Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Mawrth, 28ain Chwefror, 2023 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau.

 

 

3.

Cynllun Pontio Ailgartrefu Brys pdf icon PDF 3 MB

Craffu cyn gwneud penderfyniad ar y cynllun 5 mlynedd i atal digartrefedd, cynyddu’r llety  sydd ar gael a ffocysu cymorth.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Tîm Tai eu cynllun 5 mlynedd i atal digartrefedd, cynyddu’r llety sydd ar gael a darparu cymorth â ffocws i bobl. Rhoddodd swyddogion gyflwyniad a oedd yn rhoi esboniad manwl o sut mae'r tîm yn bwriadu cyflawni'r cynllun.

 

Her:

Yn eich cyflwyniad, roedd yn ymddangos bod cyfeiriad at gynnydd yn nifer y dynion sy’n ddigartref. A yw'r duedd hon yn gysylltiedig â gr?p oedran penodol?

Tîm Tai: Yn gyffredinol, rydym yn gweld dynion sengl iau nad ydynt o reidrwydd yn gweithio, ond mae rhesymau cymysg pam fod pobl yn dod i mewn i’r system. Newidiodd y ddeddfwriaeth yn ystod pandemig gan ei gwneud yn ofynnol i ni gartrefu pawb, ac felly dyma’r rheswm dros y cynnydd yn nifer y dynion sengl sy’n cael eu lletya bellach, ochr yn ochr â phawb arall sydd o dan gyfrifoldebau iechyd cyhoeddus.

 

Sylwaf i chi gyfeirio at ddull sy’n canolbwyntio ar y cleient, ond ni allaf weld bod unrhyw ymgynghori wedi’i gynnal â defnyddwyr gwasanaethau, a ddylai fod yn rhan ganolog o unrhyw gynllun. A allwch chi egluro sut rydym yn rhagweld y bydd barn defnyddwyr gwasanaeth yn dylanwadu ar y cynllun ac a fydd unrhyw ran o'r data hwn yn cael ei gynnwys cyn i'r Cabinet fabwysiadu'r cynllun?

Tîm Tai: Y rheswm pam nad oedd barn cleientiaid yn rhan o’r drafftio oedd oherwydd rhywfaint o salwch staff. Rydym wedi cynnal arolygon cleientiaid blaenorol ar y broses ymgeisio ac anghenion llety, ac felly roedd rhai safbwyntiau gennym i seilio'r cynllun arnynt. Efallai nad oes gennym ni ddigon i’w ystyried cyn y Cabinet ond mae’n ddogfen fyw i raddau helaeth. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o ddefnyddwyr gwasanaethau, ac felly byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno. Rydym mewn gwirionedd wedi dod o hyd i fanteision o’i gwneud fel hyn gan ein bod yn gofyn cwestiynau gwell i ddefnyddwyr gwasanaethau ac felly bydd y mewnbwn a gânt yn fwy defnyddiol wrth symud ymlaen.

Ni welais bwyslais mawr ar gartrefi gwag yn yr adroddiad. Rwy’n derbyn bod datrys digartrefedd yn broblem fwy na’r stoc dai yn unig, ond beth ydym ni’n ei wneud i annog dod â chartrefi gwag yn ôl i’r stoc dai? A oes grantiau er mwyn annog hyn, o ystyried mai £352k yw pris t? ar gyfartaledd yn Sir Fynwy?

Tîm Tai: Mae hwn yn bwynt da. Mae gwaith ar gartrefi gwag yn cael ei wneud bob dwy flynedd pan fyddwn yn cysylltu â pherchnogion eiddo gwag, ond rydym hefyd fel rhan o’n hailstrwythuro staffio yn symud cartrefi gwag i Dîm Gosod Tai Sir Fynwy ac rydym yn bwriadu apwyntio Uwch Swyddog Llety arall a fydd yn cynnig adnodd ychwanegol. Mae gennym fenthyciadau y gall pobl wneud cais amdanynt hyd at £25,000 os ydynt yn arwyddo prydles hir ac mae cynllun tai gwag cenedlaethol newydd a sefydlwyd yn ddiweddar a weinyddir gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar ran Llywodraeth Cymru, gyda grant o £25k ar gael. Sefydlwyd yn ddiweddar ac rydym wedi derbyn 2 gais yn barod. Efallai y  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Blaengynllun a Chamau Gweithredu y Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y rhaglen waith a’r diwygiadau wedi eu nodi.

 

 

5.

Cynllun Gwaith y Cabinet a’r Cyngor pdf icon PDF 265 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Cynllun Gwaith.

 

 

6.

Yn cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd canlynol: pdf icon PDF 468 KB

·         15fed Tachwedd 2022

·         3ydd Ionawr 2023 – Cyfarfod Arbennig

·         26th Ionawr 2023 – Cyfarfod Arbennig

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol wedi eu cymeradwyo fel cofnod cywir:

 

·        15eg Tachwedd 2022

·        3ydd Ionawr 2023 – Cyfarfod Arbennig 

·        26ain Ionawr 2023 – Cyfarfod Arbennig 

 

 

7.

Cyfarfod Nesaf: 18fed Ebrill 2023

Cofnodion:

Nodwyd dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.