Skip to Main Content

Agenda and decisions

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: View the meeting: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/f966fe92da08431094c6f743ea8d897c 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

CYNNIG BUDDSODDI AR GYFER CANOLFAN HAMDDEN CIL-Y-COED pdf icon PDF 90 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Glannau Hafren

 

Diben:Ceisio cefnogaeth y Cabinet i ddechrau darn sylweddol o waith fydd yn arwain ar raglen adnewyddu sylfaenol ar Ganolfan Hamdden Cil-y-coed yr amcangyfrifir ei fod tua £5.5 miliwn - 6 miliwn.  

 

Awdur: Ian Saunders, Pennaeth Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant ac Ieuenctid.

 

Manylion Cyswllt: iansaunders@monmouthshire.gov.uk

 

 

3b

DRAFFT STRATEGAETH PRENTISIAID, GRADDEDIGION AC INTERNAU (AGI) pdf icon PDF 2 MB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben: Cyflwyno drafft Strategaeth Prentisiaid, Graddedigion ac Internau (AGI) (2019-22) a'r blaenoriaethau a gynhwysir ynddo.

Hysbysu aelodau am y bwriad i greu swydd Cydlynydd AGI i oruchwylio gweithredu Strategaeth AGI.

 

Awdur: Hannah Jones – Rheolwr Menter Ieuenctid

 

Manylion Cyswllt: hannahjones@monmouthshire.gov.uk

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Strategaeth Ddrafft ar gyfer Prentisiaid, Graddedigion ac Interniaethau, fel yn Atodiad 3.

3c

SEFYDLU MED TECH (MMT) SIR FYNWY pdf icon PDF 211 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben:Ymrwymo i dyfu'r sector technoleg feddygol yn Sir Fynwy ac i arddangos yr ymrwymiad hwn drwy sefydlu Med Tech (MMT) Sir Fynwy. 

 

Awdur: Frances O’Brien – Prif Swyddog Menter

 

Manylion Cyswllt: FrancesOBrien@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyllid o'r cronfeydd wrth gefn i fwrw ymlaen â threfniant peilot a fyddai'n cynnwys:

 

·         £50 mil i sefydlu swyddfa gymorth MMT;

·         gallu i'r Pwyllgor Buddsoddi awdurdodi benthyciadau â llog wedi'u sicrhau o hyd at £25 mil i gwmnïau targed cyn cyfnod refeniw sy'n cael eu lleoli yn yr MMT;

·         gallu i'r Pwyllgor Buddsoddi fuddsoddi mewn cwmnïau targed sy'n dod drwy'r MMT lle y bo'n briodol; a

·         ffi untro o £50 mil i bartner MMT y Cyngor.

 

3d

MENTER - SICRHAU CYDBWYSEDD A CHRYFHAU'R LLINELL FLAEN pdf icon PDF 89 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben: Ceisio cymeradwyaeth i aildrefnu swyddi a chyfrifoldebau o fewn y Gyfarwyddiaeth Fenter i gydbwyso llwyth gwaith, adlewyrchu synergedd mewn rolau a gwasanaethau ac i adlewyrchu gofynion gwasanaeth a phrosiectau yn well mor bell ag sy'n bosibl o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

Creu capasiti ychwanegol o fewn y gwasanaethau rheng flaen lle dynodwyd gofynion sylweddol.

 

Creu cyfleoedd ehangu/dilyniant gyrfa tra'n rhyddhau adnoddau i gynnal gwaith seiliedig ar brosiect a chefnogaeth gyffredinol i Uwch Dîm Rheoli Menter.

 

Awdur: Frances O’Brien, Prif Swyddog Menter

 

Manylion Cyswllt: francesobrien@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r buddsoddiad i swyddi newydd i gefnogi'r galw am wasanaethau a'r strategaeth ariannu a ddisgrifir yn yr adroddiad (Atodiad 2 a 3).

 

Cymeradwyo strwythur a rolau a chyfrifoldebau newydd UDRh y Fenter (Atodiad 1B).

 

Bod y Prif Swyddog Menter yn bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu'r strwythur newydd ac yn gwneud unrhyw newidiadau a allai ddod yn amlwg yn ystod y broses gan ymgynghori ag aelod o'r Cabinet am adnoddau.

3e

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR FYNWY: CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL TAI FFORDDIADWY DIWYGIEDIG pdf icon PDF 259 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithiwyd arnynt: Cyfan

 

Diben: Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cytundeb y Cabinet i fabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy mewn cysylltiad gyda'r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Sir Fynwy. Mae hyn yn rhoi  pwysau i'r Canllaw fel ystyriaeth cynllunio sylweddol wrth wneud penderfyniad.

 

Awdur: Mark Hand, Pennaeth Cynllunio, Tai, a Llunio Lle;

Louise Corbett, Uwch Swyddog Strategaeth a Pholisi, Tai a Chymunedau.

 

Manylion Cyswllt:markhand@monmouthshire.gov.uk

louisecorbett@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi'r adborth i'r ymgynghoriad a'r ymatebion arfaethedig.

 

Mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio atodol diwygiedig ar gyfer tai fforddiadwy mewn cysylltiad â chynllun datblygu lleol mabwysiedig Sir Fynwy.

3f

DATGANIAD ALL-DRO MONITRO REFENIW A CHYFALAF 2018/19 pdf icon PDF 373 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan.

 

Diben: Diben yr adroddiad yw rhoi gwybodaeth i Aelodau ar sefyllfa all-dro refeniw a chyfalaf yr Awdurdod yn seiliedig ar lithriad cyfalaf a chymeradwyo a gohirio cronfeydd wrth gefn.

 

Caiff yr adroddiad hefyd ei ystyried gan y Pwyllgorau Dethol fel rhan o'u cyfrifoldeb i:

 

      asesu os oes monitro cyllideb effeithlon yn digwydd,

      monitro i ba raddau y caiff y cyllidebau eu gwario yn unol â'r gyllideb a fframwaith polisi a gynlluniwyd,

      herio rhesymoldeb darogan gorwariant neu danwariant, a

      monitro cyflawni enillion enillion neu gynnydd affeithioldeb a ragwelir neu gynnydd yng nghyswllt cynigion arbedion.

 

Awdur: Peter Davies – Prif Swyddog – Adnoddau;

Dave Jarrett – Uwch Gyfrifydd Cymorth Busnes

 

Manylion cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried rhagolwg refeniw net o ddiffyg o £2.4 miliwn, a chynllun adfer sy'n esblygu’n angenrheidiol i ddychwelyd sefyllfa gytbwys cyn diwedd Mawrth 2020.

 

Bod y Cabinet yn nodi cyrhaeddiad 88% o’r arbedion gosod cyllid y cytunwyd arnynt gan y Cyngor llawn yn flaenorol, a bod angen cymryd camau/arbedion mewn perthynas â'r arbedion o 12% (£748 mil) a nodwyd fel wedi’u hoedi neu’n anghyraeddadwy gan reolwyr gwasanaeth.

 

Bod y Cabinet yn ystyried y gwariant alldro cyfalaf o £35.493 miliwn, gan gyflwyno gorwariant disgwyliedig o £24 mil, a'r rhagdybiaethau a wnaed ynghylch canlyniadau cyllid net fel ym mharagraff 3.19.

 

Bod Cabinet yn nodi graddau'r symudiadau mewn defnydd wrth gefn, gan gynnwys gwariant unigol a gyllidebwyd ar gyfer balansau ysgolion, a'u heffaith ar dybiaethau cynllunio ariannol darbodus cyfredol fel yr amlinellir ym mharagraff 5.2.

3g

CYFRANIADAU ADDYSG ADRAN 106 YN GYSYLLTIEDIG AG YSGOL GYNRADD GILWERN pdf icon PDF 72 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben:Ystyried telerau defnydd balansau addysg gweddilliol yn deillio o gyfraniadau addysg Adran 106 o ddatblygiadau tai T? Mawr a Cae Meldon.

 

Awdur: Matthew Jones, Rheolwr Ysgolion a Mynediad Myfyrwyr.

Manylion Cyswllt: matthewdjones@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod Cabinet yn cymeradwyo gwariant cyfraniadau addysg Cyfalaf Adran 106 sy'n weddill ar welliannau i fangre’r cyfnod sylfaen yn Ysgol Gynradd Gilwern

3h

CYFRANIADAU ADDYSG ADRAN 106 YN GYSYLLTIEDIG AG YSGOL GYMRAEG Y FENNI pdf icon PDF 71 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben:Ystyried telerau defnydd balansau addysg yn deillio o gyfraniadau addysg adran 106 yn gysylltiedig â datblygiad tai Fferm Deri, y Fenni.

 

Awdur: Matthew Jones, Rheolwr Ysgolion a Mynediad Myfyrwyr

 

Manylion Cyswllt: matthewdjones@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo gwariant cyfraniadau addysg Cyfalaf Adran 106 arfaethedig i gynyddu'r amgylchedd addysgu a dysgu yn Ysgol Gymraeg Y Fenni.

3i

GWEITHGOR CRONFA EGLWYSI CYMRU pdf icon PDF 58 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben: Diben yr adroddiad hwn yw gwneud argymhellion i'r Cabinet ar y Rhestr Ceisiadau ar gyfer cyfarfod 4 Gweithgor Cronfa Eglwysi Cymru a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2019.

 

Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd - Cymorth Busnes Cyllid Canolog

 

Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y grantiau'n cael eu dyfarnu yn unol â'r rhestr ceisiadau.