Agenda and minutes

Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoli - Dydd Iau, 2ail Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

2.

Cais i amrywio Trwydded Safle –Welsh Street Stores. pdf icon PDF 355 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd cais i amrywio’r drwydded safle dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Welsh Street Stores, 21 Stryd Gymreig, Cas-gwent ar gyfer y canlynol:

 

·Cyflenwi Alcohol (i’w yfed oddi ar y safle): dydd Llun i ddydd Sul 06:00 – 03:00 o’r gloch.

· Oriau Agor (amseriadau safonol): dydd Llun i ddydd Sul 06:00 – 03:00 o’r gloch.

 

Fodd bynnag, dywedodd yr ymgeisydd y byddai’n gwneud y diwygiad canlynol:

 

·         Cyflenwi Alcohol (i’w yfed oddi ar y safle): dydd Llun i ddydd Sul 06:00 – 02:30 o’r gloch.

·         Oriau Agor (amseriadau safonol): dydd Llun i ddydd Sul 

06:00 – 02:30 o’r gloch.

 

https://www.youtube.com/live/UfQONySWA_U?si=CuZc3XIRywkuEMVJ&t=208

 

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolydd yr ymgeisydd i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau o’r Is-bwyllgor a’r Swyddogion oedd yn bresennol ac esboniodd y protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

Cadarnhaodd cynrychiolwyr yr ymgeisydd eu henw a’u cyfeiriad i’r Is-bwyllgor. Cadarnhaodd cynrychiolwyr yr ymgeisydd iddynt dderbyn yr adroddiad a gweithdrefn y gwrandawiad a chydnabod y byddent yn symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

 

Darllenwyd y materion a manylion allweddol i’r Is-bwyllgor.

 

Cyflwynodd cynrychiolwyr o Heddlu Gwent eu gwrthwynebiadau i’r cais.

 

Tynnwyd sylw yr Is-bwyllgor at sylwadau gan breswylydd lleol yn gwrthwynebu’r cais ac a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cafodd cynrychiolwyr yr ymgeisydd wedyn gyfle i annerch yr Is-bwyllgor i gyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, gofynnodd Aelodau’r Is-bwyllgor a chynrychiolwyr o Heddlu Gwent gwestiynau i gynrychiolwyr yr ymgeisydd a bu trafodaeth. Cafodd cynrychiolwyr yr ymgeisydd wedyn gyfle i grynhoi.

 

Yn dilyn y cwestiynau, gadawodd Aelodau’r Is-bwyllgor Trwyddedu a Chyfreithiwr Cyngor Sir Fynwy y cyfarfod i ystyried a thrafod y canfyddiadau.

 

Ar ôl ail-gynnull, dywedodd y Cyfreithiwr fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried y materion ac wedi penderfynu yn unfrydol i beidio caniatáu’r amrywiad i’r cais tan 2.30a.m. am y rhesymau canlynol:

 

·         Cyflwynodd Heddlu Gwent ddadleuon cryf iawn gydag ystadegau troseddol i gefnogi ar ymddygiad gwrthgymdeithasol/troseddu yng Nghasgwent ac yn Stryd Gymreig.

 

·         Mae tystiolaeth i gefnogi gan wrthwynebydd sy’n cyfeirio at achos o rywun yn gwneud d?r ar garreg ei drws.

 

·         Gellir agor y bag dan sêl a gynigiwyd gan yr Ymgeisydd yn defnyddio allwedd ac felly nid oes unrhyw warant na chaiff y bag ei agor ar ôl ei brynu a chyn cyrraedd eu cartref.

 

·         Mae pobl fregus yn byw ger y siop a all fod â chaethiwed ac mae pryder am gynnydd mewn ymddygiad niwsans i breswylwyr Cas-gwent.

 

·         Byddai’n afresymol caniatáu’r cais yng ngoleuni’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Heddlu Gwent.

 

·         Mae gan yr Is-bwyllgor gydymdeimlad at sefyllfa ariannol yr Ymgeisydd.

 

·         Mae’r Is-bwyllgor wedi cydbwyso sefyllfa’r Ymgeisydd, ond roedd tystiolaeth Heddlu Gwent a’r gwrthwynebydd yn gwrthbwyso’r rhesymau ariannol a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd.

 

3.

Cais i amrywio Trwydded Safle – Chepstow Store. pdf icon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd cais i amrywio’r drwydded safle dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Chepstow Store, 4-5 Sgwâr Beaufort, Cas-gwent ar gyfer y canlynol:

 

· Gwerthu Alcohol (i’w yfed oddi ar y safle): dydd Gwener i ddydd Sadwrn 06:00 – 03:00 o’r gloch.

· Oriau Agor (amseriadau safonol): dydd Gwener i ddydd Sadwrn 06:00 – 03:00 o'r gloch.

 

Fodd bynnag, dywedodd yr ymgeisydd y byddai’n gwneud y diwygiad canlynol:

· Gwerthu Alcohol (i’w yfed oddi ar y safle: dydd Gwener i ddydd Sadwrn 06:00 – 02:00 o’r gloch.

· Oriau Agor (amseriadau safonol): dydd Gwener i ddydd Sadwrn 06:00 – 02:00 o'r gloch.

https://www.youtube.com/live/UfQONySWA_U?si=A7ZjIvbgVbRRfcmD&t=4870

 

Cadarnhaodd cynrychiolwyr yr ymgeisydd eu enw a’u cyfeiriad i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd cynrychiolwyr yr ymgeisydd iddynt dderbyn yr adroddiad a gweithdrefn y gwrandawiad a chydnabod y byddent yn symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

 

Darllenwyd y materion a’r manylion allweddol i’r Is-bwyllgor.

 

Cyflwynodd cynrychiolwyr o Heddlu Gwent eu gwrthwynebiadau i’r cais.

 

Rhoddwyd cyfle i gynrychiolwyr yr ymgeisydd wedyn i annerch y Pwyllgor i gyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, cyflwynodd aelodau o’r Is-bwyllgor a chynrychiolwyr o Heddlu Gwent gwestiynau i gynrychiolwyr yr ymgeisydd a bu trafodaeth. Cafodd cynrychiolwyr yr ymgeisydd wedyn gyfle i grynhoi.

 

Yn dilyn y cwestiynau, gadawodd aelodau’r Is-bwyllgor Trwyddedu a Chyfreithiwr Cyngor Sir Fynwy y cyfarfod i ystyried a thrafod y canfyddiadau.

 

Ar ôl ail-gynnull, dywedodd y Cyfreithiwr fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried y materion ac wedi penderfynu yn unfrydol i beidio caniatáu’r amrywiad i’r cais tan 2.00 a.m. am y rhesymau canlynol:

 

·         Cydbwysodd yr Is-bwyllgor y rhesymau ariannol a roddwyd gan yr Ymgeisydd gyda’r dystiolaeth a roddwyd gan Heddlu Gwent i gefnogi eu gwrthwynebiad i’r cais.

 

·         Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y dystiolaeth a roddwyd gan yr Heddlu y byddai gwerthu alcohol o’r safle tan 2.00am yn cynyddu niwsans cyhoeddus, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau yng Nghas-gwent.

 

·         Roedd gan yr Is-bwyllgor gydymdeimlad gyda sefyllfa ariannol yr Ymgeisydd.

 

·         Nododd yr Is-bwyllgor y byddai’r safle yn cau am 2.00am sydd cyn amser cau un o’r clybiau nos cyfagos yng Nghas-gwent. Credai’r Is-bwyllgor nad oedd hyn ar ben ei hun yn ddigonol i ganiatáu’r cais.

 

·         Nododd yr Is-bwyllgor y pryderon a wnaed am yr effaith bosibl ar y rhai mewn llety bregus a’r effaith ar breswylwyr cyffredinol Cas-gwent a chyfeiriodd yr Is-bwyllgor at yr ystadegau troseddau a ddarparwyd gan Heddlu Gwent.

 

·         Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn y byddai caniatáu’r cais yn debyg o gynyddu ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau yng Nghas-gwent ac mae’r flaenoriaeth oedd diogelu’r cyhoedd. Byddai caniatáu’r cais yn rhoi mwy o gyfle i brynu alcohol i rai gyda phroblemau caethiwed.