Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a
argymhellwyd i'w gymeradwyo yn amodol ar y tri amod a amlinellir yn
yr adroddiad.
Mynychodd y Cynghorydd J. Harris, yn
cynrychioli Cyngor Tref Cil-y-coed, y cyfarfod drwy wahoddiad y
Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
-
Ystyriwyd bod Adran
Gynllunio'r Cyngor Sir wedi methu darparu Gorchymyn Gweithdrefn
Datblygu Cyffredinol ar gyfer Ysgol Cil-y-coed yn ôl Deddf
1995.
-
Mae hyn yn effeithio ar y
ddeddfwriaeth a geir ym Mholisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir
Fynwy.
-
Mae Cil-y-coed yn ysgol
21ain ganrif.
-
Yr ystyriaeth faterol
– mae Rhan 1 o Ddeddf Tai 2004 yn ymwneud yn benodol â
thai annedd sydd ag amlfeddiannaeth.
Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd statudol i sicrhau nad oes
unrhyw beryglon a bod y ddarpariaeth iechyd a diogelwch yn
gywir. Hefyd, mae ganddo ddyletswydd
statudol i unioni unrhyw ddiffygion.
-
Y peryglon ar y safle hwn
– lleoliad yr annedd mewn perthynas â'r
ysgol. Nid yw'r llain welededd yn
cyrraedd y safon o ran mynediad i Ffordd Cas-gwent. Mae hwn yn
fater o hawliau Grampiaidd oherwydd perchnogaeth y tir. Mae diffyg
troetffordd ac nid yw graddiant y dramwyfa’n cydymffurfio
â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac mae'n methu'r
Ddeddf Cydraddoldeb.
-
Mae darpariaeth parcio ar
gyfer 12 o breswylwyr.
-
Nid yw'r cais yn bodloni'r
meini prawf o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
2015. Nid yw'r cais yn creu cymuned
gydlynus.
-
O dan Adran 50 o Ddeddf
2014, dylai pob rhan o'r gymuned gael ei chynnwys mewn unrhyw
strategaeth dai sy'n cael ei chynnig. Ystyriwyd bod yr Awdurdod
wedi methu â symud y mater hwn yn ei flaen.
-
Roedd pryderon ynghylch
adroddiad y cais ynghylch trwyddedu pobl ac ni all yr Awdurdod
wahaniaethu yn erbyn unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r math hwn o
lety.
Mynychodd Victoria Hallet, a oedd yn
cynrychioli gwrthwynebwyr i'r cais, y cyfarfod drwy wahoddiad y
Cadeirydd, ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
-
Mae'r gymuned yn sefydlog ac
yn heddychlon, ond mae'n agored i niwed, gan ei bod yn cynnwys
pensiynwyr sydd â chyflyrau iechyd a thrigolion iau sydd ag
anableddau.
-
Caiff y cais am ddefnydd
hostel C4 ei wrthwynebu'n gryf gan y gymuned leol. Mae dros 70 o
wrthwynebiadau ysgrifenedig wedi'u cyflwyno gan yr ystyriwyd y
byddai newid mewn statws yn gwneud y gymdogaeth yn llai diogel ac
yn llai heddychlon.
-
Mae Shelter a'r Big Issue yn
darparu tystiolaeth yngl?n â'r effaith ar iechyd corfforol a
meddyliol pobl sy'n cael eu gorfodi i dderbyn llety dros dro. Gall
tensiwn a gwrthdaro rhwng tenantiaid arwain at ymddygiad
gwrthgymdeithasol.
-
Mae'r cais ar gyfer nifer
fawr o bobl i rannu un gegin mewn cyfleusterau annigonol. Nid oes
gan yr annedd drefniadau diogelwch tân ac argyfwng digonol,
heb unrhyw ddihangfa dân allanol. Nid yw'n darparu mynediad i
bobl anabl.
-
Bydd yr annedd yn cael ei
leoli y tu mewn i gymdogaeth lle mae nifer o bobl agored i niwed
eisoes yn byw.
-
Nid yw'r eiddo yn ddelfrydol
o bell ffordd ac nid yw'n addas ar gyfer hostel C4 a byddai'n
niweidio iechyd a lles y gymuned.
-
Mae'r Cyngor yn cydnabod y
risg uwch o ymddygiad anghymdeithasol, niwsans a thrais. O'r
herwydd, mae cynnig ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng a llinell
gymorth cwynion.
-
Byddai statws hostel C4 yn
troi 62 Heol Cas-gwent yn eiddo o ansicrwydd gyda phreswylwyr byth
yn gwybod pwy fydd yn byw yn yr annedd na sawl person, pe bai'r
statws hwn yn cael ei roi. Bydd hyn yn effeithio ar amwynder pob
cymdogion.
-
Bydd natur agored i niwed y
bobl leol sy'n byw gerllaw yn cael ei waethygu oherwydd y diffyg
preifatrwydd a fydd yn bodoli.
-
Yn ystod y broses ymgeisio,
rhoddwyd gwybodaeth anghyson i breswylwyr am sut y caiff yr annedd
ei ddefnyddio a gan faint o bobl a arweiniodd at ddryswch ac
ansicrwydd i drigolion lleol.
-
Ar ôl i'r cais gael ei
gymeradwyo, gellid gwerthu'r eiddo i landlord preifat gyda'r
potensial i gynyddu nifer y bobl sy'n byw yn yr annedd.
-
Mae'n bosibl y bydd yr
ymgeisydd am newid y defnydd o'r eiddo unwaith eto a allai
gynyddu'r effaith negyddol ar y gymuned leol ymhellach.
-
Mae pryderon ynghylch
diogelwch yn bodoli o ran y dramwyfa i 62 Heol Cas-gwent gan yr
ystyrir nad yw'n cyrraedd y safonau mynediad i
gerbydau.
-
Mae Polisi Cynllunio Cymru
yn datgan yr angen i gydnabod cryfderau cymunedau sy'n bodoli
eisoes, yr angen i sicrhau datblygiad cymdeithasol ar gyfer pob
aelod o'r gymdeithas a bydd y penderfyniad cynllunio a wnaed yn
gwella bywydau cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
-
Gofynnwyd i'r Pwyllgor
ystyried gwrthod y cais.
Daeth asiant yr ymgeisydd, Samuel Courtney,
i'r cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau
canlynol:
-
Yr argymhelliad o fewn yr
adroddiad yw i gymeradwyo’r cais.
-
Ni dderbyniwyd unrhyw
wrthwynebiadau i'r cynnig gan unrhyw un o'r ymgynghoreion mewnol
nac arbenigol.
-
Mae'r ymgeisydd wedi
ystyried yr holl bryderon rhesymol a godwyd gan breswylwyr
cyfagos.
-
Mae llawer o'r pryderon a
godwyd yn ymwneud â natur y cyfleuster preswyl arfaethedig
a'r preswylwyr a fydd yn byw yn yr eiddo, y risg canfyddedig o
ymddygiad gwrthgymdeithasol, colli preifatrwydd ac amwynder a lefel
y lle parcio a ddarperir. Mae preswylwyr hefyd wedi datgan nad
ydynt yn teimlo yr ymgynghorwyd yn briodol â hwy.
-
Fel y nodir yn adroddiad y
cais, ni chaiff personau sengl eu lletya yn yr eiddo. Yn hytrach, caiff ei ddefnyddio gan Dîm
Opsiynau Cyngor Sir Fynwy i gyflawni ei ddyletswydd statudol o dan
y Ddeddf Tai i letya teuluoedd lleol sy'n agored i niwed ac mewn
perygl o fod yn ddigartref.
-
Bydd pob teulu yn cael
asesiad risg cyn cael cynnig llety ar y safle o dan reolaeth y
Tîm Dewisiadau.
-
Mae gosod Teledu Cylch
Cyfyng yn gysylltiedig â diogelwch a rheolaeth yr eiddo ac ni
fydd yn edrych dros unrhyw un o'r eiddo cyfagos.
-
Mae'r cynnig yn cynrychioli
defnydd preswyl priodol mewn cyd-destun preswyl. Ni chredir y
byddai'r newid defnydd arfaethedig yn arwain at fwy o effaith o'i
gymharu â sut y gellid defnyddio'r eiddo pe bai teulu mawr yn
ei feddiannu fel t? annedd safonol.
-
Ni chynigir unrhyw
newidiadau allanol i'r eiddo a fydd yn arwain at golled
preifatrwydd nac amwynder i eiddo cyfagos.
-
Mae'r gwaith sydd wedi'i
gwblhau hyd yn hyn yn waith adnewyddu ac nid oes angen
caniatâd cynllunio ar ei gyfer.
-
Mewn perthynas â
pharcio ceir, mae lle yn yr eiddo i letya tri cherbyd, yn unol
â'r canllawiau parcio. Fodd
bynnag, mae'n annhebygol y bydd y preswylwyr yn berchen ar
gerbyd.
-
O ran yr ymgynghoriad
cyhoeddus, ymgynghorwyd â phob cymydog perthnasol a Chyngor
Tref Cil-y-coed fel rhan o'r broses ymgeisio, a rhoddwyd y cyfnod
amser gofynnol iddynt i ddarparu sylwadau. Ystyriwyd yr holl sylwadau ac ymatebwyd iddynt
drwy'r swyddog achos.
