Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw beth.

 

3.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg pdf icon PDF 312 KB

I graffu ar berfformiad yn erbyn y cynllun gweithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Sharon Randall Smith yr adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda'r Aelod Cabinet Martyn Groucutt.

 

Her:

 

Gwelaf gyfeiriad at ysgol Gymraeg newydd yn Nhrefynwy ac mae’r adroddiad yn amlygu goblygiadau o ran adnoddau. A yw'r prosiect wedi'i ddiogelu'n llawn? O ystyried y sefyllfa bresennol o ran y gyllideb, a allai’r ysgol fod yn amodol ar arbedion?

 

Rydym yn ymwybodol iawn o’r sefyllfa bresennol.  Er mwyn sefydlu’r dosbarth egin, mae angen cyllid gan Lywodraeth Cymru sef 100%, ond mae angen inni hefyd ystyried costau refeniw rhedeg yr ysgol, a fydd yn fach yn y lle cyntaf am yr ychydig flynyddoedd cyntaf wrth inni dyfu’r egin, ond bydd y costau’n cynyddu. Wedi dweud hynny, ni fydd disgyblion sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn dewis cyfrwng Saesneg, felly disgwyliwn cydbwysedd yn y pen draw.  Mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni fod yn ymwybodol ohono wrth symud ymlaen.

 

Wrth gymharu Sir Fynwy ag awdurdodau cyfagos fel Torfaen sydd â rhestr aros, yr ydym yn dal i fyny a thybed a yw’r ffaith bod gennym ysgol yn y categori mesurau arbennig yn rhwystr i rieni? 

 

Aelod Cabinet: Yn ein 2 ysgol cyfrwng Cymraeg bresennol, mae gennym ddarpariaeth feithrin lawn. Mae’r egin newydd yn cael ei sefydlu yn Nhrefynwy, a fydd yn cynnig gofal cyn ac ar ôl ysgol llawn. Dylai hyn gymell rhieni i roi eu plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae addysg yn bwysig trwy gydol ein oes, felly o ystyried y cynnig o ran addysg feithrin, bydd hyn yn cymharu’n ffafriol â’n hawdurdodau cyfagos.

 

O ran y fforwm WESP, a ydynt wedi derbyn y cynllun gweithredu? Pa broblemau a godwyd ac a yw’r rheini wedi’u lliniaru, o ran pa mor realistig yw’r uchelgais?

 

Mae'r cynllun gweithredu wedi'i gyflwyno i'r fforwm a bu iddynt gyfrannu at y fersiwn derfynol, ynghyd â chynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, cyn i'r cynllun gael ei adrodd i Lywodraeth Cymru. Mae'n bwysig nodi mai ni sy’n gyfrifol am y WESP ac fe ymgysylltwyd yn helaeth gyda’r fforwm. Roeddent yn falch o weld yr uchelgais ond yn roeddynt hefyd yn cydnabod yr angen am linell sylfaen.

 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y problemau sy’n ymwneud â’r gweithlu ac mae’n cyfeirio at y cynllun gweithlu cenedlaethol sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. A oes diweddariad pellach ar hynny?  Ac wrth ddatblygu ac ehangu’r ddarpariaeth mewn ysgolion, mae gwella gallu staff o ran y Gymraeg mewn ysgolion cynradd (o’r lefel ganolradd i’r lefel uwch) yn gam cymharol fach ac mae gennym gryn dipyn o staff y gellir eu datblygu ar y lefel honno, ond o ran gallu staff ysgolion uwchradd, mae datblygu staff o lefel gallu sylfaenol iawn yn dasg llawer mwy, felly sut ydym ni’n mynd i weithio gyda chydweithwyr er mwyn sicrhau lefelau uwch o ran gallu?

 

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau canolog ac wedi cynnal arolwg staff er mwyn cael syniad o’n capasiti a gallu er mwyn ein galluogi i ddatblygu cynllun cynhwysfawr i gefnogi a chynyddu gallu staff.  Rydym yn gweithio’n agos  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cofrestr Risg Strategol pdf icon PDF 1 MB

I gytuno ar unrhyw risgiau yn y dyfodol ar gyfer eu craffu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad hyfforddi byr gan Richard Jones a Hannah Carter ar reoli risg ac atebwyd cwestiynau'r aelodau. Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau mai rôl y pwyllgor yw bodloni ei hunain o ran y dull gweithredu a fabwysiadwyd a phe byddai'r pwyllgor yn dymuno craffu'n fanwl ar unrhyw risgiau, byddai'r Aelod Cabinet perthnasol yn cael ei wahodd i gyfarfod yn y dyfodol i graffu ar y risg dan sylw.

 

Her:

 

Gan gydnabod fod hwn yn gyfnod eithriadol a bod pob cyngor yn mynd ati i ymdrin â’i gofrestr risg strategol yn yr un modd, gan ailwerthuso’r dewisiadau y maent yn eu gwneud mewn modd beirniadol. Gan edrych ar y 39 risg a nodwyd dros gyfnod o 3 blynedd, ar ôl 3 blynedd o gamau lliniaru, mae 23 yn parhau i fod yn risg uchel. Mae hyn yn rhywbeth sy’n peri pryder mawr i mi, o ystyried bod y mesurau lliniaru eisoes wedi’u cynnwys. Os gwelwch yn dda a gawn ni ymateb gan yr uwch dîm arwain ar hyn. Cam Gweithredu: Richard Jones a Hazel Ilett.

 

Mae eich pwynt am lefelau risg yn un teg. Mae'n bwysig ein bod yn eu hasesu'n gywir ac mae'n bosibl bod rhai o'r ffactorau sy'n ymwneud â'r risg y tu hwnt i'n rheolaeth, sy'n golygu, er ein bod yn rhoi ein mesurau lliniaru ein hunain ar waith, eu bod yn parhau i fod yn risg uchel a'r asesiad cymesur yw efallai na fydd y rhain yn lleihau. Ond mae angen inni ystyried y lefelau risg ac a ydym yn gwneud digon i'w lliniaru os yw lefel y risg yn dal yn uchel.  Efallai y bydd rhai o'r mesurau lliniaru yn cymryd amser i’w rhoi ar waith, ac o ganlyniad yn cymryd amser i ostwng lefel y risg.

 

Rydym yn edrych ar hyn drwy brism yr Awdurdod Lleol a’r risg, efallai, na fyddwn yn gallu darparu gwasanaethau fel y dymunwn, ond yr hyn nad ydym yn ei gynnwys yw’r risg i ddefnyddwyr gwasanaethau os na allwn ddarparu gwasanaethau i'r safon a ddymunwn ac felly, pa asesiad sydd wedi ei wneud o'r risg i ddefnyddwyr gwasanaeth allweddol a sut y byddai'n effeithio ar eu bywydau? Da o beth fyddai i ni weld y risg o safbwynt y defnyddiwr gwasanaeth yn hytrach na’r Cyngor yn unig.  A fyddech cystal â gofyn am ymateb ynghylch a ddylem wneud mwy i ddeall risg drwy lygaid y defnyddiwr gwasanaeth. Cam Gweithredu Richard Jones a Hazel Ilett.

 

Mae'r gofrestr risg strategol yn ymdrin â rhai o'r effeithiau ar bobl, ond derbynnir eich pwynt yngl?n â hyn gan mai cofrestr risg cyngor yw hwn. Er enghraifft, ar gyfer risg 11, sef datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd, rydym wedi ceisio dal y risg barhaus i’r gymuned, yn ogystal â'r risg i'n gwasanaethau ein hunain. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ac mae rhai o’r risgiau’n cael eu rhannu ar draws partneriaid a chymunedau.

 

Tudalennau 53-54, mae’r adroddiad yn dechrau datgan bod cyllidebau wedi’u lleihau dros nifer o flynyddoedd ac  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg a’r Rhestr Weithredu pdf icon PDF 420 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd y Cynghorydd Pavia sylw at y ffaith y gallai fod perygl i'r pwyllgor gamu i dir craffu ac awgrymodd fod angen i'r pwyllgor lunio ei flaengynllun gwaith ei hun gan fod ganddynt hawl i wneud hyn.  

 

Cytunodd y Cadeirydd mai pwrpas y pwyllgor yw ychwanegu gwerth i sicrhau bod y Cyngor yn darparu gwell gwasanaethau i bobl a chynorthwyo'r cabinet i wneud hynny. Awgrymodd efallai y byddai'r pwyllgor yn dymuno trafod y gofrestr risg strategol yn rheolaidd, yn hytrach nag unwaith y flwyddyn a chanolbwyntio ar safbwynt y defnyddiwr gwasanaeth.

 

Byddai cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal ar 25ain o Ionawr 2023 i graffu ar gynigion o ran y gyllideb.

 

6.

Cynllun Gwaith y Cabinet a'r Cyngor pdf icon PDF 209 KB

Cofnodion:

Nodwyd y blaengynllun gwaith. Atgoffodd y cadeirydd y pwyllgor ei bod yn bwysig cadw llygad barcud ar Flaen Waith y Cabinet a’r Cyngor, yn enwedig yng ngoleuni’r adroddiad risg strategol sydd wedi dod i law heddiw.

 

Eglurwyd mai’r pwyllgor hwn yn unig sy’n gyfrifol am graffu ar risg, yn hytrach na’r pwyllgorau craffu eraill.

 

 

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 522 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion 21 Tachwedd 2022 a’u llofnodwyd fel cofnod cywir.

 

8.

Cyfarfod Nesaf: Cyfarfod Arbennig - 17 Ionawr 2023