Agenda and minutes

Pwyllgor Perfformiad a Throsolwg - Dydd Mercher, 22ain Tachwedd, 2023 10.00 am

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Fookes fuddiant heb fod yn rhagfarnol fel Llywodraethwr Ysgol Gyfun Trefynwy.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Dim

 

3.

Monitro Cyllideb Mis 5 pdf icon PDF 313 KB

Craffu ar sefyllfa gyllidebol (refeniw a chyfalaf) gwasanaethau sy’n syrthio o fewn cylch gorchwyl y pwyllgor ym Mis 5

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Ben Callard a Peter Davies ac atebwyd cwestiynau aelodau gyda Jonathan Davies, Frances O’Brien, Paul Griffiths, Jane Rodgers a Nikki Wellington. 

 

Cwestiynau Allweddol gan Aelodau: 

 

·        Sut y caiff cyfrifoldebau eu rhannu rhwng y ddau Aelod Cabinet dros Adnoddau?

·        Mae’r pwysau yn cynyddu ar ddarparu llety ar gyfer y digartref ac ymddengys fod y costau yn ymatebol – a oes cynlluniau i liniaru hyn a bod yn fwy rhagweithiol? – GWEITHREDU (rhoi data ar dueddiadau a gwybodaeth i aelodau ar safleoedd Gwely a Brecwast a Digartrefedd)

·        Mae diffygion mewn Gofal Cymdeithasol ac Iechyd oherwydd galw cymhleth a phlant gyda darpariaeth ADY – pa oblygiadau sydd yna ar gyfer defnyddwyr y gwasanaethau hyn a pha gynlluniau sydd yn eu lle i reoli’r ffactorau hyn?

·        Mae’r adroddiad yn sôn am darged o £550k o arbedion yn ymwneud â gofal iechyd parhaus (t22); rydym wedi cyflawni £141k ym Mis 5, felly’n brin o’r targed. A oes anghydbwysedd grym rhwng Cyngor Sir Fynwy a’r bwrdd iechyd?  A ydym yn gwneud digon i baratoi ein staff i herio’r bwrdd iechyd?

·        A fu’r gostyngiadau yn oriau angen gofal nas diwallwyd oherwydd fod gennym mwy o ofalwyr ac oriau wedi eu darparu neu a yw pobl a fyddai wedi bod yn gymwys am becynnau gofal yn y gorffennol wedi eu gwrthod? Os felly, a ydym yn methu gwasanaethu’r bobl fwyaf agored i newid.

·        Rydym yn clywed straeon fod pecynnau gofal llai yn mynd i baneli llawn, a bod gweithwyr cymdeithasol yn cael eu clymu am oriau mewn cyfarfodydd panel yn hytrach na bod ar y rheng flaen – a yw hynny yn wir?

·        A yw’r gorwariant o £111k yn gysylltiedig â pharc busnes Castle Gate yn golled wirioneddol?

·        Eitem 3.12, pam fu oedi wrth sicrhau adnoddau i’r tîm i gyrraedd y gostyngiad yn y targedau ynni a phryd fedrwn ni ddisgwyl gweld y gostyngiad? 

·        A yw’r diffyg mewn gostyngiad milltiroedd ac oedi wrth ymestyn y cynllun ceir cronfa yn cael ei drin yn awr?

·        Noder yng nghyswllt digartrefedd (t27), mae’n bwysig i bobl sy’n cael adferiad o ddibyniaeth i aros yn eu rhwydweithiau cefnogaeth

·        A fedrwn gael ein sicrhau na fydd gostyngiad yn y Grant Cymorth Tai ac na effeithir ar yr elusennau sy’n cael budd ohono, tebyg i Mind Sir Fynwy?

·        Beth yw’r arwydd diweddaraf ar debygrwydd dyfarnu grant o £1m nad yw yn y gyllideb?

·        Sut ydym yn dilyn lan ar gyllid gan Lywodraeth Cymru nad yw’n cael ei wireddu e.e. ar gyfer prydau ysgol am ddim i ysgolion cynradd?

·        Yng nghyswllt y Grant Cymorth Tai, a fyddai’n adeiladol anfon llythyr at gyfarwyddwr Llywodraeth Cymru yn tanlinellu pwysigrwydd gwybod beth yw dyraniad cyllid Cyngor Sir Fynwy cyn gynted ag sy’n bosibl? – GWEITHREDU

·        Mae’r rhagamcan o orwariant am wasanaethau yn £6.2m, caiff y gwaith adfer i ostwng hynny i bwysau o £124k ei ateb gan eitemau heb fod yn gysylltiedig â gwasanaeth, rhai ohonynt yn rhai ‘unwaith yn unig’ – a fyddem yn disgwyl i ganlyniad ddod ymlaen y  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Y Gofrestr Risgiau Strategol pdf icon PDF 1 MB

Cytuno ar unrhyw risgiau pellach y dylid craffu arnynt.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Richard Jones yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Peter Davies a Jane Rodgers.

 

Cwestiynau Allweddol gan Aelodau: 

 

·        A fedrwch egluro’r categorïau risg a beth maent yn ei olygu?

·        Pam y cafodd y risg newydd o ‘her cyfreithiol’ ei ychwanegu?

·        Risg 12: pryd mae’r Gweithgor Tlodi nesaf a phryd oedd y diwethaf? Sut ydym yn symud ymlaen ar y Cynllun Gweithredu Tlodi? – GWEITHREDU (gwirio pryd fydd cyfarfod nesaf y gweithgor ac anfon ymateb ysgrifenedig am y gweithgor tlodi i aelodau)

·        Byddai’n ddefnyddiol pe gallai cofrestru risg gael graddiad Coch, Oren a Gwyrdd. A fedrir rhoi risgiau uchel mewn coch? Byddai’n dda safoni graddiadau Coch, Oren a Gwyrdd ar draws y Cyngor a hefyd gyflwyno saethau yn dangos y trywydd – GWEITHREDU (ar gyfer swyddogion i fynd â nhw gyda nhw i’w hystyried)  

·        Risg 8: a fedrwch esbonio yn fwy manwl sut y gall lefel risg o 16 gael ei liniaru lawr i 12?

·        Risg 2: cynaliadwyedd gwasanaethau - sut fyddem ni yn lliniaru  lawr o 16 i 12 lle mae sôn mewn rhan arall o’r gyllideb am ddiffyg o £14.4m?

·        A ydym wedi rhoi digon o hyfforddiant i’n holl staff yn rheolaidd ac i gwnselwyr i ostwng lefel risg o amgylch seibr ymosodiadau? – GWEITHREDU (ymateb ysgrifenedig i aelodau am risg seibr ymosodiad a hyfforddiant pellach).

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

Diolch i’r swyddogion. Os yw aelodau yn meddwl am risgiau yn y dyfodol y dylid eu cynnwys, cânt eu hannog i gysylltu â’r Cadeirydd neu swyddogion. Caiff yr adroddiad ei dderbyn.

 

 

5.

Adroddiad Monitro Blynyddol yr LDP pdf icon PDF 353 KB

Craffu arno cyn i’r Aelod Cabinet ei gymeradwyo i gael ei anfon at Lywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Craig O’ Connor yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda’r Aelod Cabinet Paul Griffiths a Daniel Fordham. 

 

Cwestiynau Allweddol gan Aelodau: 

 

·        T3-4: Ai cynyddu lefel y cartrefi fforddiadwy a ddarperir o 22% o’r cyfanswm a gyflawnwyd i 50% yw’n cynllun ar gyfer y dyfodol?

·        Oni fyddai’r gwelliannau ffosffadau yn hollol groes i’r bwriad i symud ymlaen gyda chyflenwi nifer sylweddol o dai yn y Cynllun Datblygu Lleol fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd? Ac ydyn ni’n gwybod pa lefel gwelliannau a fyddent?

·         A ydym wedi ystyried beth sydd gan y siroedd cyfagos yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol yng nghyswllt lefel cartrefi fforddiadwy?

