Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
Ethol Cadeirydd.
Cofnodion:
Etholwyd y Cynghorydd Lucas - cynigiwyd hyn gan y Cynghorydd
Dymock ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Brown.
|
2. |
Penodi Is-Gadeirydd.
Cofnodion:
Etholwyd y Cynghorydd Dymock - cynigiwyd hyn gan y Cynghorydd
Brown ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Davies.
|
3. |
Datganiadau o Fuddiant
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd Brown fuddiant nad oedd yn rhagfarnu
oherwydd ei fod yn gwirfoddoli yng Nghas-gwent gyda Chysgodfa Nos
Eglwysi Ynghyd.
|
4. |
Fforwm Agored i'r Cyhoedd.
Cofnodion:
Siaradodd aelod o’r cyhoedd am y
ddeiseb gyntaf a gyflwynwyd heddiw, ar adfer lloches nos yn
Nhrefynwy.
Darllenwyd llythyr gan aelod o'r cyhoedd gan y Rheolwr Craffu
Hazel Ilett, ynghylch Lôn Goldwire yn Nhrefynwy. Yn dilyn trafodaeth gan yr Aelodau,
cytunwyd i ofyn am ymateb ar y mater gan swyddogion a'r Aelod
Cabinet – CAM GWEITHREDU
|
5. |
Deisebau a dderbyniwyd - i argymell camau gweithredu i'r Cabinet: PDF 133 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
- 6a Adfer lloches nos yn
Nhrefynwy.
- 6b Newid defnydd eiddo manwerthu a masnachol
gwag yng Nghanol Tref Trefynwy.
- 6c Cyflwyno system 'Cylch Ymgysylltu' a
phroses brysbennu
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd y pwyllgor y
dylid cyfeirio Deiseb 6a i'r Cyngor am ddadl lawn. Mae deisebau 6b
a 6c yn gofyn am ymateb ysgrifenedig manwl gan yr Aelod Cabinet a
swyddogion perthnasol o fewn 6 wythnos i'r pwyllgor a'r Deisebydd
Arweiniol. – CAM GWEITHREDU
|
6. |
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 23/24 Adroddiad Monitro - Craffu cynnydd y Cyngor. PDF 386 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Angela Sandles a
Pennie Walker yr adroddiad ac atebwyd cwestiynau’r
Aelodau:
Pwyntiau allweddol a wnaed gan yr
Aelodau:
- Gofynnwyd a yw’r Cyngor yn bwriadu
parhau i gefnogi prosiect iechyd meddwl gwledig Mind, gyda’r
ffrwd ariannu wedi dod i ben ar 31ain Mai. – CAM
GWEITHREDU: swyddogion i ddod yn ôl gyda chynlluniau ar gyfer
y flwyddyn nesaf
- Dywedodd aelod fod siaradwyr Cymraeg yr
awdurdod yn parhau i fod ar eu colled o ran gallu sgwrsio yn eu
hiaith gyntaf wrth ymwneud â'r Cyngor, a bod Sir Fynwy ar ei
hôl hi o'i gymharu ag awdurdodau eraill yn hyn o
beth.
- Yn enwedig yn y sefyllfa lle byddai
preswylydd yn galw gyda mater cymhleth, dadleuwyd bod angen i'r
Cyngor wneud mwy o gynnydd o ran cael gallu mewnol yn y Gymraeg, yn
benodol drwy recriwtio’n well.
- Yngl?n â chyfleoedd gwaith i bobl
anabl, gofynnwyd a oedd hyn yn cynnwys gweithio hyblyg a dewisiadau
rhan amser.
- Awgrymwyd defnyddio'r nodweddion
gwarchodedig gwirioneddol o'r Ddeddf Cydraddoldeb yn yr adroddiad
yn lle termau generig megis rhyw a hil, a chynnwys y ddyletswydd
economaidd-gymdeithasol hefyd.
- Gofynnwyd faint o sefydliadau dyled sydd
wedi cael eu cefnogi gan y Cyngor i oresgyn anghydraddoldebau o ran
mynediad at ffyniant economaidd ac ymdrin â thlodi
plant.
- Pwysleisiwyd pwysigrwydd peidio â
datblygu hierarchaeth o nodweddion gwarchodedig a'u hystyried i gyd
yn gyfartal.
- Croesawyd rheolwr Cydraddoldeb a'r Gymraeg
newydd a diolch iddi am y gwaith y mae'n ei wneud dros yr
anabl.
- Cynigiwyd bod sefyllfa Aelodau o deuluoedd y
lluoedd arfog a chyn-filwyr yn cael ei gynnwys mewn gwaith
cydraddoldeb yn y dyfodol, yn benodol mewn asesiadau effaith
integredig.
- Gofyn, fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd,
beth rydym yn ei wneud i gyrraedd Lefel 3.
- Holwyd am gynlluniau'r dyfodol ar gyfer y
fenter Adeiladu Teuluoedd Cryfach.
- Gofynnwyd pa rwystrau posibl a ragwelir wrth
gyflawni’r cynlluniau a’r amcanion, a sut y gellir
addasu’r cynllun mewn amgylchiadau heriol e.e. pandemig yn y
dyfodol.
- Nodwyd pa mor bwysig yw hi i’r rhai yr
effeithir arnynt gael mecanwaith i weld sut y bydd y cynllun hwn yn
eu cefnogi, gan ofyn sut y byddwn yn derbyn adborth gan unigolion
ar weithrediad y cynllun a monitro ei gynnydd.
- Mynegwyd pwysigrwydd meithrin perthynas dda
rhwng y rhai sy'n rhannu nodwedd warchodedig, a chytuno na ddylai
fod unrhyw hierarchaeth rhwng nodweddion gwarchodedig.
- Nodwyd bod annog pobl anabl i mewn i waith
yn bwysig iawn ond er mwyn gwneud hynny mae angen cefnogi gofalwyr
hefyd ond mae gwasanaethau cefnogol wedi eu torri, felly mae'n
anodd iawn iddynt.
- Mynegwyd pryder bod gan Sir Fynwy boblogaeth
sy’n heneiddio ac eto mae yna awydd tuag at wasanaethau
digidol – ni ddylem adael pobl ar ôl, ac felly mae
angen ffordd i bobl ryngweithio â’r Cyngor heb fod
angen gwasanaethau digidol i wneud hynny. Mae angen ystyried y rhai
sydd â nam ar y synhwyrau hefyd.
Crynodeb y Cadeirydd:
Rhoddwyd diolch i’r Aelod Cabinet a
Pennie Walker am yr adroddiad ac am fynychu heddiw. Rydym wedi
ymdrin â nifer ...
view the full Cofnodion text for item 6.
|
7. |
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Rhestr o Gamau Geithredu'r Pwyllgor Craffu Lle. PDF 478 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y pwyllgor i newid amser rhagosodedig y cyfarfodydd o
10am i 2pm – CAM GWEITHREDU
|
8. |
Cynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet. PDF 478 KB
|
9. |
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 276 KB
Cofnodion:
Gofynnodd Aelod am y fersiwn mwy cryno o'r
cofnodion sy'n cael eu cynhyrchu. Ailadroddodd y Rheolwr Craffu,
gyda thrawsgrifiadau llawn a recordiadau ar gael ar wahân,
fod y cofnodion yn bennaf yn cyfleu bod y cyfarfod wedi ei gynnal,
yn nodi unrhyw argymhellion neu gamau i'w cymryd, ac yn cofnodi'r
hyn a drafodwyd - gyda'r cyfrifoldeb ar gasglu'r her gan yr
Aelodau, yn unol â chais yr archwilwyr.
Cadarnhawyd y cofnodion, cynigwyd gan y Cynghorydd Dymock ac
eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Strong.
|
10. |
Cyfarfod Nesaf: 24ain Gorffennaf, 2024 am 4.30pm.
Cofnodion:
24ain
Gorffennaf, 2024 am 4.30pm.
|