Mae yna saith categori o anghenion ADY i ysgolion cynradd eu hystyried ar gyfer eu disgyblion.A wnewch chi gyhoeddi nifer y disgyblion ym mhob un o'r saith categori ar gyfer yr holl ysgolion cynradd yng Ngogledd Sir Fynwy, a rhoi syniad i'r Cyngor o unrhyw bryderon a allai fod gennych pan fyddwch yn dadansoddi'r wybodaeth o'r cais hwn?
Cofnodion:
Roedd y Cynghorydd John wedi darparu’r ymateb canlynol:
Er eglurder, mae yna bedwar categori PLASC SEN
• Gwybyddol a Dysgu
• Trafferthion Cyfathrebu a Rhyngweithio
• Trafferthion Ymddygiad, Emosiynol a Chymdeithasol
• Trafferthion Synhwyraidd a Chorfforol
Mae pob un o’r categorïau yma yn cael eu rhannu yn is-gategorïau sydd yn disgrifio angen addysgol arbenigol y disgybl mewn mwy o fanylder. Er enghraifft, mae’r categori Gwybyddol a Dysgu yn meddu ar wyth is-gategori, sydd yn cynnwys Trafferthion Dysgu Penodol, Dyslecsia, Trafferthion Dysgu Cymedrol a Thrafferthion Dwys a Lluosog. Rwyf yn atodi dogfen sydd yn cynnwys disgrifiad o’r holl gategorïau.
Mae’r Tîm Statudol Anghenion Dysgu Ychwanegol yn darparu gwybodaeth reolaidd ar y nifer o blant a phobl ifanc sydd â datganiadau anghenion addysgol arbennig ar draws Sir Fynwy. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei dadansoddi gan y categori anghenion addysgol arbennig, gr?p blwyddyn cwricwlwm cenedlaethol a rhyw. Mae yna drafodaethau cyson am unrhyw wybodaeth sydd o bosib yn destun pryder.
Mae’r Cynghorydd Harris wedi gofyn am wybodaeth benodol am ddisgyblion cynradd sydd ag anghenion addysgol arbennig yng ngogledd y sir. Mae’r wybodaeth isod yn deillio o SEN PLASC ym mis Ionawr ac yn cynnwys Cantref, Cross Ash, Deri View, Gilwern, Goytre, Kymin View, Llandogo, Llanffwyst, Llantillio Pertholey, Llanvihangel Crucorney, Osbaston, OLSM, Overmonnow, Rhaglan, Brynbuga ac Ysgol Gymraeg Y Fenni.
• Gwybyddol a Dysgu
49 Dyslecsia – DYSL
3 Dyspracsia – DYSP
5 Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd - ADHD
193 Trafferthion Dysgu Cyffredinol – GLD
75 Trafferthion Dysgu Cymedrol– MLD
11 Trafferthion Dysgu Dwys– SLD
6 Trafferthion Dysgu Dwys a Lluosog– PMLD
• Trafferthion Cyfathrebu a Rhyngweithio
146 Lleferydd, iaith a Thrafferthion Cyfathrebu - SLCD
39 Anhwylder Sbectrwm Awtistig– ASD Mae hyn yn cynnwys Asperger’s Syndrome a thrafferthion cyfathrebu cymdeithasol.
• Trafferthion Ymddygiad, Emosiynol a Chymdeithasol
108 Trafferthion Ymddygiad, Emosiynol a Chymdeithasol - BESD
• Trafferthion Synhwyraidd a Chorfforol
50 Nam ar y Clyw – HI
8 Nam ar y Golwg – VI
3 Nam Amlsynhwyraidd - Bydd Disgyblion MSI gyda MSI yn meddu ar gyfuniad o drafferthion gweledol ac ar y clyw.
40 Trafferthion Corfforol a Meddygol – PMED
Roedd y Prif Swyddog ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol Statudol wedi cwrdd â'r holl ysgolion cynradd er mwyn trafod eu poblogaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ac wedi mynd i’r afael ag unrhyw feysydd o bryder ym mhob un ysgol. Mae mwy o waith a hyfforddi i’w cynnal yn nhymor yr hydref a fydd yn cefnogi ysgolion yn fwy effeithiol i ddiwallu anghenion eu disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys adnabod ymyriadau effeithiol, arbenigol a rhaglen hyfforddi ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu. Mae’r nifer o blant sydd wedi derbyn diagnosis o Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn cynyddu, ac felly, mae’r gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol a Seicoleg Addysgol wedi blaenoriaethu hyn fel maes lle y mae angen mwy o hyfforddiant a chefnogaeth wedi eu targedu.
O fis Medi 2020, bydd yr Awdurdod Lleol angen gweithredu’r anghenion statudol sydd yn cael eu hamlinellu yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlysoedd Addysgol 2018, sydd yn cynnwys nifer o newidiadau, gan gynnwys Cynlluniau Datblygu Unigol, yn hytrach na datganiad o anghenion addysgol arbennig, yn cyflwyno heriau sylweddol i’r ysgolion ac awdurdodau lleol.
Nid wyf am ddweud fod y ffigyrau yma yn cynrychioli pryderon fel y cyfryw, ond maent yn amlinellu’r her o ddiwallu anghenion gr?p o ddisgyblion ysgol sydd yn cynyddu, gyda thrafferthion lleferydd, iaith a chyfathrebu ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig ac mae’r her yn ymwneud gydag adnabod a chynorthwyo disgyblion yn gynharach yn y broses.
Mae’r data ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Ngogledd y sir yn dangos cynnydd mewn anghenion ASD, lleferydd, iaith ac ymddygiad. Mae’r cyflwr olaf yn medru ymddangos fel disgyblion yn teimlo’n rhwystredig oherwydd nad ydynt wedi derbyn diagnosis. Mae SLCD yn medru dynodi ASD, ac wrth symud ymlaen, mae angen gwella asesiadau amserol a chefnogaeth ar gyfer y disgyblion hyn. Mewn llawer o achosion, mae asesiadau yn cael eu cynnal o ran iechyd ac rydym yn gweithio gyda chydweithwyr er mwyn gwella’r prosesau yma a’r amserau y mae’n cymryd.
Mae cydweithwyr cynhwysiant wedi cydnabod yr angen i gefnogi ysgolion gyda disgyblion sydd â thrafferthion ymddygiad ac wrthi yn datblygu pecyn o gefnogaeth.
Rydym wedi cwrdd gyda phob ysgol yn unigol er mwyn trafod pryderon unigol ac wedi cytuno ar y gefnogaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae’r dull hwn wedi ei groesawu gan ysgolion.
Fel cwestiwn atodol, roedd y Cynghorydd Harris wedi gofyn a yw dadansoddiad manwl o’r ystadegau yn datgelu amrywiaeth ymhlith yr ysgolion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac a fyddai yn briodol i ystyried y gefnogaeth broffesiynol mewn modd cymesur?
Ymatebodd y Cynghorydd John fod yna pedair canolfan adnoddau anghenion arbennig sydd yn hynod arbenigol. O ran termau data a gwahaniaethau rhwng ysgolion, mae modd cael gafael ar y data hwn er mwyn cael mwy o fanylder. Ychwanegodd y byddai’n hapus i drafod y data a’r hyn y mae’n golygu i ddisgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol.