Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr Usk
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
|
|
|
Cais am Drwydded Safle Newydd – Pugh’s Garden Kitchen. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriwyd cais ar gyfer trwydded safle newydd dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Pugh’s Garden Kitchen, 7-9 Mill Street, Y Fenni, NP7 5HE ar gyfer y canlynol:
· Cyflenwi Alcohol: Dyddiau Llun – Mercher 09:00-18:00 (ar ac oddi ar y Safle) Dyddiau Iau - Sadwrn – 09:00-22:00 (ar ac oddi ar y Safle) Dyddiau Sul – 10:00-16:30 (ar ac oddi ar y Safle).
· Oriau Agor (amserau arferol): Dyddiau Llun – Mercher – 08:00-18:00 Dyddiau Iau - Sadwrn – 08:00-23:00 Dyddiau Sul – 10:00-17:00.
https://www.youtube.com/live/9rhpHPidqCI?si=Pxtbin8Q0gywvWiG&t=164
Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeiswyr a chynrychiolydd y gwrthwynebwyr i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau’r Is-bwyllgor a’r Swyddogion oedd yn bresennol ac esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.
Cadarnhaodd yr ymgeiswyr a chynrychiolydd y gwrthwynebwyr iddynt gael yr adroddiad, dogfennau ychwanegol a threfn y gwrandawiad.
Cydnabu’r ymgeiswyr y byddent yn symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithlon.
Cafodd y materion a manylion allweddol eu darllen yn uchel i’r Is-bwyllgor.
Rhoddwyd cyfle i gynrychiolydd y gwrthwynebwyr wedyn i annerch yr Is-bwyllgor, i gyflwyno’r gwrthwynebiadau i’r cais.
Wedyn rhoddwyd cyfle i’r ymgeiswyr i annerch yr Is-bwyllgor i gyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol.
Yn dilyn hyn, cyflwynodd Aelodau’r Is-bwyllgor gwestiynau i’r ymgeiswyr a chynrychiolydd y gwrthwynebwyr a dilynodd trafodaeth. Wedyn cafodd yr ymgeiswyr a chynrychiolydd y gwrthwynebwyr gyfle i grynhoi.
Yn dilyn cwestiynau, gadawodd aelodau’r Is-bwyllgor a Chyfreithiwr Cyngor Sir Fynwy y cyfarfod i ystyried a thrafod y canfyddiadau.
Ar ôl ail-ddechrau, dywedodd y Cadeirydd a Chyfreithiwr Cyngor Sir Fynwy fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu’n unfrydol i gymeradwyo’r cais.
Cadarnhaodd y Cadeirydd hefyd fod yr ymgeisydd wedi derbyn yr holl amodau a wnaed gan yr heddlu yn dilyn y trafodaethau preifat.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor y rhesymau canlynol am y penderfyniad i gymeradwyo’r cais:
· Fe wnaeth yr Is-bwyllgor ymestyn ei drafodaethau i gynnwys mater parcio ceir i gyfarch y pryderon a wnaed gan y gwrthwynebwyr. Nododd yr Is-bwyllgorau fod llinellau melyn ar hyd Stryd y Felin a bod maes parcio gyferbyn â safle’r ymgeisydd. Nododd hefyd fod gorsaf fysus gyferbyn â’r safle i annog trafnidiaeth gyhoeddus.
· Cydnabu’r Is-bwyllgor fod yr ymgeisydd yn cytuno i ostwng yr oriau o 11.00pm i 10.00pm ar gyfer gwerthu alcohol ar ddyddiau Iau, Gwener a Sadwrn.
· Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad fod hwn yn fusnes y dylai’r Awdurdod fod yn ei ddenu i’r Fenni.
· Ystyriodd yr Is-bwyllgor y mesurau a gymerwyd gan y busnes i ostwng y lefelau s?n, yn cynnwys ffenestri dwbl, insiwleiddio a mesurau gwrthsain.
|