Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

3.

Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

Dim.

4.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 338 KB

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw ddeisebau.

 

 

5.

Datganiad gan Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc - Buddsoddi mewn Ysgolion yr 21ain Ganrif

Cofnodion:

Fis diwethaf, agorwyd Ysgol Gyfun Trefynwy yn swyddogol ac mae wedi ennill sawl gwobr. Rodd y digwyddiad yn gyfle perffaith i arddangos talentau’r disgyblion, ond hefyd y manteision a ddaw o gael ysgol ragorol fodern, hyblyg a digidol. Roedd hyn yn dilyn agor Ysgol Cil-y-coed yn gynharach eleni.  

 

Heddiw, rwyf am ddiweddaru Aelodau ar y datblygiadau sydd yn rhan o’r cam nesaf o adnewyddu ystâd ein hysgolion, gan gyfeirio yn benodol at yr opsiynau cyllido ar gyfer Band B o’r Ysgolion yr 21ain ganrif.

 

Ym mis Rhagfyr y llynedd, roeddwn wedi cyflwyno adroddiad er mwyn sefydlu tîm bach a fyddai’n gweithio ar y cyd ag aelodau ac uwch swyddogion er mwyn datblygu Band B.

 

Ein cynnig Band B yw ail-ddatblygu Ysgol Gyfun Brenin Harri’r VIII ac Ysgol Gynradd Deri View er mwyn darparu campws dysgu newydd i blant rhwng 3 a 19 mlwydd oed yn Y Fenni. Bydd yr ailddatblygiad hwn yn caniatáu trosglwyddo  Ysgol Gymraeg Y Fenni o’r safle cyfredol yn Deri View, gan ganiatáu’r ysgol i ddatblygu yn ysgol dwy ffrwd.  

 

Roedd y penderfyniad cychwynnol a wnaed gan y Cabinet yn 2017 wedi dod i’r casgliad mai’r llwybr cyllid-cyfalaf yw’r mwyaf priodol - yn y cyfnod hwn, roedd yna gyfradd ymyrraeth o 50%.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y gyfradd ymyrraeth ar gyfer cynlluniau cyllido cyfalaf a refeniw (hynny yw'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM)).  Mae cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau sydd yn cael eu cyllido yn draddodiadol wedi newid o 50% i 65%, tra  bod y gyfradd MIM wedi newid o 75% i 81%, gan roi rheswm i ni gynnal dadansoddiad o’r newydd o’r manteision posib ynghlwm wrth y MIM.

 

Mae swyddogion  wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau diwethaf ac wedi pennu mai’r dull mwyaf priodol ar gyfer Sir Fynwy yw parhau gyda’r opsiwn cyllido-cyfalaf. 

 

Mae’n cynnig yr hyblygrwydd mwyaf tra hefyd yn cynnal proffil cost cyffredinol is i’r awdurdod lleol. Yn sgil y cyfnod cyllidebol heriol yr ydym yn wynebu, yn enwedig gan mai ni yw’r awdurdod lleol sydd wedi ein hariannu isaf yn y wlad, roedd yr hyblygrwydd hwn yn rheswm rhy bwysig i ni,

 

Tra y byddai’r MIM wedi sicrhau y byddai’r ysgol yn cael ei chynnal a’i dychwelyd i’r awdurdod mewn cyflwr da ar ddiwedd y cyfnod o 25 mlynedd, byddai’r MIM yn cyfyngu ar rai o’r elfennau dylunio penodol a’r anghenion dysgu arloesol yr oeddem yn medru eu cyflwyno yng Nhil-y-coed a Threfynwy. 

 

Mae fy natganiad heddiw yn cadarnhau eto’r penderfyniad gwleidyddol sydd wedi ei gytuno ac yn caniatáu i ni fwrw ymlaen gyda chyflymder, cywreindeb ac eglurder i mewn i Fand B.

 

Roedd ein Bwrdd Ysgolion yr 21ain ganrif wedi ymweld gyda’r safle ar ddydd Llun wrth i’r gwaith barhau er mwyn adnabod y lleoliad gorau ar gyfer yr ysgol newydd. Rwyf yn ddiolchgar iawn am y rôl sydd wedi ei chwarae gan benaethiaid a chadeiryddion llywodraethwyr y tair ysgol, gan y bydd eu harbenigedd yn hanfodol i lwyddiant y prosiect wrth lunio gweledigaeth yr ysgol.  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2018/19 pdf icon PDF 105 KB

Cofnodion:

Roedd Mr. Phillip White, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, wedi cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2018/19 y Pwyllgor Archwilio. Roedd yr adroddiad yn dangos sut y mae’r Pwyllgor wedi ymgymryd â’i rôl fel sydd wedi ei ddiffinio gan y cylch gorchwyl.

 

Roedd yr adroddiad wedi ei eilio gan y Cynghorydd Sir Higginson, a’i dderbyn gan y Cyngor.

7.

Datganiad Cyfrifon 2018/19 pdf icon PDF 806 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cyngor er mwyn gwirfoddoli newid peilot yn y broses gymeradwyo ar gyfer y Datganiad o Gyfrifon, yn cydnabod nad yw’r terfynau amser cyhoeddi cynt yn cydweddu â’r amserlen o gyfarfodydd. 

 

Rhoddwyd copi i’r Cyngor o’r datganiad cyfrifon drafft ar gyfer yr Awdurdod  ar gyfer 2018/19, fel bod modd i aelodau ei ystyried yn ystod y broses archwilio.  

 

Rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau nad oedd y newid yn gwrthdaro gyda’r cyfansoddiad cyfredol.

 

Yn dilyn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

Dylid adolygu Datganiad  o Gyfrifon drafft Cyngor Sir Fynwy, fel sydd wedi ei gyflwyno ar gyfer ei archwilio. (Atodiad 2).

 

Ar gyfer 2018-19, bydd y proses datganiad o gyfrifon, y gymeradwyaeth derfynol a’r datganiad o gyfrifon sydd wedi ei archwilio yn cael eu dirprwyo i’r Pwyllgor Archwilio yn hytrach nag angen cael eu cymeradwyo gan y Cyngor llawn. 

 

 

 

8.

Cwestiynau'r Aelodau:

8a

O'r Cynghorydd Sirol R. Harris i'r Cynghorydd Sirol R. John, Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc a MonLife

Mae yna saith categori o anghenion ADY i ysgolion cynradd eu hystyried ar gyfer eu disgyblion.A wnewch chi gyhoeddi nifer y disgyblion ym mhob un o'r saith categori ar gyfer yr holl ysgolion cynradd yng Ngogledd Sir Fynwy, a rhoi syniad i'r Cyngor o unrhyw bryderon a allai fod gennych pan fyddwch yn dadansoddi'r wybodaeth o'r cais hwn?

 

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd John wedi darparu’r ymateb canlynol:

 

Er eglurder, mae yna bedwar categori PLASC SEN

           Gwybyddol a Dysgu  

           Trafferthion Cyfathrebu a Rhyngweithio

           Trafferthion Ymddygiad, Emosiynol a Chymdeithasol

           Trafferthion Synhwyraidd a Chorfforol 

 

Mae pob un o’r categorïau yma yn cael eu rhannu yn is-gategorïau sydd yn disgrifio angen addysgol arbenigol y disgybl mewn mwy o fanylder. Er enghraifft, mae’r categori Gwybyddol a Dysgu yn meddu ar wyth is-gategori, sydd yn cynnwys Trafferthion Dysgu Penodol, Dyslecsia, Trafferthion Dysgu Cymedrol a Thrafferthion Dwys a Lluosog. Rwyf yn atodi dogfen sydd yn cynnwys disgrifiad o’r holl gategorïau.

 

Mae’r Tîm Statudol  Anghenion Dysgu Ychwanegol yn darparu gwybodaeth reolaidd ar y nifer o blant a phobl ifanc sydd â datganiadau  anghenion addysgol arbennig ar draws Sir Fynwy. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei dadansoddi gan y categori  anghenion addysgol arbennig, gr?p blwyddyn cwricwlwm cenedlaethol a rhyw. Mae yna drafodaethau cyson am unrhyw wybodaeth sydd o bosib yn destun pryder.

 

Mae’r Cynghorydd Harris wedi gofyn am wybodaeth benodol am ddisgyblion cynradd sydd ag anghenion addysgol arbennig yng ngogledd y sir. Mae’r wybodaeth isod yn deillio o SEN PLASC ym mis Ionawr ac yn cynnwys Cantref, Cross Ash, Deri View, Gilwern, Goytre, Kymin View, Llandogo, Llanffwyst, Llantillio Pertholey, Llanvihangel Crucorney, Osbaston, OLSM, Overmonnow, Rhaglan, Brynbuga ac Ysgol Gymraeg Y Fenni.

 

           Gwybyddol a Dysgu

49        Dyslecsia – DYSL

3          Dyspracsia – DYSP

5          Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd - ADHD

193      Trafferthion Dysgu Cyffredinol – GLD

75        Trafferthion Dysgu  Cymedrol– MLD

11        Trafferthion Dysgu Dwys– SLD

6          Trafferthion Dysgu Dwys a Lluosog– PMLD

 

           Trafferthion Cyfathrebu a Rhyngweithio

146      Lleferydd, iaith a Thrafferthion Cyfathrebu - SLCD

39        Anhwylder Sbectrwm Awtistig– ASD Mae hyn yn cynnwys Asperger’s Syndrome a thrafferthion cyfathrebu cymdeithasol.

 

           Trafferthion Ymddygiad, Emosiynol a Chymdeithasol

108      Trafferthion Ymddygiad, Emosiynol a Chymdeithasol - BESD

 

           Trafferthion Synhwyraidd a Chorfforol

50        Nam ar y Clyw – HI

8          Nam ar y Golwg – VI

3          Nam Amlsynhwyraidd - Bydd Disgyblion  MSI gyda MSI yn meddu ar gyfuniad o drafferthion gweledol ac ar y clyw.  

40        Trafferthion Corfforol a Meddygol – PMED

 

Roedd y Prif Swyddog ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Swyddog  Anghenion Dysgu Ychwanegol  Statudol wedi cwrdd â'r holl ysgolion cynradd er mwyn trafod eu poblogaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol  ac wedi mynd i’r afael ag unrhyw feysydd o bryder ym mhob un ysgol. Mae mwy o waith a hyfforddi i’w cynnal yn nhymor yr hydref a fydd yn cefnogi ysgolion yn fwy effeithiol i ddiwallu anghenion eu disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys adnabod ymyriadau effeithiol, arbenigol a rhaglen hyfforddi ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu. Mae’r nifer o blant sydd wedi derbyn diagnosis o Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn cynyddu, ac felly, mae’r gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol a Seicoleg Addysgol wedi blaenoriaethu hyn fel maes lle y mae angen mwy o hyfforddiant a chefnogaeth wedi eu targedu.  

 

O fis Medi 2020, bydd yr Awdurdod Lleol angen gweithredu’r anghenion statudol sydd yn cael eu hamlinellu yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol  ...  view the full Cofnodion text for item 8a

8b

O'r Cynghorydd Sirol L. Brown i'r Cynghorydd Sirol R. John, Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc a MonLife

Mae Ysgol T? Mounton, Pwllmeurig, Cas-gwent yn fy ward i. Bu nifer o ymgynghoriadau ar yr ysgol hon, gan gynnwys yr un wreiddiol ac yn fy marn i, yr opsiwn gorau yn 2018 o ehangu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac yna ymgynghoriad ar leihau'r gyllideb ac wedyn yr ymgynghoriad presennol ar p'un ai i gau'r ysgol ai peidio.

 

Yr amserlen wreiddiol ar gyfer yr ymgynghoriad diweddaraf ar y cynnig ynghylch a ddylid cau'r ysgol ai peidio, oedd i hynny dod i ben ar 29 Ebrill 2019, ac yna’r adroddiad ar yr ymgynghoriad yn cael ei ddarparu ar ddiwedd Mai 2019 a'r Cabinet i wneud penderfyniad ar y 5 Mehefin 2019.

 

Rwy'n deall bod yr ymgynghoriad wedi'i ymestyn er mwyn caniatáu ar gyfer ymateb Estyn, ac ymatebion o tu allan y Sir a gan aelodau o bosibl. Byddai'n ddefnyddiol i bartïon â diddordeb wybod yr amserlen newydd.

 

 

A allai'r Aelod Cabinet ateb y cwestiwn ynghylch dyddiadau ' r amserlen newydd ar gyfer:

 

1.       Y dyddiad newydd ar gyfer cau'r ymgynghoriad

2.       Y dyddiad newydd ar gyfer yr adroddiad ymgynghori

3.       Y dyddiad newydd ar gyfer penderfyniad y Cabinet

4.       Y bydd y dyddiadau ar gyfer pwyntiau 2 a 3 uchod yn bendant o fewn amser tymor er mwyn sicrhau proses gyfansoddiadol briodol ar adeg pan fydd ysgolion ar agor.

5.       Y bydd bwlch priodol rhwng pwyntiau 2 a 3 uchod am o leiaf 2 wythnos yn ystod y tymor er mwyn i'r adroddiad ymgynghori hwn gael ei gyhoeddi ac i gael ei ystyried cyn y dyddiad newydd ar gyfer penderfyniad y Cabinet.

6.       Yr amserlen newydd ar gyfer y broses gyfan.

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd John wedi darparu’r ymateb canlynol:

 

Hoffem ddiolch i’r Cynghorydd Brown am ei chwestiynau ac am ymgysylltu  mor ddiwyd yn nyfodol Ysgol Arbennig Mounton House.  Tra bod yr ysgol wedi ei lleoli yn ei ward, mae’r Cynghorydd Brown wedi dilyn y trafodaethau yn agos yngl?n â dyfodol yr ysgol ac wedi cyflwyno ymateb manwl a thrwyadl i’r ymgynghoriad.  

 

Fel i chi ddweud, rydym wedi medru gwneud penderfyniad ar ddyfodol  Ysgol Arbennig Mounton House yn ein cyfarfod Cabinet ar y 5ed o Fehefin 2019.  Yn y cyfarfod hwn, roeddwn wedi esbonio nad oeddem wedi derbyn ymateb gan nifer o fudd-ddeiliaid allweddol erbyn diwedd yr ymgynghoriad ar y 29ain o Ebrill, gan gynnwys awdurdodau cymdogol ac awdurdodau sydd yn gosod plant yng ngofal y sir. Roeddwn hefyd wedi derbyn cais gan Arweinydd yr Wrthblaid er mwyn cyflwyno tystiolaeth yn hwyr, gan nad oedd wedi gwneud hynny adeg yr ymgynghoriad. 

 

Mae’r broses statudol yngl?n â’r cynnig o gau ysgol yn un sydd wedi ei gosod o fewn  Cod Trefniadaeth Ysgolion Cymru. Rhaid i ni amlinellu’r ffordd yr ydym yn symud ymlaen o fewn 26 wythnos ar ôl i’r ymgynghoriad gau, ac yn yr achos hwn, erbyn 28ain Hydref 2019. 

 

Roeddwn wedi gofyn i swyddogion i newid yr amserlen er mwyn sicrhau bod modd ystyried ymatebion gan bartneriaid allweddol.  Gan ein bod mewn cyfnod statudol, nid ydym wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori ac nid ydym am ddechrau cyfnod newydd. Rwyf wedi datgan y byddwn yn derbyn darnau o dystiolaeth yn hwyr a bydd y rhain yn cael eu hystyried gan swyddogion ac Aelodau ac yn ymddangos yn yr adroddiad terfynol ond byddant yn cael eu nodi fel darnau hwyr o dystiolaeth.  

 

Yn y cyfarfod cabinet ar y 5ed of Fehefin, roeddwn wedi esbonio pam fy mod wedi penderfynu oedi’r penderfyniad. Esboniais nad oeddwn yn teimlo ei bod yn deg gwneud penderfyniad yn ystod misoedd yr haf tra bod disgyblion a staff i ffwrdd, ac felly, mi wnes i ddatgan y byddem yn ystyried y mater mewn cyfarfod  yng nghanol mis Medi. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher, 18fed Medi. Bydd hyn yn caniatáu cyhoeddi adroddiadau adeg term yr ysgol  - rwyf yn rhagweld mai’r 10fed Medi fydd y dyddiad.

 

Rydym yn hysbysu’r ymgyngoreion allweddol o’r dyddiad newydd hwn i wneud penderfyniad.

 

Petawn ni am fwrw ymlaen gyda chau’r ysgol, roeddem hefyd wedi dynodi y byddem yn ystyried dyddiad cau o 31ain Awst 2020, nid 31ain Rhagfyr, er mwyn ceisio lleihau’r aflonyddwch sydd i’w brofi gan ddisgyblion, yn enwedig y rhai ym Mlwyddyn 11.


Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd  Brown beth fydd dyddiad yr adroddiad crynhoi yr ymgynghoriad.  Wrth ymateb, dywedwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar 10fed Medi, gyda chyfarfod o’r Cabinet ar 18fed Medi 2019.

 

 

 

8c

O'r Cynghorydd Sirol L. Brown i'r Cynghorydd Sirol R. John, Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc a MonLife

Bydd yr adroddiad ar yr ymgynghoriad yn rhoi crynodeb yn unig o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar Ysgol T? Mounton, Pwllmeurig, Cas-gwent. Pa fynediad a ganiateir i Aelodau os dymunant, i ddarllen yr ymatebion gwirioneddol yn hytrach na chrynodeb o'r adroddiad ac os felly pryd a fydden nhw'n cael gwneud hynny?

 

 

Cofnodion:

Bydd yr adroddiad yn crynhoi’r ymatebion sydd yn cael eu derbyn i’r ymgynghoriad, ond yn unol ag ymgynghoriadau blaenorol, bydd copïau o’r ymatebion llawn ar gael i’r Aelodau yn y llyfrgell. 

 

 

8d

O'r Cynghorydd Sirol J. Watkins i'r Cynghorydd Sirol J. Pratt, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Seilwaith a Chymdogaeth

A allai'r Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith y mae'r Cyngor yn ei wneud yngl?n â'r Argyfwng Hinsawdd?

