Cofnodion:
Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am adroddiad ar ofal cartref yn dilyn ei gyfarfod craffu ym mis Medi. Cydnabu'r Pwyllgor mai "Troi'r Byd Ben i Waered" yw dull y Cyngor o ddatblygu darpariaeth gofal cartref cynaliadwy, ond, ar ôl deall o drafodaethau blaenorol fod y farchnad braidd yn fregus, cytunasant y byddai trosolwg o'r sefyllfa yn y sector gofal cymdeithasol mewn cyfarfod craffu yn y dyfodol yn ddefnyddiol. Cytunodd y Pwyllgor i ganolbwyntio ar yr heriau o fewn y sector a deall sut y byddai'r Cyngor yn ymateb i'r heriau hynny. Roedd dau ddarparwr gofal wedi cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod.
Clywodd yr Aelodau fod darpariaeth gofal cartref yn her gydnabyddedig ledled y DU, ond yr heriau penodol i Sir Fynwy oedd:
Clywodd y Pwyllgor fod hyn yn peri heriau o ran sut y gall y gweithlu fodloni'r galw. Mae'r gwasanaethau i oedolion wedi bod yn gweithio ar fodel ("Troi'r Byd Ben i Waered"), a fydd yn cael ei roi ar waith ym mis Ebrill 2020. Darparodd yr adroddiad dadansoddiad cyd-destunol o'r heriau a osodwyd, wedi'i ategu gan ddata a dynnodd sylw at broblemau o ran darparu gofal tymor hwy. Eglurodd swyddogion fod modelau gofal traddodiadol wedi bod yn seiliedig ar ddarparu gofal mewn ffordd drafodol ac er eu bod wedi diwallu anghenion personol, nid yw'n cyfrannu at anghenion iechyd a llesiant tymor hwy unigolyn neu ei deulu a'i ofalwyr. Mae'r model newydd yn bwriadu adeiladu perthnasoedd ystyrlon a darparu model o gymorth sy'n sicrhau canlyniadau gwell i bobl. Clywodd y pwyllgor y dylai'r dull seiliedig ar barthau alluogi deuddeg parth i ddarparu cefnogaeth i unigolion a'u gofalwyr trwy gymysgedd o ofal mewnol a darpariaeth annibynnol ac y bydd llwyddiant y dull seiliedig ar barthau yn cael ei werthuso. Manteision y dull hwn yw datblygu'r berthynas rhwng yr holl randdeiliaid sy'n gweithio yn y maes a sicrhau bod cynlluniau gofal yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn a'r ffordd y mae'n dewis byw ei fywyd. Gobeithir y bydd yr ymagwedd yn gwella profiadau defnyddwyr gwasanaethau’n fawr, yn cefnogi eu gofalwyr ac yn darparu rolau boddhaus i'r staff.
Herio:
Eglurodd y swyddogion, ar hyn o bryd, y mae ar rai pobl yr angen am rywfaint o gymorth ac na allwn ar hyn o bryd ddiwallu'r angen hwnnw yn ei gyfanrwydd ac er bod pobl heb unrhyw gymorth, efallai nad y cymorth a ddarperir yw'r pecyn cymorth delfrydol.
Cadarnhaodd swyddogion fod y Cyngor wedi'i baratoi'n addas ar gyfer
tywydd garw a bod y cerbydau cywir yn eu lle. Esboniwyd eu bod yn gweithio gyda gwasanaethau
eraill, er enghraifft, nyrsys ardal i sicrhau bod pobl ar restr
blaenoriaethau'r Cyngor yn cael cymorth.
Ymatebodd y darparwyr gan ddweud mai'r mater allweddol yw recriwtio. Eglurodd y bydd y broses cofrestru newydd ar gyfer gofalwyr, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ofalwyr gael eu cofrestru erbyn 2020, yn sicrhau bod gofalwyr yn gymwys, ond y gallant hefyd achosi anawsterau wrth recriwtio, o gofio mai dim ond y cyflog byw sy'n cael ei dalu o hyd, sy'n golygu bod y sector yn talu ychydig iawn i bobl i ymgymryd â rôl broffesiynol. Felly, mae rhai gofalwyr profiadol yn ymgymryd â'r cymwysterau er mwyn cael eu cofrestru ar eu traul eu hunain, ac mae cynnal y cofrestriad a'r newid mewn cymwysterau yn gallu bod yn rhwystr, o gofio bod rolau eraill nad ydynt yn broffesiynol mewn adwerthu yn cael eu talu yn yr un modd. Barnwyd bod cyflog y swydd yn fater cenedlaethol, heb fawr ddim dealltwriaeth o bwysigrwydd a natur broffesiynol y rôl. Gan nad oes cynllun ar hyn o bryd i gynyddu'r cyflog ar gyfer y rôl, awgrymodd y gallai unrhyw beth y gellid ei wneud i gymell yn lleol drwy 'waith seiliedig ar barthau' fod o fudd i staff o ran hyblygrwydd ac ardal leol i weithio ynddi. Clywodd yr Aelodau hefyd mai dim ond am yr amser a dreulir gyda'r unigolyn yn hytrach na sifft gyfan y caiff staff eu talu ac y byddai hyn yn cael ei gynorthwyo drwy'r dull newydd. Ym Mrynbuga, mae'r Cyngor wedi bod yn treialu blociau prynu gofal sydd wedi golygu bod staff sy'n gweithio yn ardal Brynbuga yn cael eu talu am eu sifft, sy'n gymhelliant sylweddol i staff. Mae hyn hefyd wedi helpu i sicrhau parhad yn y gwasanaeth.
