Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Lle - Dydd Mercher, 19eg Ebrill, 2023 2.00 pm

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Davies ddatganiad o fuddiant personol mewn perthynas â’r ddeiseb yn eitem 4, gan ei fod yn cael ei gyflogi gan gwmni pecynnau y gellir eu compostio.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Siaradodd y prif ddeisebwr, Ffion Maidment Cardenas, am y ddeiseb yn eitem 4.

 

3.

Deiseb: Bagiau Plastig Untro – Cytuno a ddylid cyfeirio hyn at y Weithrediaeth neu’r Cyngor Llawn ar gyfer gweithredu. pdf icon PDF 342 KB

Cofnodion:

Cytuno a ddylid cyfeirio at y Weithrediaeth neu’r Cyngor llawn ar gyfer gweithredu. Cyflwynodd y Cynghorydd Lucas y ddeiseb. Cytunodd y pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb at yr Aelod Cabinet, Catrin Maby.

 

4.

Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn – Ar gyfer Aelodau fel bod modd llywio’r gwaith o fynd ymlaen i gam nesaf y Gorchymyn drafft. pdf icon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths gyflwyniad i’r adroddiad. Cyflwynodd Huw Owen yr adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda David Jones.

 

Her:

 

Gallwn basio deddfau a sefydlu dirwyon ond gorfodi a dulliau gorfodi yw'r her bob amser o ran cael effaith.

 

Mae'r broses Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ei hun yn ddefnyddiol o ran atgoffa'r cyhoedd am godi gwastraff, ble i fynd â'u c?n, ac ati. Os byddwn yn cyhoeddi unrhyw ardaloedd sy’n eithrio c?n ar dennyn, bydd arwyddion priodol yn cael eu gosod. Un opsiwn o ran gorfodi yw rhannu awdurdodiadau ar draws nifer o gyfarwyddiaethau/adrannau. Mae gennym hefyd swyddogion gorfodi parcio sy'n patrolio meysydd parcio ac ati yn rhagweithiol; rydym eisoes yn trafod a oes modd eu hawdurdodi. Bydd yr adolygiad o ollwng sbwriel a thipio anghyfreithlon yn mynd i'r afael â'r maes hwn hefyd, gan ei fod yn ymwneud â hysbysiadau cosb benodedig a swyddogion cymorth cymunedol, yn benodol. Mae swyddogion hefyd yn gweithio ar wybodaeth o ran dilyn cwynion, yn enwedig gan fod perchnogion yn tueddu i gerdded eu c?n yn yr un mannau.

 

Sut fyddai'r rheolaethau newydd yn effeithio ar ymddiriedolwyr tir? Er enghraifft, mewn perthynas â'r tir yng Nghil-y-coed. Y Cyngor Tref yw’r ymddiriedolwr ar ei gyfer, ac mae’r tir yn cynnwys parc chwarae a chae chwaraeon.

 

Fel y nodwyd yn Argymhelliad 2.3, rydym wedi anfon gohebiaeth at bob cyngor tref a chyngor chymuned, yn nodi'r ardaloedd sy’n cael eu cynnig fel ardaloedd eithrio c?n ar dennyn ac ardaloedd eithrio c?n ar gyfer pob cyngor. Gallant gysylltu’n ôl gyda ni os oes ganddynt unrhyw bryderon neu gwestiynau. Gallai hyn fod yn yn berthnasol o ran y tir yng Nghil-y-coed, yn yr achos hwnnw. Bydd y manylion hynny yn cael eu hystyried fesul achos. Os yw ardal benodol, megis parc, wedi'i chynnwys mewn PSPO, mae torri’r rheolau a fydd yn cael eu cytuno’n drosedd. Y tu hwnt i hynny, ni ddylai hyn effeithio ar reolaeth yr Ymddiriedolaeth o’r tir.

 

A fyddai hawl gan swyddog i roi tocyn ar dir ymddiriedolwr? Mae rhai perchnogion yn diystyru'r arwyddion yng Nghil-y-coed, gan arwain at broblemau mawr gyda'r cae. Mae'r Heddlu wedi dweud na ellir gwneud unrhyw beth heb is-ddeddf. Ble fyddai is-gyfraith yn dod i rym, os o gwbl?

 

Bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn nodi'r union feysydd sy'n cael eu cynnwys, ar wefan y Cyngor ac ar arwyddion penodol yn yr ardal dan sylw. Felly, fe ddylai'r rheolau fod yn gwbl glir i unrhyw un sy'n mynd i mewn i ardal, ac felly mae goblygiadau adnoddau yn yr adroddiad o ran arwyddion.

 

O ran gorfodi, a oes mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael? Faint o swyddogion awdurdodedig sydd yn y sir? Beth yw'r gyllideb ar gyfer gorfodi?

 

Ar hyn o bryd, mae'r swyddogion awdurdodedig yn gweithio ar draws adrannau Iechyd yr Amgylchedd a'r adran Gwastraff a Glanhau Strydoedd, ar gyfer y gorchymyn dynodi sydd yn ei lle ar hyn o bryd, yn ogystal â'r Ddeddf Baeddu Tiroedd. Mae'n  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Dyluniad Stryd Monnow – Craffu’r dyluniad arfaethedig ar gyfer Stryd Monnow ar ôl ymgysylltu ac ymgynghori gyda’r gymuned. pdf icon PDF 472 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths gyflwyniad i’r adroddiad. Cyflwynodd Daniel Fordham yr adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda Claire Sullivan.

 

Her:

 

Mewn gwirionedd, mae ffordd drwodd i geir yn ran bwysig o Drefynwy, yn enwedig os bydd rhywbeth yn digwydd e.e. pan fydd angen i gerbydau brys gael mynediad i ardaloedd. Felly mae cael llwybr arall ar gyfer ceir yn bwysig.

 

Un o elfennau craidd y cynnig hwn yw bod angen i Drefynwy sicrhau fod traffig yn parhau i lifo am yr union reswm hwnnw e.e. pan fydd y ffordd ddeuol ar gau. Felly, nid yw'n cael ei wneud yn ardal i gerddwyr yn unig, nid ydym yn creu gofod a rennir, felly bydd Stryd Monnow yn gallu cymryd yn union yr un faint o draffig ag y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid yw'r sefyllfa bresennol yn berffaith, a phan fydd un o'r ddau lwybr wedi'i rwystro mae'n achosi problemau mewn mannau eraill, ond nid yw'r cynigion yma’n cael effaith negyddol y sefyllfa bresennol.

 

Onid oes gormod o groesfannau e.e. un bob ochr i'r orsaf fysiau?

 

Mae nifer y croesfannau wedi bod yn destun trafodaethau lu. Roedd mwy mewn fersiynau cynharach o'r dyluniad, felly rydym wedi cymryd rhai allan ac wedi ceisio dod o hyd i gydbwysedd h.y. peidio â rhoi gormod o groesfannau ar y stryd ond sicrhau, pan fydd rhywun eisiau croesi, eu bod yn gallu gwneud hynny’n gyfleus ac yn ddiogel gerllaw. Efallai nad yw’r cydbwysedd yn berffaith eto ond dyma’r trywydd yr ydym yn ei ddilyn.

 

Mae pryder y bydd y ffordd gerbydau hyd yn oed yn gulach nag y mae ar hyn o bryd, gan fod bysiau’n cael trafferth troi i mewn i Stryd Monnow  yn barod . Does dim ond angen i un person barcio'n wael ac mae hynny’n achosi problem. A fyddai'r newid i'r mannau croesi ger y Robin Hood yn ei gwneud hi'n rhy gul ar gyfer cerbydau mawr?

 

Yn hanesyddol, mae ffordd gerbydau Monnow Street wedi bod yn llydan iawn - pe byddai stryd fel hon yn cael ei hadeiladu heddiw, byddai'n llawer culach. Ni fyddai hynny'n effeithio ar ei gallu i sicrhau y gall traffig lifo trwyddi.  Y lled arfaethedig yw 6.3 metr, sy'n dal yn fwy na digon llydan i ddau Gerbyd Trwm neu fws basio ei gilydd. Gan fod bysiau’n gadael o'r orsaf fysiau, a'r gornel wrth y Robin Hood, mae'r dylunwyr wedi tracio’r rhain er mwyn sicrhau y gall cerbydau mawr wneud y tro hynny. Os bydd y dyluniad hwn yn mynd rhagddo byddem yn ailedrych ar y gwaith tracio yma yn ystod y cam dylunio manwl er mwyn cadarnhau y gellir symud yn y modd hwn.

 

Os yw'r lleoedd parcio yn mynd i mewn ar yr onglau y maent ar hyn o bryd - er mai dim ond rhai dros dro ydynt - bydd hyn yn annog pobl i fynd i mewn i leoedd nad ydynt yno mewn gwirionedd. Felly mae angen edrych ar hynny.

 

Mae gan gerbydau sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Lle a’r Rhestr o’r Camau Gweithredu. pdf icon PDF 373 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd aelod a ellid ychwanegu adroddiad yngl?n â’r tîm Gwella Cymunedau i’r rhaglen waith – CAM GWEITHREDU

 

7.

Blaenraglen Waith y Cabinet a’r Cyngor. pdf icon PDF 328 KB

8.

Cadarnhau’r cofnodion canlynol:

8a

Cyfarfod Arferol o’r Pwyllgor Craffu Lle ar 12fed Ionawr 2023. pdf icon PDF 491 KB

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Pwyllgor y cofnodion

 

8b

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Lle ar 2ail Chwefror 2023. pdf icon PDF 410 KB

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Pwyllgor y cofnodion

.

 

9.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Iau 25ain Mai 2023 am 10.00am.

Cofnodion:

Thursday 25th May 2023 at 10.00am.