Agenda item

Gwasanaethau Bysiau yn Sir Fynwy:

a)         Cyfeillion Bws 65 - cyflwyniad

b)         Tynnu'r Severn Express yn ôl

c)         Gwasanaethau Bysiau National Express: sut y mae'n cyd-fynd â thrafnidiaeth gyhoeddus yn gyffredinol a sylwadau ar y penderfyniad i dynnu gwasanaethau yn ôl o Drefynwy

ch)       Newidiadau i wasanaeth X3

d)         Strategaeth Fysiau Arfaethedig Cyngor Sir Fynwy

 

Cofnodion:

a)    Cyfeillion Bws 65 - Cyflwyniad

Cafodd y Gr?p Trafnidiaeth Strategol gyflwyniad gan Brian Mahony, Cyfeillion Bws 65, i rannu profiadau’r Gr?p a arweiniodd at adfer gwasanaeth Bws 65. Cydnabu’r Cadeirydd waith ac ymroddiad y tîm. Cafodd sleidiau’r cyflwyniad eu cylchredeg yn dilyn y cyfarfod. Gwahoddwyd cwestiynau a sylwadau yn dilyn y cyflwyniad:

 

Gofynnodd aelod o’r Gr?p os oedd tystiolaeth o dwf ers adfer y gwasanaeth. Er nad oes unrhyw dystiolaeth benodol ar gael, cafodd peiriannau tocyn newydd eu gosod fydd yn ei gwneud yn bosibl rhannu data teithwyr. Credir bod nifer y teithwyr wedi cynyddu, ond mae bob amser le ar gyfer gwella; bydd gwell cyfle ar gyfer twf os gellir datrys problemau gyda’r amserlen.

 

Gofynnwyd cwestiwn am gostau a chymorthdaliadau, gan holi os yw hyn ar draul gwasanaethau eraill. Esboniwyd fod y gwasanaeth yn costio £100,000 y flwyddyn. Pe byddai’n cael ei ddileu, byddai’n costio £75,000 i sicrhau gwasanaethau eraill ar gyfer contractau ysgol a gwasanaeth Grass Routes. Mae’r gost net felly yn £25,000 (cyfwerth â £500 yr wythnos).

 

Cadarnhaodd Rheolwr Uned Cludiant Teithwyr y cafodd y bws newydd ei brynu yn defnyddio grant Llywodraeth Cymru (i annog a datblygu gwasanaethau bws gwledig/cymunedol). Mae’r bws newydd yn un allyriadau isel ac yn cynnig profiad brafiach i deithwyr. Cadarnhawyd y bu nifer yn nhwf teithwyr, gan nodi po fwyaf o deithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth y llai o gymhorthdal sydd ei angen. Cafodd y Gr?p ei atgoffa fod y gwasanaeth yn un “dim er elw” ac yn unig i gynnal ei gostau gweithredu ei hun. Gobeithir gwneud mwy o waith marchnata gyda Chyfeillion Bws 65. Bydd cais am arian seilwaith yn y flwyddyn ariannol nesaf, os yn llwyddiannus, yn galluogi darparu gwell blychau amserlenni a mannau cysgodi.

 

Croesawodd Aelod o’r Gr?p hefyd lwyddiant Bws 65 gan nodi fod angen i wasanaethau o’r fath fod yn gynaliadwy, yn gyson, yn berthnasol i anghenion cludiant teithwyr ac yn ddibynadwy. Awgrymwyd y gallai ap math-Uber gymryd lle amserlenni papur maes o law.

 

Gofynnwyd cwestiwn am wasanaethau ar gyfer ymwelwyr a cherddwyr, gan nodi fod llai o wasanaethau ar benwythnosau (hanner gwasanaeth ar ddyddiau Sadwrn a dim gwasanaeth ar ddyddiau Sul). Soniwyd hefyd am yr angen i gysylltu gyda threnau yng Nghas-gwent. Atebwyd fod Cyngor Sir Fynwy wrthi’n comisiynu adolygiad o bob agwedd o drafnidiaeth gyhoeddus yn y sir er mwyn deall problemau yn well. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo gyda Trafnidiaeth Cymru ar ap fydd yn galluogi teithwyr i archebu tocynnau wrth i’r bws symud. Mae’r gr?p Facebook yn ddull effeithlon o ddosbarthu gwybodaeth ond mae angen mwy o aelodau. Yng nghyswllt defnydd apiau yn y dyfodol, dywedwyd fod signal ffonau symudol/4G yn wael yn Nyffryn Gwy felly mae amserlenni papur yn dal yn ddefnyddiol iawn.

 

Holwyd os byddai’r gwasanaeth yn cael ei roi allan i dendr byth ac awgrymwyd nad yw gwasanaethau mewn ardaloedd eraill mor ddibynadwy pan gânt eu rhedeg gan weithredwyr masnachol ac mewn amgylchiadau llawer mwy cystadleuol. Cadarnhawyd i wasanaeth 65 gael ei gynnig ar gyfer tendr ac mai dim ond un tendr drud iawn a gyflwynwyd. Roedd yn amlwg y gallai Cyngor Sir Fynwy weithredu’r gwasanaeth yn rhatach.

 

Esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth, Prosiectau Strategol (Cyfnod Penodol) y caiff enghraifft y Bws 65 ei ddefnyddio fel rhan o’r astudiaeth a gomisiynwyd i edrych ar wasanaethau bws cyhoeddus yn y sir yn arbennig yng nghyd-destun blaenoriaeth y Cyngor i wella gwasanaethau bws cyhoeddus gwledig, yn gysylltiedig â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i ostwng y defnydd o geir. Cydnabuwyd fod problem cyfnewidfa gyda bysus, a bysus/trenau. Atgoffwyd y Gr?p fod bob amser ganlyniadau yn effeithio ar wasanaethau eraill pan gaiff newidiadau eu gwneud.

 

Rhoddwyd gwybodaeth am astudiaeth arfaethedig ar Ddyffryn Gwy i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus a diogelwch ffyrdd mewn pentrefi.

 

b)  Diddymu’r Severn Express

Cadarnhawyd bod y Severn Express yn dal i redeg gyda thaith ychwanegol yn ystod oriau brig y bore o Gas-gwent, yn cyrraedd canol dinas Bryste am 08:45. Ni fydd y Severn Express yn mynd i Cribbs Causeway neu Aust o hyn ymlaen ond yn lle hynny bydd yn rhedeg yn uniongyrchol o Gas-gwent a Bulwark i Fryste drwy’r M48, M4 a M32..

  

Bydd gwasanaeth newydd bob awr (X 14) yn cysylltu Cas-gwent a Cribbs Causeway.

 

b)    National Express Coach Services: sut mae hyn yn ffitio mewn gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn gyffredinol a sylwadau ar ddileu’r gwasanaethau o Drefynwy. Nododd y Swyddog fod bws National Express (NE)/Megabus yn rhoi cysylltiadau i ardaloedd eraill, meysydd awyr a dinasoedd. Gwneir llawer o ddefnydd o hyb Casnewydd. Cafodd gwasanaeth NE i Drefynwy ei ddileu oherwydd diffyg defnydd. Mae’r Swyddog yn barod i siarad gyda NE ond teimlai ei bod yn annhebyg y byddant yn ailddechrau stopio yn Nhrefynwy. Caiff y pwynt hwn ei gynnwys yn yr adolygiad o drafnidiaeth gyhoeddus. Dywedwyd fod nifer o bobl leol yn defnyddio’r gwasanaeth i fynd i Birmingham felly mae hyn yn golled sylweddol i’r dref. Mae angen edrych ar amserlenni bws lleol gan fod cysylltiadau i drefi eraill yn cael eu colli.

 

Mynegwyd pryder y gallai gwasanaethau NE o Gas-gwent fod mewn perygl oherwydd tagfeydd traffig yn y dref.

 

d)     Newidiadau gwasanaeth X3

Mynegwyd pryder y cafodd X3 7.25am ei dynnu o’r amserlen. Nid oedd y Swyddog yn ymwybodol o’r angen a chytunwyd holi gyda Stagecoach. Roedd enghreifftiau o’r effaith yn cynnwys myfyrwyr Coleg Gwent yn methu cyrraedd dosbarthiadau ar amser a gweithwyr yn methu cyrraedd eu gwaith. Ystyriwyd yn annerbyniol fod y bws olaf yn ôl i’r Fenni o Gwmbrân am 4.25pm.. 

 

Awgrymwyd y gellid gwahodd Stagecoach i roi cyflwyniad mewn cyfarfod yn y dyfodol..

 

e)    Strategaeth Bws Arfaethedig Cyngor Sir Fynwy

Mae strategaeth bws newydd yn cael ei hysgrifennu fydd yn cynnwys data o’r astudiaeth trafnidiaeth gyhoeddus a gomisiynwyd..