Agenda and minutes

Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoli - Dydd Mawrth, 8fed Mawrth, 2022 2.00 pm

Lleoliad: County Hall, Rhadyr, Usk - Remote Attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiannau.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant wedi eu derbyn.

 

2.

Cais am drwydded Safle Newydd ar gyfer Llanvetherine Court, Llanwytherin, Y Fenni. pdf icon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio wedi ystyried cais ar gyfer Trwydded Eiddo o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Llanvetherine Court, Llanvetherine Court Farm Road, Llanvetherine, y Fenni.

 

Roedd y Cadeirydd wedi croesawu’r ymgeiswyr, eu cynrychiolwyr cyfreithiol a’r gwrthwynebydd a chynrychiolydd o Gyfarwyddiaeth Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir Fynwy, i’r cyfarfod ac wedi cyflwyno Aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion a oedd yn mynychu ac  wedi esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd yr ymgeiswyr a’r gwrthwynebydd wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn yr adroddiad a’r asesiad  o Effaith y S?n. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi ymateb i sylwadau’r swyddog Iechyd Amgylcheddol.

 

Roedd y materion a’r manylion allweddol wedi eu rhannu ar lafar gyda’r Pwyllgor. 

 

Wrth wneud hyn, nodwyd fod yna gais newydd ar gyfer trwydded mangre o dan Ddeddf Drwyddedu 2003 wedi ei dderbyn gan Llanvetherine Court Partnership ar gyfer Llanvetherine Court, Llanvetherine Court Farm Road, Llanvetherine, y Fenni ar gyfer y canlynol:

 

              Cerddoriaeth Fyw, Cerddoriaeth Wedi’i Recordio – Tu Fewn ac yn yr Awyr Agored  

              Gwerthu Alcohol– ar ac oddi ar y safle

           

           Dydd Gwener  12:00 - 00:00

           Dydd Sadwrn  00:00 - 08:00, yna 11:00 - 00:00

           Dydd Sul                     00:00 - 08:00, yna 11:00 - 20:00

           Penwythnosau G?yl y Banc:

Dydd Sul 00:00 - 08:00, yna 11:00 - 00:00

Dydd Llun 00:00 - 08:00, yna 11:00 - 20:00

           Nos Calan 16:00 - 08:00

                 

          Lluniaeth gyda’r Nos

 

·         Dydd Gwener     23:00 – 00:00

 

·         Dydd Sadwrn      00:00 – 05:00

 

·                   Dydd Sul             23:00 – 00:00

 

            Penwythnosau G?yl y Banc:

 

Dydd Sul 23:00 – 00:00

 

Dydd Llun 00:00 – 05:00

 

Nos Calan 00:00 – 05:00

 

 

 

Yn dilyn hyn, roedd y gwrthwynebydd, sef cynrychiolydd o Adran Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir Fynwy, wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Ar 8fed Chwefror 2022, roedd yr Adran Iechyd Amgylcheddol wedi cyflwyno gwrthwynebiad yn erbyn y cais am fangre drwyddedig ar gyfer Llanvetherine Court gan nad oedd yna wybodaeth ddigonol i gadarnhau amcan trwyddedu D, sef atal niwsans cyhoeddus, yn enwedig o ran sut y bydd y s?n yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau.

 

·         Mae’r ymgeisydd wedi darparu Asesiad o’r Effaith S?n. Fodd bynnag, wedi adolygu’r cynnwys  ac ystyried y cais yn ei gyfanrwydd, mae’r Adran Iechyd Amgylcheddol dal yn gwrthwynebu’r cais.

 

·         Mae yna bryderon na fydd yna gydymffurfiaeth gyda’r amcan trwyddedu i atal niwsans cyhoeddus. Yn benodol, mae s?n o’r safle’r ymgeisydd yn meddu ar y potensial i achosi aflonyddwch i drigolion yn yr ardal ac arwain at gwynion.

 

·         Mae hyn yn sgil yr oriau arfaethedig sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad, gyda chynllun i gynnal digwyddiadau  dros sawl diwrnod ar y rhan fwyaf o benwythnosau, yn enwedig rhwng  1af Ebrill a chanol Medi 2022 a phryderon am effaith gyffredinol hyn oll ar drigolion yn yr ardal yn sgil y digwyddiadau sydd i’w cynnal yn y Barn, sydd yn rhan o’r cais hwn, a’r safle ehangach yn Llanvetherine Court, lle mae yna gynlluniau i gynnal 5 digwyddiad cerddorol mawr ar gyfer  2022 wrth i’r safle barhau i ddatblygu.  ...  view the full Cofnodion text for item 2.