Skip to Main Content

Agenda and decisions

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

Cynyddu Cyfleoedd Teithio Llesol pdf icon PDF 166 KB

Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Cymeradwyo’r ymgynghoriad ar gyfer y cynigion am Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Integedig a Ffocws Strategol y Dyfodol ar gyfer Teithio Llesol yn unol â’r ddyletswydd gyfreithiol dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

 

Awdur: Susan Hughes, Swyddog Teithio Llesol, BywydMynwy; Paul Sullivan, Rheolwr Ieuenctid, Chwaraeon a Theithio Llesol, BywydMynwy

Contact Details:susanhughes@monmouthshire.gov.uk; paulsullivan@monmoutshhire.gov.uk  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Ymgynghori ar Deithio Llesol (Atodiad A) a’r Papur Ffocws Strategol Teithio Llesol (Atodiad B)

 

 

3b

Datgloi Canol Trefi Sir Fynwy pdf icon PDF 580 KB

Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Ystyried ymateb tymor byr a chynllun adferiad tymor canol y Cyngor ar gyfer Canol Trefi Sir Fynwy i gynorthwyo dychwelyd ffyniant i’n trefi a chymunedau wrth i Gymru symud ymlaen tra’n byw gyda phandemig Covid 19.

 

Awduron:Cath Fallon, Pennaeth Menter a Bywiogi Cymunedau

Mark Hand, Pennaeth Gwneud Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd Roger Hoggins, Pennaeth Prosiectau Strategol

Ian Saunders, Prif Swyddog Gweithredol BywydMynwy

 

Manylion Cyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo’r cynllun amlinellol y manylir arno yn yr adroddiad a chyflwyno datganiad o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru am Gyllid i helpu mesurau trafnidiaeth gynaliadwy lleol mewn ymateb i Covid-19.

 

3c

COVID 19 - CYNNIG I DDEFNYDDIO CANOLFAN AWYR AGORED GILWERN AR GYFER LLETY ARGYFWNG I'R DIGARTREF pdf icon PDF 458 KB

Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Ystyried a chymeradwyo cynnig i ddefnyddio cyfleuster adedysg awyr agored y Cyngor yn y Gilwernyn bendol bloc Blorenges, i ddarpary llety argyfwng dros dro i’r digartref er mwyn i’r Cyngor gyflawni gofynion canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd yn ystod Covid 19.  .

 

Awdur: Ian Bakewell, Rheolwr Tai a Chymunedau

 

Manylion Cyswllt: ianbakewell@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Ystyried y peryglon, y risgiau a’r heriau presennol o ran darparu llety i ymgeiswyr digartref.

 

Cytuno i ddefnyddio Bloc y Blorenge yng Nghanolfan Gilwern dros dro nes y 21ain o Awst 2020 ar gyfer llety i’r digartref mewn achosion brys sy’n ymwneud â Covid a phenodi swyddogion diogelwch i helpu i oruchwylio’r adeilad a’r safle.

 

Comisiynu swyddogion i baratoi adroddiad pellach sy’n ystyried yr opsiynau tymor canol a hir-dymor a chynigion ar gyfer darparu llety ar gyfer ymgeiswyr digartref.

 

 

Gweithio gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ganfod er mwyn talu’r costau o ran darparu llety i bobl ddigartref ychwanegol yn y dyfodol a thu hwnt i COVID-19

 

O ganlyniad i’r natur frys, bod y maen prawf arferol o ran galw i mewn yn cael ei ohirio a bod y penderfyniad hwn yn cael ei adrodd i’r Cyngor Llawn.

3d

Covid 19 - Datganiad Sefyllfa Diogelu Awdurdod Cyfan. pdf icon PDF 135 KB

Wardiau/Adrannau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i’r cabinet ar sut y cyflenwir diogelu drwy gyfnod Covid 19, a sut mae gwaith Diogelu Awdurdod Cyfan yn parhau.  

 

Awdur: Julie Boothroyd, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd.

 

Manylion Cyswllt: julieboothroyd@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r adroddiad diweddariad ar ddiogelu gan gynnwys:

·       Y datganiad sefyllfa ar ddiogelu (Atodiad1)

·       Y matrics risg ( Atodiad 2)