Agenda item

Craffu ar y cynigion Cyfalaf a Refeniw drafft ar gyfer 2020-21 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Pedair Blynedd Tymor Canolig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r pwyllgor sy’n amlinellu’r heriau yn y flwyddyn. Yn ôl y disgwyl, mae llawer o bwysau’n mynd trwodd i’r flwyddyn nesaf mewn cyfres o heriau ehangach. Mae cyfanswm y pwysau sy’n cael eu rheoli ac yn cael ei chynnwys bron iawn yn £10m - mae hyn yn sylweddol. Gofal Oedolion a Chymdeithasau yw’r agwedd fwyaf sylweddol o’r pwysau £10m. Mae pwysau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn parhau ac yn tyfu. Mae’r cynnydd mewn cyflogau a phensiynau athrawon yn parhau i’r flwyddyn nesaf. Mae’r 3 maes hyn yn ffurfio mwy na £8m o’r £10m.

 

Lluniwyd set gadarn o gynigion i ddelio gyda’r pwysau. Y cyfrifoldeb creiddiol yw dod â chynigion cytbwys ym mis Mawrth. Pan aeth cynigion allan er ymgynghoriad ym mis Rhagfyr, nid oeddent yn hollol gytbwys gyda £1m yn dal i fod i’w drefnu. Mae’r ymgynghoriad yn parhau hyd yfory, 31 Ionawr. Cynhaliwyd cyfarfodydd clwstwr, ymgynghoriadau gyda chyllideb, digwyddiadau targed gyda phenaethiaid ysgol, digwyddiadau gyda phobl ifanc ac yn y blaen. Cafwyd cyfarfodydd gyda chynifer o bobl ag sydd modd  i gael adborth. Prif bwynt yr adborth yw’r 2% yn ymwneud â’r gyllideb ysgolion. Mae’r Cabinet yn ystyried cynigion eraill. Roedd y cynnydd yn y dreth yn 3.95% i ddechrau ond mae 4.95% yn awr yn cael ei gynnig allan o reidrwydd, oherwydd y pwysau.

 

Her:

 

A ymgynghorwyd â phenaethiaid ysgol am yr arbediad o 2% ar gyllidebau ysgolion? A gynhaliwyd asesiad effaith ar y cynnig?

 

Do, ymgynghorwyd â phenaethiaid ysgolion a chafodd hynny ei fwydo i drafodaethau gyda’r Cabinet. Mae’r sgyrsiau wedi parhau, cafwyd adborth gan rieni ac yn y blaen. Nid oes gan y Cabinet unrhyw awydd i orfodi gostyngiad o 2%, a chaiff pob mesur arall ei ystyried.

 

A yw rhewi cyfraniadau pensiwn cyflogwr yn effeithio ar bensiynau gweithwyr cyflogedig?

 

Na, nid yw rhewi cyfraniadau pensiwn cyflogwr yn effeithio ar weithwyr cyflogedig.

 

A oes manylion cymariaethau gydag awdurdodau eraill yn nhermau cynnydd mewn ffioedd?

 

Pan mae rheolwyr yn asesu costau’n ymwneud â’u maes gwasanaeth, maent yn edrych ar y farchnad leol, achosion ac effeithiau cynnydd prisiau, sensitifrwydd yn y farchnad ac yn y blaen. Ydynt, maent yn edrych sut maent yn lleoli eu hunain o gymharu ag awdurdodau lleol ond yn yr un modd, byddant hefyd yn edrych sut maent yn eistedd wrth ochr y sector preifat (yn dibynnu ar natur y ffi a’r gost), yn arbennig pan maent mewn cystadleuaeth. Mae’n anodd rhoi manylion ar y pwynt hwn gan y bydd pob deiliad cyllideb a rheolwr yn cymryd asesiad gwahanol yn dibynnu ar natur y ffi a’r gost.

 

Mae’r dogfennau ariannol yn sôn am incwm ffafriol o dai newydd a gaiff eu cwblhau – yn nhermau’r strategaeth buddsoddi, a ydym wedi ystyried refeniw o werthiant a threth incwm?

