Nichole Sarra, Rheolwr Rhanddeiliaid, Trafnidiaeth Cymru
Phil Inskip
· Defnydd gorsafoedd lleol
Cofnodion:
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Nichole Sarra, Rheolwr Rhanddeiliaid (Gororau), Trafnidiaeth Cymru a esboniodd fod bellach 5 Rheolwr Rhanddeiliaid gyda’r rôl o annog ymgysylltu rhanddeiliaid ac wedyn roi adborth i’r cynllunwyr. Gwnaed y pwyntiau dilynol:
· Newid amserlen mis Rhagfyr. Cynhelir gweithdy amserlen gyda rhanddeiliaid ym mis Tachwedd. Dilynwyd hyn gydag adroddiad ym mis Ionawr. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal gweithdai ddwywaith y flwyddyn. Cynhelir y nesaf ganol mis Mawrth 2020 gyda golwg ar well cysylltedd a gwasanaethau.
· Cerbydau rheilffyrdd: mae mwyafrif trenau Dosbarth 170 nawr mewn gwasanaeth.
· Gorsafoedd: Mae rhaglen o lanhau dwfn yn mynd rhagddi, i’w chwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Disgwylir Cynllun Gwella Gorsafoedd 2020 a 2021. Yng nghyswllt cynnig Grand Union Trains (dechrau o bosibl ym mis Mai 2021), gofynnwyd os gall trenau Trafnidiaeth Cymru gysylltu gyda threnau i mewn/allan o Lundain yng Nghyffordd Twnnel Hafren ym mis Mai 2021. Mae bylchau un a dwy awr ar hyn o bryd; bydd gan Grand Union fylchau 2 awr. Bydd problem mewn cysylltiadau oherwydd gwrthdaro yn Cheltenham gyda gwasanaeth presennol GWR. Byddai’r newid hwn yn arbed 50-100 ceir yn dod lawr o Lydney. Caiff y pwyntiau hyn eu trosglwyddo i’r tîm cynllunio trenau.
Yng nghyswllt cysylltiadau trên/bws yng Nghas-gwent, mynychodd Trafnidiaeth Cymru gyfarfod Trosiant Cas-gwent i glywed am y problemau a chydnabuwyd fod angen dull gweithredu aml-fodd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymroddedig i edrych ar wasanaethau trên Cas-gwent i ddarparu gwasanaeth bob awr erbyn 2022 gyda gwell cysylltiadau. Awgrymwyd fod Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg y gwasanaethau bws a thren; caiff y pwynt hwn ei fwydo’n ôl.
Cododd Aelod fater yr angen am well cysylltiadau o Lydney i Fryste. Soniwyd am drydydd croesiad afon rhwng Lydney a Sharpness i roi cysylltiad rheilffordd i Fryste a Llundain.
Trafodwyd y problemau hygyrchedd gyda Gorsaf y Fenni, gan nodi mai’r signalau yw’r ffactor sy’n achosi oedi. Mae Network Rail, yr Adran Trafnidiaeth a Trafnidiaeth Cymru wedi rhoi sicrwydd fod y cynllun yn mynd yn ei flaen ond mae’r gr?p gweithredu yn gofyn am amserlenni. Esboniwyd fod buddsoddiad sylweddol ar y gweill ar gyfer yr orsaf ac mae’r gwaith wedi dechrau ar storio beiciau, dylunio Mynediad i Bawb a lleoli’r signal. Cytunodd Nicholle i roi diweddariad ar amserlenni yn y cyfarfod nesaf (neu’n gynharach, os yw’r wybodaeth ar gael).
Gofynnwyd cwestiwn am y potensial am lacio’r canllawiau llwybr. Os yw teithwyr yn symud o Gil-y-coed i Fryste gallant fynd i Gasnewydd ac yn ôl i Fryste Parkway i Fryste Templemeads. Ni chaniateir i deithwyr fynd yn ôl o Lydney drwy Gaerloyw neu Cheltenham i Fryste i roi’r gwasanaeth cyflymaf i Fryste. Byddai caniatáu hyn yn ychwanegu 13 gwasanaeth ychwanegol y dydd rhwng Lydney a Bryste heb unrhyw drenau, gwasanaethau neu stopio ychwanegol. Gofynnwyd i’r Aelod anfon yr wybodaeth berthnasol at Nichole.
Gwnaed pwynt am gostau cymharol, gan fod pobl mewn ardaloedd gwledig yn gorfod talu llawer mwy am deithio gan sôn am docyn £33 o’r Fenni i Ystrad Mynach a thocyn £11 o Gasnewydd i Ystrad Mynach. Y Fenni hefyd sydd â’r cynnydd mwyaf mewn pobl yn defnyddio’r trenau. Atebwyd ei fod yn fater eithaf cymhleth gyda manylion hanesyddol. Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol am y broblem.
Cyfeiriwyd at amserlenni poced (Rhif 3). Dangosir cysylltiadau i Lundain a Bryste i bobl sy’n teithio o Abergwaun, Aberdaugleddau a Phenfro. Dim ond cysylltiadau i Lundain ac nid i Fryste a ddangosir i deithwyr o Lydney, Cas-gwent a Chil-y-coed. Gofynnwyd i’r cysylltiadau gael eu hychwanegu at yr amserlen fel a ddisgrifiwyd.
Cyflwynodd Phil Inskip wybodaeth ar ddefnydd gorsafoedd lleol/ cenedlaethol. Mae hon yn wybodaeth dda wrth ymgyrchu am welliannau. Rhoddwyd gwybodaeth hanesyddol nad yw’r Adran Trafnidiaeth wedi defnyddio’r ystadegau wrth drefnu’r ddwy ffransais diweddaraf ac i benderfynu ar lefel y trenau, gan ganolbwyntio ar dwf a’r canfyddiad o ostyngiad. Caiff ffransais Arriva ei osod ar 0% twf ond mewn gwirionedd bu 7 mlynedd o dwf. Mae defnydd teithwyr o reilffordd Cas-gwent wedi cynyddu gan 130%. Roedd hyn yn achosi problem i Lywodraeth Cymru oherwydd fod y cyllid yn seiliedig ar 0% twf ac felly roedd yn rhaid defnyddio’r grant bloc ar gyfer gwasanaethau trên ychwanegol. Cafodd 54 trên ychwanegol eu hariannu’r ffordd hon i ateb y galw cynyddol. Mae cynghorau wedi buddsoddi’n gyfartal yn cynnwys dau gyngor a brynodd eu trenau eu hunain lle mae Llywodraeth Cymru yn talu am eu gweithrediad.
Nid oedd llinell Cas-gwent wedi ei gwella oherwydd nad oedd wedi’i lleoli lle mae cyngor wedi ariannu gwelliannau rheilffordd. Yn ail, gan nad oedd yn y parth cydgyfeirio, nid oedd yn gymwys am arian cyfatebol yr Undeb Ewropeaidd. Mae nifer y trenau wedi cynyddu ar bob rheilffordd arall. Roedd ffransais Arriva wedi gostwng nifer y trenau heb fod yn torri’r ffransais. Yng nghyswllt ffransais GWR, roedd yr Adran Trafnidiaeth wedi cynnal astudiaeth am reilffyrdd cynaliadwy a thwf. Ystyriwyd fod twf yn 75% ond mae’n 120% yn 2020. Y tair rhan o’r wlad lle disgwylir y twf uchaf yw rhwng Peterborough a Doncaster, Manceinion a Lerpwl a Chyffordd Twnnel Hafren a Bryste. Er iddi gael ei dynodi fel un o’r prif reilffyrdd ar gyfer twf, gwelodd ffransais GWR y trenau Twnnel Hafren i Fryste yn cael eu haneru er blynyddoedd o dwf ac adroddiad yr Adran Trafnidiaeth ei hun. Rhoddodd yr adroddiad swyddogol am breifateiddio y rheswm pam y byddai’r cymorth o £1.65 biliwn i BRT yn 2002 yn gostwng i £1 biliwn ond iddo gael ei gynnal i £5.4 biliwn erbyn 2006. Pan gafodd dau ffransais De Cymru eu gosod, roedd y Trysorlys a’r Adran Trafnidiaeth mewn anawsterau ariannol felly cafodd ffigurau twf eu hanwybyddu.
Diolchodd y Cadeirydd i Phil Inskip am roi’r esboniad i’r Gr?p gan gydnabod ei gyfraniad gwerthfawr iawn ar gyfer strategaeth y dyfodol.