Agenda item

Adroddiad Monitro Cyllideb Mis 7 – Adroddiad ar gyfer craffu chwarterol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r pwyllgor yn dangos pwysau sylweddol, gyda diffyg digynsail o bron £4m ar y cam hwn – mae hon yn sefyllfa brin a’r her i’r Cyngor. Gwasanaethau Plant yw’r pwysau mwyaf o bell, gyda chynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal a lleoliadau drud iawn, gan arwain at orwariant o £2m. Meysydd eraill i’w nodi yw Gofal Oedolion a Chymdeithasol, a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol. Cafodd cynllun ei baratoi y medrir ei weithredu’n gyflym. Mae gallu’r Cyngor i wneud arbedion o fewn y flwyddyn yn mynd yn anos, mae’r gorwariant o £4m eisoes yn rhoi ystyriaeth i’r arbedion a’r toriadau a wnaed. Cymerir pob mesur disgwyliedig.

 

Her:

 

Pa mor hyderus ydyn ni y bydd y gwarged posibl o ddyfarniad Ealing, neu beth ohono, yn dod yn ôl i’r Cyngor?

 

Mae ystod yn yr adferiad TAW posibl, rydym yn darogan £1.9m yng nghanol yr ystod. Mae’r risgiau yn fwy am elfennau hen iawn yr hawliad: yr hynaf yr hawliad, yr anoddaf yw i’w wneud. Felly mae bob amser rywfaint o risg y bydd Tollau’n derbyn y sefyllfa honno. Mae KPMG wedi ein sicrhau ein bod mewn sefyllfa gref. Os awn tu hwnt i’r £1.9m a gaiff ei ddarogan, defnyddir yr arian er budd y sefyllfa all-dro ar ddiwedd y flwyddyn, gan wrthbwyso unrhyw bwysau ychwanegol a all ddod i’r amlwg yng ngweddill y flwyddyn.

 

Oherwydd y llithriad o £171k ar gyfer Cartref Gofal Crug, os nad ydym wedi dechrau gwario arian ar y prosiect erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf, a fyddem yn colli’r grant gan Lywodraeth Cymru?

 

Mae’r llithriad o £171k a nodwyd yn yr adroddiad oherwydd fod y cais cynllunio ar ei ffordd drwyddo a chael ei gymeradwyo. Nid oes unrhyw gonsyrn gwirioneddol, dynodwyd risgiau am gyllid ond mae’r rhain yn ymwneud mwy gyda chodi cartref gofal newydd ar y safle. Mae sgyrsiau yn parhau gyda sicrwydd yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru.

 

Sut mae’r buddsoddiad ym Mharc Spytty yn mynd, sut mae’n cydbwyso yn erbyn Castle Gate, a beth yw’r goblygiadau ar gyfer T? Menter?

 

Mae buddsoddiad Parc Spytty wedi ei seilio ar achosion busnes cadarn a bod yn ddarbodus. Mae gan Parc Spytty lefelau defnydd cryf o incwm masnachol wedi dod trwyddo o flaen y darogan llinell sylfaen. Mae Castle Gate yn dal i ysgogi incwm masnachol i wrthbwyso costau benthyca cyffredinol, ond mae ychydig o bethau wedi codi i rwystro cyrraedd y targed. Yn gyffredinol serch hynny, mae’r buddsoddiad yn iawn a’r portffolio yn gytbwys. Mae arallgyfeirio risg ar draws y portffolio – dyma’r rheswm am fuddsoddiad ym Mharc Spytty a Castle Gate. Caiff adferiad incwm yn Castle Gate ei wrthbwyso gan adferiad ym Mharc Spytty. Mae gan Castle Gate ddefnydd 88%, rydym yn gweithio i lenwi’r lleoedd gwag, fydd wedyn yn cynyddu’r incwm.

 

Bu oedi wrth symud staff i Floc J Neuadd y Sir, un canlyniad yw bod wedi gostwng y gallu i symud T? Menter ymlaen a gwneud arian ohono. Cafodd hyn effaith ar incwm, ond byddwn yn symud yn gyflym i lenwi’r bwlch unwaith mae staff wedi symud. Mae gwasanaethau eiddo yn awr yn rhoi contractau yn eu lle i symud ymlaen gyda’r gwaith i faes parcio Neuadd y Sir.

 

Pa mor hyderus ydyn ni y bydd y tenantiaid sy’n ffurfio’r 88% yn Castle Gate yn aros? Beth yw’r pwynt tyngedfennol am bryder pe byddai’r defnydd yn gostwng?

 

Un tenant craidd sydd gennym, felly mae risg. Mae pwynt torri, pwynt adolygu, ond fel y saif pethau nid ydym yn gweld unrhyw risg gwirioneddol yno: mae’r cwmni’n perfformio’n dda a ni ddylai risg Brexit anesmwytho’r cwmni.

 

Mae aelodau angen gwybod sut mae buddsoddiad yn mynd, yr adenillion ohono. Mae’n bwysig os yw’r Cyngor yn buddsoddi yn y prosiectau hyn bod y Cyngor yn derbyn adborth ar berfformiad.

 

Ydi, mae tryloywder yn allweddol. Mae’r cyfrifoldeb ar y Pwyllgor Archwilio – cyflwynir adroddiad yno fydd yn rhoi agoredrwydd mewn buddsoddiadau a’u perfformiad, a gweld os oes angen gwneud addasiadau. Mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn anelu i ystyried hynny wrth symud ymlaen.

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Mae’r Cyngor mewn sefyllfa wirioneddol heriol. Rydym wedi sôn am ddyfarniad Ealing, faint fedrai’r adenilliad TAW fod ac a all wrthbwyso pwysau yn y dyfodol - gobeithio y bydd yn yr ystod canolig i uchaf, a fyddai’n help gwirioneddol. Cafodd Heol Crug ei drafod, fel y cafodd yn y Pwyllgor Dethol Gwasanaethau Oedolion, gyda’r un pryder na chaiff gwariant cyfalaf ei golli. Mae’r strategaeth buddsoddi mewn eiddo masnachol yn bwysig iawn, mae’r cyhoedd bob amser yn bryderus am arian nad yw’n mynd yn uniongyrchol i wasanaethau rheng-flaen. Felly mae angen i ni sicrhau fod buddsoddiad yn cael adenilliad da, gan roi ffrwd refeniw cryf i ni wrth symud i’r dyfodol.

 

Dogfennau ategol: