Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd Sir Phil Murphy ddatganiad o fuddiant personol nad oedd yn rhagfarnu yn unol â’r cod ymddygiad yng nghyswllt cais DM/2024/00985, gan yr arferai ei fab weithio gyda’r ymgeisydd.
Gwnaeth y Cynghorydd Sir Meirion Howells ddatganiad o fuddiant personol oedd yn rhagfarnu yn unol â’r cod ymddygiad Aelodau yng nghyswllt cais DM/2023/01679, gan ei fod yn heddychwr. Felly gadawodd y cyfarfod ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar hynny yng nghyswllt y cais hwn.
https://www.youtube.com/live/r5JUTxRgI-4?si=gb9t5xfpNvKoAeXX&t=169
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 27 KB Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 1 Hydref 2024 eu cadarnhau a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.
https://www.youtube.com/live/r5JUTxRgI-4?si=np8NbdgMfA6meNid&t=200
|
|
Cais DM/2023/01341 - Adeiladu Annedd Newydd. 33 Stryd Maryport, Brynbuga, NP15 1AE. PDF 286 KB Cofnodion: Gohiriwyd ystyried cais DM/2023/01341 i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol er mwyn galluogi swyddogion i drin materion a godwyd yng nghyswllt y safle a’r effaith ar gymdogion.
https://www.youtube.com/live/r5JUTxRgI-4?si=98aQ0wTrjXcpmGsK&t=257
|
|
Cofnodion: Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
https://www.youtube.com/live/r5JUTxRgI-4?si=h6BfJDTkajBmTSrt&t=274
Wrth nodi manylion y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliodd y Cynghorydd Sir Dale Rooke fod cais DM/2023/01679 yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Cofnodwyd y pleidleisiau canlynol pan roddwyd y mater i bleidlais::
O blaid cymeradwyo - 7 Yn erbyn cymeradwyo - 1 Ymatal - 2
Derbyniwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/01679 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad. Fodd bynnag, ystyriwyd y dylid gadael allan yr ail reswm dros wrthod.
https://www.youtube.com/live/r5JUTxRgI-4?si=h2WG-IbR9ddX8NH2&t=1181
Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliodd y Cynghorydd Sir Emma Bryn y dylid gwrthod cais DM/2024/00985 am Reswm 1, a amlinellir yn yr adroddiad.
Cofnodwyd y pleidleisiau dilynol pan roddwyd y mater i bleidlais:
O blaid gwrthod - 6 Yn erbyn gwrthod - 6 Ymatal - 1
Roedd y cynnig yn glwm.
Felly, gweithredodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw a phleidleisiodd i wrthod y cais am Reswm 1, a amlinellir yn yr adroddiad. Cafodd y cynnig felly ei dderbyn.
Penderfynwyd gwrthod cais DM/2024/00985 am Reswm 1, a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr lle’r oedd argymhelliad y swyddog yn rhanedig, fel sy’n dilyn:
Estyniad Cefn: Gwrthod am yr un rheswm a roddir yn yr adroddiad gyda gwelliant i dynnu unrhyw gyfeiriad at breifatrwydd.
Porth: Cymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
https://www.youtube.com/live/r5JUTxRgI-4?si=Jjzvu3g1p8NlPkgt&t=3962
Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliodd y Cynghorydd Sir Su McConnel ein bod yn cynnig argymhelliad y swyddog fel sy’n dilyn:
Estyniad Cefn: Gwrthod am yr un reswm a amlinellir yn yr adroddiad gyda gwelliant i ddileu unrhyw gyfeiriad at breifatrwydd.
Porth: Cymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad
Cofnodwyd y pleidleisiau canlynol pan roddwyd y mater i bleidlais:
O blaid argymhelliad y swyddog - 11 Yn erbyn argymhelliad y swyddog - 2 Ymatal - 0
Derbyniwyd y cynnig.
Fe wnaethom benderfynu cefnogi argymhelliad y swyddog yng nghyswllt cais DM/2024/00845 fel sy’n dilyn:
Estyniad Cefn: Gwrthod am yr un rheswm a amlinellir yn yr adroddiad gyda gwelliant i ddileu unrhyw gyfeiriad at breifatrwydd.
Porth: Cymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Apeliadau / Penderfyniadau Costau a Dderbyniwyd: Cofnodion: |
|
Penderfyniad Apêl - 17 Heol Eglwys Fair, Cas-gwent, Sir Fynwy, NP16 5EW. PDF 146 KB Cofnodion: Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad a gynhaliwyd yn 17 Heol Eglwys Fair, Cas-gwent, Sir Fynwy ar 9 Medi 2024.
Nodwyd y cafodd yr apêl ei gwrthod.
|
|
Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Hen Safle Felinwen D?r Cymru, Heol Brynbuga, Drenewydd Gelli-farch, Sir Fynwy ar 9 Medi 2024.
Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.
|
|
Cofnodion: Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn cynnwys ymweliad safle a gynhaliwyd ar dir i’r gogledd orllewin o Holly Lodge (a elwir hefyd yn dir yn High Mass Cottage a thir yn Church View), Five Lanes North, Five Lanes, Caerwent, Sir Fynwy ar 24 Medi 2024.
Apêl A
Apêl B
Nodwyd y caniatawyd yr apêl a rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o amaethyddiaeth i dir ar gyfer cadw ceffylau (ôl-weithredol), cynnig i godi bloc stablau ar gyfer 5 ceffyl, codi adeilad storio ategol, adeiladu manege, ar dir i’r gogledd orllewin o Holly Lodge (a elwir hefyd yn dir yn High Mass Cottage a thir yn Church View), Five Lanes North, Five Lanes, Caerwent, Sir Fynwy NP26 5PG, yn unol â thelerau’r cais, cyfeirnod DM/2023/01042, dyddiedig 24 Gorffennaf 2023, gyda’r amodau a amlinellir yn yr atodlen.
|
|
Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad y costau yng nghyswllt tir i’r gogledd orllewin o Holly Lodge (a elwir hefyd yn dir yn High Mass Cottage a thir yn Church View), Five Lanes North, Five Lanes, Caerwent, Sir Fynwy.
Nodwyd y gwrthodwyd y cais am ddyfarniad costau yng nghyswllt Apêl A ac Apêl B. |
|
ER GWYBODAETH: Apeliadau a dderbyniwyd rhwng 1af Gorffennaf a’r 30ain Medi 2024. PDF 63 KB Cofnodion: Nodwyd yr apeliadau cynllunio a gafodd yr Adran Cynllunio ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf i 30 Medi 2024.
|