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir Pratt wedi ymateb fod swyddogion – yn dilyn cynnig yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Mai – wedi derbyn cyfarwyddyd i ddechrau datblygu cynllun gweithredu sydd yn amlinellu sut ydym yn bwriadu lleihau allyriadau carbon yr awdurdod. Roedd yr Aelod Cabinet wedi gobeithio cyflwyno hyn i Bwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ym mis Medi ac i’r Cyngor yn Hydref er mwyn sicrhau bod yr holl Aelodau  yn cael cyfle i ddadlau a chymeradwyo’r gweithgareddau a fydd yn helpu cyrraedd yr amcan polisi hwn.     

 

Er mwyn lleihau ein hymyriadau, rydym angen deall beth ydynt ar hyn o bryd. Mae allyriadau ar gyfer y Sir gyfan wedi gostwng o  tua 900,000 tunnell y flwyddyn yn 2005 i tua 650,000 tunnell y flwyddyn yn 2016.  Mae hyn yn gyson gyda thueddiadau cenedlaethol gan fod mwy o ynni adnewyddadwy yn cael ei greu a’r defnydd o lo yn lleihau. Ar y raddfa hon, byddai’n cymryd mwy na 30 mlynedd er mwyn sicrhau’r math o newid yr ydym am weld. 

 

Mae 51% o’r allyriadau yn dod o drafnidiaeth, yn adlewyrchu natur wledig y Sir. Mae  24% yn dod o allyriadau domestig, a 25% o allyriadau diwydiannol a masnachol. 

 

Wrth edrych yn fwy penodol ar ein mudiad, rydym yn rhyddhau tua 8700 o dunelli o garbon y flwyddyn o asedau statig  fel adeiladau a goleuadau ar y stryd a 3000 o dunelli o gerbydau a ddefnyddir gan swyddogion ac Aelodau fel rhan o’u gwaith. 

 

Ar 19eg Mehefin, roedd swyddogion wedi cynnal gweithdy er mwyn dechrau ystyried sut ydym yn bwriadu ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd. Roeddynt wedi ystyried beth sydd ar waith er mwyn lleihau allyriadau megis ffermydd solar, gosod pwyntiau trydanu ar gyfer cerbydau electronig a golau stryd LED.

 

Roedd swyddogion wedi dechrau adnabod ystod eang o weithredoedd yn ystyried trafnidiaeth, ynni, gwastraff a chaffael, defnydd tir a seilwaith gwyrdd. Rhoddwyd ystyriaeth i sgil-effaith carbon y gweithgareddau gwahanol yma, amcangyfrifon o’r costau cyllidol ac amserlenni. 

 

Mae pedwar gweithdy gwahanol wedi ei gynnal er mwyn parhau gyda’r broses o flaenoriaethu pa weithredoedd a fydd yn ffurfio rhan o’r cynllun gweithredu, a byddwn yn gweithio ar hyn mewn mwy o fanylder. 

 

Rydym wir yn gwerthfawrogi brwdfrydedd, egni ac arbenigedd trigolion Sir Fynwy sydd yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd. Yn unol gyda’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a Lles, rydym am gydweithio gyda chymunedau a phartneriaid er mwyn gweithio gyda’n gilydd ar y cynllun gweithredu. Bydd cyfarfod o’r Hyrwyddwyr Hinsawdd Cymunedol yn cael ei gynnal ar 31ain Gorffennaf er mwyn dechrau’r broses. 

 

Mae polisïau wedi eu diwygio yn sgil yr Argyfwng Hinsawdd.  Mae papur Materion, Gweledigaeth ac Amcanion ar gyfer y Cynllun Datblygu Leol wedi ei gymeradwyo. Bydd yr amcanion Cynllun Corfforaethol yn cael ei adolygu yng nghanol y term, a bydd yn cynnwys mwy o fanylion am yr Argyfwng Hinsawdd.

 

Hoffem ddiolch o galon i’r swyddogion am eu hymroddiad at yr argyfwng newid hinsawdd, er y pwysau gwaith arall. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried y pethau yma yn ysgafn a rhoddwyd sicrwydd  ...  view the full Cofnodion text for item 8d

9.

I gadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir ar 20fed Mehefin 2019 pdf icon PDF 82 KB

Cofnodion:

Roedd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 20fed Mehefin wedi eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cyngor.

 

 

10.

I nodi dyddiad y cyfarfod nesaf fel Dydd Iau 19eg Medi 2019 am 2pm

Cofnodion:

Wedi’i nodi.