Cofnodion:
Archwilio’r polisi cyn y penderfyniad yngl?n â dynodi tair Ardal sy’n Sensitif yn Archeolegol (ASAau)
Cyflwynwyd polisi i’r pwyllgor oedd yn cynnig estyniadau i ffiniau Ardaloedd sy’n Sensitif yn Archeolegol (ASAau) cyfredol yn Y Fenni, Trefynwy, Tryleg ac yn cynnig dynodi Ardal sy’n Sensitif yn Archeolegol newydd yn Nhyndyrn. Clywodd aelodau taw Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent (YAMG) yw cynghorydd archeolegol y cyngor a taw ystyriaeth berthnasol yw cadwraeth sy’n ymwneud ac olion archeolegol wrth benderfynu am gais cynllun. Bydd y ‘Nodyn Cyngor Cynllunio’ yn amlinellu sut y byddai’r Cyngor yn gweithredu ei ddyletswydd trwy ei weithred Rheoli Datblygu.
Her:
· Sut ydyn ni’n cefnogi ymgeiswyr ar hyn o bryd? A fyddwn yn hyrwyddo’r cyngor hwn i bobl?
Ar hyn o bryd, mae’r YAMG yn cynnig cyngor i ymgeiswyr yngl?n â hyn. Bydd angen i ni ei hyrwyddo trwy’r sianeli cyfrwng cymdeithasol arferol a thrwy benseiri ac asiantiaid.
· Pam deimlo’ch chi’r angen i gynhyrchu’r canllawiau? Pa broblemau oeddech chi’n ceisio mynd i’r afael â?
Codwyd yr angen am ganllaw yn dilyn profiadau lle bod cyfyngiadau wedi codi’n hwyr yn y broses gynllunio oedd wedi arwain at oblygiadau amser a chost, lle buasai ymgeiswyr wedi manteisio o wybod am gyfyngiadau’n fwy cynnar yn y broses gynllunio. Mae'r arddull sy’n ymwneud â diogelu a rheoli archeoleg wedi bod yn anghyson gyda dryswch cyffredinol yngl?n â'r lefel o wybodaeth sydd angen ei chyflwyno'n gynnar yn y broses.
· A fydd hyn yn cynyddu gwaith arolygu i ymgeiswyr?
Bydd gwaith arolygu’n cynyddu, ond bydd modd i’r Cyngor rhoi cyfarwyddyd llawer mwy clir i ymgeiswyr a bydd yn gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.
· A fydd hyn yn cyfyngu datblygu?
Nid ydym yn rhagweld y bydd datblygu’n cael ei gyfyngu. Mae’r estyniad arfaethedig i ffin archeolegol Trefynwy’n digwydd gan fod posibilrwydd uchel o ddarganfyddiadau canoloesol – wrth wybod taw ardal hanesyddol yw’r mwyafrif o Drefynwy, nid yw hyn yn debygol o gyfyngu datblygu'n bellach. Yn Nhryleg, mae wedi bod nifer o ddarganfyddiadau ac mae yna lawer i ddysgu yngl?n â datblygiad Tryleg yn hanesyddol. Serch hynny, nid oes goblygiadau yn ôl datblygu. Nid oedd Tyndyrn wedi’i ddiffinio fel ardal archeolegol ac mae yna ddadleuon cryf y dylai fod. Mae’r ffin o amgylch yr ASA yn Nhyndyrn yn enfawr, ond caiff hyn ei gyfiawnhau oherwydd darganfyddiadau archeolegol yn yr ardal.
· Pwy fydd yn cael eu hymgynghori yngl?n â hyn?
Bydd Cynghorau Tref a Chymunedol, asiantau a phenseiri yn cael eu hymgynghori a byddwn yn sicrhau ymwybyddiaeth trwy’r wefan, Twitter a Facebook. Bydd pob ymateb yn cael eu dadansoddi, eu hystyried a’u hadrodd yn ôl i’r pwyllgor hwn.
