Lleoliad: Council Chamber, County Hall, The Rhadyr USK
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb. Cofnodion: Steven Garratt, Tudor Thomas fel dirprwy.
|
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Howells fuddiant ariannol yn eitem 5 gan fod busnes ei wraig wedi gwneud cais nodwyddo sych Osteopathig dan weithdrefnau arbennig.
|
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Cofnodion: Dim.
|
|
|
Adroddiad Blynyddol 2024-25 yr Iaith Gymraeg – Craffu ar berfformiad y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Angela Sandles a Pennie Walker yr adroddiad. Atebodd Nia Roberts gwestiynau aelodau gyda Pennie Walker:
Yr opsiwn mwyaf dymunol ar hyn o bryd yw ymuno gyda Torfaen ar gyfer gwasanaethau cyfieithu. Mae hyn oherwydd tebygrwydd y mathau o ddogfennau a gaiff eu cyfieithu, a fyddai’n gwneud y broses yn fwy effeithiol a chyson. Mae manylion y cydweithio gyda Torfaen yn dal i gael eu cwblhau er mwyn sicrhau gweithredu llyfn.
Mae adolygiad dim-barn yn archwiliad mewnol sy’n helpu i ddynodi meysydd o gydymffurfiaeth a diffyg cydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg. Nid yw’n archwiliad swyddogol ond mae’n rhoi gwybodaeth werthfawr ar gyfer datblygu cynllun gweithredu i drin meysydd sydd angen eu gwella.
Y nod bob amser yw cydymffurfiaeth 100%, er efallai na fedrir cyflawni hynny bob amser. Mae’r adolygiad dim-barn yn helpu i ddynodi meysydd ar gyfer gwella a chynhelir monitro rheolaidd i ddatrys problemau wrth iddynt godi.
Caiff yr adroddiad ei lywio gan ganllawiau Comisiynydd y Gymraeg, sy’n penderfynu pa Safonau a gynhwysir. Gall swyddogion roi diweddariad ar unrhyw Safonau nad ydynt yn cael sylw yn yr adroddiad.
Fe wnaeth 36 aelod o staff gwblhau’r lefel dechreuwr (Mynediad) a 12 wedi cwblhau’r lefel Sylfaen.
Mae heriau wrth gynnal cysondeb rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg llwyfannau digidol. Mae monitro rheolaidd, hyfforddiant a chyfathrebu gyda’r swyddog gwefan yn help i sicrhau cysondeb a sicrhau aliniad.
Byddai’n anodd canfod person ar lefel uwch sy’n rhugl yn y Gymraeg. Mae dysgu Cymraeg yn ymrwymiad sylweddol ac mae swyddogion yn gweithio ar wella adnoddau i helpu uwch arweinwyr i gynnwys mwy o Gymraeg yn eu gwaith.
Bu laniardau yn effeithlon wrth ddynodi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, gan ei gwneud yn haws i’w hadnabod a chysylltu gyda nhw. Mae’r nifer sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau Cymraeg yn tyfu bob blwyddyn, gan ddangos cynnydd mewn diddordeb ac effaith. Mae ymateb cadarnhaol i awgrymiadau Cymraeg yn y cylchlythyr staff, yn aml yn ysgogi cwestiynau dilynol gan staff. Dengys adborth gan y rhai sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau eu bod yn mwynhau’r sesiynau ond ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
|
Perfformiad Diogelu’r Cyhoedd 2024/25 – Adolygu perfformiad y maes gwasanaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno gan Jane Rodgers, Alun Thomas, Kristian Williams, Huw Owen a Gareth Walters a atebodd gwestiynau aelodau:
Caiff safleoedd bwyd risg uchel eu categoreiddio yn seiliedig ar natur y bwyd a gynhyrchiant, risg traws-halogi a lefel cydymffurfiaeth. Mae categorïau risg uchel yn cynnwys cynhyrchwyr, siopau cigydd a safleoedd tecawe, gydag amlder archwilio yn amrywio o bob chwe mis i 18 mis yn dibynnu ar lefel y risg.
Mae’r gostyngiad yn nifer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn rhannol oherwydd achos neilltuol o anodd y flwyddyn flaenorol a ysgogodd lawer o sylw yn y cyfryngau cymdeithasol. Er fod nifer y ceisiadau wedi gostwng, mae’n parhau’n uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol.
Nid oes trothwy penodol ar gyfer cyfeirio digwyddiad at ESAG. Mae’r broses yn wirfoddol a chaiff digwyddiadau mwy o ran maint neu risg uwch eu hannog i hysbysu ESAG. Mae’r gr?p yn ymateb yn seiliedig ar y risg ac yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaethau tân a heddlu i sicrhau diogelwch.
Caiff swydd wag y pennaeth diogelu’r cyhoedd ei gydnabod, ac mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn ei adolygu, gydag opsiynau posibl yn cael eu hystyried i lenwi’r bwlch.
Mae’r gostyngiad mewn perfformiad oherwydd cynnydd mewn llwyth gwaith a’r angen i roi blaenoriaeth i dasgau neilltuol. Mae ffocws y tîm ar ganlyniadau ac asesu risg i reoli’r llwyth gwaith yn effeithlon.
Er na wnaeth swyddogion gyflawni’n llawn ar lety mewn archwiliadau tecawe y llynedd, mae’n flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn gyfredol.
Bu cynnydd mewn problemau lles anifeiliaid, yn arbennig anifeiliaid fferm, oherwydd yr argyfwng costau byw. Mae heriau wrth ddelio gyda’r achosion hyn, yn cynnwys yr angen am adnoddau a phwysigrwydd gweithio gyda’r llywodraeth i drin y problemau.
Oes, gellir dadansoddi ffigurau yn ôl afiechydon unigol fel E.Coli, Salmonela a Campylobacter. Caiff pob achos ei ymchwilio’n drwyadl gan gadw hanes yn seiliedig ar gyfnod deor pathogen penodol. Er enghraifft, gall ymchwiliadau Campylobacter edrych yn ôl dros 11 diwrnod i asesu hanes bwyd, cyswllt ag anifeiliaid, nofio mewn afonydd a chyswllt arall. Caiff ymchwiliadau eu cofnodi yng nghronfa ddata Taran, a gaiff ei rhannu ac sy’n caniatáu tagio ffynonellau posibl. Mae hyn yn helpu i ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
|
Adroddiad Blynyddol 2024/25 – Adolygu perfformiad y maes gwasanaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Jane Rodgers a Jennifer Walton, a atebodd gwestiynau aelodau:
Mae’r canran is ar gyfer genedigaethau oherwydd nifer lai o enedigaethau yn Sir Fynwy, lle mae pob genedigaeth yn cael effaith sylweddol ar y canran. Ar gyfer marwolaethau, mae’r broses statudol newydd sy’n ymwneud â rôl yr archwilydd meddygol wedi effeithio ar y rhifau. Mae swyddogion yn hyderus y caiff targedau’r flwyddyn nesaf eu cyflawni wrth i’r broses newydd ymwreiddio mwy. .
Roedd y cynnydd dechreuol mewn seremonïau priodas oherwydd ôl-groniad o gyfyngiadau COVID. Daeth Sir Fynwy yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer priodasau, gan ddenu pobl o bob rhan o’r wlad i’w lleoliadau hardd.
Mae’r newidiadau ar y gweill yn rhai technegol gan fwyaf, gan anelu i ddigideiddio y broses gofrestru, sy’n seiliedig ar bapur i raddau helaeth iawn ar hyn o bryd. Disgwylir y daw’r newidiadau hyn i rym yn y dyfodol ond mae’r union amserlen yn ansicr.
Mae’n her ymdopi â galw yn ystod yr haf ond mae aelodau’r tîm yn haeddu canmoliaeth am eu cefnogaeth a’u hyblygrwydd – er y pwysau, nid ydynt erioed wedi methu cynnal seremoni. Mae’r tîm yn mwynhau eu gwaith ac yn cefnogi ei gilydd, gan sicrhau y caiff apwyntiadau eu cynnig o fewn amserlenni statudol.
Ni fu unrhyw ymateb gan y Llywodraeth hyd yma, ac mae’r argymhellion yn dal i gael eu hadolygu. Bydd cofrestryddion yn dal i fod â rôl wrth adnabod priodasau rheibus, ffug a dan orfodaeth. Mae’r union newidiadau a’u gweithredu yn ansicr ond bydd y tîm yn eu trin wrth iddynt gyrraedd.
Union nifer y genedigaethau o fewn Sir Fynwy oedd 21 ac mae’r ffigur o 633 yn cynnwys genedigaethau a gofrestrwyd ar ran Torfaen. Mae’r ffigur o 1019 marwolaeth yn cynrychioli marwolawethau a ddigwyddodd o fewn Sir Fynwy ei hun.
Crynodeb y Cadeirydd:
Diolch i’r swyddogion am yr adroddiad a’u hymatebion, a diolchiadau hefyd i’r tîm ehangach. Cafodd yr adroddiad ei gynnig.
|
|
|
Blaenraglen Gwaith a Rhestr Gweithredu y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffodd y Cynghorydd Bond y swyddogion am y cais i graffu grantiau, yn arbennig o gofio am SPF ac SRN. Nododd y swyddogion nifer agendâu cyfarfodydd llawn hyd at y flwyddyn nesaf a’r tebygrwydd y bydd angen galw mwy o gyfarfodydd arbennig i ddarparu ar gyfer eitemau ychwanegol.
|
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cafodd y cofnodion eu cytuno.
|
|
|
Cyfarfod nesaf: 9 Gorffennaf 2025 am 10.00am (cyfarfod arbennig). Cofnodion: 9 Gorffennaf 2025 am 10.00am (Cyfarfod Arbennig).
|