Agenda and minutes

Fforwm Mynediad Lleol - Dydd Mawrth, 11eg Gorffennaf, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Room P4 - County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA. View directions

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb / Cyflwyniadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan aelodau: John Askew, Cyng Ben Callard, Sylvia Fowles, Mark Storey, Martin Sweeney.  Rhoddwyd hefyd ymddiheuriadau gan Paul Keeble, Cyngor Sir Fynwy a Sarah Tindal, Cyfoeth Naturiol Cymru. Croesawodd AU yr aelodau i’r cyfarfod. Fe wnaeth aelodau a sylwedyddion eu cyflwyno eu hunain.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau buddiant.

 

3.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion cyfarfod Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy ar 3 Mawrth 2023 (atodir). pdf icon PDF 139 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mai 2023 (cynigiwyd gan PM ac eiliwyd gan SL).

Mewn ymateb i gwestiynau rhoddodd RER ddiweddariad i aelodau ar gynnydd y prosiect Llwybrau i Gymunedau gyda Ramblers Cymru. Llofnodwyd Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Ramblers Cymru a’r Cyngor Sir a chylchredwyd galw am weithredu a datganiadau buddiant gan gymunedau.

Cadarnhaodd RER fod y prosiect yn cynrychioli adnoddau ychwanegol, drwy’r Grant Gwella Mynediad, yn ychwanegol at y gefnogaeth bresennol ar gyfer gweithredu cymunedol a gwirfoddol, drwy’r swyddog Cysylltiadau Cymunedol a’r tîm ehangach. Byddai hyn yn ychwanegu at, ac yn ategu, y cymorth sydd eisoes yn ei le drwy ddarparu cymorth ychwanegol mewn tair cymuned hyd at fis Mawrth 2025 (diwedd yr ymrwymiad Grant Gwella Mynediad blynyddol 3-blynedd cyfredol gan Lywodraeth Cymru).

 

4.

Strategaeth Mynediad Hamdden Integredig Dyffryn Gwy Isaf (Nickie Moore, Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy)

Cofnodion:

Rhoddodd NM ddiweddariad ar gynnydd ar Strategaeth Mynediad Hamdden Integredig Dyffryn Gwy Isaf. Roedd aelodau wedi ystyried y materion yn flaenorol yn ymwneud â defnydd a chyflwr y rhwydwaith mynediad cefn gwlad gyda’r Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol, Yn neilltuol, mae’r rhwydwaith ffyrdd sirol heb ddosbarthiad yn parhau yn achos pryder. Mae’r materion hyn yn gymhleth ac yn ymwneud â chyflwr y llwybrau (sy’n gyffredinol mewn cyflwr gwael iawn o erydiad d?r/d?r ffo o’r tir o amgylch) a’u defnydd.

Mae sgyrsiau rhwng Uned yr Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol a Phriffyrdd a Mynediad Cefn Gwlad Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau bod dull gweithredol strategol i’w ddymuno, yn hytrach na dewis y llwybrau gorau a allai fod yn anodd eu cyfiawnhau yn erbyn llwybrau eraill, a/neu beidio bod mewn gwirionedd yr hyn y mae cymunedau lleol a defnyddwyr eu heisiau neu eu hangen.

Penderfynodd y Fforwm ym mis Rhagfyr 2021 i gefnogi mewn egwyddor y dull gweithredu a gynigir i ddatblygu strategaeth gynhwysol i ddefnyddwyr ar gyfer holl ffyrdd sirol heb ddosbarthiad yn Nyffryn Gwy Isaf a hawliau tramwy cyhoeddus cysylltiedig, yn amodol ar dderbyn manylion pellach.

Mae Uned yr Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol, gyda’i chysylltiadau cryf gyda rhanddeiliaid mewn sectorau lluosog, yn arwain ar hyn ar ôl sicrhau cyllid o raglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru hyd at fis Mawrth 2025.

Bydd y strategaeth yn cynnwys gofynion statudol Cyngor Sir Fynwy fel awdurdod priffyrdd, ond hefyd yn ystyried agendâu effeithiau newid hinsawdd, adferiad natur, treftadaeth, twristiaeth a theithio llesol, a chyd-destun Cynllun Rheoli yr Ardal Harddach Naturiol Eithriadol.

Gan weithio gyda tîm Caffael Cyngor Swydd Henffordd (HC yw trysorydd Uned yr Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol), bu’r broses Gwahoddiad i Dendro yn llwyddiannus. Dyfarnwyd y contract i gwmni ymgynghorol Tomorrow’s Tourism i arwain ar ddatblygu Strategaeth a Chynllun Gweithredu Mynediad Hamdden Integredig.

Mae gan Tomorrow’s Tourism wybodaeth fanwl o dwristiaeth, hamdden ac ymgynghori effeithiol a’r dulliau arbenigol i helpu esbonio a chyflwyno’r materion mewn ffordd gadarn ac maent yn cydweithio gyda:

                          XV Insight, cwmni arbenigol profiadol mewn ymgynghori ac ymchwil

                  Landsmith Associates, penseiri tirwedd gydag arbenigedd mewn seilwaith gwyrdd

                  bydd cwmni sy’n aelod o IPROW hefyd ar y tîm i ddelio gyda phob mater technegol yn gysylltiedig â hawliau tramwy

                  byddir yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr mewn risg llifogydd a hydroleg pan fo angen.

Bydd y rhaglen yn cynnwys ymgynghoriad manwl gyda’r holl randdeiliaid ac mae gwaith mapio manwl ar randdeiliaid yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Gofynnwyd i aelodau’r Fforwm am eu argymhellion am bwy sydd angen eu cynnwys yn yr ymgynghoriad a gwnaeth aelodau nifer o awgrymiadau.

 

5.

Diweddariad ar Gynlluniau Teithio Llesol

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ysgrifennydd ddiweddariad byr ar gynnydd ar gynigion allweddol ar deithio llesol ym Mharc Gwledig Castell Cil-y-coed/yr hen reilffordd segur sy’n cysylltu ac yn Nolydd y Castell, y Fenni.

Yng nghyswllt Dolydd y Castell, nodwyd y cynhelid sesiwn gyda rhanddeiliaid a wahoddwyd gyda Chyngor Tref y Fenni ddydd Llun 17 Gorffennaf. Ar ôl trafodaeth cafodd Jenny Cockitt ei henwebu gan y Fforwm i fynychu ar ei ran. Caiff sesiwn agored i’r cyhoedd yn swyddfeydd Cyngor Tref y Fenni hefyd ei chynnal ddydd Mawrth 18 Gorffennaf, 10:00-1:00pm.  Dywedodd yr ysgrifennydd y byddai’n cylchredeg y manylion hyn a dolenni i dudalen cwestiynau ac atebion ar y wefan yn ymwneud â Dolydd y Castell a’r tudalennau ar gynlluniau unigol teithio llesol.

Holodd aelodau am y cynnydd ar y llwybr rhannu rhwng Gwndy a Rogiet ac a oedd unrhyw gynnydd gan Lywodraeth Cymru am yr astudiaeth a addawyd ar bont droed i gerddwyr yn Llanelen. Dywedodd yr Ysgrifennydd y byddai’n dilyn lan ar yr ymholiadau hyn.

 

 

 

6.

Diweddariadau Cyfoeth Naturiol Cymru (Bob Campbell, Uwch Swyddog Rheoli Tir, Gweithrediadau De Ddwyrain Cymru)

Cofnodion:

Rhoddodd RC ddiweddariad ar waith rheoli tir a choedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru Gynllun Corfforaethol newydd i gyfeirio ein gwaith tan 2023 a chafodd ei lansio’n ddiweddar.

Mae James Harris wedi ymuno â Tîm Jeffery yn edrych ar ôl coetiroedd yn yr ardal. Mae tannau gwyllt diweddar yn yr ardal wedi mynd â sylw’r tîm fodd bynnag mae’r rhaglen waith arferol yn dal i fynd rhagddi. Mae gwaith sylweddol ar goed ynn yn dod i ben fodd bynnag bydd mân waith yn parhau. Mae gwaith ar hawliau tramwy cyhoeddus ac yn y blaen yn parhau. Gwnaed cysylltiad gyda gr?p cymunedol amlddiwylliannol yng Nghaerloyw; The Friendship Café sy’n defnyddio coetir Dyffryn Gwy ar gyfer llawer o’u gweithgareddau ac sydd â safle marchogaeth yn y dref. Rydym yn edrych i weld sut y gallwn wneud ein coetiroedd yn fwy cynhwysol a’u hagor i ystod ehangach o grwpiau crefyddol a hefyd grwpiau diwylliannol wrth symud ymlaen.

Bydd parth ‘fforio’ newydd gyda ffocws ‘naturiol’ yn Whitestone yn Nyffryn Gwy yn agor i’r cyhoedd ar ddechrau gwyliau’r ysgol.

Mae prosiect porthi rhostir yn Beacon Hill yn mynd yn dda ac os yw’n llwyddiannus, gallai hyn ein galluogi i dynnu tua 4km o ffensio, 5 clwyd a grid gwartheg yn y dyfodol ar y safle tra’n dal i adfer y rhostir.

Ni chynhaliwyd cyfarfod o gr?p llywio Coed Gwent hyd yma, fodd bynnag rydym yn awyddus i gysylltu gyda thirfeddianwyr yn ehangach a bydd yr Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol yn edrych ar ddyfodol y safle yng nghyswllt hamdden a mynediad. Gobeithiwn gysylltu â’r Fforwm i gael cyngor ffurfiol yn fuan unwaith y mae’r gr?p rhanddeiliaid wedi cwrdd.

Gobeithiwn gynnig am gyllid Coedwig Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 24-25 i wella mynediad a hamdden yn ein hardal.

Mae ffocws y rhaglen gweithrediadau coedwig ar reoli clefydau coed, clefyd coed llarwydd ac ynn. Y gweithrediadau arfaethedig fydd yn awr yn dechrau ym mis Medi oherwydd nythu adar a chyfyngiadau gwarchod eraill yw:

·                 Nine Wells (teneuo)

·                 Parc Cas-gwent (tynnu llarwydd)

·                 Melinau Newydd Tryleg (clirio coed wedi cwympo)

·                 Coedwig Fedw (clirio coed wedi cwympo)

·                 Brias Grove (teneuo)

·                 Dwyrain Coed Gwent (teneuo)

Bu nifer o gwynion am y cerrig a ddefnyddiwyd i baratoi ffyrdd coedwig ar gyfer gwaith coedwigoedd yn y dyfodol yn yr ardal, yn bennaf yn Wet Meadow a Beacon Hill ac mae hyn wedi dechrau proses fewnol i werthuso’r potensial i gael dwy fanyleb ar gyfer wynebau ffyrdd gyda gwell deunydd yn cael eu defnyddio ar safleoedd hamdden lle mae llawer o ddefnydd).

 

7.

Recriwtio Fforwm Newydd (atodir adroddiad) pdf icon PDF 194 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr ysgrifennydd y trefniadau arfaethedig ar gyfer recriwtio Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy am y cyfnod nesaf o 3 blynedd gan fod y tymor presennol o apwyntiadau yn dod i ben ar 24 Tachwedd 2023. Mae’n awr angen trefniadau i recriwtio fforwm newydd i sicrhau parhad.

 

Bydd cyfarfod y Cyngor Sir ar 20 Gorffennaf 2023 yn ystyried adroddiad sy’n argymell proses, symlach gobeithio, ar gyfer y broses recriwtio hon ac apwyntiadau yn y dyfodol.

 

8.

Dyddiad y cyfarfod nesaf 2.00pm ddydd Iau 9 Tachwedd 2023 (cyfarfod terfynol y fforwm presennol) Lleoliad i’w gadarnhau

Cofnodion:

2.00pm ddydd Iau 9 Tachwedd 2023 yn Neuadd y Sir, Brynbuga.

 

Diolchodd AU i aelodau am eu presenoldeb.