·        T94, cyfeiriad at yr A48  yn hytrach na’r M48 – ai camgymeriad teipio yw hynny? – GWEITHREDU (swyddogion i gywiro yn yr adroddiad) 

·        Mae pwysau enfawr ar y B4245, a bydd dau safle yn cynyddu hynny – pa gynnydd sydd yn y trafodaethau ar y ddolen i lawr i Gyffordd Twnnel Hafren a’r ddolen lan i’r M48?

·        Gan fod hwn yn gynllun 10 mlynedd o 2011-21, pam nad oes llinell wedi ei dynnu dan hyn fel adroddiad terfynol?

·        3.8, beth sy’n cael ei wneud i geisio atal y gyfradd uchel o siopau gwag yn Nhrefynwy? A yw’r ffigur yn cynnwys banciau?

·        Mae 3.18 yn sôn am awdit o safleoedd gwag ar y stryd fawr yn Nhrefynwy – a gaiff aelodau weld yr adroddiad hwnnw? – GWEITHREDU (swyddogion i rannu gydag aelodau) 

·        Nid oes gwaith pellach ar Orsaf Coetsis Trefynwy ond byddai’n fuddiol iawn pe gallai National Express stopio yn y dref? Pam nad oes mwy o waith ar hynny?

·        Cafodd safle o’r enw Wheatfield ar gyfer pobl digartref ei adael yn ystod y pandemig – beth sy’n digwydd gyda hynny?

·        I egluro, oni fedrid ailadeiladu Wheatfield ar y safle presennol?

 

Crynodeb i’r Cadeirydd: 

Diolch i’r swyddogion a’r Aelod Cabinet. Cafodd yr adroddiad ei dderbyn.

 

6.

Fformiwla Ariannu Ysgolion pdf icon PDF 350 KB

Craffu ar y fformwla ariannu cyn penderfyniad y Cabinet

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Wellington yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau.

Cwestiynau Allweddol gan Aelodau: 

·        Dymunai’r Cynghorydd Fookes ddiolch i swyddogion am wrando ar lywodraethwyr Ysgol Gyfun Trefynwy parthed pryderon am y fformiwla cyllid, gyda datrysiad nawr yn ei le ar gyfer 25/26

·        Mae’r adroddiad yn cynnwys fformiwla yn cyfeirio at gynnal a chadw yr adeilad newydd – a oedd hynny yn ei le cyn rhoi ystyriaeth i’r profiad gydag ysgolion Cil-y-coed a Threfynwy?

·        A oes gennym ffigur rhesymol faint o bobl gafodd fynediad i’r ymgynghoriad?

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

Diolch i swyddogion. Cafodd yr adroddiad ei dderbyn. 

 

 

7.

Blaenraglen Waith a Rhestr Camau Gweithredu’r Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg pdf icon PDF 378 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ychwanegwyd eitemau posibl ar bresenoldeb mewn ysgoliion a pherfformiad mewn arholiadau at 20 Chwefror (a thybio y caiff data ei gyhoeddi’n brydlon). Bydd yr eitemau o gyfarfod 29 Tachwedd a gafodd ei ganslo yn symud i 15 Ionawr, a gaiff ei drefnu. Bydd cyfarfod 30 Ionawr ar gyfer craffu’r gyllideb.

Cynigiodd y Cynghorydd Fookes ychwanegu’r Cynllun Gweithredu Tlodi at agenda 26 Mawrth; cytunodd y pwyllgor i hynny - GWEITHREDU

 

8.

Cynllun Gwaith y Cyngor a’r Cabinet pdf icon PDF 380 KB

9.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 24ain o Hydref 2023 pdf icon PDF 631 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion.. 

 

10.

Cyfarfod Nesaf: 29ain o Dachwedd (Cyfarfod Arbennig) a 30ain o Ionawr 2023

Cofnodion:

Cafodd cyfarfod 29 Tachwedd ei ganslo – aiff yr eitem i gyfarfod 15 Ionawr.