Er bod cyflog yn fater allweddol, dywedodd y swyddogion mai'r her fawr hefyd yw recriwtio'r bobl iawn a gwneud y rôl yn ddeniadol. Gallai'r cymhellion a allai ddenu pobl hefyd fod yn gallu creu cysylltiadau ystyrlon â phobl a chydlynu eich diwrnod, felly'r bwriad yw tyfu staff fel adnodd o fewn y parthau. O ran llety a chludiant, mae sgyrsiau'n cael eu cynnal gyda'n hadran dai a Chymdeithas Tai Sir Fynwy. Mae prosiect yn cael ei brofi yn ne'r Sir mewn ardal argyfyngus lle mae 39 o bobl sydd angen gofal, ac mae wedi galluogi model 'byw yno' i gael ei brofi am ofal cartref gan ddefnyddio 2 eiddo yng Nghas-gwent. Mae hyn wedi creu cyflenwad gofal sy'n agos at yr eiddo a thelir cyflog wythnosol i'r gofalwr i ddyfeisio cynllun i ddiwallu anghenion pobl tan fis Ebrill pan fydd "Troi'r Byd Ben i Waered" yn cael ei weithredu. Mae modelau eraill yn cael eu treialu yng Nghas-gwent hefyd.
Dywedodd y darparwyr fod Sir Fynwy yn arwain y ffordd o ran datblygu modelau gofal gwahanol a'u bod yn falch o gael y cyfle i gymryd rhan.
Ymatebodd swyddogion gan ddweud nad oedd fframwaith ar gyfer gwerthuso ar hyn o bryd ond eu bod wedi cynnal trafodaethau gyda AGC ynghylch y gellid gwerthuso hyn a'u bod yn gwbl ymwybodol o'r cynlluniau. Esboniwyd y byddai'n heriol gan fod y model yn wahanol iawn ac o ystyried y bydd y model newydd yn seiliedig ar berthnasoedd yn hytrach nag ar dasg, bydd hyn yn peri anawsterau o ran mesur ei lwyddiant, o gofio bod y dasg honno'n haws ei mesur. Bydd datblygu dulliau sicrhau ansawdd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn bwysig, yn ogystal â chasglu gwybodaeth drwy wahanol dechnegau mesur, gan ystyried y canlyniadau ehangach, megis llai o bobl yn mynd i'r ysbyty neu'n ymweld â meddygon teulu a allai ddeillio o'r newidiadau. O ran ymchwil, nid yw partner wedi cael ei geisio i werthuso hyn, ond mae trafodaeth gyda chydweithwyr sy'n gweithredu gwahanol fodelau caffael yn awgrymu y byddai angen ystyried y pwynt lle byddai ymchwil yn ddefnyddiol. Y dull a ffafrir byddai siarad â defnyddwyr gwasanaeth i weld a yw eu profiad yn cyfateb i'n canlyniadau disgwyliedig. Esboniwyd nad yw rhai o'r cwynion yn y gorffennol, megis diffyg parhad yn y gofalwr neu'r gofalwyr nad ydynt yn troi i fyny, yn gwynion cyffredin mwyach, sy'n dangos sut mae'r model yn newid profiadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu offeryn digidol o'r enw "Mesur y Mynydd" a all helpu i ddadansoddi'r gwahaniaeth a wnaed.
Dywedodd y swyddogion eu bod wedi ystyried cyfleoedd i sefydlu menter gydweithredol a theimlai'r staff fod y model sy'n cael ei dreialu ar hyn o bryd yn gweithio'n dda iawn ac os bydd rhywbeth yn gweithio'n dda, pam y byddech yn ei newid. Hefyd, roedd yr archwiliad cynnar o hyn wedi dod i'r casgliad, er bod Sir Fynwy yn dir ffrwythlon ar gyfer cynllun cydweithredol, nad oedd ganddo'r arbedion maint ac nad oedd yr archwaeth yn y farchnad. Eglurodd swyddogion eu bod yn cael y fantais o fod yn hyblyg ar hyn o bryd o ystyried bod darparwyr mawr a bach, darparwyr arbenigol, sy'n cynnig cydbwysedd da.
Canlyniad a Chasgliadau’r Cadeirydd:
Daeth y Cadeirydd i'r casgliad bod cyfraniad y darparwr gofal yn y cyfarfod wedi bod yn ddefnyddiol iawn a bod y Pwyllgor yn teimlo'n dawel ei feddwl y credir bod Sir Fynwy ar flaen y gad o ran cyflwyno'r model hwn. Roedd y berthynas â'r darparwyr yn amlwg yn cael ei hystyried yn gadarnhaol. Gan gydnabod bod ffactorau sy'n cymhlethu pethau, megis cymwysterau, y broses gofrestru newydd a'r cyfraddau cyflog isel, dywedodd y Cadeirydd ei bod yn braf gweld bod y Cyngor yn rhoi gwerth mawr ar y rôl ac yn ystyried ffyrdd i gymell. Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn fodlon ar gynllun peilot Brynbuga, sy'n ymddangos fel pe bai'n gweithio'n dda a gofynnodd i'r darparwyr gofal gael eu cynnwys yn y model talu cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn sut y caiff y model ei werthuso, o ystyried y newid o fesur 'tasg ac amser' i fesur 'canlyniadau sy'n seiliedig ar berthynas'. Daeth y Cadeirydd i'r casgliad y bydd y 'dull gweithredu ar sail parthau' yn gam pwysig ymlaen i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn gweld wyneb cyfarwydd ac yn datblygu perthynas drwy barhad yn y gwasanaeth a ddarperir. Mae'r Pwyllgor yn gofyn am adroddiad cynnydd ymhen 6 mis.
Dogfennau ategol: