Agenda and minutes

Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoli - Dydd Mercher, 6ed Tachwedd, 2024 12.00 pm

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Eitem 3: Datganodd y Cynghorydd Sir A. Easson fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu fel Aelod Ward yng Nghil-y-coed gan fod y cais yn cyfeirio at safle yn Heol Casnewydd, Cil-y-coed.

 

2.

Cais am Drwydded Safle - Siop a Swyddfa Bost Cil-y-coed pdf icon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau’r Is-bwyllgor a’r swyddogion sy’n bresennol. Esboniodd y Prif Swyddog Trwyddedu y protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

       Roedd yr Ymgeisydd ei hun yn bresennol

       Prif Swyddog Trwyddedu

       Swyddog Trwyddedu

       Gwrthwynebydd a chydymaith yn bresennol.

 

Cadarnhaodd pawb eu bod wedi gweld yr adroddiad a gweithdrefn y pwyllgor.

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio gais am Drwydded Safle newydd dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Siop a Swyddfa’r Post Cil-y-coed, Uned 4, T? Holman, 36-38 Heol Casnewydd, Cil-y-coed i werthu alcohol rhwng 07:00 a 21:00 (oriau agor y siop).

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad ac amlinellu’r camau y byddai’r ymgeisydd yn eu cymryd i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddi staff, gwirio adnabyddiaeth, mesurau diogelwch tân, llyfr cofnodi digwyddiadau, cynllun rheoli s?n ac ymgysylltu â’r gymuned (mae’r rhestr lawn yn Atodiad A). Mae atodiadau’r adroddiad hefyd yn cynnwys map, rhestr o amodau gorfodol, ymatebion gan awdurdodau statudol, sylwadau gan unigolion eraill, cofnod digwyddiadau’r heddlu ac Amcanion Trwyddedu.

 

Dywedwyd wrth yr Is-bwyllgor y gellir crynhoi sylwadau gan unigolion eraill fel bod y gallai rhoi’r drwydded gynyddu ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn yr ardal a allai achosi niwed i fusnesau eraill, a hefyd o bosibl fygwth diogelwch aelodau’r cyhoedd a staff.

 

Gofynnodd yr awdurdod Trwyddedu am ystadegau gan Heddlu Gwent ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Cil-y-coed. Mae’r ystadegau ar gyfer holl ardal Cil-y-coed ac nid yn benodol i ganol y dref rhwng Awst 2023 a Rhagfyr 2023, gyda 35 cofnod heddlu. Roedd 31 cofnod heddlu rhwng Ebrill 2024 a Hydref 2024.

 

Rhaid i sylwadau gyfeirio at o leiaf un o’r pedair amcan trwyddedu:

 

1.    Atal troseddu ac anrhefn,

2.    Diogelwch y cyhoedd,

3.    Atal niwsans cyhoeddus, a

4.    Diogelu plant rhag anaf.

 

Mae Adran 9.9 canllawiau’r Swyddfa Gartref yn argymell , mewn achosion ar y ffin, y dylid rhoi budd amheuaeth am unrhyw agwedd o sylwadau i’r person sy’n rhoi’r sylwadau hynny. Byddai’r gwrandawiad dilynol gan yr Is-bwyllgor Trwyddedu wedyn yn rhoi cyfle i’r person neu’r corff sy’n gwneud y sylwadau i fanylu ac egluro.

 

Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau gan awdurdodau statudol. Tynnodd Heddlu Gwent ei sylwadau yn ôl pe cytunid ar yr amodau os rhoddid y drwydded.

 

Cafodd y Gwrthwynebydd gyfle i wneud sylwadau ac esbonio nad yw yn erbyn dyfarnu’r drwydded. Ar ôl masnachu yng nghanol y dref am ddwy flynedd a newid oriau agor o 6pm i 9pm, roedd yn amlwg fod llawer o bobl ifanc yn achosi trafferth pan oedd siopau ar agor a goleuadau ymlaen. Torrwyd gwydr ffenestri ddwywaith a hysbyswyd yr Heddlu. Bu’r ysgol a’r gymuned yn help mawr wrth hyrwyddo neges fod canlyniadau i’r math yma o ymddygiad.

 

Pryder y Gwrthwynebydd yw y bydd siop newydd gydag oriau agor hir yn annog pobl ifanc i ymgynnull eto ac y bydd lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn codi. Roedd y Gwrthwynebydd eisiau help gan y pwyllgor i fynd i’r afael â’r broblem  a dywedodd ei bod yn synnu nad oedd gwrthwynebiad gan Heddlu Gweet o gofio  ...  view the full Cofnodion text for item 2.