Lleoliad: Remote Meeting Online
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: Due to technical issues we are unable to live stream this meeting. A recording of the meeting is available here: https://youtu.be/yTreKptNilo
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
Datganiad oddi wrth y Cynghorydd Sir Peter Fox, Arweinydd y Cyngor |
|
Adroddiad Estyn i mewn i Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol o fewn Cyngor Sir Fynwy PDF 225 KB Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt:Pob un
Diben:Diben yr adroddiad hwn yw rhoi gwybod i aelodau yngl?n â chanlyniadau adroddiad arolygu Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r gweithrediadau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â’i awgrymiadau.
Awdur:Will McLean
Manylion Cyswllt: willmclean@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn:
i) Derbyn yr adroddiad a gyhoeddwyd ar y 21ain o Ebrill 2020 ii) Nodi’r cryfderau a’r argymhellion o fewn yr adroddiad iii) Cytuno ar yr amserlenni a’r dulliau arfaethedig ar gyfer cyflawni argymhellion yr adroddiad
|
|
Gwneud Penderfyniadau mewn perthynas â Chofid 19 PDF 125 KB Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt:Pob un
Diben:Cyflwynir yr adroddiad hwn er mwyn roi gwybod i Gabinet am yr effaith bod y cyfnod Cofid 19 (CV19) wedi’i gael ar y broses o wneud penderfyniadau o fewn y cyngor ac er mwyn adnabod y camau nesaf.
Awdur:Matt Phillips
Manylion Cyswllt: matthewphillips@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Nodi bod y Cyfansoddiad yn rhoi awdurdod, mewn rhai amgylchiadau, i benderfyniadau a fyddai fel arfer yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor neu Swyddog Gweithredol, gael eu gwneud gan y Prif Weithredwr, Prif Swyddogion neu Swyddogion Statudol. Nid oes penderfyniadau o’r fath wedi gorfod cael eu gwneud yn ystod y cyfnod CV19.
Y bydd MCC yn parhau i ddatblygu ei allu i gynnal cyfarfodydd o bell gyda'r bwriad o gynnal Cyfarfod Llawn o’r Cyngor. Mae’n bosib y bydd angen gwneud gwaith deddfwriaethol pellach er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor Cynllunio a’r Pwyllgorau Trwyddedu a Rheoleiddio, sy’n gyrff sy’n gwneud penderfyniadau, weithredu eto, ac wrth i fusnesau ddod o hyd i gydbwysedd yn ystod y cyfnod CV19 a fydd yn galluogi gwaith dydd i ddydd a gwneud penderfyniadau ddychwelyd, bydd swyddogaethau’r Pwyllgorau Dethol hefyd yn dychwelyd o ganlyniad. Mae’n bosib y gellir cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol unrhyw bryd yn ystod 2020 a gall yr holl Aelodau sy’n Gadeiryddion, Is-Gadeiryddion, wedi eu penodi i gyrff, cyd-bwyllgorau a swyddi cyffelyb barhau yn y swydd nes Ebrill 2021.
|
|
Ymateb i'r Coronafeirws: Nodau Strategol PDF 154 KB Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt:Pob un
Diben: I gynnig trosolwg i’r Cabinet o’r nodau strategol bydd yn bodoli trwy gydol pandemig y Coronafeirws.
Awdur: Matthew Gatehouse, Pennaeth Polisi a Llywodraethu
Manylion Cyswllt: matthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Adnabod bod cyfnewidiad rhwng yr angen i achub bywydau ac atal ymlediad y firws a chyflawni’r goliau a osodwyd o fewn y Cynllun Corfforaethol.
Cymeradwyo’r amcanion strategol a welir ym mharagraff 3.2. |
|
Ymateb i'r Coronafeirws: Rheoli Risg PDF 735 KB Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt:Pob un
Diben: I gynnig trosolwg i’r Cabinet o’r trefniadau a osodwyd gan y Cyngor i adnabod, i reoli ac i liniaru risg mewn ymateb i bandemig y Coronafeirws (COFID-19).
I gynnig trosolwg i’r Cabinet o’r risgiau lefel uchel a chanolraddol cyfredol bod y Cyngor yn eu rheoli yn ymwneud â’r ymateb i’r Coronafeirws.
Awdur:Frances O’Brien, Prif Swyddog Menter
Manylion Cyswllt: francesobrien@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r trefniadau sydd gan y Cyngor yn eu lle a chytuno bod y risgiau’n cael eu rheoli o ran yr ymateb i bandemig y coronafirws. |