Agenda item

Datganiad gan Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc - Buddsoddi mewn Ysgolion yr 21ain Ganrif

Cofnodion:

Fis diwethaf, agorwyd Ysgol Gyfun Trefynwy yn swyddogol ac mae wedi ennill sawl gwobr. Rodd y digwyddiad yn gyfle perffaith i arddangos talentau’r disgyblion, ond hefyd y manteision a ddaw o gael ysgol ragorol fodern, hyblyg a digidol. Roedd hyn yn dilyn agor Ysgol Cil-y-coed yn gynharach eleni.  

 

Heddiw, rwyf am ddiweddaru Aelodau ar y datblygiadau sydd yn rhan o’r cam nesaf o adnewyddu ystâd ein hysgolion, gan gyfeirio yn benodol at yr opsiynau cyllido ar gyfer Band B o’r Ysgolion yr 21ain ganrif.

 

Ym mis Rhagfyr y llynedd, roeddwn wedi cyflwyno adroddiad er mwyn sefydlu tîm bach a fyddai’n gweithio ar y cyd ag aelodau ac uwch swyddogion er mwyn datblygu Band B.

 

Ein cynnig Band B yw ail-ddatblygu Ysgol Gyfun Brenin Harri’r VIII ac Ysgol Gynradd Deri View er mwyn darparu campws dysgu newydd i blant rhwng 3 a 19 mlwydd oed yn Y Fenni. Bydd yr ailddatblygiad hwn yn caniatáu trosglwyddo  Ysgol Gymraeg Y Fenni o’r safle cyfredol yn Deri View, gan ganiatáu’r ysgol i ddatblygu yn ysgol dwy ffrwd.  

 

Roedd y penderfyniad cychwynnol a wnaed gan y Cabinet yn 2017 wedi dod i’r casgliad mai’r llwybr cyllid-cyfalaf yw’r mwyaf priodol - yn y cyfnod hwn, roedd yna gyfradd ymyrraeth o 50%.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y gyfradd ymyrraeth ar gyfer cynlluniau cyllido cyfalaf a refeniw (hynny yw'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM)).  Mae cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau sydd yn cael eu cyllido yn draddodiadol wedi newid o 50% i 65%, tra  bod y gyfradd MIM wedi newid o 75% i 81%, gan roi rheswm i ni gynnal dadansoddiad o’r newydd o’r manteision posib ynghlwm wrth y MIM.

 

Mae swyddogion  wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau diwethaf ac wedi pennu mai’r dull mwyaf priodol ar gyfer Sir Fynwy yw parhau gyda’r opsiwn cyllido-cyfalaf. 

 

Mae’n cynnig yr hyblygrwydd mwyaf tra hefyd yn cynnal proffil cost cyffredinol is i’r awdurdod lleol. Yn sgil y cyfnod cyllidebol heriol yr ydym yn wynebu, yn enwedig gan mai ni yw’r awdurdod lleol sydd wedi ein hariannu isaf yn y wlad, roedd yr hyblygrwydd hwn yn rheswm rhy bwysig i ni,

 

Tra y byddai’r MIM wedi sicrhau y byddai’r ysgol yn cael ei chynnal a’i dychwelyd i’r awdurdod mewn cyflwr da ar ddiwedd y cyfnod o 25 mlynedd, byddai’r MIM yn cyfyngu ar rai o’r elfennau dylunio penodol a’r anghenion dysgu arloesol yr oeddem yn medru eu cyflwyno yng Nhil-y-coed a Threfynwy. 

 

Mae fy natganiad heddiw yn cadarnhau eto’r penderfyniad gwleidyddol sydd wedi ei gytuno ac yn caniatáu i ni fwrw ymlaen gyda chyflymder, cywreindeb ac eglurder i mewn i Fand B.

 

Roedd ein Bwrdd Ysgolion yr 21ain ganrif wedi ymweld gyda’r safle ar ddydd Llun wrth i’r gwaith barhau er mwyn adnabod y lleoliad gorau ar gyfer yr ysgol newydd. Rwyf yn ddiolchgar iawn am y rôl sydd wedi ei chwarae gan benaethiaid a chadeiryddion llywodraethwyr y tair ysgol, gan y bydd eu harbenigedd yn hanfodol i lwyddiant y prosiect wrth lunio gweledigaeth yr ysgol.  

 

Wrth i ni ddatblygu’r achos busnes llawn ar gyfer yr ysgol newydd, byddaf yn cyflwyno adroddiad i’r cyngor llawn ym mis Medi er mwyn sicrhau fod Rheolwr Ysgolion yr 21ain ganrif yn rôl barhaol a’n gwarantu cyllid y prosiect tîm a’r astudiaethau dichonoldeb gan gynnwys ymchwiliadau ar y safle ac arolygon o’r tir.  

 

Hoffwn gyhoeddi heddiw buddsoddiad o £1 miliwn yn ein hystâd o ysgolion o ganlyniad i grant cyfalaf yr ydym wedi derbyn gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018-19, ac rydym yn ddiolchgar iawn.

 

Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys ystafell ddosbarth newydd yn Ysgol Gynradd Gilwern ac uwchraddio cyfarpar arbenigol yn ein Canolfannau Adnoddau Anghenion Arbenigol.  

 

Rydym wedi penderfynu cyflwyno hanner miliwn o bunnoedd yn Ysgol Gyfun Cas-gwent er mwyn ail-fodelu mynedfa blaen i ddisgyblion gan gynnwys gosod ffenestri newydd, addurno'r ysgol fel bod angen, adnewyddu’r to lle y bydd angen ac ail-fodelu’r dderbynfa. Fodd bynnag, bydd angen cynllunio ac ni fydd hyn yn cael ei gwblhau dros yr haf.  

 

Rwy’n gobeithio bod y datganiad hwn yn atgyfnerthu ein hymroddiad i sicrhau’r dechrau gorau posib mewn bywyd i bob person ifanc yn Sir Fynwy wrth i ni greu awyrgylch dysgu sy’n addas i’r unfed ganrif ar hugain i bob disgybl.