Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Mercher, 20fed Gorffennaf, 2022 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Usk, NP15 1GA and remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Cynghorydd Sue Riley, enwebwyd gan y Cynghorydd Stevens ac eiliwyd gan y Cynghorydd Strong.

Cafwyd rhai sylwadau croesawgar gan y Cadeirydd, gan bwysleisio’r cyfle sydd gan y pwyllgor i lunio gwasanaethau er mwyn gwella bywydau pobl, a chynrychioli pawb.

 

 

2.

Penodi Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Enwebwyd y Cynghorydd Christopher Edwards gan y Cynghorydd Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Bromfield. Enwebwyd y Cynghorydd Angela Sandles gan y Cynghorydd Strong, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Stevens.

Penodwyd y Cynghorydd Sandles yn Is-Gadeirydd, yn dilyn pleidlais.

 

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Powell, Bromfield, Riley a McKenna fuddiant nad oedd yn rhagfarnu fel aelodau o'r Pwyllgor Cynllunio.

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau cyhoeddus.

 

 

5.

Dewis Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr - Ystyried cynnig i asesu addasrwydd tir sy'n eiddo i'r Cyngor at y diben posibl o fynd i'r afael â rhwymedigaeth statudol y Cyngor, er mwyn diwallu'r angen a nodwyd am safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. pdf icon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Bakewell yr adroddiad, gyda sylwadau ychwanegol gan Mark Hand. Atebodd Ian Bakewell a Mark Hand gwestiynau'r aelodau.

Her:

Cymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio safle Teithwyr fis diwethaf – a yw hwnnw wedi ei dynnu oddi ar y 13? A oes unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus cyn y cam cynllunio?

Mae'r safle a grybwyllwyd mewn perthynas â'r Pwyllgor Cynllunio yn ymwneud â theulu na chafodd ei adnabod fel rhan o broses yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr. Nodwyd drwy’r broses fod angen 13 safle.  Felly, gall nifer y teuluoedd newid, a bydd adolygiad yn 2025. Mae’r nifer hefyd yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch sut y bydd teuluoedd yn tyfu erbyn 2033. Felly, mae rhywfaint o hyblygrwydd ond dyma'r broses orau a fwyaf derbyniol.

Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal fel rhan o'r broses o hidlo safleoedd, dan arweiniad y tîm Tai, a byddant yn edrych ar ba safleoedd sydd ar y rhestr fer a sut y gallai’r safleoedd dan sylw gyd-fynd â'r CDLl. Yr ail gam yw sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y CDLl, fel proses statudol. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar hynny ynghyd â holl agweddau eraill y cynllun. Mae'r trydydd cam ar lefel cais cynllunio. Unwaith y bydd pethau wedi'u trefnu o fewn y cynllun, bydd yn ddogfen y cytunwyd arni gan y cyngor felly dim ond  cadarnhau manylion penodol am y safle fydd angen ei wneud yn ystod y cam olaf.

Mae 13 llain wedi'u cynnig, ar gyfer yr 13 sydd eu hangen. A fu unrhyw elfen o ddewis gan y gymuned ei hun?

Mae cymaint o hyblygrwydd â phosibl wedi'i gynnwys - nid ydym eisiau dewis safle yn fympwyol ac yna ddweud wrth y teulu. Nifer gymharol fach o deuluoedd sydd, felly rydym yn eu hadnabod ac yn adnabod eu anghenion yn dda. Yr hyn sy’n bwysig yw ceisio cymryd cymaint o hyn ag sy’n bosibl i ystyriaeth wrth symud ymlaen, er mwyn sicrhau nad oes syndod na siom ar ddiwedd y broses. Gan ein bod yn dechrau o'r dechrau, mae cyfle i gynnwys y teuluoedd wrth ddatblygu safleoedd.

Bydd y gymuned yn cymryd rhan, a bydd Trudy Aspinall, yr Arweinydd ar gyfer Teithio Ymlaen, yn siarad ar eu rhan?

Bydd. Gofynnodd Trudy i ni ddatgan heddiw ei bod yn hapus i fod yn rhan ac i eirioli, gan hwyluso ymgysylltiad cymunedol, ond nad yw'n gynrychiolydd uniongyrchol.

Beth yw sefyllfa bresennol y teuluoedd – sut maent yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd?

Nid oes modd i ni ateb yn uniongyrchol ar hyn o bryd. Mae’r teuluoedd yn annibynnol, ond gwyddom fod angen mynediad at gyfleusterau iechyd penodol arnynt, mae rhai o’r plant yn mynychu ysgol gyfun ym Mhont-y-p?l, mae un yn gweithio yn ardal Brynbuga, ac ati. Byddem yn disgwyl i'r teuluoedd roi adborth i ni am eu sefyllfa a'u hanghenion, er mwyn ein galluogi i’w cymryd i ystyriaeth.  Y peth pwysig i ni yw gwrando ac ymateb yn yn y modd priodol.

O ran sefyllfa ffisegol y teuluoedd, mae  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Blaenraglen Waith - Ystyried Adroddiad y Flaenraglen Waith a nodi meysydd i graffu arnynt yn y dyfodol, ac wrth wneud hynny, cytuno ar Flaenraglen Waith ddrafft. pdf icon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hazel Ilett yr adroddiad. Cynigiodd yr Aelodau y pynciau a ganlyn:

·         Cludiant o'r cartref i'r ysgol

·         Amseroedd aros ar gyfer cleifion y GIG

·         Datblygu'r gweithlu: y polisi ynghylch y bwlch o ran rhyddhau cleifion o'r ysbyty a gofal cymdeithasol

·         Diogelu Plant: faint o blant sy'n cael eu diogelu rhag esgeulustod, a pha wasanaethau ataliol y gellid eu hychwanegu i leihau'r nifer hwnnw

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae amseroedd aros ar gyfer cleifion y GIG yn fwy perthnasol i’r pwyllgor Gwasanaethau Cyhoeddus. Cytunodd yr aelodau i gael trafodaeth gyda PS mewn gweithdy ar y cyd ar y mater. O ran Gofal Cymdeithasol, bydd y Pwyllgor Perfformiad a Throsolwg yn craffu ar adroddiad y Prif Swyddog, a chynigir bod cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal ym mis Hydref i'w drafod; byddai croeso i aelodau’r pwyllgor hwn, a gobeithio y byddai llawer o’u cwestiynau’n cael eu hateb yno.

Cytunwyd ar gludiant ysgol ac Amddiffyn Plant ar gyfer y 27ain o Fedi.

 

 

7.

I gadarnhau'r cofnodion canlynol:

Cofnodion:

·         8a. Pwyllgor Dethol Oedolion dyddiedig 2 Mawrth 2022.

·         8b. Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc dyddiedig 3 Mawrth 2022 .

Nodwyd y cofnodion, gan nad oedd yr un o'r aelodau yn bresennol yn yr un ohonynt ac eithrio'r Cynghorydd Powell.

 

 

7a

Pwyllgor Dethol Oedolion dyddiedig 2 Mawrth 2022. pdf icon PDF 487 KB

7b

Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc dyddiedig 3 Mawrth 2022. pdf icon PDF 616 KB

8.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Mawrth 27 Medi 2022 am 10.00am.

Cofnodion:

Roedd yn well gan yr aelodau newid yr amser i 10.00am.