Christian Schmidt, Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni Trafnidiaeth
Cofnodion:
Esboniodd y Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni Trafnidiaeth sut mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu grantiau ar gyfer Teithio Llesol. Bydd y Sir yn derbyn dyraniad creiddiol o £235,000 ar gyfer datblygu cynlluniau a chynlluniau llai y gellir eu gwario ar draws aneddiadau allweddol.
Yn ychwanegol, mae gan yr awdurdod hawl i gyflwyno cynigion am 3 cynllun Teithio Llesol arall. Cynigir cyflwyno cynigion am becynnau o gynlluniau yn gysylltiedig â:
· Tref Cil-y-coed
· Tref Trefynwy
· Canol Tref Brynbuga
Yng nghyswllt y Grant Cronfa Trafnidiaeth Leol, gwahoddwyd cynigion ar gyfer cynlluniau presennol ynghyd ag un cynllun newydd. Mae Cyffordd Trefynwy/Pont Gwy (3ydd Lôn) yn gynllun sy’n parhau y prynwyd deunyddiau ar ei gyfer ac mewn storfa yna ni ddyfarnwyd cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Cyflwynir cynnig arall fel canlyniad. Ceisir cyllid hefyd i gyfrannu tuag at Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent.
Dyddiad cau y Gronfa Allyriadau Isel Iawn lle gwahoddir cynigion ar gyfer cerbydau trydan (nid yw’r manylion yn benodol ac mae’n aneglur os yw’n cynnwys mannau gwefru) yw 14 Chwefror 2020 a gall fod yn anodd cyflawni hynny. Yn anffodus nid yw’r gronfa a ddefnyddiwyd i brynu Bws 65 yn awr ar gael.
Mae Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyflwyno cais ar gyfer rhaglen Metro Plus i ymestyn manteision y Metro i ardaloedd nad ydynt yn cael budd o’r ffransais rheilffyrdd.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyflwyno cynnig am uwchraddio gorsaf Cyffordd Twnnel Hafren i gynnwys cyllid i gyflwyno estyniad maes parcio, estyn y bont droed, llwybrau mynediad mwy diogel a gwell cyfleusterau i deithwyr. Yn ychwanegol, bydd Cyngor Sir Fynwy yn symud ymlaen gyda’r elfennau sydd ar goll o’r llwybr troed rhwng Gwyndy a Rogiet i hefyd gysylltu gyda phrosiect Cyffordd Twnnel Hafren.
Rhoddwyd gwybodaeth y bydd Metro Cam 2 ac y caiff cynigion eu cyflwyno fel sy’n dilyn ac mewn trefn blaenoriaeth:
– Datblygiad pellach ar Orsaf Llwybr Cerdded Magwyr;
– Cyfnewidfa a Gwelliannau Gorsaf y Fenni;
– Cyfnewidfa a Gwelliannau Gorsaf Cas-gwent;
– Coridor Bws Cas-gwent – Casnewydd;
– Coridor Bws Cas-gwent, Trefynwy a’r Fenni.
Dylai canlyniadau cynigion fod ar gael erbyn 31 Mawrth 2020. Mae’n debygol y dyfernir rhan-gyllid a gall fod yn rhaid ystyried penderfyniadau ar flaenoriaethau maes o law.
Mae hefyd grant rhanbarthol ar gyfer cefnogi gwasanaethau bws a hybu cludiant cymunedol ar gyfer pob cyngor. Cyngor Sir Fynwy yw’r awdurdod arweiniol.
Darperir mwy o wybodaeth pan fydd ar gael. Gofynnwyd cwestiynau fel sy’n dilyn:
– Gofynnwyd os oedd unrhyw gwmpas i ychwanegu elfen traws-ffin at gynigion Teithio Llesol gan gyfeirio at bosibilrwydd agor twnnel Tidenham i Gas-gwent (gall peth arian cyfatebol ar gyfer prosiect traws-ffin fod ar gael). Esboniwyd y caiff cynigion Teithio Llesol eu cyfyngu i dri ac ar hyn o bryd mae Cas-gwent y tu allan i’r tri phrosiect a ddynodwyd. Er y cydnabuwyd fod y rhan fwyaf o’r dyraniad craidd wedi ei ymrwymo, gwnaed nodyn o’r syniad ac awgrymwyd hefyd y gellid ychwanegu hyn at broses ymgysylltu Astudiaeth Heol Cas-gwent.
– Gofynnwyd am ddiweddariad ar y bont Llan-ffwyst arfaethedig. Gwnaed cais hefyd i ystyried trefniadau i alluogi myfyrwyr i seiclo’n ddiogel i Ysgol Brenin Harri XIII ar ôl ei hailddatblygu ac i annog preswylwyr yn gyffredinol i ddefnyddio llwybrau Teithio Llesol. Caiff llwybrau Teithio Llesol ar gyfer yr ysgol newydd eu cyllido o’r dyraniad craidd. Mae’r awdurdod yn ceisio cyllid ar gyfer gwaith datblygu pellach. Nodwyd y penodwyd Swyddog newydd Teithio Llesol. Esboniwyd y bydd yn rhaid adolygu mapiau integredig eleni. Yng nghyswllt Pont Llan-ffwyst, cadarnhawyd fod trafodaethau’n dal i fynd rhagddynt gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
– Nid oedd diweddariad ar lwybr y gamlas yng Ngilwern; caiff yr ymholiad hwn ei basio i’r Swyddog Teithio Llesol.
– Gofynnwyd cwestiwn am Orsaf Llwybr Cerdded Magwyr a’r potensial i liniaru’r sefyllfa parcio yn Rogiet gan 30% gan y byddai teithwyr yn medru cerdded i’r orsaf. Dywedwyd y bu’n anodd cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer astudiaeth Grip 3 a holodd os oes llwybrau eraill ar gyfer arian cyfatebol. Cadarnhawyd mai Gorsaf Magwyr yw’r prif gynllun yng Ngham 2 y Metro ond mae angen partneriaid i weithio gyda ni. Mae Network Rail yn cynnal astudiaeth gwella fframwaith Metro ac mae’r awdurdod wedi ei gwneud yn glir fod gorsaf Magwyr yn brosiect allweddol i’w ystyried. Os rhoddir y prosiect ar y rhestr fer, caiff cyllid datblygu ei ymrwymo.
– Gwnaed sylw pellach am yr angen i ymestyn y maes parcio yng Nghyffordd Twnnel Hafren gan fod problemau sylweddol gyda pharcio, nid yn lleiaf yn yr Ysgol. Mae’r awdurdod yn ceisio darparu maes parcio gyda 150 gofod. Gallai Grand Union Trains gyflwyno’r cynllun hwn ond caiff hefyd ei ychwanegu at astudiaeth fframwaith gwella’r Metro.
– Eglurodd y Swyddog bod y £235,000 ar gyfer Teithio Llesol ar gyfer Sir Fynwy i gyd a’i fod yn ddyraniad creiddiol (wedi’i warantu ar gyfer datblygu cynllun a chynlluniau bach). Mae’r swm hwn ar wahân i gynlluniau sydd ar gyfer cyflwyno cynigion.