Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr. Usk. NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Adolygiad o Ffioedd Trwyddedau Blynyddol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2020/2021. pdf icon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad am y Ffioedd Trwyddedu blynyddol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, penderfynwyd:

 

(i)            cymeradwyo’r ffioedd a nodir yn Atodiad A yr adroddiad, dan y teitl “Rhestr Ffioedd Trwyddedau ar gyfer 2020-21”, yn amodol, lle’n berthnasol, ar unrhyw hysbysiad cyhoeddus gofynnol.

 

(ii)          bod unrhyw wrthwynebiad, a wneir yn gywir, parthed ffioedd ar gyfer dyfarnu trwyddedau ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hur preifat yn dod yn ôl i’r Pwyllgor ar y cyfle cynharaf i gael yr ystyriaeth briodol.

 

3.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 60 KB

Cofnodion:

Cafodd Cofnodion y Cyfarfod Trwyddedu a Rheoleiddiol dyddiedig 28 Tachwedd 2019 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

Wrth wneud hynny, codwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Drafft Bolisi Trwyddedu 2020 – Cyflwynir y drafft bolisi i’r Cyngor llawn ei gymeradwyo yn y misoedd nesaf.

 

·         Masnachu Stryd yn y Fenni – Caniatâd Masnachu Stryd Bloc fel yn Chwefror 2020. Mae Cyngor y Dref yn dymuno gweithio gydag Adran Stadau Cyngor Sir Fynwy gyda golwg ar fynd â’r mater ymlaen. Cyflwynir adroddiad i’r Pwyllgor maes o law.

 

·         Cais am drwydded i Tuk Tuk fel Cerbyd Hur Preifat. Bu’r Adran Trwydddedu mewn cysylltiad gyda Depot Llan-ffwyst gyda golwg ar roi lleoliad. Sefydlir dyddiad ar gyfer Chwefror 2020 lle gall y Pwyllgor weld y cerbyd. Bydd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, gyda Swyddog Trwyddedu, yn teithio yn y cerbyd ar hyd y llwybr arfaethedig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, er mwyn cael cymhariaeth debyg, nodwyd y dylem fod yn edrych ar awdurdodau gwledig a fedrai fod yn trwyddedu gweithredu’r math hwn o gerbyd. Fodd bynnag, nodwyd mai Cyngor Dinas Caerdydd oedd yr unig awdurdod gyda pholisi ar y mater hwn oedd wedi ymateb i Adran Trwyddedu’r Cyngor Sir.

4.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Dydd Mawrth 25 Chwefror 2020 am 10.00am.