Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Llun, 25ain Tachwedd, 2024 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Powell a’r Cynghorydd Riley fod ganddynt Fathodynnau Glas. Esboniodd y Cynghorydd Riley mai Caroline Roberts yw ei nyrs. Datganodd y Cynghorydd Butler fod gan ei g?r fathodyn glas.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Mynychodd Vanessa Badderley Potter (Cynghorydd Tref a Dirprwy Faer Cas-gwent) y cyfarfod a siarad yn fyr yn ystod y cyfarfod i esbonio fod pobl fregus yn ei chael yn anodd iawn llenwi ffurflen gais y Cynllun Bathodyn Glas ac y gallai ofn peidio cael eu derbyn, yn ogystal â balchder, atal pobl sydd angen y bathodynnau rhag gwneud y cais.

 

3.

Trafod meini prawf Bathodyn Glas. pdf icon PDF 333 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Cheryl Haskell gyflwyniad ar y cynllun Bathodyn Glas ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Ian Saunders:

 

  • Diolch i Cheryl a’r tîm am eu gwaith – mae’r adborth gan breswylwyr yn gadarnhaol iawn. Yn ôl arweiniad Llywodraeth Cymru, ni ddylai gymryd mwy na 12 wythnos i asesu cais. A yw hynny’n dal yn wir? Beth sy’n tueddu i fod y prif broblemau sy’n oedi adnewyddu trwydded i’r rhai sy’n gwneud cais? A ydych wedi medru addasu’r broses i wella’r cyfnod cwblhau ar gyfer cymeradwyo neu benderfyniad mewn rhyw ffordd?

 

Esboniodd Cheryl mai’r nod yw prosesu ceisiadau cyn gynted ag sydd modd, ond y gall rhai ceisiadau – yn arbennig rhai dewisol – gymryd ychydig yn fwy oherwydd yr angen am dystiolaeth ychwanegol. Mae’r tîm yn fach, gyda dim ond un gweinyddydd Bathodynnau Glas, ond cafodd tri o bobl eraill eu hyfforddi i gynorthwyo. Gall y broses gael ei hoedi os yn aros am dystiolaeth neu asesiad annibynnol.

 

  • Sylwais fod gan wefannau awdurdodau llywodraeth leol wahanol brosesau gwneud cais. Mae rhai yn gwneud cais yn lleol tra bo eraill yn gwneud cais yn uniongyrchol i gynllun cenedlaethol y llywodraeth. Pa un yw’r gorau?

 

Soniodd Cheryl fod Sir Fynwy yn defnyddio’r gwasanaeth digidol ar-lein fel yr opsiwn diofyn, sydd yn gyflymach oherwydd ei bod yn osgoi mewnbwn â llaw. Esboniodd y cafodd y ffurflen ei hysgrifennu gan yr Adran Trafnidiaeth yn Lloegr ac y gofynnir cwestiynau ychwanegol i ateb meini prawf Llywodraeth Cymru.

 

  • Pa mor gyflym all person ddisgwyl derbyn Bathodyn Glas ar ôl i ffurflen SR1 gael ei llenwi ar gyfer rhywun gyda diagnosis terfynol?

 

Os oes ganddynt ffurflen SR1, dywedodd Cheryl y gellir rhoi’r cais ar lwybr carlam a’i brosesu yn syth.

 

  • Beth ydyn ni’n ei wneud i gyfarch y gred fod y cynllun Bathodyn Glas yn cael ei gamddefnyddio a sut y gall pobl roi adroddiad os amheuir camdriniaeth?

 

Esboniodd Cheryl eu bod yn gweithio yn agos gyda gorfodaeth parcio i atal camddefnydd. Gellir ei hysbysu os amheuir fod bathodynnau’n cael eu camddefnyddio a chânt eu trin yn ofalus ac yn gyfrinachol. Maent hefyd yn dibynnu ar dechnolegau sydd wedi ymwreiddio mewn bathodynnau i helpu gorfodwyr parcio i adnabod bathodynnau ffug.

 

  • Gofynnodd Caroline Roberts, Cynrychiolydd Hosbis Dewi Sant, pam fod Sir Fynwy angen y ffurflen SR1 ei hun ar gyfer llwybr carlam y ceisiadau am Fathodyn Glas, tra bo cynghorau eraill yn derbyn datganiad nyrs y cafodd ffurflen SR1 ei llenwi.

 

  • Gofynnodd aelod os oes cysondeb yn y broses gais am Fathodyn Glas rhwng Sir Fynwy ac awdurdodau lleol eraill yn ardal Gwent?

 

Esboniodd Cheryl fod Sir Fynwy yn dilyn Canllawiau’r Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru, sydd angen y ffurflen SR1 i gefnogi’r cais. Cydnabu’r consyrn a dywedodd y byddai’n ystyried ar yr arfer hwn, yn ymgynghori gyda chydweithwyr a hefyd Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt egluro ac efallai ddiwygio’r gweithdrefnau i sicrhau dull gweithredu cyson.

 

4.

Blaenraglen Gwaith a Rhestri Camau Gweithredu y Pwyllgor Craffu Pobl. pdf icon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd.

 

5.

Cynllunydd y Cabinet a’r Cyngor. pdf icon PDF 248 KB

Cofnodion:

Nodwyd.

 

6.

Cadarnhau’r cofnodion canlynol: pdf icon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • 7a Pwyllgor Craffu Pobl – 17 Gorffennaf 2024
  • 7b Pwyllgor Craffu Pobl – 23 Gorffennaf 2024
  • 7c Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Pobl – 19 Medi 2024

 

Cytunwyd y cynigion, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Strong.

 

7.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025 am 10.00am.

Cofnodion:

Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025 am 10.00am.