Agenda item

O'r Cynghorydd Sirol J. Watkins i'r Cynghorydd Sirol J. Pratt, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Seilwaith a Chymdogaeth

A allai'r Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith y mae'r Cyngor yn ei wneud yngl?n â'r Argyfwng Hinsawdd?

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir Pratt wedi ymateb fod swyddogion – yn dilyn cynnig yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Mai – wedi derbyn cyfarwyddyd i ddechrau datblygu cynllun gweithredu sydd yn amlinellu sut ydym yn bwriadu lleihau allyriadau carbon yr awdurdod. Roedd yr Aelod Cabinet wedi gobeithio cyflwyno hyn i Bwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ym mis Medi ac i’r Cyngor yn Hydref er mwyn sicrhau bod yr holl Aelodau  yn cael cyfle i ddadlau a chymeradwyo’r gweithgareddau a fydd yn helpu cyrraedd yr amcan polisi hwn.     

 

Er mwyn lleihau ein hymyriadau, rydym angen deall beth ydynt ar hyn o bryd. Mae allyriadau ar gyfer y Sir gyfan wedi gostwng o  tua 900,000 tunnell y flwyddyn yn 2005 i tua 650,000 tunnell y flwyddyn yn 2016.  Mae hyn yn gyson gyda thueddiadau cenedlaethol gan fod mwy o ynni adnewyddadwy yn cael ei greu a’r defnydd o lo yn lleihau. Ar y raddfa hon, byddai’n cymryd mwy na 30 mlynedd er mwyn sicrhau’r math o newid yr ydym am weld. 

 

Mae 51% o’r allyriadau yn dod o drafnidiaeth, yn adlewyrchu natur wledig y Sir. Mae  24% yn dod o allyriadau domestig, a 25% o allyriadau diwydiannol a masnachol. 

 

Wrth edrych yn fwy penodol ar ein mudiad, rydym yn rhyddhau tua 8700 o dunelli o garbon y flwyddyn o asedau statig  fel adeiladau a goleuadau ar y stryd a 3000 o dunelli o gerbydau a ddefnyddir gan swyddogion ac Aelodau fel rhan o’u gwaith. 

 

Ar 19eg Mehefin, roedd swyddogion wedi cynnal gweithdy er mwyn dechrau ystyried sut ydym yn bwriadu ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd. Roeddynt wedi ystyried beth sydd ar waith er mwyn lleihau allyriadau megis ffermydd solar, gosod pwyntiau trydanu ar gyfer cerbydau electronig a golau stryd LED.

 

Roedd swyddogion wedi dechrau adnabod ystod eang o weithredoedd yn ystyried trafnidiaeth, ynni, gwastraff a chaffael, defnydd tir a seilwaith gwyrdd. Rhoddwyd ystyriaeth i sgil-effaith carbon y gweithgareddau gwahanol yma, amcangyfrifon o’r costau cyllidol ac amserlenni. 

 

Mae pedwar gweithdy gwahanol wedi ei gynnal er mwyn parhau gyda’r broses o flaenoriaethu pa weithredoedd a fydd yn ffurfio rhan o’r cynllun gweithredu, a byddwn yn gweithio ar hyn mewn mwy o fanylder. 

 

Rydym wir yn gwerthfawrogi brwdfrydedd, egni ac arbenigedd trigolion Sir Fynwy sydd yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd. Yn unol gyda’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a Lles, rydym am gydweithio gyda chymunedau a phartneriaid er mwyn gweithio gyda’n gilydd ar y cynllun gweithredu. Bydd cyfarfod o’r Hyrwyddwyr Hinsawdd Cymunedol yn cael ei gynnal ar 31ain Gorffennaf er mwyn dechrau’r broses. 

 

Mae polisïau wedi eu diwygio yn sgil yr Argyfwng Hinsawdd.  Mae papur Materion, Gweledigaeth ac Amcanion ar gyfer y Cynllun Datblygu Leol wedi ei gymeradwyo. Bydd yr amcanion Cynllun Corfforaethol yn cael ei adolygu yng nghanol y term, a bydd yn cynnwys mwy o fanylion am yr Argyfwng Hinsawdd.

 

Hoffem ddiolch o galon i’r swyddogion am eu hymroddiad at yr argyfwng newid hinsawdd, er y pwysau gwaith arall. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried y pethau yma yn ysgafn a rhoddwyd sicrwydd y byddai’r ymroddiad a  natur fyrs y sylw sydd wedi ei roi yn cael eu cynnal yn yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd sydd i ddod.

 

Fel cwestiwn atodol, roedd y Cynghorydd Watkins wedi datgan ei bod yn falch o Sir Fynwy am fuddsoddi mewn fferm solar, a gofynnodd a yw’r Cyngor yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy?

 

Mewn ymateb, esboniodd yr Aelod Cabinet fod 99% o’n adeiladau yn defnyddio ynni adnewyddadwy. Ychwanegodd ein bod yn ystyried fferm ychwanegol, ac fel rhan o’r broses dros yr haf, byddwn yn ystyried pa fuddsoddiadau eraill y mae modd eu gwneud.