Agenda and minutes

Special Meeting - Budget, Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Iau, 26ain Ionawr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

Cofnodion:

Ni ddefnyddiwyd unrhyw gynigion..

 

 

3.

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2023/24. Cyflwyniad wedi’i deilwra i graffu ar y meysydd a ddaw o fewn y cylch gorchwyl y bydd y Pwyllgor Craffu Pobl yn ei ddilyn. pdf icon PDF 1024 KB

 

Defnyddiwch y ddolen hon i weld y papurau ar gyfer yr eitem hon – ar gael fel rhan o agenda Cabinet 18 Ionawr 2023.

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/documents/s33987/20230118%20Cabinet%20-%20Draft%202023-24%20Revenue%20Capital%20Budget%20for%20consultation%20-%20Covering%20report%20Final%20v2.pdf

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Cabinet Adnoddau y cynigion ar gyfer 2023-2024 i’r pwyllgor (mae’r cyflwyniad ar gael ar-lein) cyn i’r pwyllgor ofyn cwestiynau.

  

Her:

Yn nhermau sut y gall y gyllideb hon effeithio ar blant a phobl ifanc, rydych yn sôn fod y rhaglen cyfalaf yn goruchwylio cynnal a chadw a gwella ein ffyrdd, ysgolion a chanolfannau hamdden ac yn y blaen gyda chynigion ar gyfer arbedion effeithiolrwydd o 3%, fyddech chi’n disgwyl hwnnw yn gyffredinol i bawb? Mae rhai ysgolion yn newydd ac wedi cael gwelliannau sylweddol mewn blynyddoedd diweddar ac roedd y rhan fwyaf o ysgolion mewn sefyllfa ariannol gadarn yn ystod y pandemig, diolch i’r arian ychwanegol a ddyrannwyd yn y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, yn anffodus mae Ysgol Cas-gwent mewn diffyg am resymau hanesyddol. Fy mhrif bryder yw parhau gwella ysgolion yn yr amgylchedd ysgol, fel y gall disgyblion gadw’n wastad gyda’u cyfoedion mewn ysgolion mewn rhannau eraill o Sir Fynwy yn arbennig tra disgwylir cyllid o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (a elwid yn flaenorol yn gyllid Ysgolion 21ain Ganrif). Cas-gwent yw’r ysgol olaf yn Sir Fynwy i fanteisio o’r rhaglen a chadarnhaodd y Cabinet cyn y Nadolig eu bod yn fodlon gyda’r cynnydd, ond roeddwn eisiau gwirio y bydd Ysgol Cas-gwent ac ysgolion eraill yn dal i dderbyn y cyllid hwn.

 

Aelod Cabinet Addysg: Nid oes unrhyw fwriad y bydd ansawdd cyfleusterau Ysgol Cas-gwent yn dioddef. Mae’r cyngor wedi treulio arian sylweddol yn diweddaru cyfleusterau yno, tebyg i gynhyrchu p?er solar a gwn fod yr ysgol wrth ei bodd gyda buddsoddiad y Cyngor hyd yma. Rydym ar gam cynnar trafodaethau gyda Cas-gwent fel y bedwaredd ysgol am sut olwg fydd ar ddarpariaeth a gobeithiaf fy mod wedi eich sicrhau fod yr ysgol yn gadarn yn ein golygon. Mae’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd yn Nhrefynwy wedi manteisio o’r cyllid hwn ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Cyngor ac felly, hyd yn oed mewn cyfnod anodd, nid ydym yn anghofio anghenion ein plant a’n pobl ifanc a dyna pam ein bod yn cynnig cynyddu cyllideb ysgolion ar raddfa nas gwelwyd ers peth amser.

 

Yng nghyswllt dod ag incwm ychwanegol i mewn drwy ffioedd a chostau dewisol, tebyg i gynyddu cost parcio a gwasanaethau gwastraff, oni fydd yn atal pobl rhag defnyddio’r meysydd parcio ac nad yw’n debygol o ddod â’r incwm a ddisgwylir, tra’n gwneud preswylwyr yn ddig yn y broses. Mae codi mwy am wasanaethau gwastraff yn debyg o gynyddu tipio anghyfreithlon neu losgi gwastraff mewn eiddo, gan achosi mwy o broblemau ar gyfer staff y Cyngor, felly hoffwn glywed eich barn am hynny.

 

Aelod Cabinet Adnoddau: Rydym yn ymwybodol o’r materion hyn, felly nid ydym yn newid amlder casgliadau palmant fel cynghorau eraill. Yn nhermau parcio ceir, rydym yn ymwybodol iawn o’r cysylltiad rhwng cymunedau a chanol trefi ffyniannus a hygyrchedd. Rydym yn defnyddio cynlluniau teithio llesol a’r cyllid sydd ar gael yno ac mae gennym adolygiad parcio ar y gweill ar gyfer eleni sy’n rhoi ystyriaeth i anghenion cymunedau yn ogystal â sut y  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 28 Chwefror 2023 am 10.00am.