Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Is-gadeirydd

Cofnodion:

Enwebwyd y Cynghorydd Powell a’r Cynghorydd Crook fel ymgeiswyr ar gyfer Is-gadeirydd. Yn dilyn pleidlais, etholwyd y Cynghorydd Crook fel Is-gadeirydd.

 

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant.

 

3.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw sylwadau wedi eu derbyn.

 

4.

Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid

I graffu ar ganfyddiadau Adroddiad Arolygu'r Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Chesney Chick wedi rhoi trosolwg byr o’r adroddiad arolwg ac wedi ateb cwestiynau'r Aelodau gyda Jane Rodgers.

Her:

Nid yw’n ymddangos bod llawer o bwyslais yn yr adroddiad ar waith ataliol  a gwn eich bod wedi derbyn grant o tua £170k gan Lywodraeth Cymru. A oes yna wybodaeth am sut y mae’r arian wedi ei wario gan nad wyf yn medru gweld hynny yn yr adroddiad.  

Ni fyddai hyn wedi ei gynnwys yn yr adroddiad hwn sydd yn statudol ei natur; fodd bynnag, rydym wedi newid y ffordd y mae’r Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid yn gwneud ei waith  ac mae yna fwy o bwyslais ar waith ataliol yn hytrach na’r cyfrifoldebau statudol yn unig, ac mae cyfran sylweddol o arian wedi ei roi i ni er mwyn medru gwneud hyn. Rydym yn teimlo bod ansawdd y gwasanaeth yr ydym yn darparu yn dda iawn ond mae dal yn bosib gwneud gwelliannau.

O ran yr arolwg a gynhaliwyd dros y ddwy sir yn Nhorfaen a Sir Fynwy, a yw’r arolwg wedi ei gynnal yn gydradd rhwng y ddwy sir neu wedi ffocysu’n fwy ar un ardal, ac felly’n methu rhoi’r darlun cyflawn i ni?    

Mae yna dueddiad i rannu hyn 60:40, gan ffafrio Torfaen, ond cynhaliwyd yr adolygiad mewn modd da.  

Roedd llywodraethiant ac arweinyddiaeth yn bryder o ran y broses anwytho, presenoldeb y cyfarfodydd bwrdd a’r datgysylltiad rhwng yr aelodau bwrdd a’r staff rhengflaen, gydag argymhellion wedi eu gwneud. Pa mor hir fu’r problemau yma ac a yw popeth wedi ei ddatrys erbyn hyn? 

Mae’r aelodau etholedig wedi newid gydag ychydig o addasu ers cyfnod Covid. Roedd yna gyfnodau yn ystod y pandemig pan oedd Aelodau’r Bwrdd yn methu mynychu  ond bydd hyn yn cael ei flaenoriaethu wrth i ni symud ymlaen. Rhaid i’r cydweithwyr iechyd fynychu sawl cyfarfod bwrdd a dyna oedd un o’r rhesymau dros hyn. Mae’r Cadeirydd newydd yn brofiadol iawn ac mae ganddo gefndir yn y gwasanaeth a gobeithio bod hyn yn rhoi sicrwydd i chi. 

Un o’r pethau sydd yn ymwneud gyda llywodraethiant ac sydd wedi ei gydnabod yw bod llawer o ddogfennau a gweithdrefnau gennym ond nid ffordd o weithio wydd yn dwyn hyn ynghyd, ac rydym yn gweithio ar hyn. 

 

Rwy’n bryderus fod merched yn gyfrifol am 28% o achosion y gwasanaeth sydd yn ddwywaith y ffigwr cyfartalog ar gyfer Lloegr a Chymru. Gan fod 61% o’r staff yn ferched a dau draean o’r gwirfoddolwyr yn ferched, roedd yn rhyfedd fod yr arolwg yn nodi’r angen i ddatblygu strategaeth er mwyn diwallu anghenion merched sydd wedi ei oruchwylio gan y gwasanaeth.

O ran yr ystadegau ar ferched, mae mwy o wybodaeth gennym nawr na chynt ac mae’r patrwm yma wedi dod i’r amlwg dros y 6 mis diwethaf. Cyn yr arolwg, nid oedd y data yma gennym, ac nid oeddem wedi cadarnhau’r rhesymau am hyn, ond mae’n deg dweud nad yw hyn yn nifer uchel o unigolion ond mae’r darlun yn edrych yn waeth wrth i ni ddefnyddio canrannau.  Rydym yn sylwi bod  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Blynyddol: Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol pdf icon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd wedi gofyn i’r Prif swyddog i ateb unrhyw gwestiynau a oedd heb eu hateb ac wedi eu rhannu cyn y cyfarfod, a hynny’n dilyn y sesiwn graffu flaenorol. 

Her:

Faint yw’r gost ar gyfer y lleoliadau mwyaf costus?

Byddai’r rhain yn amrywio rhwng  £1,000 yr wythnos a £8,000 yr wythnos.

A ydynt wedi eu hariannu gan ddwy ran neu tair rhan?

Ar hyn o bryd, mae 3 lle wedi ei ariannu’n ddwy rhan, y naill gan iechyd a’r llall gan addysg. 

Faint o’r rhain sydd yn y bracedi cost uchaf?

33 ar hyn o bryd ond mae’n amrywio.

Pwy sydd  ynddynt? A oes diagnosis ganddynt? A ydynt wedi eu gorchymyn gan y Llysoedd a/neu'n wybyddus i’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid?

Mae pob un heblaw 2 mewn lleoliad addysg ar orchmynion statudol. Mae anghenion y plant  naill ai yn anableddau cymhleth neu’n drawma cymhleth / trafferthion ymlyniad. Mae lleiafrif bach yn wybyddus i’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ond nid oes unrhyw blant mewn lleoliadau lle mai’r peryg  o droseddu yw prif reswm am fod y plentyn angen bod mewn gofal.

Rwy’n poeni am y costau hirdymor a’r strategaethau sydd gennych mewn hinsawdd ariannol anodd.  

Byddwn yn blaenoriaethu recriwtio gofalwyr maeth mewnol ond mae’n ymwneud gyda sicrhau bod y gofalwyr maeth yr ydym yn datblygu yn datblygu eu sgiliau fel eu bod yn medru gofalu am blant mwy cymhleth. Dyma un o’n ffyrdd o osgoi gorfod defnyddio lleoliadau costus ac rydym am weld ein plant yn byw yn Sir Fynwy. Mae 4 cartref gennym sydd yn cael eu datblygu ond mae hyn yn cymryd amser. Ar lefel ranbarthol,  rydym yn ymgysylltu gyda phartneriaid yng Ngwent er mwyn ehangu’r ddarpariaeth rhanbarthol. Wrth wraidd hyn oll, rydym angen mwy o ofalwyr maeth. Cam Gweithredu: Jane i ddanfon gwybodaeth ar ofalwyr maeth i’r Rheolwr Craffu er mwyn rhannu hyn ymhlith Aelodau i godi ymwybyddiaeth yn y gymuned.

Gan gydnabod bod rhai o’r achosion yn gymhleth iawn, rwy’n bryderus fod angen i ni sicrhau eu bod yn medru delio gyda’r achosion yma
Ydym - rydym yn ofalus iawn o sut ydym yn paru plant gyda gofalwyr maeth, ac yn y pendraw, nhw sydd i ddewis a byddwn yn eu cefnogi.   

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch i chi am ddod ac ateb y cwestiynau a oedd heb eu hateb.   

 

 

6.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 377 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i ohirio’r Strategaeth Rhianta Corfforaethol tan 28ain Chwefror a gweithio ag eraill o ran amseru’r adroddiad seibiant.   

Hysbyswyd y Pwyllgor ei fod wedi derbyn cais gan Gyngor Tref Cas-gwent bod y Pwyllgor Craffu yn adolygu’r gwasanaethau ar gyfer mân anafiadau. Cytunodd y Pwyllgor i aros am drafodaeth yn y dyfodol gan y Cyngor Llawn. 

Cytunodd y Pwyllgor i drafod y rhaglen Llinellau Cyffuriau ac Ecsbloetio Plant ar gyfer gweithdy craffu ar gyfer y dyfodol. Cam Gweithredu: Rheolwr Craffu yn ychwanegu at y rhaglen waith.  

 

 

7.

Cynllun Gwaith y Cabinet a'r Cyngor pdf icon PDF 459 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.  

 

 

8.

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 27ain Medi 2022 a'r Pwyllgor Craffu ar y Cyd (Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg a’r Pwyllgor Craffu Pobl) a gynhaliwyd ar 11eg Hydref 2022 pdf icon PDF 490 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion a’u llofnodi fel cofnod cywrain, a chafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd Butler a’i eilio ar gyfer y Cynghorydd Rooke.

 

 

9.

Cyfarfod nesaf - 10 Ionawr 2023