· Rydym yn deall yr angen am gydbwysedd, fel ein bod yn diogelu ardaloedd ond ddim yn cyfyngu datblygiad. Ydych chi’n hyderus y gallwch chi gynnig eglurder a thryloywder?
Rydym yn teimlo y bydd y cyfarwyddyd yn helpu ymgeiswyr trwy ystyriaeth lawer fwy cynnar yn y broses cynllunio.
· Pa brosesau yr ydych wedi eu defnyddio i adnabod ardal newydd o amgylch Tyndyrn?
Dadansoddodd YAMG gwybodaeth a phenderfynon nhw fod mwy o ddarganfyddiadau i’w gael yn yr ardal hon a nodwyd yn ystod y gwaith yn Nhryleg hefyd bod angen yr estyniadau. Os ydym yn darganfod nad yw’r arolygon yn awgrymu bod angen yr estyniadau, byddwn yn adolygu’r ffiniau.
· Rydym yn deall sut y mae safleoedd yn cael eu hadnabod, ond os oes ardaloedd lleol sydd heb eu dynodi (er enghraifft, mae yna ardaloedd yn Kingswood yn Nhrefynwy sy'n gysylltiedig â chrochanau ar gyfer ffurfio aur), oes ardaloedd pellach y gellir eu hystyried gan YAMG?
Gallwn yn sicr adolygu ardaloedd pellach os oes darganfyddiadau archeolegol.
· Felly, os yw’r ffiniau’n cael eu hadnabod yn ôl darganfyddiadau ac nid yw darnau o Gas-gwent yn cael eu cynnwys, ydy hyn yn awgrymu nad oes darganfyddiadau, neu efallai nad yw’r wybodaeth o reidrwydd yn gyfredol? A ydych yn ymgysylltu â’r curadur yn Fairfield Mabey?
Beth am ardaloedd megis Brockweir a Redbrook sydd â hanes llongau hysbys? Ydych chi’n edrych ar ardaloedd rhwng yr aneddiadau?
Darlun yw e sydd wedi'i ffurfio dros amser ac mae angen i ni adolygu ardaloedd yn barhaol, ond ein gwybodaeth lan at nawr sydd wedi arwain at ddynodi’r ffiniau hyd yn hyn. Rydym yn ymgysylltu â’r Curadur yn Fairfield Mabey i weld a oes unrhyw wybodaeth y gellir ei gynnig i YAMG y gellir hysbysu adolygiad sy’n ymwneud â chynnwys Mabey Bridge ai peidio. Yngl?n ag ardaloedd rhwng yr aneddiadau, nid ydym wedi cael yr adnoddau i archwilio’r rheini ac mae yna gyfyngiad ar ba mor bell y gallwn ddynodi, ond byddai dal angen i ni adolygu hyn os fyddai darganfyddiadau pellach yn yr ardaloedd hyn yn cyfiawnhau pwysigrwydd archeolegol uwch.
Canlyniad a Chasgliad y Cadeirydd:
· Rydym wedi archwilio’r rhesymeg dros ddod â’r canllaw ymlaen.
· Rydym yn gwerthfawrogi’r cydbwysedd rhwng diogelu a gwella ein hamgylchedd hanesyddol yn ogystal â pheidio â rhwystro datblygiad neu oedi prosesau cynllunio. Rydym hefyd yn adnabod goblygiadau amser a chost i ymgeiswyr. Rydym wedi archwilio'r rheswm am y ffiniau gwahanol a’r ardaloedd rhwng prif aneddiadau ac rydym yn adnabod y cyfyngiadau ar adnoddau. Rydym wedi ein cysuro gan fod Tyndyrn wedi’i gynnwys yn ôl ei haeddiant ei hun ac rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith a wnaed hyd yn hyn.
· Buaswn yn gwerthfawrogi pe bai’r pwyntiau a godwyd gennym yn cael eu cynnwys ac rydym yn cefnogi’r polisi yma’n gyfan gwbl. Rydym yn cynghori eich bod yn ymgynghori yngl?n â hyn ac yn adrodd yn ôl i’r pwyllgor gydag ymatebion yr ymgynghoriad.
Dogfennau ategol: