Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Microsoft Teams Meeting

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Watch this meeting here 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Nid oedd yna ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

3.

Adolygiad Dyraniadau Homesearch a Diwygiadau Polisi – Adolygu’r polisi dyraniadau. pdf icon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y swyddogion Louise Corbett wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau'r aelodau, gydag ymatebion ychwanegol gan Ian Bakewell a’r Aelod Cabinet Bob Greenland.

Her:

Nid oes unrhyw sôn am garcharorion – a ydynt yn hirdymor neu’n fyrdymor, a ydym yn ystyried llety ar eu cyfer?

Nid yw bod mewn carchar yn rhoi cysylltiad lleol i rywun. Unwaith y maent yn cael eu rhyddhau, mae gofyn iddynt  i ddychwelyd i’r ardal yr oeddynt yn byw ynddi’n flaenorol. Felly, nid yw’n rhywbeth y mae’n rhaid  ei ddatgan yn benodol yn y polisi gan na fyddent yn cwrdd â’r meini prawf. 

Gydag ap ar y ffôn mudol, ble ddylai ymgeiswyr fynd os nad yw’r dechnoleg gywir ganddynt neu os nad oes signal ganddynt?

Mae hwn yn bwynt dilys. Rydym yn ymwybodol fod yna bobl h?n neu fregus ar y rhestr aros  na sydd yn medru hunan-wasanaethu neu’n medru gwneud pethau yn ddigidol. Felly, nid oes dim byd wedi newid o gan fod y tîm dal ar gael. Mae’r rhif ffôn mudol a’r swyddogion dal ar gael gennym er mwyn hwyluso pethau. Nid yw hyn wedi dod i ben ond mae’r elfen ddigidol wedi  ein gwneud yn fwy effeithlon. Mae’r cyhoedd dal yn medru derbyn cymorth Homesearch o’r Hybiau a’r Tîm Opsiynau..

Mae’n dda cael hyblygrwydd gan y bydd Covid yn creu mwy o heriau.

Amcanion allweddol yr adolygiad yw adeiladu hyblygrwydd i mewn i’r polisi, fel ei fod gadarn ac yn ymateb i heriau. Gyda’r diwygiadau arfaethedig, rydym mewn sefyllfa gref yn hyn o beth.

A oes yna Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi ei gynnal ar y polisi cyfan? Beth am bobl h?n na fydd yn derbyn morgais gan na fydd yna flynyddoedd ar ôl ganddynt er mwyn ad-dalu’r ddyled?

Mae un wedi ei gwblhau ac mae wedi ei atodi i’r pecyn adroddiadau ar-lein. O ran ystyried yr asedau cyfalaf a’r ffigyrau, fel £45,000 y flwyddyn ar gyfer rhywun fel bod digon ganddynt i ddiogelu eu llety eu hunain, roeddem wedi ystyried y pris cyfartaledd ar gyfer eiddo yn Sir Fynwy  a’r prisiau ar gyfer rhentu, yn hytrach nag ardal wrth ardal. Mae hyn yn rhannol am mai’r nod yw symleiddio’r broses -  nid ydym am gael ein llusgo i mewn i’r gwahaniaethau rhwng trefi unigol. Mae’r data wedi ein harwain i gynnig  swm sydd yn rhesymol ar gyfer rhywun y mae disgwyl iddo ef/iddi hi i ddatrys eu problemau tai eu hunain, yn enwedig os nad yw prynu eiddo yn opsiwn ond mae yna bosibilrwydd o rentu  eiddo. Fodd bynnag, rydym yn nodi’r trafferthion sydd yn wynebu pobl h?n sydd am brynu eiddo, a hynny yn sgil yr amser sydd angen er mwyn ad-dalu’r morgais. 

Beth yw goblygiadau'r system sgorio pwyntiau?

Mae’n system sydd yn seiliedig ar anghenion. Pe bai rhywun yn ffit ac yn iachus, a’n meddu ar asedau cyfalaf, byddem yn credu fod yna adnoddau ariannol digonol ganddynt, a byddent yn cael eu gosod yn y band isaf  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Gwybodaeth Digartrefedd a Chynigion Newydd ar Ddarparu Gwasanaeth Digartrefedd yn y Dyfodol. pdf icon PDF 553 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Swyddog Ian Bakewell wedi trafod yr adroddiad. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet  Bob Greenland y sylwadau canlynol:

Mae’r gwaith sydd wedi ei wneud gan y tîm yn sylweddol ac mae eu hymroddiad i ddigartrefedd yn ddiwyro.  Mae’r Swyddog Bakewell wedi rhoi diweddariadau cyson i’r Cynghorydd Jones a mi yn gyson, ac rydym wedi rhannu hyn gyda’r Cabinet, ac mae ef wedi mynychu cyfarfodydd Cabinet anffurfiol. Mae’r sefyllfa wedi gwaethygu yn sgil y pandemig. Yn gynnar iawn, roedd y Gweinidog Julie James wedi rhoi arian ac rydym yn ddiolchgar am i ni fedru tynnu pobl oddi ar y strydoedd. Wrth i’r nifer o heintiau gynyddu yn y gwanwyn, roedd pobl a fu’n cysgu ar soffas yn ddigartref dros nos, gan nad oeddynt yn medru aros lle’r oeddynt. Rydym yn rhagweld problemau mawr yn yr hydref a’r gaeaf. Nid oes yna atebion hawdd, gan fod llawer o alw am adnoddau cyfyngedig y Cyngor.  Rydym yn cydnabod fel blaenoriaeth y problemau sydd yn wynebu’r maes hwn o waith y Cyngor. Byddwn yn gwneud pob dim posib er mwyn cyflawni’r hyn sydd angen. Roedd y Swyddog Bakewell wedi ateb cwestiynau'r Aelodau, gyda sylwadau ychwanegol gan Lyn Webber:

 

Her:

Beth yw’r gost arferol ar gyfer un pod?

Nid oes modd prynu’r pod - mae yna ffi ar gyfer eu rhentu, sef tua £120-150 y mis. Maent yn cael eu cludo ar gefn lori ac yn weddol hawdd eu gosod. Rydym yn betrusgar o ran eu defnyddio, ac nid oes yna unrhyw le addas gennym ar eu cyfer. Byddem ond yn eu defnyddio fel yr opsiwn olaf, ac fel mesur dros dro, byddem yn gwacau marchnad Trefynwy a’n darparu llety tan fod rhywbeth addas yn cael ei ganfod.  

A oes modd gwneud rhywbeth er mwyn perswadio banciau a chymdeithasau adeiladu i fod yn fwy  trugarog i’r sawl sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig nawr fel nad ydynt yn dod yn ddigartref?

Rhaid i ni fuddsoddi yn y maes hwn. Os yw pobl wedi eu heffeithio gan y fath amgylchiadau, rhaid i ni wneud pob dim er mwyn eu cefnogi: mae rhan o hyn yn cynnwys  ymgysylltu gyda banciau a chymdeithasau adeiladu a chefnogi pobl gyda’u dyledion posib. Mae rhai cynlluniau yn deilio o Lywodraeth Cymru ond byddant yn fenthyciadau gyda  chyfradd llog o 1%. Elfen arall o hyn yw trefniadau cymorth tai’r Cyngor; maent yn gweithio’n agos iawn gyda phobl yn yr amgylchiadau yma. 

Yn sgil y canllaw newydd sydd wedi dod o Lywodraeth Cymru, roedd timau wedi ail-alinio’r gwasanaethau ar ddechrau’r pandemig er mwyn cefnogi'r rhai mewn llety dros dro. Rydym wedi derbyn cymorth gan Dai Sir Fynwy a’n gweithio er mwyn sicrhau bod y rhai mewn llety dros dro yn cael eu cefnogi’n briodol. Mae  ail-alinio’r gwasanaethau yma wedi bod yn anodd yn sgil y nifer o achosion,  ond mae’r timau wedi gwneud yn dda. Rydym yn gobeithio gwneud hon yn sefyllfa barhaol. Mae’n anodd gan ein bod yn gorfod cydymffurfio gyda thelerau ac amodau’r grant Cymorth Tai, ac mae gofyn i  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 460 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 29ain Medi 2020 ac fe’u harwyddwyd fel cofnod cywir, gyda'r diwygiad canlynol:

O dan Eitem 5, cynigiodd y Cynghorydd Brown y dylid, pan yn cynllunio tai, ystyried  dwysedd y trefniadau byw ar sail iechyd cyhoeddus (er mwyn atal y pandemig rhag lledaenu a mynegodd bryderon am y dwysedd a gynigir yn yr ardaloedd trefol ar gyfer tai’r dyfodol yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft).

 

 

6.

Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Dethol Oedolion. pdf icon PDF 509 KB

Cofnodion:

Dylid cynnwys yr Asesiad Sipsiwn a Theithwyr yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr. Bydd yr adroddiad Digartrefedd o’r cyfarfod heddiw hefyd yn mynd i’r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. Bydd craffu’r Gyllideb  Adferiad yn cael ei wneud ar ôl y Nadolig. Byddwn yn gofyn am ddiweddariad gan y Bwrdd Iechyd o ran camddefnyddio sylweddau ynghyd ag adroddiad ar y cymorth i ddioddefwyr  dementia, a’u gofalwyr.

 

 

7.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020 am 10.30am.

8.

Blaengynllunydd Gwaith y Cyngor a’r Cabinet. pdf icon PDF 180 KB