Skip to Main Content

Agenda

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/9f91855fe377464fbe9047f81fcf442c 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

ADRAN GYFREITHIOL Y DYFODOL pdf icon PDF 96 KB

Isadrannau/Wardiau yr effeithir arnynt:  Pob un

 

Pwrpas:

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi esblygu’n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae’r byd yn newid hefyd.  Effaith y ddau newid yw twf mewn pwysau allanol megis achosion Amddiffyn Plant (i fyny >75% yn 2018 yn unig) a thirlun cyfreithiol ansicr o ganlyniad i Brexit, a phwysau mewnol o ganlyniad i Gynllun Corfforaethol uchelgeisiol a strategaethau sylfaenol sydd angen dyfeisgarwch a hyblygrwydd . Er gwaethaf y newid hwn, nid yw’r Adran Gyfreithiol wedi esblygu ar yr un raddfa, ac mae rhai meysydd wedi mynd tuag yn ôl yn nhermau dyfeisgarwch. Mae’r tîm ei hun yn dda; mae’n  cynnwys unigolion medrus, hynod brofiadol gydag ymrwymiad didwyll i’w gwaith a’u Sir. Mae’r ffaith bod lefel y gwasanaeth lle mae ar hyn o bryd, o ganlyniad i’w parodrwydd hwy i fynd yr ail filltir. Fodd bynnag, braidd bod y strwythur na’r capasiti i ymdopi  â’r galw cyfredol, ac mae’r sefyllfa’n un lle nad yw’r Adran yn debygol o allu delio â’r hyn y dylai’r galw cyfredol fod, ac mae angen newid i gefnogi lle mae’r Cyngor yn amlwg yn anelu ato. Yn ehangach, mae cyngor cyfreithiol allanol ar draws y Cyngor heb fod yn gydgysylltiedig, heb gael ei ddatblygu’n llawn a heb fod yn rhwym wrth unrhyw fath o sicrwydd ansawdd - caiff cymaint ei wario ar gyngor cyfreithiol allanol ag ar yr adran gyfreithiol yn gyfan gwbl.

 

Nod yr adroddiad hwn hefyd yw amlinellu sut dylai adran gyfreithiol y dyfodol edrych a sut y cyflawnir hyn.  Nod y cam cyntaf hwn yw sefydlogi’r ddarpariaeth gyfreithiol bresennol tra ceisir effeithlonrwydd drwy systemau newydd a strwythurau newydd o waith a fydd yn galluogi cwrdd â’rgwiralw, costau i’w dadlennu a chodiadau costau pellach ar draws yr adrannau i’w hatal. Wedi hynny, y nod fydd lleihau costau drwy gydgysylltu holl gyngor cyfreithiol CSF yn well ac uwchsgilio’r adran gyfreithiol i gymryd mwy o waith yn y dyfodol. Unwaith y gosodir y sylfaen hon, gellir asesu cyfleoedd i gynhyrchu incwm, gan droi elfennau o’r adran gyfreithiol i mewn i adrannau sy’n gwneud elw, nid beichiau costus, heb effeithio ar y gwaith statudol creiddiol sydd eisoes yn cael ei wneud.

 

Awdur: Matt Phillips, Pennaeth y Gyfraith a Swyddog Monitro

 

ManylionCyswllt: matthewphillips@monmouthshire.gov.uk

 

 

3b

GORYMDEITHIO YMLAEN AR GYFER NEWIDIADAU GWASTRAFF - CYNWYSYDDION AILGYLCHU pdf icon PDF 172 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas:Ceisio cymeradwyaeth i symud bagiau y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer casglu deunyddiau sych y gellir eu hailgylchu a bagiau plastig a ailgylchwyd ar gyfer gwastraff  bwyd. Bydd hyn yn rhoi gostyngiad mewn costau a photensial ar gyfer cynhyrchu incwm cynyddol o ganlyniad i newidiadau yn y mathau o fagiau a ddefnyddiwn i gasglu deunyddiau ailgylchu. Cymerwyd yr adroddiad hwn i Bwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ac fe’i hargymhellwyd i’w gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Awdur: Carl Touhig

 

ManylionCyswllt: carltouhig@monmouthshire.gov.uk

 

 

3c

GWEITHREDU'R GOLOFN GYFLOG NEWYDD 2019 pdf icon PDF 135 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Amherthnasol

 

Pwrpas:Diweddaru’r Cabinet o oblygiadau ariannol  ac anariannol  gweithredu colofn gyflog newydd yr NJC yn Ebrill 2019 a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y dewis ffafriedig i’w weithredu yn Ebrill 2019.

 

Awdur:Tracey Harry, Pennaeth Gwasanaethau Pobl a Rheoli Gwybodaeth

 

ManylionCyswllt: traceyharry@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

3d

SAFLE THEATR MELVILLE - PRYDLES ARFAETHEDIG pdf icon PDF 138 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Priordy/Cantref

 

Pwrpas:Ystyried caniatáu 3 blynedd i Ganolfan Melville ar gyfer y Celfyddydau  CIC i ddefnyddio ymhellach y safle sy’n hyrwyddo’r celfyddydau drwy gyfrwng addysg, cymryd rhan ac adloniant, gan wasanaethu’r Gymuned Leol.

 

Awdur: Nicola Howells – Syrfëwr Ystadau

 

ManylionCyswllt: nicolahowells@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

3e

ADDYSG AWYR AGORED - CYNIGION NEWID GWASANAETH pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:Cytuno i ddiddymu partneriaeth  Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Gwent y mae’r Cyngor yn bartner arweiniol iddo, gan weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (CBSBG), Cyngor Dinas Casnewydd (CDC) a Chyngor Bwrdeistref  Sirol Torfaen (CBST) yn dilyn tynnu nôl cymhorthdal partner.

 

Cytuno i gau Safle Talybont, dychwelyd y safle i Gyngor Dinas Casnewydd i’w gwaredu yna cymeradwyo diswyddiadau’r staff cysylltiedig os na ellir dod o hyd i adleoliadau addas.

 

Awdur:Ian Saunders – Pennaeth Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant ac Ieuenctid

Ian Kennett – Pennaeth Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Gwent

Richard Simpkins – Rheolwr Busnes TLCY

 

ManylionCyswllt: iansaunders@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

3f

GWEITHGOR CRONFA'R EGLWYS YNG NGHYMRU pdf icon PDF 56 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas:Pwrpas yr adroddiad hwn yw gwneud argymhellion i’r Cabinet ar y Rhestr o Geisiadau ar gyfer cyfarfod 6 Gweithgor Cronfa’r Eglwys yng Nghymru blwyddyn ariannol 2018/19 a gynhaliwyd ar 20fed Rhagfyr 2018.

 

Awdur:David Jarrett – Uwch GyfrifyddCymorth i Fusnesau Cyllid Ganolog

 

ManylionCyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol: