Agenda and draft minutes

Pwyllgor Dethol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Dydd Llun, 11eg Rhagfyr, 2023 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd Frances Taylor fuddiant nad oedd yn rhagfarnu fel un o sylfaenwyr gr?p Magwyr Walkway.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud); neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o'n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i'r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk.Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

Cofnodion:

Dim

 

3.

Craffu cyn penderfynu ar y Cynllun Trafnidiaeth Strategol pdf icon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Catrin Maby yr adroddiad. Rhoddwyd y cyflwyniad gan Debra Hill-Howells ac atebodd gwestiynau’r aelodau gyda Christian Schmidt, Mark Hand a Nicholas Tulp. 

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor:? 

 

·        Mae'r ddarpariaeth bresennol mewn rhai ardaloedd yn annigonol. Ni allwn newid arferion pobl os nad oes gennym ddewisiadau eraill ar eu cyfer ee nid yw maes parcio Twnel Hafren yn hygyrch iawn

·        Nid yw'r rhwydwaith Teithio Llesol yng Nghil-y-coed wedi dychwelyd at Aelodau er mwyn trafod materion sy'n weddill, felly ni theimlir bod y cam gweithredu “wedi’i gwblhau”  

·        A ellir pwysleisio effaith gadarnhaol prosiect y B4245 ar gylchfan High Beech i Lywodraeth Cymru? 

·        Sut y gellir cynorthwyo'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol i gael mynediad i'r ymgynghoriad? 

·        Sut mae’r Asesiad Llesiant yn cael ei asesu? 

·        Gallai rhai o gwestiynau’r ymgynghoriad a’r opsiynau ymateb fod yn well o ran ymgysylltu â’r cyhoedd ac efallai nad cyfnod y Nadolig yw’r amser mwyaf priodol ar gyfer ymgynghoriad. 

·        Hoffai'r Aelodau gael mwy o eglurder ynghylch yr amserlenni mewn perthynas â camau gweithredu sy'n gysylltiedig â gorsaf rhodfa Magwyr a Gwndy. 

 

·        Mae Aelodau’n betrusgar ynghylch rhai o’r mesurau teithio llesol sy’n ymwneud â’r orsaf, er enghraifft, cyrbiau isel.  (CAM GWEITHREDU): - Swyddogion i ddarparu mwy o wybodaeth am ymyriadau. 

·        Pryder na all y gwelliannau i fysiau i gylchfan High Beech ddigwydd heb lôn fysus bwrpasol. Pryderon ynghylch lonydd amrywiol ar ffyrdd cyswllt yn gyffredinol. 

·        Pryder pe byddai gorsaf fysiau Cas-gwent yn cael ei symud, efallai na fyddai’r National Express yn aros yng Nghas-gwent mwyach. 

·        Pryderon y bydd gwefru cerbydau trydan ar y stryd yn anos mewn trefi h?n a phryder ynghylch a oes gennym ni’r seilwaith trydan i alluogi hyn i ddigwydd. 

·        Pryder ynghylch cymudwyr o Gas-gwent i Fryste drwy Gyffordd Twnnel Hafren. Terfynau 20mya yn arafu traffig cymudo rhwng Cas-gwent a Bryste.  

·        Dywedodd aelod nad oedd y gr?p lobïo Trawsnewid Cas-gwent wedi gwahodd cynghorwyr lleol i'w trafodaethau, felly mae'n bosibl y bydd pethau ychydig yn ddarniog.   

·        Pryderon cyffredinol ynghylch hygyrchedd platfformau bysiau a chyrbau isel: Enghraifft yw Goetre, a Llanofer, sydd ag un cwrb isel yn unig. 

·        Gofynnodd yr aelodau am ragor o wybodaeth am y llwybr arfaethedig trwy Benperllenni, gan nodi cyflogaeth yn y dyfodol ger y safle a mwy o wybodaeth am brosiect Goetre i Lanellen (Cam Gweithredu): Swyddogion i ddarparu.  

·        Cwestiynau am y gwasanaethau bws craidd, gan gynnwys y Rhif 60. 

·        Ymholiadau ynghylch Integreiddio bysiau cyhoeddus a chludiant o'r Cartref i'r Ysgol. 

·        Byddai’r aelodau’n gwerthfawrogi gwybodaeth am orsaf New Inn/Pont-y-p?l ac a fydd cyswllt bws i Frynbuga neu peidio (Cam Gweithredu): Swyddogion i ddarparu. (Cam Gweithredu). Swyddogion i ddarparu. 

·        Pryder nad yw Brynbuga yn cael ei hystyried yn dref allweddol yn y cynllun. 

·        Cerbydau danfon ar ffyrdd: dywedodd Aelod fod angen i drigolion newid i ddefnyddio siopau lleol a mannau codi. 

·        Trefynwy: pryder nad oes trenau, ac nad yw National Express yn stopio yno ac a ellid gwneud unrhyw gynnydd ar hyn.  

·        Teimlad nad oes anogaeth i bobl ddefnyddio bysiau, gan eu bod yn  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar: pdf icon PDF 571 KB

19eg Mehefin 2023

3ydd Hydref 2023

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd y cofnodion gyda chywiriad mewn perthynas â phenodi Is-Gadeirydd ar 19eg Mehefin 2023, y tynnwyd sylw ato gan y Cynghorydd Penny Jones (CAM GWEITHREDU). 

 

5.

Blaenraglen Waith a Rhestr Weithredu’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus pdf icon PDF 385 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae diweddariad ar Wasanaethau Deintyddol wedi'i anfon at yr aelodau a gall yr Aelodau gysylltu â'r swyddog yn uniongyrchol gydag unrhyw ymholiadau yn y dyfodol. Cyfeiriodd yr aelodau at rai pryderon nad ydynt wedi’u datrys o ran recriwtio deintyddion a gwasanaethau ar gyfer y rheiny sy'n gadael gofal.  

 

Amlygodd y Rheolwr Craffu fod y Pwyllgor wedi cyflwyno'r holl eitemau a awgrymwyd gan yr Aelodau, ond bod rhai pynciau yn weddill ar restr y rhaglen waith efallai y byddai’r Pwyllgor ddymuno eu cyflwyno mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Cytunwyd ar hyn.  

 

Soniodd yr aelodau am fynediad at blismona yn y gymdogaeth fel pryder allweddol a gofynnwyd a ellid gwahodd yr arolygydd newydd i'r cyfarfod nesaf. 

 

 

6.

Cynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet pdf icon PDF 430 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun.

 

7.

I nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf: 19eg Chwefror 2024