Agenda item

Cais DM/2019/01333 - Adleoli maes chwarae’r plant yn Lawnt Pentref Chippenham Mead, Trefynwy. Maes Chwarae Chippenham Mead, Stryd Chippenhamgate, Trefynwy.

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w cymeradwyo, yn amodol ar y pum amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Drybridge, Trefynwy, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae angen adleoli maes chwarae'r plant oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch a'r safle arfaethedig yw'r lleoliad mwyaf addas ar faes gwyrdd y pentref.

 

·         Mae rhai pobl yn ardal Trefynwy wedi bod yn amharod i symud tuag at yr adleoli ac mae'n credu na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i faes gwyrdd y pentref.

 

·         Fodd bynnag, mae gennym ni fel awdurdod rwymedigaeth a dyletswydd i ddarparu lle chwarae addas yn y lleoliad mwyaf addas ar faes gwyrdd y pentref ac i wneud gwelliant sylweddol i'r ardal chwarae bresennol.

 

·         Mae'r rhan fwyaf o rieni yn yr ardal yn cefnogi'r adleoliad arfaethedig.  Fodd bynnag, cydnabuwyd bod rhai pryderon ynghylch lefelau s?n a'r potensial i bobl ymgynnull yno gyda'r nos.  Dim ond metrau i ffwrdd o'r safle presennol yw'r safle adleoli arfaethedig ac felly ni ddylai'r dadleuon hyn rwystro cymeradwyo'r cais.

 

·         Bydd manylion terfynol y dyluniad yn cael sylw yn y cam materion a gadwyd yn ôl.   Fodd bynnag, bydd cynllun y ffens a'r offer chwarae yn sicrhau llwyddiant y cynnig.  Byddai mewnbwn gan grwpiau lleol yn ddefnyddiol wrth ddarparu'r math gorau o offer y gellid ei wneud drwy ymgynghori.

 

·         Dylid ystyried cynnydd yn lefelau bioamrywiaeth y safle o fewn maes gwyrdd y pentref gyda golwg ar ddarparu plannu addas ar y safle gwreiddiol.   Byddai hyn hefyd yn darparu byffro ar y ffordd ddeuol gyfagos, sydd yn wir angenrheidiol, mewn perthynas â maes gwyrdd y pentref.

 

Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae'r safle arfaethedig yn fwy agored a diogelach na'r safle gwreiddiol.   Fe'i lleolir ar ochr arall y clawdd gan leihau lefelau s?n i breswylwyr.

 

·         Bydd y man chwarae arfaethedig yn cynnwys deunyddiau naturiol.

 

·         Bydd tirlunio priodol o fudd i'r ardal.

 

·         Bydd y man chwarae arfaethedig wedi'i leoli ymhellach i ffwrdd o'r ffordd ddeuol.

 

·         Mynegwyd pryder na fydd y safle newydd arfaethedig yn cael ei amgáu i atal c?n rhag baeddu yn yr ardal.  Fodd bynnag, nodwyd y gallai fod anawsterau ynghlwm wrth amgáu'n llawn yr ardal chwarae sydd wedi'i lleoli o fewn maes gwyrdd y pentref gan y gallai hyn effeithio ar hawliau mynediad cyhoeddus i faes gwyrdd y pentref yn ogystal ag effeithio o bosibl ar gael caniatâd maes gwyrdd y pentref ar gyfer y man chwarae.   Fodd bynnag, mae ffyrdd o leihau mynediad i'r cyhoedd drwy blannu priodol fel ffordd o fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd.

 

·         Awgrymwyd y dylid cyflwyno cynnig yn amlinellu'r materion penodol sydd wedi'u nodi gyda golwg ar gael ardal â ffens a giât ar gyfer y man chwarae arfaethedig a fyddai'n gwella iechyd a diogelwch y plant a fydd yn defnyddio'r man chwarae.

 

·         Gellid ychwanegu amod y gellid defnyddio plannu priodol fel ffordd addas o amgau'r man chwarae yn naturiol.  Pan gaiff cais maes gwyrdd y pentref ei gyflwyno, gall sefydliadau priodol wneud sylwadau. Arolygiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r mater hwn.   Felly, gallai darparu plannu priodol yn hytrach na ffens fod yn ffordd well ymlaen.

 

·         Pe bai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais, yn amodol ar y materion a nodwyd ynghylch baeddu gan g?n, gellid ychwanegu amod y gellid cyflwyno cynllun sy'n nodi ffurf y lloc i ddelio â'r mater baeddu c?n i'w gytuno gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Byddai Swyddogion Cynllunio yn gweithio gyda'r Panel Dirprwyo a'r Aelod Lleol i gytuno ar restr o ymgyngoreion gyda'r bwriad o ymgynghori ar y math o gyfarpar a'r cynllun i fynd i'r afael â'r broblem baeddu gan g?n.

 

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol M. Feakins a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol P. Murphy y dylai cais DM/2019/01333 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y pum amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a bod yr amodau canlynol yn cael eu hychwanegu:

 

·         Y dull o amgáu'r man chwarae i'w gytuno cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle a'i gynnal yn unol â'r manylion cymeradwy cyn dechrau defnyddio'r man chwarae cymeradwy.

 

·         Bydd cynllun tirlunio ar gyfer y man chwarae presennol yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gytuno ganddo, i gynnwys ei weithredu.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid-           13

Yn erbyn         -           0

Ymatal-           1

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Gwnaethom benderfynu bod cais DM/2019/01333 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pum amod fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a bod yr amodau canlynol yn cael eu hychwanegu:

 

  • Y dull o amgáu'r man chwarae i'w gytuno cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle a'i gynnal yn unol â'r manylion cymeradwy cyn dechrau defnyddio'r man chwarae cymeradwy.

 

  • Bydd cynllun tirlunio ar gyfer y man chwarae presennol yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gytuno ganddo, i gynnwys ei weithredu.

 

 

Dogfennau ategol: