Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc - Dydd Mawrth, 19eg Ionawr, 2021 10.00 am

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Monitro Cyllideb: Craffu ar sefyllfa monitro cyfalaf a refeniw'r gyllideb ym Mis 7, gan osod y cyd-destun ar gyfer craffu ar gynigion cyllidebol. pdf icon PDF 382 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Tyrone Stokes a Nicola Wellington yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau.

 

Her:

A ydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr mewn iechyd a gwasanaethau plant fel ein bod yn gwybod mewn da bryd pa blant sy’n dod trwodd y bydd angen iddynt fynd i ddarpariaeth tu allan i’r sir yn ddiweddarach, fel y gallwn gynnwys y costau yn y gyllideb ar gyfer blynyddoedd i ddod?

 

Rydym yn ymwybodol iawn o’r costau addysg sy’n dod trwodd ac rydym wedi gweld gwelliant mewn amcanestyniadau mewn blynyddoedd diweddar. Mewn misoedd diweddar rydym wedi rhoi dull tracio ar waith fydd yn olrhain disgyblion o ddechrau eu haddysg, ac felly’r costau wrth iddynt symud drwy eu haddysg. Bydd hyn yn sicr yn rhoi llawer mwy o eglurdeb am gostau’r dyfodol ar gyfer ein holl ddisgyblion. Gweithiwn yn agos iawn gyda chydweithwyr mewn iechyd ac addysg.

 

Pan gyflwynir plentyn i’r awdurdod lleol, mae gennym ddull gweithredu am-asiantaeth; rydym yn delio gydag iechyd ac yn ceisio sicrhau’r cyllid priodol; yn yr un modd gydag addysg, ac os ydynt angen mwy o gymorth addysg, gallwn gysylltu â’r corff perthnasol eto.

 

Bu gennym ddull tracio yn ei le am y 7 neu 8 mlynedd diwethaf mewn Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant. Ychydig flynyddoedd yn ôl, daeth swyddogion â phapur i’r pwyllgor yn cynnwys ystod o gostau uned ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal: ar gyfartaledd mae’n £45k y flwyddyn. Ond mae’n amrywio llawer. Os yw plant mewn gofal maeth, y gost uned y £28-30k y flwyddyn, ond os ydynt mewn gofal preswyl tu allan i’r sir, gallai fod gymaint â £300-500k y flwyddyn.

 

Mae Gwasanaethau Plant mewn lle da iawn yn awr, ar ôl cynyddu ein hymyriad ac ataliad, ac rydym wedi gwneud gwaith gwych mewn blynyddoedd diweddar. Mae nifer y plant sy’n derbyn gofal yn sefydlogi ar 220. Yr hyn na allwn roi sicrwydd i aelodau amdano yw sut y bydd y niferoedd yn amrywio wrth i ni ddod allan o’r pandemig, a’r cyfeiriad y bydd y llysoedd yn ei roi i ni. Roedd papur arall a aeth at aelodau yn flaenorol yn ymwneud â thîm cymorth MIST a all edrych ar fwy o wasanaethau mewnol a chymunedol , yn hytrach na gorfod rhoi plant sy’n derbyn gofal mewn lleoliadau drud tu allan i’r sir.

 

Gyda phwysau ar gyllidebau, a ydym yn dal i fod yn buddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau atal a chymorth i deuluoedd? Mae’n debyg y bydd y niferoedd sefydlog yn annhebyg o barhau pan fydd effeithiau’r pandemig yn taro nes ymlaen,

 

Ie, dyna yw’r anhawster yn awr. Wrth i ni ddechrau symud allan, ni fedrwn fod yn hunanfodlon fod y niferoedd yn sefydlogi. Rydym yn dal i fuddsoddi’n helaeth yn y gwasanaethau ymyriad ataliol ac yng nghyllideb y flwyddyn nesaf byddwn yn anelu i fynd i’r afael â’r diffyg yn y flwyddyn ar gyfer gwasanaethau plant, felly rydym yn parhau â’r buddsoddiad hwnnw hefyd.

 

A allwn gael y ffigur am gyfanswm y diffyg ym mis 7 ac sut mae hynny’n cysylltu gyda’r gyllideb Plant a  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2021/22. pdf icon PDF 3 MB

Defnyddiwch y ddolen hon i gyrchu'r papurau ar gyfer yr eitem hon, os gwelwch yn dda - ar gael fel rhan o agenda'r Cabinet 20fed Ionawr 2021. 

 

 Cliciwch Yma   

Cofnodion:

Rhoddodd Peter Davies, Nicola Wellington a Tyrone Stokes gyflwyniad ac adroddiad, ac ateb cwestiynau aelodau, ynghyd â Julie Boothroyd a Phil Murphy, Aelod o’r Cabinet.

 

Her:

Mae’n rhaid bod Monlife wedi colli llawer o refeniw gan ysgolion yn defnyddio canolfannau hamdden yn ogystal â champfeydd ar gau. A ydym yn hapus y gall Monlife ddod drwy’r storm?

 

Ni fedrai’r amseriad fod wedi bod yn ddim gwaeth ar gyfer Monlife yn nhermau’r hyn ddigwyddodd eleni. Cafodd y colledion incwm a ddioddefodd Monlife eu talu’n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Caledi Covid – mae’n glod iddynt eu bod wedi dilyn lan gyda’r cyllid yn delio â diffygion incwm fel canlyniad i’r pandemig. Disgwyliwn i hyn barhau i’r flwyddyn nesaf nes bydd gwsanaethau’n ôl ac yn rhedeg. Er y cafodd nifer o staff Monlife eu rhoi ar ffyrlo rydym wedi defnyddio’r capasiti hwnnw i gefnogi Profi, Olrhain a Diogelu ac wedi cynorthwyo gyda gweinyddu grantiau busnes. Bydd yn cynorthwyo i gefnogi peth o ledaeniad y pandemig, gan weithio gydag iechyd.

 

Gan fod nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi cynyddu, a oes unrhyw gyfle ar gyfer grantiau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn arbennig os yw’r cynnydd yn fwy nag mewn awdurdodau lleol eraill?

 

Bu rhai symiau bach o gyllid sydd wedi helpu ar y cyrion, ond dim byd yn benodol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Dros flwyddyn yn ôl fe wnaeth tasglu Llywodraeth Cymru asesu ein strategaeth o amgylch y gostyngiad yn nifer y plant sy’n derbyn gofal, ac mae’n rhaid i ni adrodd yn chwarterol ar sut ydym yn symud ymlaen. Felly cedwir golwg agos iawn o safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae ein niferoedd wedi aros yn yr unfan eleni, a gobeithiwn y bydd hynny’n parhau. Bu symiau bach o arian grant a ddaeth drwodd yn ddefnyddiol wrth hybu ymyriad a darpariaeth ataliaeth, i atal cynyddu ymhellach i wasanaethau mwy costus.  Drwy’r dystiolaeth a gasglwyd, gobeithiwn fedru sicrhau arian o ffynonellau eraill.

 

A yw’r 3 disgybl oedd yn parhau yn Nh? Mounton yn dal yno, ac a yw hynny dan yr Uned Cyfeirio Disgyblion? Beth yw’r cynllun ar eu cyfer?

 

Mae’r 3 disgybl y cyfeirir atynt yn ddisgyblion o Sir Fynwy oedd yn Nh? Mounton pan gafodd ei gau. Mae dau yn awr wedi symud i ddarpariaeth annibynnol, mae un wedi symud i’r Uned Cyfeirio Disgyblion. Cafodd y gost ar gyfer pob un o’r 3 ei gynnwys a bydd yn y tracer y soniwyd amdano ynghynt wrth i ni symud ymlaen.

 

A yw’r Uned Cyfeirio Disgyblion yn seiliedig yn Nh? Mounton? A oes disgyblion eraill ar gyfer yr Uned Cyfeirio Disgyblion yn seiliedig yno?

 

Mae T? Mounton yn dal yn wag. Byddai achos busnes i gefnogi’r ddarpariaeth honno pe byddem yn penderfynu symud y ffordd honno, ond ni fyddai’n un disgybl, byddai’r gwasanaeth Uned Cyfeirio Disgyblion. Rydym yn edrych ar yr opsiwn hwnnw ond mae goblygiadau cost i weithio drwyddynt.

 

Mae consyrn am gasglu treth gyngor yn dilyn effeithiau economaidd Covid a’r newidiadau mewn demograffeg. A gafodd hynny ei werthuso’n iawn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Diweddariad llafar ar y sefyllfa gydag ysgolion a dysgu cyfunol: Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Rhoddodd Will McLean ddiweddariad ac ateb cwestiynau aelodau:

 

Ar 17 Rhagfyr penderfynodd yr awdurdod lleol ar ei gynlluniau ar gyfer dychwelyd i’r ysgol, gyda chytundeb y dylai dau ddiwrnod cyntaf y tymor fod yn ddysgu o bell gyda wyneb-i-wyneb yn ailddechrau ar 6 Ionawr. Hysbyswyd rhieni am y penderfyniad hwnnw ac fe wnaethom gytuno ar 4 Ionawr i werthuso’r sefyllfa ddiweddaraf. Ar 4 Ionawr fe wnaethom drafod newid ein cynlluniau; fodd bynnag, cafodd ein trafodaethau lleol ei disodli gan ymyriad y Gweinidog. Cyhoeddodd y byddai pob ysgol yn parhau i ddysgu o bell tan 18 Ionawr. Pan wnaed y penderfyniad i ddychwelyd ar 6 Ionawr, roedd y gyfradd yn Sir Fynwy yn 409 fesul 100,000; pan wnaethom ei drafod eto ar 4 Ionawr, roedd y gyfradd wedi gostwng i 316 fesul 100,000. Parhaodd y trafodaethau gyda’r Gweinidog, yna ar 8 Ionawr cyhoeddodd y byddai addysg yn ffurfio rhan o gylch adolygu 3-wythnos, na fyddai unrhyw ddysgu wyneb i wyneb ar gyfer mwyafrif helaeth disgyblion tan 28 Ionawr fan gyntaf, ac mae’n debyg y byddai’n hanner tymor cyn y byddai mwyafrif disgyblion yn dechrau dychwelyd i’r ysgol mewn camau.

 

Roedd dwy ffactor o amgylch y drafodaeth honno: a oedd ysgolion yn lle diogel ar gyfer disgyblion a staff ac effaith y rhif R ar gau ysgolion ar gyfer dysgu wyneb i wyneb. Mae trafodaethau gyda’r undebau llafur wedi canolbwyntio ar y ffactor gyntaf, ond bob amser gan roi ystyriaeth ddyledus i’r ail. Y canlyniad yw fod ein hysgolion ar agor ar hyn o bryd, gan ddarparu dysgu o bell ar gyfer mwyafrif helaeth y disgyblion, gyda dwy eithriad allweddol: plant bregus a phlant gweithwyr hanfodol. Ar gyfer plant bregus, rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i benderfynu ar 6 categori dysgwyr a ddaw o fewn y gr?p hwnnw – ein hegwyddor sylfaenol yw y dylai unrhyw un sy’n fwy diogel yn yr ysgol na gartref fod yn yr ysgol. Ar gyfer plant gweithwyr hanfodol, bu ychydig o newidiadau o’r cyfnod clo cyntaf pan oedd ein hysgolion yn cynnig darpariaeth Hwb: yn gyntaf daeth yn amlwg mai dim ond un rhiant sy’n rhaid iddynt fod yn weithiwr allweddol i gael mynediad i’r ddarpariaeth ac yn ail, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o swyddi sy’n cyfrif fel ‘gwaith hanfodol’. Ond rydym yn parhau i bwysleisio mai dim ond os nad oes dewis arall y dylai teuluoedd ddefnyddio dysgu wyneb i wyneb.

 

Mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, mae 908 o ddisgyblion wedi cofrestru fel plant gweithwyr hanfodol; ar gyfartaledd, yr wythnos ddiwethaf roedd 570 wedi mynychu’r ysgol. Mae 363 o ddysgwyr bregus wedi cofrestru, gyda 218 ar gyfartaledd yn bresennol yr wythnos ddiwethaf. Mae’r ystod nifer sy’n mynychu yn dibynnu ar leoliad a chyd-destun ysgol a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu e.e. mae 100 o blant wedi cofrestru yn Osbaston, gyda dim neu nifer fach yn unig wedi cofrestru yn yr ysgolion mwy gwledig. Drwyddi draw, mae hyn yn gynnydd sylweddol ar yr wythnos olaf o ddarpariaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cynllun Gwaith Ymlaen y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc pdf icon PDF 497 KB

Cofnodion:

Gweithdy cyfrwng Cymraeg ar 28 Ionawr am 2pm. Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar 11 Chwefror i drafod Cynllun Busnes EAS a strategaeth Prydau Ysgol am Ddim.

 

7.

Cynlluniwr Gwaith Cabinet a Chyngor pdf icon PDF 198 KB

8.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 471 KB

·         Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 25ain Tachwedd 2020

·         8fed Rhagfyr 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion.

 

9.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf