Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant.        

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gyflwyniad wedi ei dderbyn.

 

 

3.

Cyfrifoldebau Pwyllgor Craffu Troseddu ac Anrhefn pdf icon PDF 2 MB

Cyfarwyddo’r Pwyllgor gyda chyfrifoldebau Craffu Troseddu ac Anrhefn – Cyflwyniad byr gan y Rheolwr Craffu (atodir).

 

Gwybodaeth Gefndir: Canllawiau Llywodraeth Cymruu ar gyfer Craffu Materion Troseddu ac Anrhefn – Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Hazel Ilett wedi cyflwyno’r cyflwyniad.

 

 

4.

Diogelwch Cymunedol yn Sir Fynwy

Trafod Diogelwch Cymunedol yn Sir Fynwy gyda Chadeirydd y Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (Sir Fynwy Ddiogelach), drwy gyflwyno Cynllun Sir Fynwy Ddiogelach..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Prif Arolygydd John Davies wedi rhoi trosolwg byr o’i rôl a Sir Fynwy Ddiogelach ac roedd Sharran Lloyd, Andrew Mason a John Crandon wedi cyflwyno’r cyflwyniad ac ateb cwestiynau gyda’r Prif Arolygydd. 

Her:

O ran cofnodi troseddau, dyna gategorïau'r Swyddfa Gartref? Ond nid oes yna gategori gan y Swyddfa Gartref ar gyfer  cam-drin domestig – mae’n yn cael ei gofnodi o dan ‘Trais Gyda/Heb Anaf?

Byddai dal yn cael ei ystyried fel trais rhywiol, er yn cael ei ystyried fel rhywbeth sydd yn gysylltiedig gyda cham-drin yn y cartref: byddai trosedd sylweddol ar aelwyd gyda dau oedolyn sydd yn byw gyda’i gilydd a’n h?n na 18 yn cael ei ystyried fel achos o gam-drin yn y cartref. Mae’n ‘tag’ cam-drin yn y cartref sydd yn rhan o ystadegau’r Swyddfa Gartref a dyma sydd yn ei gysylltu gydag achos o gam-drin yn y cartref. Mae digwyddiad yn y cartref yn medru cynnwys nifer o elfennau, sydd yn golygu eu bod yn drosedd gynradd, sydd wedyn yn cael ei tagio ac mae’r cam-drin domestig yn rhan o hyn.

Yn ôl y pen o’r boblogaeth, achosion o drais a throseddau rhywiol eraill yw’r ail uchaf yng Ngwent? 

Cywir – Sir Fynwy yw’r ail uchaf er bod ein poblogaeth yn weddol isel. Efallai bod pobl yn fwy hyderus yma yn rhoi gwybod am unrhyw droseddau, o’u cymharu ag awdurdodau eraill,

Wrth drafod achosion o gam-drin yn y cartref a thrais, mae yna gyfeiriad at ffactorau economaidd-gymdeithasol. Fodd bynnag, mae’r nifer o achosion ym Mill (Gorllewin Magwyr)  yn uwch nag yn Dewstow, ac nid oes yna broblemau penodol ym Mill o ran ffactorau economaidd-gymdeithasol.

Mae rhesymau economaidd-gymdeithasol wedi eu nodi dros y blynyddoedd ond rydym wedi sylwi nad yw llawer o achosion yn cael eu hadrodd mewn ardaloedd lle nad yw heriau  economaidd-gymdeithasol wedi bod yn amlwg. Mae hyn yn bwysig iawn i ni nodi wrth i barhau gyda’n gwaith. Rydym yn un o’r byrddau prin ar y lefel yma sydd yn ystyried hyn fel rhywbeth difrifol.

 

A fydd gweithredu’r terfyn 20mya yn cael ei graffu gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol?

Rydym yn trefnu gr?p diogelwch traffig er mwyn ystyried hyn mewn mwy o fanylder, ac rydym yn gobeithio medru rhannu mwy o adborth yn y dyfodol.

Mae’r rheswm am y difaterwch yn eglur: nid yw pobl yn credu bod yna unrhyw werth yn ffonio’r heddlu gan nad ydynt yn credu y bydd rhywun yn ymateb i’r alwad a rhywbeth yn digwydd. Dyma’r hyn sydd angen ei ddatrys. 

Mae adnoddau yn cael eu neilltuo yn seiliedig ar y bygythiadau a’r risgiau. Adnoddau cymdogaethau penodol …Pan ein bod yn ystyried y bygythiadau a’r risgiau, rydym wedi dod allan o Covid ac i mewn i fyd gwahanol, gan gynnwys gosod pobl mewn gwesty... Rhaid i ni ddysgu i ymateb i’r pethau yma. Drwy drefniadau’r Bartneriaeth, rydym yn ceisio  meddwl mewn ffordd gydgysylltiedig….mae angen deall beth yw achos ac effaith y penderfyniad hwnnw.... gall arwain at droseddwyr. Maent yn aml yn mynd i’r lleoliadau  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Ystyried blaenraglen gwaith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus. pdf icon PDF 361 KB

Cofnodion:

Bydd Gwasanaethau Dementia yn cael eu craffu ar 28ain Tachwedd, gyda Bwrdd Iechyd a Phartneriaeth Rhanbarthol Gwent yn mynychu. Gallai’r Pwyllgor ystyried gosod eitem yn y dyfodol ar yr agenda am rôl a chylch gorchwyl y Bwrdd Partneriaeth Gwasanaethau Integredig.  Gellir ystyried hyd effeithlonrwydd y Cynllun Trawsnewid Blynyddoedd Cynnar. Bydd ail-ystyried yr adroddiad heddiw yn cael ei gynnwys ar raglen waith y dyfodol. 

 

6.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2022 pdf icon PDF 351 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion a’u harwyddo fel cofnod cywrain, a chynigiwyd hyn gan y Cynghorydd  Stevens a’i eilio gan y Cynghorydd Jones, gyda’r diwygiad canlynol:

Nododd y Cynghorydd Bond fod ei chwestiwn/awgrym yngl?n â’r ymddygiad/awgrym wrth ddefnyddio plastig yn cynnwys Coleg Gwent h.y. p’un ai bod  modd dylanwadu ar y coleg i leihau ei ddefnydd o blastig.

 

 

7.

Nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

Dydd Llun 28ain Tachwedd, 10.00.