 

Cyflwynwyd cynnig a gwnaed gwaith i asesu dichonolrwydd sefydlu cwmni datblygu – mae’r gwaith hwnnw’n parhau. Mae angen gofal wrth amseru hynny ond gan fod y strategaeth Cynllun Datblygu Lleol ar ei ffordd i’r Cyngor ym mis Mawrth, ond nid dyna ddiwedd y broses, felly o safbwynt masnachol byddai angen eglurdeb o ran y cyfleoedd sy’n cyflwyno i’r Cyngor – p’un ai i fynd ar ben ein hunain neu weithio gydag eraill i ddatblygu tai. Mae’r sgyrsiau a gafwyd yn ddiweddar i wneud yn si?r fod gennym ddealltwriaeth dda o’r hyn y medrir ac na fedrir ei wneud o fewn cyfyngiadau’r awdurdod. Y casgliad yn gynharach yr wythnos hon oedd ein bod yn ymddangos yn weddol ddiogel wrth symud ymlaen gyda’r safleoedd strategol yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol. Rydym yn uchelgeisiol ac yn greadigol wrth wneud hynny, fydd yn ein rhoi mewn sefyllfa dda. Wrth i’r Cynllun Datblygu Lleol anelu i risialu ei hun, a allwn ddod i’r casgliadau hynny am y cwmni datblygu? Mae hynny’n berthnasol i dai a hefyd ddatblygiad masnachol.

 

Yng nghyswllt y Gyfarwyddeb Cyfalafu, a yw’r awdurdod wedi ystyried gweithio partneriaeth neu unrhyw bosibiliadau eraill heb fod yn draddodiadol o hyn ar gyfer arbedion yn hytrach na thorri cyllidebau ysgol, er enghraifft?

 

Caiff ein model ar gyfer cyllid Llywodraeth Cymru ei osod yn ddarbodus. Mae’r cyllid 3% a gawn drwy’r setliad darpariaethol yn uwch na’r hyn rydym wedi ei fodelu, gan ein bod wedi modelu ar lefel ddarbodus.

 

Yng nghyswllt y Gyfarwyddeb Cyfalafu, a symud costau o refeniw i gyfalaf yn gysylltiedig gyda diwygio gwasanaeth, cafodd yr agweddau hynny o’r canllawiau eu dangos yn gywir. Diolch i Lywodraeth Cymru am roi ystod o gyfleoedd y gallwn fod am eu hymchwilio. Daethpwyd â swyddogion ynghyd o bob rhan o’r awdurdod i edrych ar y darn hwnnw o waith, a gallwn sicrhau’r pwyllgor fod pob sgwrs angenrheidiol yn cael eu hymchwilio. Os credwn mai cydweithio/partneriaeth yw’r datrysiad cywir, rydym eisoes yn y trafodaethau hynny neu wedi ymrwymo i’r trefniadau hynny. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar gaffaeliad.

 

Yn nhermau gweithio partneriaeth a rhannu swyddfeydd, rydym yn edrych lle bynnag sy’n bosibl ar p’un ai i allgyrchu ein hadrannau i awdurdodau cyfagos. Mae gwasanaethau cyfreithiol wedi eu contractio allan, er enghraifft. Mewn rhai achosion rydym yn edrych ar ffederaleiddio ysgolion, lle mae gennym benaethiaid ar y cyd. Ar bob cyfle gwneir arbediad lle medrir canfod hynny. Y broblem gyda phartneriaethau yw y gall partneriaid dynnu’n ôl yn sydyn; digwyddodd hynny o’r blaen, felly mae angen i ni fod yn ofalus iawn i ymddiried adrannau i awdurdodau eraill.

 

Mae pryder am wyliau pensiwn yn seiliedig ar brofiad blaenorol – mae angen monitro’r sefyllfa honno.

 

Ar lefel pennawd, a gyda’r actwari newydd gwblhau gwerthusiad tair-blynyddol, mae rhwymedigaethau pensiwn yn cynyddu. Fodd bynnag yr hyn a welsom yw bod buddsoddiadau sylweddol miliynau o bunnau wedi perfformio’n sylweddol well dros y cyfnod hwnnw, yn llawer mwy na’r cynnydd mewn rhwymedigaethau pensiwn. Mae gan yr actiwarïaid, mewn cysylltiad â’r awdurdod sy’n gweinyddu’r Gronfa Pensiynau (Torfaen), strategaeth glir iawn o ran y Gronfa Pensiynau a gwneud yn si?r eu bod yn dod â hi’n ôl i sefyllfa lle caiff ei chyllido’n llawn. Rydym yn dal i dalu cyfraniadau sylweddol gan y cyflogwr a gafodd eu cadw ar y lefel honno am ddwy flynedd. Cânt wedyn eu hailasesu ac awn oddi yno.

 

Gofynnwyd am adroddiad llawn ar oleuadau stryd ar gyfer y cyfarfod Cymunedau Cryf nesaf, er mwyn mynd i’r afael ag ymholiad am y newidiadau mewn costau yn ymwneud â deunyddiau h.y. y newid o sodiwm i LED. Nid yw’n glir o ble daeth y pwysau, gan y caiff yr arbedion eu gwneud flwyddyn ar flwyddyn, yn seiliedig ar y ffaith fod grantiau ar gyfer rhai o’r gosodiadau hyn.

 

Caiff adroddiad yn bendant ei wneud ar gyfer Cymunedau Cryf. Mae’r grantiau mewn gwirionedd yn fenthyciadau di-log. Mae’r dogn olaf sydd gennym yn awr yn golygu y byddwn wedi rhoi LED yn ein holl seilwaith felly nid oes arbediad enfawr eto - gwneir yr arbediad o’r ynni a ddefnyddir i ad-dalu’r benthyciad. Dylai LED barhau am 15-20 mlynedd, caiff y benthyciad ei dalu’n ôl dros 10-15 mlynedd. Rydym felly’n gwneud ein hoffer yn addas ar gyfer y dyfodol, caiff y fantais ei gweld pan fyddwn yn gorffen ad-dalu’r benthyciadau a byddwn yn gweld budd gostyngiad mewn defnydd ynni. Mae hefyd yn help tuag at wrthbwyso’r cynnydd mewn ynni. Mae’r pwysau £25k a gynhwysir yn yr adroddiad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys cynnydd posibl mewn costau ynni. Gobeithio, gyda chyflwyno’r LED, y bydd ein harbedion ynni yn cynyddu a chânt eu cynnig fel arbediad yng nghyfrifon y flwyddyn nesaf.

A yw’n gywir y cafodd ystyriaeth i newidiadau i’r Canolfannau Gwastraff eu gohirio?

 

Mae’r Cabinet wedi ymrwymo i encilio’r penderfyniad a gymerwyd ar 20 Rhagfyr, tra cynhelir ymgynghoriad pellach a gwaith ymgysylltu. Cyhoeddir ymgynghoriad ehangach a cheir data ar ddefnydd safle Brynbuga, y cyfleusterau yno ac yn y blaen, i gasglu gwybodaeth bellach i’r Cyngor ei ystyried. Bydd angen diwygio’r effaith yn y gyllideb cyn ein bod yn cyflwyno’r papurau terfynol a bydd angen addasu’r arbediad a gynigir ar hyn o bryd o fewn y gyllideb.

 

Cafodd nifer o fysus newydd eu prynu yn y 12 mis diwethaf ac mae costau cynnal a chadw wedi codi – pa mor hir fedrwn ni gefnogi’r Uned Cludiant Teithwyr yn ei ffurf bresennol? Bydd yn rhaid i fwy o arian fynd bob blwyddyn.

 

Mae dau ran i’r Uned Cludiant Teithwyr: comisiynu a gweithrediadau. Y gweithrediadau yr ydym yn eu rhedeg yw lle na all y farchnad ddarparu gwasanaethau i ni. Fe wnaethom roi tendrau drwy’r broses System Prynu Dynamic ar gyfer y gwahanol lwybrau sy’n gweithredu ar draws y sir - tua 300 llwybr ar draws Sir Fynwy. Dim ond cyfran fach iawn o hynny mae’r Cyngor yn eu gweithredu ond mae rhannau neilltuol o’r sir, tebyg i Gil-y-coed, lle nad oes gweithredwyr a gynigiodd yn llwyddiannus ar gyfer, neu hyd yn oed heb fod eisiau, y llwybrau hynny.

 

Mae’n faes o bwysau cynyddol, oherwydd y cynnydd yn nifer disgyblion. Mae ein fflyd yn heneiddio, felly rydym yn edrych ar p’un ai a allwn brynu cerbydau mewn ffordd wahanol. Caiff y rhan fwyaf o’n cynnal a chadw ei wneud yn fewnol ond rydym allan i dendr ar hyn o bryd ar gyfer cynnal a chadw bysus mini a choetsis. Gobeithiwn y bydd ein costau cynnal a chadw hefyd yn gostwng yn y flwyddyn ariannol newydd, yn dibynnu ar y costau a gyflwynir fel canlyniad i’r tendr newydd hwn.

 

Dim ond o fewn cylch 15 milltir o leoliad y gall y gwasanaeth bws mini lleol weithredu. A allwn edrych os byddai’n ymarferol cynyddu hynny? A fedrir cynyddu’r gwasanaeth bws lleol i lacio’r pwysau cynyddol ar y bysiau mini?

 

Rydym newydd yn cytuno ym mwrdd y rhaglen i gynnal astudiaeth i adolygu gweithrediadau cludiant lleol a gwasanaeth cyhoeddus ar draws y sir i edrych ar y pwyntiau hyn. Rydym eisiau cynyddu defnydd y gwasanaeth bws cyhoeddus a’r gwasanaeth lleol. Mae hefyd angen gwella’r system archebu leol. Mae’r holl system angen adolygiad cyflawn. Cyfeirir at optimeiddio llwybrau ym mhapurau mandad y gyllideb yn gysylltiedig gyda’r adroddiad hwn.

 

Er eglurder, a fydd yr adolygiad o ailgylchu rheoli gwastraff yn dod i’r pwyllgor Cymunedau Cryfach?

 

Bydd hynny yn gam gweithredu.

 

Os ydym yn mynd i gynnwys pob agwedd o gyflogau athrawon, a yw hynny’n golygu na chaiff unrhyw swyddi eu dileu mewn ysgolion?

 

Mae hynny’n fater yn llwyr i gyrff llywodraethu unigol yr ysgolion hynny. Caiff staff ei ddatganoli i bob corff unigol.

 

A ydym wedi diffinio sefyllfa gyfreithiol y cyrff llywodraethu mewn ysgolion yng nghyswllt gosod cyllideb diffyg?

 

Ni all ysgolion osod cyllideb diffyg a bydd gan bob un o’r rhai a aeth i ddiffyg cynlluniau adfer.

 

A fedrir egluro rhesymeg posibilrwydd rhoi benthyciadau i ysgolion mewn diffyg?

 

Gall ysgolion mewn diffyg gael mynediad i hyd at 10% o’u cyllideb flynyddol a defnyddio hynny i ad-dalu’r diffyg. Bydd yn rhaid i ni fenthyca peth o’r arian, felly bydd cost am hynny. Y bwriad yw gwneud yr ad-daliadau yn ddi-log, gall ysgolion ledaenu’r taliad dros 10 mlynedd neu ynghynt os hoffent. Cafodd ad-daliadau diffyg ysgolion uwchradd dros 3 blynedd eu hymestyn i 4. Os ydynt yn cymryd benthyciad i ddileu’r diffyg a’i ad-dalu dros 10 mlynedd, gallant ostwng yn sylweddol y swm mae’n rhaid iddynt ei ganfod bob blwyddyn a gellir efallai wneud arbedion drwy ail-fuddsoddi i safonau neu weithgareddau all-gwriciwlaidd. Os ydynt yn mynd i ddiffyg unwaith maent ar sail benthyciad, bydd yr awdurdod yn cymryd rheolaeth cyllideb yn ôl. Nid yw’r rhan fwyaf o ysgolion mewn cyfeiriad ar i waered ac mae ganddynt gynlluniau adfer ac yn cadw atynt yn llwyddiannus. Mae diffygion fel arfer oherwydd ffactorau allanol tu allan i reolaeth ysgol.

 

Mae pryder am sut y caiff pwysau eu diffinio yn y gosodiadau cyllidebol hyn, ein bod gyda dyfarniad Ealing yn prisio grwpiau cymunedol mas o ddefnyddio gwasanaethau, yn hollol groes i’n nodau llesiant.

 

Cawsom sylwadau drwy David Davies AS ar y pwynt hwnnw mewn blynyddoedd diweddar. Mae grwpiau a chymdeithasau a allai yn flaenorol fod wedi adennill Treth ar Werth ond nad ydynt yn awr yn medru gwneud hynny, yn dilyn Ealing. Rydym wrthi’n edrych ar achos ac effaith a’r grwpiau yr effeithir arnynt a byddwn yn ystyried ymateb maes o law.

 

Os na fedrir codi refeniw o barcio, pam mai incwm yw’r prif gonsyrn am sut ydym yn mesur p’un ai yw parcio yn gweithio? A yw pwysau’n cael eu rhestru yn erbyn arbedion gan ddefnyddio’r metrigau anghywir?

 

Cafodd y cynnydd mewn costau eu cytuno fel rhan o gyllideb y flwyddyn ddiwethaf. Mae wedi cymryd amser i weithredu’r newidiadau hynny. O’r rhai sydd am ddim ar hyn o bryd, bydd costau’n cael eu cyflwyno mewn 4, archebwyd arwyddion felly ni chafodd hyn ei weithredu eto. Rydym wedi cyflwyno £183k o bwysau cyllideb ar gyfer incwm meysydd parcio gan nad ydym flwyddyn ar flwyddyn yn cyflawni’r lefel a osodwyd. Caiff targedau incwm ar gyfer parcio eu gosod ar wahanol fodelau ond mae’n anodd iawn rhagweld defnydd meysydd parcio, felly gosodwyd targedau nad ydym wedi eu cyflawni. Rydym yn edrych ar y darlun ehangach fel rhan o’r adolygiad holistig o strategaeth meysydd parcio a gafodd ei osod yng nghyllideb y llynedd - defnydd, effeithiau, cyflwyno gwefru cerbydau trydan ac yn y blaen. Bydd hyn yn dod i’r cydbwyllgor Economi & Datblygu a Cymunedau Cryf. Dylid nodi nad oes unrhyw gynigion yn y gyllideb hon i gynyddu costau parcio.

 

A yw’n gywir fod agweddau o rai cronfeydd, megis cyllid allanol cronnus, yn anhysbys ar hyn o bryd ac os felly, faint o hyder sydd gennym y byddwn yn eu derbyn? Os na wnawn, beth fydd yr effaith?

 

Ni chawsom y setliad terfynol eto, y byddem fel arfer wedi ei gael. Mae’n rhaid i ni ddibynnu ar wybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn rhaid i ni osod y dreth gyngor o fewn ychydig ddyddiau o gyhoeddi’r setliad. Nid yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl unrhyw symudiad rhwng y setliad darpariaethol a’r setliad terfynol. Mae lefel uchel o sicrwydd na fydd y ffigur 3% yn newid.

 

Pa mor hir y gall y sefyllfa barhau o dorri ac ymdopi gyda chyllidebau is a chael y swm lleiaf posibl gan Lywodraeth Cymru?

 

Canfyddir datrysiadau newydd bob blwyddyn ond mae hyn yn wir yn rhedeg allan o stêm. Rydym yn ceisio darbwyllo rhai awdurdodau eraill i’n helpu drwy gyfrannu at gronfa fydd yn ein galluogi i gynnal archwiliad annibynnol y gellir ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i weld os medrir eu darbwyllo i edrych ar y fformiwla.

