Agenda item

Materion lleol

A)   Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent: Cam 2 WelTAG

 

B)     Materion a godwyd gan Bwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy

 

1.     Parcio amhriodol yn Ysbyty Nevill Hall

2.    Materion iechyd a diogelwch i weithwyr trac sy'n ymwneud â defnydd toiledau agored.

3.     Ni fydd trenau newydd yn cynnwys darpariaeth toiledau.

4.     Materion parcio yng ngorsaf reilffordd y Fenni.

5.     Tynnu'r gwasanaeth bws X3 gynnar yn y bore.

6.     Ni chafodd llwybrau bysiau yn Llanelen eu graeanu

7.    Mater parhaus ynghylch diffyg arhosfan bysiau yn Park Road yn y Fenni i gymryd lle'r arhosfan bws Stryd Frogmore Is a ddilëwyd fel rhan o'r cynllun pedestreiddio sydd bellach wedi'i gwblhau.

 

Parthed: ad-drefnu cyfarfodydd y Gr?p Trafnidiaeth Strategol, penderfynwyd, gan y Pwyllgor Ardal, mai'r ffordd ymlaen fyddai ffurfio is-gr?p yn cynnwys aelodau o Bwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy a chyfarfodydd Pwyllgor Ardal Canol Sir Fynwy i edrych ar faterion trafnidiaeth leol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth, Prosiectau Strategol (Cyfnod Penodol) ddiweddariad ar Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent, gan nodi fod yr astudiaeth yn brosiect cydweithio traws ffin. Mae Cam 1 Canllawiau Gwerthuso Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) wedi ei orffen a chomisiynwyd Arup i gynnal Cam 2 WelTAG. Cynhaliwyd cyfarfod dechreuol. Cododd llawer o argymhellion o WelTAG 1; y tri phrif rai oedd ffordd osgoi, gwelliannau i drafnidiaeth cyhoeddus a chyffordd newydd i’r M48.

 

Derbyniwyd peth cyllid, neu disgwylir hynny, gan Lywodraeth Cymru, y Swyddfa Gymreig a Chyngor Swydd Caerloyw. Cafodd yr astudiaeth gyllid (£275,000) ac mae Cyngor Sir Fynwy yn gwarantu rhan ohono. Disgwylir y bydd angen cyllid ar gyfer gwaith astudio ychwanegol wrth i’r astudiaeth fynd rhagddi. Mae amserlen o 12 mis.

 

Mae’r astudiaethau eraill yn cynnwys:

·         Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu astudiaeth ar gylchfan High Beech yng Nghas-gwent yn y flwyddyn ariannol hon gyda’r diben o ostwng tagfeydd traffig.

·         Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru wedi comisiynu astudiaeth coridor Cas-gwent/Casnewydd i edrych ar faterion trafnidiaeth a gwelliannau yn ardal De Sir Fynwy/Casnewydd.

·         Mae Highways England wedi comisiynu astudiaeth i edrych ar y 2 groesiad ffordd o’r Hafren

·         Mae Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru wedi trefnu astudiaeth yn deillio o ganslo o Lwybr Du yr M4.

 

Cafodd y materion dilynol eu codi gan Bwyllgor Ardal Sir Fynwy:

 

·         Parcio amhriodol yn Ysbyty Nevill Hall: Esboniwyd bod problem gyda’r bysus yn teithio drwy lwybr crwn gorlawn yr ysbyty gydag enghraifft o fod bws yn methu symud am awr oherwydd rhwystr gan geir. Rhoddwyd diweddariad y trefnir cyfarfod gyda swyddogion, Stagecoach a’r Bwrdd Iechyd.

·         Problemau iechyd a diogelwch ar gyfer gweithwyr trac yn ymwneud â thoiledau fflysio agored ar y trenau: gofynnwyd i gynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru i fwydo’r wybodaeth yn ôl.

·         Ni fydd trenau newydd yn cynnwys darpariaeth toiledau: gofynnwyd i gynrychiolydd Trafnidiaeth Cymru fwydo’r wybodaeth hon yn ôl.

·         Problemau parcio yng ngorsaf reilffordd y Fenni. Cadarnhaodd cynrychiolydd Trafnidiaeth Cymru y cafodd y materion hyn eu dynodi eisoes ac y byddant yn cael blaenoriaeth ar gyfer gwella

·         Diddymu gwasanaeth bws X3 cynnar yn y bore. Roedd y mater hwn wedi ei godi yn gynharach yn y cyfarfod.

·         Nid yw llwybrau bws yn Llanelen yn cael eu graeannu. Cafodd y mater hwn ei drosglwyddo i’r swyddog perthnasol.

·         Problem parhaus parthed diffyg safle yn Heol Parc yn y Fenni i gymryd lle safle bws Stryd Frogmore Isaf wedi ei symud fel rhan o’r cynllun pedestraneiddio sydd bellach wedi ei gwblhau. Dywedwyd y cafodd y dyluniad ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Dywedwyd fod angen cwblhau’r prosiect cyn gynted ag sy’n bosibl. Nid oes amserlenni ar gael ond disgwylir penderfyniad ar gyllid erbyn mis Ebrill. Yn ychwanegol, dylid datrys ailgomisiynu safle bws Penypound yn y dyfodol agos.

 

Yng nghyswllt ailgyflunio cyfarfodydd y Gr?p Trafnidiaeth Strategol, cafwyd adborth gan Bwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy lle awgrymwyd y gallai fod isgrwpiau ar ardaloedd leol e.e. gogledd a de y sir. Awgrymwyd y gellid trefnu cyfarfod ar wahân gyda’r Cadeirydd, y Cynghorydd Woodhouse a’r Pennaeth Gwasanaeth, Prosiectau Strategol (Cyfnod Penodol) i drafod opsiynau.