Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Mawrth, 21ain Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. 

 

3.

Diweddariad Polisi - Adolygu Polisi Chwilio Cartref. Craffu'r diwygiadau i'r polisi (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Ian Bakewell a Rebecca Creswell gyflwyniad ar bolisi Chwilio Cartref ac ateb cwestiynau aelodau gyda’r Aelod Cabinet Sara Barch.

 

·        Gofynnodd y Cadeirydd os yw’r amser aros yn Band 1 digartrefedd wedi cynyddu o 11.5 i 12.7 mis ac os yw hyn oherwydd tagfa a achosir gan brinder llety un ystafell wely.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y cynnydd yn yr amser aros yn bennaf oherwydd y nifer isel o anheddau un ystafell wely sydd ar gael a hefyd mae parodrwydd ymgeiswyr i symud ymlaen hefyd â rhan.

 

·        Gofynnodd y Cadeirydd os y cynigir cefnogaeth ychwanegol i unigolion gydag anabledd dysgu neu anghenion cymorth eraill, os nad yw’r ddogfen polisi symlach yn ddigonol iddynt.

 

Dywedodd swyddogion, er bod y ddogfen yn faith, bod staff Chwilio Cartref ar gael i ateb ymholiadau a chynorthwyo pobl. Er nad oes fersiwn symlach o’r polisi, dywedwyd y gallai hyn gael ei ystyried ar gyfer adolygiadau yn y dyfodol.

 

·        Gofynnodd y Cadeirydd am ddiffiniad gwaith o “flaenoriaeth llesiant” yng nghyd-destun y ddogfen polisi, yn benodol beth mae’n ei olygu drwy wella neu gael effaith niweidiol ar lesiant cymdeithasol. 

 

Dywedodd swyddogion y gall blaenoriaeth llesiant cymdeithasol gynnwys ystod eang o amgylchiadau lle mae sefyllfa bresennol rhywun yn gwaethygu eu iechyd corfforol neu eu iechyd meddwl neu rai eu plant. Caiff ei gefnogi gyda thystiolaeth gan asiantaethau partner ac ni wneir defnydd helaeth ohono ond mae ar gael pan mae ei angen.

 

·        Gofynnodd aelod os yr ymgynghorwyd gyda elusennau’r lluoedd arfog a Cyngor Ar Bopeth am y newidiadau hyn, yn arbennig yn ymwneud â throthwyon ariannol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet nad oedd yr ymgynghoriad yn helaeth oherwydd natur fach yr adolygiad. Fodd bynnag, cafodd y newidiadau eu seilio ar brofiad y tîm a chysylltiadau parhaus gydag asiantaethau. Ychwanegodd swyddogion y disgwylir newidiadau i gyfamod y lluoedd arfog, a gall fod angen mwy o ymgynghori ar hynny yn y dyfodol.

 

·        Holodd aelod am y cymorth sydd ar gael ar gyfer defnyddio Chwilio Cartref, yn arbennig y rhai nad ydynt yn gyfarwydd gyda thechnoleg gwybodaeth, ac os yw cyrff allanol fel Cyngor Ar Bopeth yn derbyn hyfforddiant i helpu pobl.

 

Esboniodd swyddogion fod y prif gymorth yn dod gan Chwilio Cartref ei hun a darparwyr cymorth tai. Mae hefyd gysylltiadau agos gyda Cyngor Ar Bopeth drwy waith cymorth tai a bydd y tîm yn sicrhau y bydd y wybodaeth ganddynt i gynorthwyo. Gweithredu: Ian Bakewell i sicrhau fod asiantaethau partner yn cael hyfforddiant addas ar bolisi Chwilio Cartref.

 

·        Gofynnodd aelod pam fod llawer o bobl sy’n ddigartref ac mewn trafferthion ond nad yw’r system yn eu cyrraedd?

 

Clywodd Aelodau er fod pobl yn y gymuned sy’n dal i gysgu ar y stryd a rhai sy’n methu cael eu lletya am wahanol resymau, gwneir ymdrechion i gadw hyn cyn ised ag sydd modd. Gall fod gwahanol resymau pam nad yw rhai unigolion yn derbyn cymorth, ond mae rhwydweithiau da gyda grwpiau ffydd a hybiau i helpu cyfeirio pobl at yr adnoddau cywir. Ychwanegwyd y gwnânt bob ymdrech i adnabod a chefnogi  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Rhestr o Gamau Gweithredu'r Pwyllgor Craffu Pobl. pdf icon PDF 403 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bydd y Rheolwr Craffu yn anfon manylion cyfarfodydd craffu’r gyllideb drwy e-bost i bob aelod. Byddai Aelodau yn cysylltu â’r tîm craffu pe dymunent fynychu yn hytrach nag arsylwi. GWEITHREDU: Rheolwr Craffu.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am ychwanegu diweddariad ar Ganolfan Dydd Tudor Street at y blaengynllun gwaith, i adolygu’r cynnydd a diwygiadau’r brydles a roddwyd i’r cynulliad, a gafodd statws elusen yn ddiweddar. GWEITHREDU: Rheolwr Craffu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Strong am ychwanegu Statws Cyfeillgar i Oedran i’r blaengynllun am ddiweddariad cynnydd. GWEITHREDU: Rheolwr Craffu.

 

 

5.

Cynllunydd y Cabinet a’r Cyngor. pdf icon PDF 277 KB

Cofnodion:

Nodwyd.

 

6.

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 25ain Tachwedd 2024. pdf icon PDF 255 KB

Cofnodion:

 

·        Pwyllgor Craffu Pobl – 25 Tachwedd 2024? 

? 

Cytunwyd ar y cofnodion, cynigiwyd gan y Cynghorydd Jones a eiliwyd gan y Cynghorydd Strong.

 

7.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Mawrth, 18fed Chwefror, 2025 10.00 y.b.