-
Mae'r cais yn ceisio darparu
llety y mae ei angen yn fawr ar deuluoedd yn yr ardal leol sydd
mewn perygl o ddod yn ddigartref.
-
Mae'r newid defnydd
arfaethedig yn gyson â pholisïau perthnasol Polisi
Cynllunio Cymru a Chynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir
Fynwy.
-
Ni fydd y cynnig yn peri
unrhyw effeithiau andwyol ar amwynder eiddo cyfagos sy'n bodoli
eisoes.
-
Gofynnwyd i'r Pwyllgor
Cynllunio ystyried cymeradwyo'r cais fel yr argymhellwyd yn yr
adroddiad ar y cais.
Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer ward
Hafren, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau
canlynol:
-
Mae hwn yn bwnc emosiynol
lle mae trigolion cyfagos wedi mynegi eu pryderon yngl?n â'r
bwriad i newid defnydd yr annedd.
-
Cartref teuluol yw'r annedd
ac ystyrir nad yw'n annedd addas o amlddeiliadaeth.
-
Nid yw’r mynediad yn
cael ei ystyried fel un addas gan y gellid darparu ar gyfer chwe
cherbyd.
-
Mae allanfa ddall ar waelod
y dramwyfa gan achosi perygl priffyrdd posibl.
-
Ni chafodd yr Aelod lleol ei
ymgynghori ag ef ynghylch y newid defnydd arfaethedig yn yr annedd
hwn.
-
Gwnaed newidiadau i'r annedd
cyn i ganiatâd cynllunio gael ei roi, megis gosod grisiau
ychwanegol.
-
Nid yw'r Aelod lleol yn
cytuno â'r eiddo yn dod yn hostel.
-
Mynegwyd pryder y byddai'r
eiddo cyfagos yn dioddef gormod o s?n yn dod o'r
annedd.
-
Mynegwyd pryder y gallai hyd
at 12 o bobl fod yn yr annedd ac ystyriwyd nad yw'r cynnig wedi
cael asesiad risg priodol.
Mewn ymateb, hysbysodd Pennaeth Creu
Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd y Pwyllgor fod y cais hwn ar
gyfer newid defnydd o C3 i C4 a oedd yn wahanol i'r annedd a
ddefnyddid fel hostel. Roedd y cais ar
gyfer defnydd t? amlfeddiannaeth dosbarth C4 ar gyfer hyd at chwech
o unigolion. O ran ystyriaethau cynllunio, mae angen edrych ar y
cais ar rinweddau cynllunio'r achos.
Dywedodd y Rheolwr Tîm Ardal Rheoli
Datblygu wrth y Pwyllgor y byddai'r eiddo dosbarth C4 yn parhau i
redeg fel un uned breswyl debyg i uned dosbarth C3. Fodd bynnag, ni
allwn reoli pwy sy'n byw yn yr eiddo a sut maent yn ymddwyn. Y
gwahaniaeth rhwng dosbarth C3 ac C4 yw y gallai pobl ddigyswllt fod
yn byw mewn annedd C4. Nid oedd angen caniatâd cynllunio ar
gyfer y gwaith allanol a oedd wedi'i wneud. Ystyrir bod y
ddarpariaeth parcio yn dderbyniol. Mae’r Adran Iechyd yr
Amgylchedd wedi adolygu'r cynnig o ran diogelwch tân ac wedi
gwneud argymhellion i'r ymgeisydd o ran yr hyn sydd ei angen. Nid
oes angen unrhyw reolaethau adeiladu ychwanegol yn yr annedd ar hyn
o bryd. Byddai unrhyw faterion yn ymwneud â s?n yn fater i'r
Adran Iechyd yr Amgylchedd fynd i'r afael ag ef.
Dywedodd y Rheolwr Tai a Chymunedau wrth y
Pwyllgor y byddai'r llety hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer
teuluoedd yn unig. Pan ddaw deiliad t?
ymlaen, mae nifer o fesurau'n cael eu cynnal o ran asesu risg ac
addasrwydd cyn y gwneir dyraniad.
Ystyriwyd safbwyntiau'r trigolion gyda'r bwriad o reoli'r eiddo hwn
i'r eithaf er mwyn lleddfu unrhyw bryderon a godwyd.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r
safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
-
Byddai'r eiddo hwn yn annedd
addas i deuluoedd sydd wedi canfod eu bod yn ddigartref dros
dro.
-
Ystyriwyd nad oedd y broses
ymgynghori ar gyfer y cais wedi cael ei chynnal yn
gywir.
-
Mewn ymateb i faterion a
godwyd, hysbysodd Rheolwr Tîm Ardal Rheoli Datblygu’r
Pwyllgor y byddai'r annedd yn cael ei defnyddio'n llai dwys h.y. ni
fyddai mwy na 6 o bobl yn hytrach na 12 o bobl yn cael eu lletya yn
yr annedd a oedd yn cael ei chynnig, ystyrir yn briodol i ddod
â'r cais i'r Pwyllgor Cynllunio gyda'r amod y byddai'n cael
ei ddefnyddio ar gyfer hyd at 6 o unigolion.
-
Mewn ymateb i gais i osod
amodau er mwyn i'r annedd gael ei llofnodi i landlord cymdeithasol
cofrestredig (LCC) i'w defnyddio ar gyfer teuluoedd yn unig, nid
oedd unrhyw resymau cynllunio o bwys dros ei wrthod am y rhesymau
hynny. Felly, mae'n agored i unrhyw un
ei ddefnyddio.
-
Mynegwyd pryder y gellid yn
y dyfodol werthu'r eiddo gyda statws dosbarth C4 pe bai'r cais yn
cael ei gymeradwyo. Dylid ystyried amod
ar gyfer cynllun rheoli a fyddai'n cynnwys uchafswm o chwe
pherson.
-
Dylid newid amod 3 i
ddarparu ar gyfer hyd at chwe phreswylydd i gynnwys teuluoedd ac
nid i gynnwys pobl sengl.
-
Byddai'r llain welededd yn
cael ei archwilio i wella gwelededd wrth adael y
dramwyfa.
-
Byddai aelod dynodedig o
staff yn gyfrifol am yr eiddo a byddai'n anelu at ymweld ag ef bob
dydd, gan ei wneud yn haws ymateb i unrhyw faterion posibl a allai
godi.
-
Mewn ymateb i gwestiynau a
godwyd, hysbysodd Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd
y Pwyllgor fod Cymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) wedi cadarnhau na
fyddai'n gwerthu'r eiddo gan ei bod yn cael grant tai cymdeithasol
i brynu yr eiddo sy'n cyfyngu ar yr hyn y gall ei wneud â'r
eiddo. Roedd MHA hefyd wedi nodi y
byddai'n dechrau prydles 10 mlynedd gydag Adran Dai Cyngor Sir
Fynwy ynghylch rheoli'r eiddo. Gallai hyn roi sylw i’r cais o
ran amod y cynllun rheoli.
-
Hysbysodd y Rheolwr Tai a
Chymunedau’r Pwyllgor fod goblygiadau a chyfyngiadau o ran y
Grant Tai Cymdeithasol mewn perthynas â gwerthu
eiddo.
-
Mae asesiad risg tân a
gynhaliwyd wedi nodi rhai mân faterion y mae angen rhoi sylw
iddynt.
Crynhodd Aelod lleol Glannau Hafren y
sefyllfa drwy ailadrodd y pwyntiau a gododd yn gynharach yn y
cyfarfod ac ystyriodd y dylid gwrthod y cais.
Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol M.
Feakins a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol M. Powell y dylai cais
DM/2019/00595 gael ei gymeradwyo yn amodol ar y tri amod a
amlinellir yn yr adroddiad gyda'r diwygiadau canlynol / amodau
ychwanegol:
·
Cymeradwyaeth i hyd at chwe
phreswyliwr gan mai dyma'r hyn y mae C4 yn gyfyngedig iddo. I
gynnwys teuluoedd ac nid pobl sengl (diwygio amod 3).
·
Ychwanegu amod Cynllun
Rheoli sydd i'w gyflwyno cyn dechrau defnyddio’r eiddo (y
cais rhyddhau amod i gael ei ystyried gan y Pwyllgor
Cynllunio).
·
Ffenestri ochr llawr cyntaf
yr eiddo sy'n edrych dros 62A Heol Cas-gwent i fod â gwydr
aneglur.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais,
cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid y cynnig
-
8
Yn erbyn y cynnig
-
1
Ymatal
-
0
ENILLWYD y bleidlais.
Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais
DM/2019/00595 yn amodol ar y tri amod a amlinellir yn yr adroddiad
gyda'r diwygiadau canlynol / amodau ychwanegol:
·
Cymeradwyaeth i hyd at chwe
phreswyliwr gan mai dyma'r hyn y mae C4 yn gyfyngedig iddo. I
gynnwys teuluoedd ac nid pobl sengl (diwygio amod 3).
·
Ychwanegu amod Cynllun
Rheoli sydd i'w gyflwyno cyn dechrau defnyddio’r eiddo (y
cais rhyddhau amod i gael ei ystyried gan y Pwyllgor
Cynllunio).
·
Ffenestri ochr llawr cyntaf
yr eiddo sy'n edrych dros 62A Heol Cas-gwent i fod â gwydr
aneglur.