Agenda item

Y diweddaraf ar ganlyniadau Cyfnod Allweddol 4

Cofnodion:

Rhoddodd y prif swyddog dros addysg gyflwyniad byr i’r adroddiad, gan ddweud bod llawer o waith dadansoddi data’n cael ei wneud cyn cyflwyno’r fath adroddiad i’r pwyllgor.  Mae cynnydd yng nghyfnod allweddol 4 wedi bod yn faes sydd wedi derbyn cryn sylw ers sawl blwyddyn bellach. Clywodd y pwyllgor bod y fframwaith o ran adrodd yn ôl wedi newid. A bod eglurhad o’r fframwaith adrodd yn ôl newydd wedi ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y pwyllgor. 

 

Eglurodd yr EAS fod yr adroddiad hwn yn amserol o ystyried y cwricwlwm newydd.   Cyflwynodd yr EAS yr adroddiad, gan fynd ag aelodau trwyddo a rhoi eglurhad manwl ar y data a’r canfyddiadau.  Clywodd yr aelodau mai rhan o’r stori’n unig y gall data ei ddangos a bod safon y dysgu hefyd yn hanfodol.  Eglurodd y prif swyddog dros addysg bod hyfforddiant ar ddata ar gyfer llywodraethwyr wedi cael ei adolygu a bod cyfle yn awr i feddwl am ein disgwyliadau, sef bod ysgolion uwchradd yn perfformio’n well nag y maent ar hyn o bryd ac nad yw pethau’n dirywio wedi i blant adael ysgolion cynradd.  Cyflwynodd yr heriau o ran sut mae ysgolion yn cymharu gyda’u teuluoedd o ysgolion, er mwyn gwneud cymhariaeth go iawn a dywedodd bod trafodaethau’n cael eu cynnal yn barhaus gydag ysgolion uwchradd er mwyn deall y cynnydd y maent yn ei wneud a’r newidiadau y byddant yn eu gwneud er mwyn sicrhau bod y canlyniadau’n cael eu cyrraedd.

 

Her:

 

  • Mae gennyf bryderon ynghylch y garfan o blant sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim a’r holl anawsterau y mae’r plant yma’n eu hwynebu, a’m mhryder yw sut y mae’r cyngor yn ymateb i’r tlodi yma.  Mae gennym bocedi o dlodi difrifol yn y sir hon, felly nid lleihau’r bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol yn unig yw’r nod, mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn ymateb i ddarlun llawer ehangach ac effaith y tlodi yma.  Byddem yn croesawu clywed gan Ysgol y Brenin Henri yngl?n â sut y maent yn ymateb i hyn.  Fe ddylai’r ysgol edrych ar y nifer fechan o bant sy’n agored iawn i niwed sydd yno ac edrych ar sut y gallent gefnogi pob un ohonynt. Gan gydnabod y bydd yr EAS yn edrych ar hyn, fe hoffem gynnig ein bod yn gwahodd Ysgol y Brenin Henri i’r pwyllgor er mwyn edrych ar y rhesymau ehangach pam nad yw pobl ifanc yn cyflawni eu potensial.

 

Rwy’n cydnabod eich safbwyntiau ar y mater hwn, ac yn fy nau adroddiad prif swyddog diwethaf, fe geisiais egluro i’r aelodau pa mor gymhleth yw’r mater hwn, ac egluro effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE’s) ac yn benodol ei effaith ar ddysgwyr. Mae’n bwysig ein bod yn mynd gam ymhellach na chanfod pwy yw’r plant yma, a gwneud ymyriadau er mwyn eu helpu. Mae angen i ni gymryd yr holl boblogaeth fregus i ystyriaeth, a’r hyn yr wyf yn ei olygu wrth hyn yw’r plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal â phlant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.

 

EAS – Mae gan bob ysgol uwchradd arweinydd dysgwr bregus a ariennir gan yr EAS ac maent yn gweithio gyda’u gilydd ar edrych ar arfer gorau ac rydym yn bwriadu dod ag adroddiad ar hyn i’r pwyllgor yn y dyfodol.   Rydym wedi edrych ar ddata disgyblion unigol, ond y cwestiwn yw, beth nesaf?

 

Prif Swyddog – Dyma’r flwyddyn gyntaf i waith adrodd yn ôl o’r fath gael ei wneud ac nid yw’r gwaith yn dangos data cyfanredol ar draws cynghorau eraill. Rydym yn eistedd yn nhraean uchaf y tabl, ond rwy’n llawn sylweddoli y dylem fod ar y brig.

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Rydym wedi craffu’n llawn ar y mater hwn ac rydym wedi cytuno i wahodd Ysgol Uwchradd y Brenin Henri i gyfarfod yn y dyfodol ac fe arhoswn am adroddiad pellach ar y cynlluniau ar gyfer plant sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim.