm a'r fframwaith AG drafft fod ar gael. 

·         Mynegwyd safbwyntiau amrywiol ar y newid enw i CGM gyda chytundeb nad oedd yn adlewyrchu'r safbwyntiau yn yr ymgynghoriad blaenorol.   Holwyd a oedd ymgynghori uniongyrchol ar y newid enw a benderfynwyd.

·         Os oes cynigion i adolygu cyfansoddiad CYSAGau, dylid cynnal ymgynghoriad llawn cyn gwneud unrhyw newidiadau.   Dylid cadarnhau diben CYSAGau ynghyd â ble mae'r cyfrifoldeb yn eistedd o ran ychwanegu neu leihau aelodaeth a phwrpas. Mae'n bwysig bod y wybodaeth gywir ar gael er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir.  Derbyniwyd neges Rheinallt Thomas.

·         Yr oedd barn bod y ddogfen ymgynghori yn anwybyddu rôl CYSAGau a meysydd llafur cytûn lleol