 

Mae dwy agwedd am gyllid teg: un yw gwneud yn si?r fod llywodraeth leol yn derbyn cydnabyddiaeth ddigonol am y pwysau a roddir arnynt. Roedd y sgwrs rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru yn arwain at y setliad darpariaethol am becyn cyllid teg o amgylch pwysau cyflogau a phensiwn a’r pwysau mewn gofal cymdeithasol oedolion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’r pwysau wedi eu cynnwys mewn ychydig o feysydd allweddol: pe byddent yn cael eu hariannu’n llawn gallem fod wedi gwneud buddsoddiadau mewn rhai meysydd ac wedi adennill peth o’r sefyllfa a gollwyd. Yr agwedd arall yw ein cyllid teg fel canlyniad i’n dosbarthiad yn y fformiwla: mae Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cytuno cynnal darn o waith i edrych yn fanylach ar y fformiwla. Mae ein natur wledig yn rhan sylweddol o’r rheswm pam ein bod dan anfantais. Byddwn yn parhau i ymateb i’r heriau a roddir o’n blaen.

 

Yn y papur blaenorol nodwyd nad yw’r model Gofal Cymdeithasol yn gynaliadwy. Beth fwy allwn ni ddisgwyl? Rydym wedi rhoi arian i drawsnewid gwasanaethau, a oes rhai elfennau sydd tu allan i’n rheolaeth yn nhermau ymgysylltu gyda’r Bwrdd Iechyd? A ydym yn cael ein cyfran deg gan fyrddau partneriaethau rhanbarthol

 

Mae tystiolaeth dda o integreiddio gyda Iechyd – mae prosiect llesgedd yn un enghraifft lle’r ydym wedi gweithio’n dda gyda Iechyd i grynhoi ein cyllidebau a gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau, gyda iechyd yn cyfrannu arian ynghyd â ni. Yn gyffredinol mae angen i’r GIG a Gofal Cymdeithasol gydweithio’n well. Gall buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol ostwng y pwysau ar welyau mewn ysbytai. Rydym wedi agor trafodaethau gyda’r Bwrdd Iechyd ac awdurdodau cyfagos am ofal iechyd parhaus a sicrhau ein bod yn cael ein cyfran deg o incwm ac nad ydym yn cymryd cyfran ddiangen o’r pwysau hynny. Mae meysydd eraill lle gall ac mae angen integreiddio pellach.

 

Rydym yn ymroddedig i ostyngiad diogel yn nifer y plant sy’n dod i ofal, pa adnoddau ydyn ni’n teimlo fod angen eu buddsoddi’n ychwanegol i’r agenda?

 

Mae atal cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal yn fater a gaiff ei drafod yn barhaus yn ein tîm Arweinyddiaeth. O gofio am faint yr her, rydym wedi buddsoddi arian yn nhermau gwaith ataliol rheng-flaen. Rydym wedi buddsoddi yn y cyfreithwyr gofal plant i drin agwedd farnwriaethol mwy o blant yn dod i ofal. Mae prosiect Fy Nhîm Cefnogaeth yn enghraifft arall o weithio i ddechrau gydag awdurdod arall, gan edrych ar y canlyniadau gorau ar gyfer y plentyn, a all yn ei dro arwain at lai o bwysau ariannol ar yr awdurdod. Mae mwy o ymwybyddiaeth gan y cyhoedd nawr am hysbysu asiantaethau am blant sydd mewn risg: mae hyn yn cyfrannu at niferoedd.

 

Beth yw ein tybiaeth am y pot canolog o arian ar gyfer lliniaru pwysau Anghenion Dysgu Ychwanegol?

 

Ein dealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru yw y disgwylir fformiwla dosbarthu Anghenion Dysgu Ychwanegol, dyraniadau a meini prawf am ddefnydd a chymhwysiad y cyllid hwnnw ei dderbyn yn y dyfodol agos.

 

Bydd yn anodd i’r cyhoedd dderbyn cynnydd o 4.95% yn y dreth gyngor. Pa mor hir all hyn barhau? A oes gennym ddewis arall heblaw torri  gwasanaethau? A oes angen i ni feddwl am gyfrifoldebau anstatudol, gan na all y sefyllfa barhau.

 

Rydym ar linell gyfartalog treth gyngor o gymharu â chyfartaledd Cymru Mae pa mor hir y gall y cynnydd barhau yn dibynnu ar welliant yng nghyllid Llywodraeth Cymru – yn y flwyddyn neilltuol hon mae’n dibynnu os ydym yn cael y llawr 4%. Os felly, byddwn yn edrych o ddifrif ar ostwng y cynnydd posibl o 1% mewn treth. Ond ni wyddom pa mor hir y bydd y sefyllfa yn gynaliadwy. Dim ond os yw popeth arall wedi methu y rhoddir y gorau i wasanaethau a byddai’n rhaid i lawer iawn newid i wneud i ni ail-ystyried hynny.

 

A fydd y Cabinet yn cyflwyno rhywbeth ond camu’n ôl o hynny pan mae gwres, neu yrru drwy benderfyniad anodd pam fod angen i ni?

 

Mae’n rhaid i ni gael cyllideb gytbwys ac os yw hynny’n golygu codi’r dreth Gyngor, yna dyna mae’n rhaid i ni ei wneud. Ond dyma’r peth olaf y byddem yn dymuno ei wneud. Gobeithio y bydd y llawr cyllid 4% yn golygu na fydd yn rhaid i ni.

 

Casgliad y Cadeirydd:

Rydym wedi craffu ar feysydd portffolio. Rydym wedi edrych ar yr Uned Cludiant Teithwyr ynghyd â goleuadau stryd. Rydym wedi edrych ar reoli gwastraff ac ailgylchu, gyda nifer o bryderon wedi eu codi, yn neilltuol yng nghyswllt Brynbuga. Nodwn y disgwylir adolygiad. Cafodd costau parcio eu hystyried, a daw adolygiad o hynny yn ôl i’r Pwyllgor Economi a Datblygu. Craffwyd ar ddatblygu masnachol a deall modelau newydd yno, adeiladu tai ac yn y blaen. Ystyriwyd y Gyfarwyddeb Cyfalafu. Fe wnaethom edrych rywfaint tu allan i’n cylch gorchwyl mewn addysg, Anghenion Dysgu Ychwanegol, cyllidebau ysgol, gan sicrhau y cynhelir ymgynghoriad cadarn gyda phenaethiaid ysgol. Mae peth cysur o’r hyblygrwydd a roddir gan bosibilrwydd benthyca i rai ysgolion, yn nhermau’r toriad posibl o 2% yn y gyllideb ac effaith hynny. Fe wnaethom graffu ar ofal cymdeithasol a’r pwysau cyllid yno. Soniwyd am yr angen am wybodaeth dryloyw ar gyfer craffu mwy effeithlon.

 

Trafodwyd y setliad cyllid darpariaethol a heriau bod hynny’n hwyr ar gyfer swyddogion a’r Cabinet. Codwyd cynaliadwyedd hirdymor a’r cynnydd posibl mewn treth gyngor a chynaliadwyedd cynnydd yno. Soniwyd am heriau gweithio rhanbarthol: mae manteision ond mae angen i ni sicrhau y caiff partneriaethau eu hymrwymo i gyfleoedd posibl pan maent yn codi. Ystyriwyd goblygiadau dyfarniad Ealing.

 

Argymhellion

 

Ar gyfer Cymunedau Cryf, mae angen dilyn materion yn ymwneud ag Ailgylchu Gwastraff, fel y trafodwyd.

 

Ni chaiff fformiwla cyllid y Cyngor ei deall yn dda ac awgrymir y dylid ei adolygu. Bydd seminar gweithdy am hynny. Mae’r Cyngor yn flaenorol wedi pwysleisio’r adolygiad annibynnol.

 

Argymhellwyd bod yr awdurdod yn adolygu ei system rheoli gwybodaeth a rheoli perfformiad.

 

Dogfennau ategol: