Cofnodion:
· Cadarnhaodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid ei gynlluniau i gwrdd gyda 4 cadeirydd pwyllgor dethol i drafod sut i symleiddio adroddiadau ariannol.
· Hoffai Aelodau gael mwy o hyfforddiant ar y gyllideb a byddent yn croesawu adroddiadau lefel uwch symlach. Clywodd Aelodau y gall adroddiadau symlach ei gwneud yn anos i ddal y Cabinet i gyfrif os ydynt yn gweld gwahanol lefelau o fanylion.
· Mae gan yr awdurdod ddiffyg £2.4 miliwn sydd eisoes wedi ei adrodd i’r Cabinet, sicrhawyd 88% o arbedion. Y mwyaf yw gorwariant perthnasol i’r pwyllgor mewn twristiaeth, hamdden a diwylliant fel canlyniad i’r penderfyniad i beidio allgyrchu’r gwasanaeth gan na fydd mwyach yn manteisio o statws elusennol; mae meysydd parcio a chludiant teithwyr hefyd yn gorwario
· Pe byddai’r awdurdod yn mabwysiadu Rheoliad Ealing ar TAW, clywodd Aelodau y byddai ganddo ran sylweddol mewn dileu’r diffyg.
· Mae £1.139 miliwn o lithriad yn y gyllideb gyfalaf sy’n berthnasol i’r pwyllgor yn ymwneud â chynllun Heol Crug.
· Bydd y cronfeydd wrth gefn y rhagwelir gaiff eu tynnu yn gadael y rhain ar 3.19% sy’n is na’r canllaw priodol o rhwng 4% a 6% ac mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn gweithio ar godi hyn yn ôl.
Her Aelodau
· Heriodd Aelodau faint o arbedion na fedrir eu cyflawni a holodd os cynhelir profion straen arnynt wrth lunio’r gyllideb. Clywodd Aelodau y defnyddir nifer o lensys yn cynnwys dull gweithredu safonol i ddangos gweithgaredd ac i ba raddau y maent yn cyflawni dyheadau polisi, ond bod llawer o waith yn parhau ar ôl i’w cyflawni unwaith y cawsant eu cytuno. Mae cyflawni arbedion 88% ar-safon neu’n well na ble’r ydym fel arfer ar y pwynt hwn yn y flwyddyn ariannol.
· Holodd Aelodau pam fod yr awdurdod yn gorwario ar feysydd parcio. Clywodd Aelodau fod hyn yn bennaf oherwydd gostyngiad mewn incwm. Dylai gorfodaeth sifil annog pobl i ddefnyddio gofodau y mae angen talu amdanynt. Mae hefyd ostyngiad yn y defnydd o feysydd parcio yng nghanol y dref wrth i arferion siopa symud ar-lein.
· Gofynnwyd cwestiwn os yw Sir Fynwy yn cropian tuag at fethdaliad a sut mae ein cronfeydd wrth gefn yn cymharu gydag awdurdodau eraill. Atebodd swyddogion fod ein cronfeydd wrth gefn yn is na llawer o fannau eraill; nid yw hyn yn broblemus a chaiff cynghorau eu hannog i beidio eistedd ar gronfeydd wrth gefn, mae 4-6% yn hollol resymol. Fodd bynnag, atgoffwyd aelodau mai Cyngor Sir Fynwy sydd â’r cyllid isaf fesul pen o unrhyw gyngor yng Nghymru ac mae aelodau hyd yma wedi osgoi gwneud toriadau i wasanaethau rheng-flaen. Clywodd Aelodau nad yw lefelau cronfeydd wrth gefn yn dylanwadu ar fenthyca’r cyngor gan ein bod yn derbyn o Fwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus.
· Holodd Aelodau beth oedd y sail am ddarogan gaeaf mwyn ar gyfer costau gweithredu. Awgrymwyd fod newid hinsawdd yn golygu ein bod yn debycach o gael gaeafau twymach, gwlypach, ar hyn o bryd caiff gaeafau oerach eu trin fel ad-hoc yn hytrach na chael eu cynnwys mewn ystyriaethau blynyddol.
· Holodd Aelodau pryd y caiff ymarferiad Bywyd Mynwy ei orffen. Dywedwyd yr eir â hyn i’r cyngor yn y dyfodol agos ac y bydd angen i’r cynllun busnes gael ei adlewyrchu yn llyfrau ariannol y cyngor.
Canlyniadau
· Bydd cadeiryddion Pwyllgor Dethol yn cwrdd gyda’r dirprwy bennaeth cyllid i ganfod sut y gellir gwella adroddiadau a chroesawodd aelodau y cyfle am seminar i gynyddu dealltwriaeth o’r gyllideb.
Dogfennau ategol: