Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiad o Fuddiannau. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Cais am Fangre Trwyddedig – Gwasanaeth Rhaglan, yr Orsaf, y Stryd Fawr, Rhaglan. PDF 3 MB Cofnodion: Roedd y Cadeirydd wedi croesawu pawb i’r cyfarfod ac wedi cyflwyno Aelodau o’r Is-bwyllgor a’r swyddogion a oedd wedi mynychu. Esboniodd y Prif Swyddog Trwyddedu y protocol ar gyfer y cyfarfod.
· Roedd yr Ymgeisydd wedi mynychu mewn person gydag Asiant Drwyddedu a Rheolwr Ardal. · Prif Swyddog Trwyddedu · Swyddog Trwyddedu · Cynghorydd Sir. P Jones, Aelod Ward ar gyfer Rhaglan · Clerc Cyngor Cymuned Rhaglan · Dau aelod o’r gymuned leol. Roedd pawb wedi cadarnhau eu bod wedi gweld yr adroddiad a gweithdrefnau’r Pwyllgor. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod yn hapus parhau heb gynrychiolaeth gyfreithiol. Byddai’r terfynau o ran amseroedd siarad yn cael eu cyfyngu yn sgil nifer y gwrthwynebwyr.
Roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio wedi ystyried cais am Fangre Drwyddedig o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 am fangre drwyddedig ar gyfer Gorsaf Gwasanaeth Rhaglan, y Stryd Fawr, Rhaglan.
Gofynnwyd i aelodau o’r Is-bwyllgor i benderfynu: - · Caniatáu trwydded gyda'r amodau sydd yn y cais · Caniatáu’r drwydded gyda’r amodau y mae’r Cyngor yn credu sydd yn briodol ar gyfer hyrwyddo amcanion y drwydded · Eithrio o sgôp y drwydded unrhyw weithgareddau trwyddedig y mae’r cais yn cynnwys · Gwrthod nodi person yn y drwydded fel goruchwylydd y fangre · Gwrthod cais
Roedd yr Ymgeisydd wedi disgrifio’r fangre fel siop nwyddau. Roedd y Cais gwreiddiol ar gyfer: · Gwerthu Alcohol– o’r safle – Dydd Llun i ddydd Sul 00:00 – 23.59 · Oriau agor - Dydd Llun i ddydd Sul 00:00 – 23.59 Roedd cyfryngu rhwng yr Adran Drwydded a’r Ymgeisydd wedi arwain at gynnig i ddiwygio’r cais i 6am tan ganol nos.
Roedd sylwadau wedi eu derbyn yn gwrthwynebu’r cais gan Heddlu Gwent ar y sail bod y cais, ar ei ffurf wreiddiol, o bosib yn tanseilio'r Amcanion Trwyddedu. Roedd yr Heddlu wedi gwneud cais bod yr ymgeisydd yn derbyn amodau yn ymwneud gyda Chamerâu Cylch Cyfyng, cofnodi unrhyw ddigwyddiadau ac achosion o wrthod gwerthu alcohol, hyfforddiant ar gyfer staff, a Herio 25. Roedd Heddlu Gwent wedi tynnu’r gwrthwynebiad yn ôl ar ôl i’r ymgeisydd gytuno gyda’r amodau yma.
Roedd yr Adran Drwyddedu wedi cyflwyno sylwadau ar sail Atal Niwsans Cyhoeddus, Atal Trosedd ac Anhrefn a Diogelwch Cyhoeddus fel sydd wedi ei nodi yn adroddiad y Swyddog. Cafodd hyn ei dynnu’n ôl ar i’r Ymgeisydd dderbyn yr amod ychwanegol a oedd yn ymwneud gyda gosod ffenestr talu dros nos a thynnu’r amodau yn ymwneud gyda’r DPS a’r math o nwyddau i’w gwerthu.
Derbyniwyd sylwadau gan bobl eraill a oedd yn ymwneud gyda’r 4 prif amcan trwyddedu: · Annog pobl i ymgynnull y tu allan i’r safle · Llygredd goleuadau · S?n o’r cynnydd mewn traffig · Yn achosi arolygon neu lygredd niweidiol neu’n gas · Creu sbwriel · Gwerthiannau procsi · S?n yn dod o’r nifer cynyddol o gwsmeriaid yn ymweld gyda’r safle Roedd y Pwyllgor wedi nodi ymateb yr Ymgeisydd i’r sylwadau yma yn adroddiad y Swyddog.
Roedd y Pwyllgor wedi nod bod rhaid gwneud Sylwadau o dan y pedwar amcan trwyddedu allweddol, sef:-
· Atal trosedd ac anhrefn; · Diogelwch Cyhoeddus; · Atal niwsans cyhoeddus; a · Diogelu plant rhag niwed.
Mae’r Pwyllgor wedi gwrando yn ... view the full Cofnodion text for item 2. |