Cofnodion:
· Cafodd llawer o’r targedau eu cyflawni ac mae llai o sgorau coch nag yn y cyfnod blaenorol oherwydd y cafodd mwy o anheddau eu cwblhau sef 443 gyda 131, neu 30% ohonynt, yn fforddiadwy a 4 safle tai a ddyrannwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol wedi cael caniatâd cynllunio.
· Mae dros 40 hectar o dir cyflogaeth ar gael, 22 o osodiadau gwyliau i ymwelwyr wedi eu cymeradwyo ac mae cyfraddau unedau gwag ym mhob ardal siopa heblaw Cas-gwent a Brynbuga yn gwneud yn well na chyfartaledd Prydain Fawr.
· Tynnwyd sylw at dri maes polisi sy’n tanberfformio. Dim ond 4.0 blynedd o gyflenwad tir sydd ar gael; nid yw’r safle strategol a ddyrannwyd yn Vinegar Hill wedi cael caniatâd cynllunio hyd yma a bu gostyngiad mewn datblygiad a ganiateir ar safleoedd tir llwyd yn dangos cwmpas cyfyngedig ar gyfer datblygu tir llwyd yn y sir.
Her Aelodau
· Holodd Aelodau pa wersi a gafodd eu dysgu a aiff i’r Cynllun Datblygu Lleol newydd a chlywyd y cynhelir cyfarfodydd rheolaidd i ddysgu beth sy’n gweithio a beth nad yw wedi gweithio yn cynnwys cwrdd â phobl sy’n cyflwyno safleoedd neilltuol a chwrdd â grwpiau neilltuol tebyg i ffermwyr i siarad am eu heriau megis arallgyfeirio. Mae swyddogion hefyd yn dysgu gan awdurdodau eraill.
· Holodd Aelodau os yw’r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn sôn am ymchwilio anheddiad newydd fel rhan o weledigaeth hirdymor yn hytrach na dim ond tyfu o ehangu aneddiadau presennol. Cadarnhawyd y cafodd hyn ei ystyried ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai hyn fod drwy’r Cynllun Datblygu Strategol ac y byddant yn herio os ydym yn symud ymlaen gydag anheddiad newydd yn y Cynllun Datblygu Lleol ac felly y gall fod yn rhaid i ni aros am gynllun datblygu strategol rhanbarthol.
· Roedd cwestiwn mewn ymateb i gyfrif y cyflenwad tir 5 mlynedd. Clywodd Aelodau am y broses a chytunodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lleoedd i gasglu rhai o’r ffigurau Cymru-gyfan i’w cylchredeg i aelodau.
· Holodd Aelodau faint o dai a ddatblygwyd o edrych tu fas i’r Cynllun Datblygu Lleol. Clywodd Aelodau y rhoddwyd 360 caniatâd ond na chawsant eu cwblhau eto. Nid yw hyn yn cynnwys y 111 annedd yn Rhaglan a alwyd i mewn gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag nid yw’r rhain yn gyffredinol wedi bod yn boblogaidd gyda phawb yn lleol.
· Holodd Aelodau am y ffigurau am y cyfraddau lleoedd gwag mewn canol trefi a gasglwyd o arolygon o ardaloedd siopa canolog a chlywyd fod hyn yn cynnwys pob uned manwerthu A1, a allai gynnwys bwytai. Clywodd Aelodau fod mwy o bobl yn defnyddio canol trefi ar gyfer cyfleoedd hamdden a bwyd.
· Heriodd Aelodau sut y gellid cyflymu datblygu safleoedd. Clywodd Aelodau y gallai hyn gynnwys pethau i wneud safleoedd yn fwy deniadol i ddatblygwyr bach ac mewn rhai achosion ddatblygwyr yn talu am wasanaethau estynedig fel rhan o gytundebau perfformiad cynllunio. Cydnabuwyd hefyd fod safleoedd y cyngor ei hun wedi bod yn araf i ddod ymlaen ond yn y pen draw mae’n rhaid i gynllunwyr fod â ffocws ar ganlyniadau.
· Gofynnodd y Pwyllgor pryd y bydd yr adroddiad cynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gael. Clywodd Aelodau y dylai’r canlyniadau fod ar gael ym mis Tachwedd.
· Dywedodd yr Aelod Cabinet fod defnydd canol trefi yn newid fel canlyniad i ardrethi busnes uchel ac mae wedi ysgrifennu at y Gweinidog am y costau uchel i fusnesau yng nghanol trefi o gymharu gydag ardrethi isel ar gyfer busnesau allan o’r dref. Mae Sir Fynwy wedi ymwrthod datblygiadau allan o’r dref ond gwelsom gynnydd mewn siopau o fewn canolfannau garddio sy’n talu ardrethi busnes llawer is tra bod penseiri wedi rhoi sylwadau cadarnhaol ar effaith yr archfarchnad yng nghanol tref y Fenni.
Canlyniadau
· Mae aelodau wedi craffu a deall y gwersi a ddysgwyd o’r Cynllun Datblygu Lleol i’w cymhwyso i’r cynllun nesaf.
· Bu craffu ar gyfraddau unedau gwag yng nghanol trefi ac effaith ardrethi busnes, ac mae aelodau’n cydnabod fod angen newid hynny.
· Craffodd Aelodau a gwnaed sylwadau ac argymell cymeradwyo’r cynllun a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Dogfennau ategol: