Lleoliad: Remote Meeting. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Safodd y Cynghorydd Sir D. Dovey i lawr o swydd y Cadeirydd a diolchodd i Aelodau’r Gr?p am eu cefnogaeth dros flynyddoedd lawer. Diolchwyd i’r Cynghorydd Dovey am ei ymrwymiad a’i gyfraniad i’r Gr?p yn ystod ei amser fel Cadeirydd.
Etholwyd y Cynghorydd Sir J. Pratt yn Gadeirydd.
|
|
Penodi Is-gadeirydd Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Dyfodol Gwasanaethau Bws - Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd groeso cynnes i Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru, i’r cyfarfod i drafod newidiadau arfaethedig i gyllid y diwydiant bws yng Nghymru. Bydd newidiadau hyn yn galluogi trethdalwyr i gael mwy o reolaeth dros wasanaethau.
Ar gyfer gwasanaethau amserlen, mae’r cynllun teithio rhatach yn costio tua £70m i’w redeg yng Nghymru a hefyd mae grantiau/cyllid (gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol) ar gael i weithredwyr bws. Caiff cyfanswm o tua £115m ei roi i gefnogi’r diwydiant bws bob blwyddyn (heb gynnwys trafnidiaeth rhwng y cartref a’r ysgol). Eleni, oherwydd COVID 19, bydd swm y cyllid i’r diwydiant bws yn nes at £200m i dalu am e.e. y capasiti is a gynigir oherwydd gofynion pellter cymdeithasol.
Cafwyd problemau wrth geisio cyflwyno un tocyn cyffredin ond mae uchelgais i gael tocyn integredig i deithwyr ei defnyddio’n rhwyddach ar deithiau bws a rheilffordd yn annibynnol o wasanaethau, amserlenni a thocynnau a osodir gan weithredwyr.
Yng nghyd-destun newid hinsawdd, caiff mwy o deithiau eu gwneud mewn car preifat yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn rhannol oherwydd annigonolrwydd y rhwydwaith trafnidiaeth. Y nod yw gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn deniadol i helpu mynd i’r afael â newid hinsawdd e.e. tagfeydd ar ffyrdd ac ansawdd aer. Cafodd y sleidiau cyflwyno eu rhannu drwy e-bost gydag Aelodau’r Gr?p.
Gwahoddwyd Aelodau’r Gr?p i ofyn cwestiynau:
· Roedd Aelod o’r Gr?p yn bryderus am ddeddfwriaeth, gan nodi methiannau’r gorffennol i alinio gwasanaethau bws a thrên, a chyfeiriodd at y diffyg cysylltiad rhwng amserlenni sy’n gwrthannog teithwyr bws rhag defnyddio’r trenau. Dywedwyd efallai na fyddai cwmnïau bws yn cydymffurfio gydag integreiddiad heb gael deddfwriaeth sylfaenol. Esboniwyd fod trafodaethau masnachol yn mynd rhagddynt yng nghyswllt cyllid. Bydd hyn yn cynnwys cytundeb i ymrwymo i bartneriaeth hirdymor lle gall Llywodraeth Cymru gael dylanwad. Mae’r gweithredwyr hynny sy’n dewis peidio cydweithio yn peryglu mynediad i’r cyllid. Mewn ymateb i gwestiwn, derbyniwyd y gall fod angen deddfu. · Gofynnodd Aelod o’r Gr?p sut y caiff ymgysylltu gyda chwsmeriaid bws ei gynllunio gan nodi’r angen am fwy o hyrwyddo a marchnata ar wasanaethau bws. Caiff yr agwedd hon ei chynnal gan Trafnidiaeth Cymru. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt i weld os oes gan awdurdodau lleol ddiddordeb mewn rhan-berchnogaeth o Trafnidiaeth Cymru. Mae uchelgais i gael brand cenedlaethol Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bws yn Nghymru. · Tynnodd Aelod Gr?p at yr angen i gadw newid hinsawdd ar yr agenda trafnidiaeth. Cadarnhawyd fod newid hinsawdd yn ganolog i syniadau Llywodraeth Cymru. Mae’n flaenoriaeth i wneud teithio bws yn opsiwn deniadol i gwsmeriaid sy’n defnyddio ceir preifat. Gall fod angen newidiadau sylweddol ar gyfer hyn tebyg i wneud llai o ofod ar gael ar gyfer ceir ar ffyrdd a mwy ar gyfer bysus, signalau blaenoriaeth ar gyfer bysus ac yn y blaen. · Esboniodd Aelod o’r Gr?p yr anawsterau yn cysylltu teithiau trên a bws. Cytunwyd fod angen llawer o waith i wella a chreu hybiau trafnidiaeth, i hefyd gynnwys Teithio Llesol. Yn nhermau gwasanaethau Cas-gwent ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i Richard Gibson, Pennaeth Cyfathrebu, Trenau Traws Gwlad Arriva, i’r cyfarfod. Esboniwyd, oherwydd y pandemig, y bu’n anodd i’r diwydiant trafnidiaeth gynnal gwasanaethau’n ddiogel ar gyfer cwsmeriaid a staff. Mae’r gofyniad am bellter cymdeithasol wedi gostwng nifer y teithwyr i 20%. Mae heintiad a hunanynysu staff hefyd wedi cyfyngu ar y gallu i staffio trenau.
Ychydig iawn o bobl sydd wedi dewis teithio ar drên ers mis Mawrth. Cynyddodd busnes ym mis Gorffennaf pan laciwyd cyfyngiadau. Cyflwynwyd gwasanaeth bob awr ar yr oriau brig (bob dwy awr tu allan i’r oriau brig) o Gaerloyw i Gaerdydd ym mis Mawrth. Ym mis Gorffennaf, roedd angen newid i ddiogelu’r amserlen genedlaethol ac i roi’r capasiti sydd ei angen am ymbellhau cymdeithasol mewn modd diogel. Mae hefyd angen mwy o amser i ganiatáu i deithwyr fynd ar ac oddi trenau yn ddiogel. Mae 29 trên ar gael i redeg drwy Sir Fynwy yn darparu gwasanaethau o Gaerdydd i Nottingham, Birmingham a Maes Awyr Stansted a gwasanaethau lleol rhwng Birmingham a Chaerl?r a Birmingham a Nottingham.
Gwnaed penderfyniad i roi’r rhan fwyaf o gapasiti lle mae’r mwyaf o angen a chafodd rhai gwasanaethau eu haildrefnu er mwyn galluogi cyfuno dau drên i roi capasiti. Roedd y rhain yn bennaf yn effeithio ar wasanaethau rhwng gorllewin a dwyrain Canolbarth Lloegr ac mewn ardaloedd fel Sir Fynwy lle roedd gwasanaethau eraill yn rhedeg. Esboniwyd nad Sir Fynwy yw’r unig fan lle bu cwymp mewn gwasanaeth. Deellir fod y newidiadau wedi achosi anawsterau i breswylwyr a thwristiaeth. Gofynnwyd cwestiynau fel sy’n dilyn:
· Dywedodd Aelod fod gwasanaethau trên yng Nghas-gwent yn ofnadwy ac mai dim ond ychydig funudau y byddai’n ei gymryd i stopio yng Nghas-gwent gan fod terfyn cyflymder 30mya. Mae trenau yn sefyll yng Nghaerloyw i ennill amser. Gofynnwyd yn daer am ailystyried y newidiadau yng Nghas-gwent a galluogi pob trên sy’n mynd trwyddo i stopio. Dywedwyd bod gwasanaeth o Gaerdydd am 18.45 yna ddim byd pellach tan wasanaeth Trafnidiaeth Cymru am 21.09. Atebwyd y cafodd y newidiadau eu hystyried yn drwyadl ac iddynt gael eu gwneud am resymau da. Nid ydynt yn wasanaethau lleol ond yn rhan o amserlen genedlaethol. Mae amserlenni wedi newid bum gwaith ers effaith COVID 19 ac mae adolygiadau yn gyson. · Gofynnodd Aelod am y gwasanaeth 7.26am i Fanceinion a arferai fod yn wasanaeth Great Western Railway. Nid oes unrhyw gynlluniau i ailgyflwyno’r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd ond mae’n dal i gael ei ystyried. · Mynegodd Aelod bryder fod gwasanaethau yn cael eu gostwng ar adeg o newid hinsawdd pan mae’r flaenoriaeth yw annog defnydd trafnidiaeth gyhoeddus. · Gofynnodd Aelod os byddai’n bosibl cynnal arolwg yng Nghaerloyw i adolygu os yw’r trenau sy’n aros yno am gyfnod digon hir i alluogi stopio yng Nghas-gwent. Cytunwyd cynnal yr arolwg. · Fe wnaeth Aelod gydnabod yr esboniad ond dymunai bwysleisio fod y gwasanaeth i ac o Gas-gwent yn hanfodol ar gyfer llawer o bobl.
Diolchwyd i aelodau arbenigol y Gr?p am eu cyfraniad gwerthfawr iawn i gyfarfodydd. Diolchwyd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent - Victoria Robinson, Ellie Mitchell a Nicole Rossiter (Arup) Cofnodion:
Croesawyd Nicola Rossiter, Uwch Ymgynghorydd ac Arweinydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Victoria Robinson, Uwch Gynllunydd, Arup i’r cyfarfod. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent ddechrau mis Tachwedd a bydd y sleidiau a gyflwynir heddiw ar gael yr adeg honno.
Prif bwyntiau’r cyflwyniad:
· Cyflwyno Astudiaeth Trafnidiaeth WelTAG Cam 2 ar gyfer Ardal Cas-gwent a’r cyd-destun presennol (COVID 19, Brexit, dileu tollau Pont Hafren, cyhoeddiadau newid hinsawdd ac yn y blaen). · Cafodd y problemau i’w cyfarch eu haileirio a’u haildrefnu a sefydlwyd blaenoriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r materion hyn yn canolbwyntio ar lefelau uchel o dagfeydd, cynyddu llif traffig ac ansawdd aer. Yn ychwanegol mae cysylltiadau bws yn gyfyngedig a theithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn gymharol uwch o ran cost. Y nod yw cael datrysiadau sydd ag allyriadau isel, sy’n gynaliadwy ac sy’n integreiddio ac yn annog teithio llesol. · Cafodd 21 cynllun y rhestr hir eu hadolygu a’u rhoi i bum categori i effeithio ar: o Gostwng yr amser i deithio o Teithio llesol a seiclo o Opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus o Cerbyd allyriadau isel iawn o Opsiynau priffyrdd · Cafodd y 21 opsiwn eu profi o gymharu ag amcanion yr astudiaeth yn cynnwys peth ymgysylltu â rhanddeiliaid. Gostyngwyd nifer yr opsiynau o 21 i 15 a gafodd eu profi ymhellach. · Cafodd y pump categori eu gostwng i bedwar, gyda’r ddau olaf yn cael eu cyfuno. · Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar ym mis Tachwedd a gofynnwyd i’r gr?p annog cynifer o bobl ag sy’n bosibl i gymryd rhan.
Gofynnwyd cwestiynau fel sy’n dilyn:
· Gofynnodd Aelod os yw’r astudiaeth wedi rhoi ystyriaeth i ddarganfyddiad diweddar mwy o ddifrod i hen Bont Cas-gwent gan holi os y bydd yn rhaid ei chau i gael ei thrwsio. Cadarnhaodd Gerallt Dafydd, Arup, y rhoddwyd ystyriaeth i’r agwedd hon yn yr astudiaeth. Esboniwyd nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gau’r bont gan ei bod yn llwybr pwysig. Pwysleisiwyd fod hwn yn gynllun ar draws y ffin a gefnogir gan Gyngor Dosbarth Fforest y Ddena, Cyngor Sir Swydd Caerloyw, Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gymreig a’r Adran Trafnidiaeth dan arweiniad Cyngor Sir Fynwy. · Gofynnodd Aelod pa model a ddefnyddir i fesur llif traffig ar draws y ffin. Esboniodd Gerallt Dafydd fod mynediad ar gael i fodel Tollau Pont Hafren. Caiff y cynlluniau priffordd yn yr opsiynau eu profi’n unol â hynny. Gofynnwyd os oedd unrhyw fodelu o gyfeiriad Fforest y Ddena. Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu gyda’r aelod gr?p ar ôl y cyfarfod. · Gofynnodd Aelod sut y trefnir yr ymgynghoriad cyhoeddus. Atebwyd na fydd cyfle ar gyfer cyfarfod ymgynghori cyhoeddus gyda phobl yn bresennol oherwydd y pandemig. Caiff y digwyddiad ei drefnu mewn gofod digidol ond bydd copi caled o’r dogfennau a’r arolwg ynghyd ag amlen rhadbost i’w dychwelyd ar gael i’r bobl hynny nad oes ganddynt fynediad i dechnoleg (neu ddymuniad i’w ddefnyddio). Cynigiodd y Cadeirydd help Tîm Cyfathrebu Sir Fynwy. Mae Partneriaeth Economaidd y Fforest hefyd wedi cynnig hyrwyddo’r ymgynghoriad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r cyfranwyr am yr adroddiad interim, gan ychwanegu y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ymgynghoriad Rhwydwaith Teithio Llesol y Dyfodol - Sue Hughes, Swyddog Teithio Llesol/Paul Sullivan, Rheolwr Ieuenctid, Chwaraeon a Teithio Llesol Cofnodion: Estynnodd y Gr?p groeso i Susan Hughes, Swyddog Teithio Llesol i’r cyfarfod. Esboniwyd y lansiwyd y cyfnod ymgynghori/ymgysylltu 3-mis Teithio Llesol ym mis Awst. Bu cyfleoedd i ymgysylltu wyneb i wyneb (ymateb isel), gweminar drwy holiadur ar-lein (mwy o ymateb). Mae’n dda nodi fod 545 o oedolion a 281 o blant ysgol gynradd wedi ymateb hyd yma gydag ymateb is gan fusnesau. Mae fersiwn darllen rhwydd ar gyfer plant ac oedolion bregus, gyda 23 ymateb o hynny. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo i ymgysylltu gyda disgyblion ysgol uwchradd. Caiff y canlyniadau eu dadansoddi ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori a chaiff mapiau newydd eu llunio gydag ymgynghoriad pellach 3-mis.
Gan gyfeirio at y gyfradd ymateb isel gan fusnesau, cytunwyd y dylai pob busnes fod â chynlluniau teithio llesol i ostwng defnydd ceir. Gofynnwyd cwestiynau fel sy’n dilyn:
· Cadarnhawyd y bydd Cymdeithas Ddinesig y Fenni yn anfon ymateb yn y dyfodol agos. Dywedwyd efallai nad yw ymatebwyr h?n wedi medru manteisio’n llawn o agweddau rhyngweithiol y mapiau. Holwyd os yr hysbyswyd perchnogion eiddo y mae’r llwybrau’n effeithio’n uniongyrchol arnynt. Cadarnhawyd na chawsant eu hysbysu hyd yma ond y caiff hyn ei ddilyn lan.
Dywedwyd, hyd yn oed gyda chyfraddau cynnydd cyflym, y gallai gymryd llawer o flynyddoedd i gwblhau cynlluniau. Awgrymwyd cynigion tymor byr, mwy realistig yn defnyddio cyllid A106 ac yn y blaen. Cadarnhawyd y bu’r awdurdod yn llwyddiannus i gael cynnig £1.8m wedi’i gymeradwyo ar gyfer teithio llesol o ran cynigion realistig. Derbyniwyd fod rhai cynigion yn uchelgeisiol (e.e. amgen i Bont Gwy). Bydd dull llywodraethiant llawn gyda grwpiau o wahanol adrannau yn rhoi dull gweithredu ar y cyd i bob cynnig ynghyd â rhoi ystyriaeth i’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gyfer cydbwysedd. Yng nghyswllt heriau’r ymgynghoriad digidol, dywedwyd fod nifer annisgwyl o uchel o’r band oedran 60+. Gwnaed cynnig i ddarparu cyfarfodydd o bell Teams ar gyfer grwpiau penodol. · Gofynnodd Aelod Gr?p sut y cafodd yr ymgynghoriad ei hysbysebu ac os oes ymgynghoriadau rhwng cyfarfodydd, y gellid eu cylchredeg i’r Gr?p. Cadarnhawyd fod rhaglen dreigl o hysbysebion ar y cyfryngau yn defnyddio Facebook, Twitter a’r wasg leol. Hysbysir y Gr?p Trafnidiaeth Strategol ym mis Ionawr pryd y bydd cam nesaf yr ymgynghoriad yn dechrau. Roedd gan Gyfeillion Bws 65 ddiddordeb yn sut y gall teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus gydweithio mewn ardaloedd gwledig (e.e. cario beiciau ar fysus). Cysylltwyd â’r cwmnïau bws am yr ymgynghoriad. · Roedd Aelod o’r Gr?p y bryderus am y diffyg ymateb gan fusnes ac awgrymwyd Clwb Busnes y Fenni fel gr?p cyswllt. Cadarnhawyd y defnyddiwyd y fforwm Cydnerthedd Busnes fel cyfrwng ac y cysylltwyd yn uniongyrchol â busnesau mwy. Gofynnwyd i Aelodau’r Gr?p annog cyfranogiad gyda’u cysylltiadau.
Diolchwyd i’r Swyddog Teithio Llesol am gymryd rhan yn y cyfarfod.
|
|
Diweddariad • Gorsaf Magwyr • Gorsaf yr Hafren • Gorsaf Cyffordd Twnnel Hafren Cofnodion: · Gorsaf y Fenni, rhoddodd Network Rail y diweddariad byr dilynol: “Mae AE yn awr wedi cwblhau ein hasesiad o’r datrysiad signalu sydd ei angen. Mae canlyniad hynny’n golygu nad oes newid yn y lleoliad gwreiddiol a gynigiwyd. Rydym wedi dechrau trafodaethau cynnar gyda Swyddog Cadwraeth Cyngor Sir Fynwy i gasglu eu gofynion cyn dechrau dylunio.”
Ychwanegwyd y cynigiwyd cyllid i Gyngor Sir Fynwy o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd/Llywodraeth Cymru ynghyd â MetroPlus (Cam 2) i gychwyn gwaith arall yng Ngorsaf y Fenni (amlinelliad o waith posibl yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol). Ni aethpwyd ymlaen â hyn hyd yma ond rhoddir adroddiad arno mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Holwyd os oes angen cyfarfod interim gydag aelodau yn ardal y Fenni parthed y cyllid a gynigiwyd i wella’r orsaf. Dywedodd Christian Schmidt ei bod yn allweddol derbyn mwy o wybodaeth gan Network Rail yn y lle cyntaf.
· Cyffordd Twnnel Hafren (STJ): Holodd Aelod os yw Grand Union Trains (GUT) yn dal i gynllunio cyflwyno gwasanaeth uniongyrchol o STJ i Paddington ym mis Mai 2021. Roedd rhan o’r cytundeb yn cynnwys cyfleusterau parc a theithio newydd yn STJ gyda mannau cysgod beiciau a ffordd gyswllt M4. Cadarnhawyd yr hysbyswyd GUT am ein cynlluniau ond na fu newyddion pellach.
Dywedwyd y rhoddwyd fersiwn gwell yn lle’r ddyfais tawelu a osodwyd yn SJT oedd yn achosi anhawster.
Gosodwyd peiriant tocynnau newydd na fydd, oherwydd ei safle a dim clwyd, yn galluogi deiliaid tocynnau tymor i fanteisio o’r tocynnau tymor newydd sy’n cynnig mwy o hyblygrwydd nag o’r blaen. Gofynnwyd am ddod â’r mater i sylw Trafnidiaeth Cymru gan ei fod yn bwynt pwysig i gymudwyr. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth er mwyn cysylltu gyda Trafnidiaeth Cymru. Byddir yn cyfathrebu gyda gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ar bwnc rheoli’r maes parcio yn y dyfodol fydd yn cynnwys pob maes parcio rheilffyrdd. Gofynnodd y Cadeirydd i Christian Schmidt i sicrhau fod y gr?p yn cael eu diweddaru ar ddatblygiadau.
· Gorsaf Magwyr: Ym mis Mehefin roedd MAGOR (‘Magor Action Group on Rail’) a Chyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais i’r Gronfa Gorsafoedd Newydd a hefyd Gronfa Restoring your Railways (RYR) gyda chefnogaeth Jessica Morden AS a John Griffiths AS. O’r 200 o geisiadau a gyflwynwyd, roedd Magwyr ar y rhestr fer o 50 gydag un orsaf arall yng Nghymru ar gyfer Cronfa RYR, ac os yw hynny’n llwyddiannus byddai’n rhoi cyllid at GRIP3.
Cysylltwyd â MAGOR hefyd fel rhanddeiliad ar gyfer Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru ar roi’r gorau i’r cynllun am Ffordd Liniaru M4 ac wedi rhoi mewnbwn ar rai o’r canfyddiadau dechreuol. Dylid nodi y gall yn bosibl y caiff y llinellau llacio eu rhyddhau i roi gwasanaeth rheilffordd asgwrn cefn rhwng Caerdydd a gorsafoedd STJ (soniwyd am Orsaf Magwyr yma). Mae’n werth nodi y rhoddir blaenoriaeth i deithio integredig a theithio llesol.
Cafodd astudiaeth rheolaeth traffig a pharcio o ardal Magwyr sy’n cynnwys effaith bosibl yr orsaf llwybr cerdded ei chwblhau. Cafodd adroddiad cynhwysfawr Capita ei gylchredeg a bydd yn helpu astudiaeth GRIP3.
Dywedwyd bod rheilffyrdd ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: · Grant Seilwaith Safleoedd Bws: Rhoddwyd diweddariad gan y Rheolwr Trafnidiaeth Teithwyr fod y grant yn cael ei ddefnyddio i gael rhai o’r safleoedd bws ar goridor Glannau Hafren. Er nad oes unrhyw gyllid ychwanegol ar hyn o bryd, mae’n debyg y bydd mwy o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol a chaiff y cynigion a gyflwynir gan Cyfeillion Bws 65 eu hystyried bryd hynny. · Dyfodol Gwasanaeth Severn Express (X7): Cafodd yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar y gwasanaeth a’i gysylltiadau ei gylchredeg. Bu twf calonogol mewn defnydd yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Bydd y gwasanaeth yn rhedeg tan ddiwedd y flwyddyn ac mae cynlluniau eraill yn cael eu hystyried yn seiliedig ar ganfyddiadau’r adroddiad. · Safle Bws Newydd, y Fenni: Yng nghyswllt amserlenni am safle bws newydd ar Heol Parc yn ymyl Tesco yn y Fenni, rhoddwyd diweddariad y cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo ond nad oes unrhyw ddyddiad ar gael gan fod Llywodraeth Cymru wedi codi ymholiadau o’r asesiad diogelwch. Gobeithir cwblhau’r cynlluniau a dechrau ar y broses tendr yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Roedd Aelodau yn siomedig gyda’r amserlen gan y byddai cyn y Nadolig wedi bod yn llawer gwell ar gyfer busnesau yn y pen hwnnw o’r dref. Bydd y Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd yn dilyn y mater hwn gyda Llywodraeth Cymru. · Gwaith Ffyrdd (A466): Rhoddwyd diweddariad bod Cyngor Sir Swydd Caerloyw yn gwneud gwaith gosod wyneb newydd ar ei ochr o’r ffin ac mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn cydlynu peth gwaith ar ei ochr ef i leihau tarfu. Mae’r manylion ar yr adroddiad gwaith ffyrdd ar y wefan. Gall peth gwaith fod wedi cynnwys cau ffyrdd ei ohirio tan y flwyddyn ariannol nesaf. · Gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru i Gas-gwent: Gofynnwyd am gysylltu gyda Trafnidiaeth Cymru gan fod gwasanaeth i Gaerdydd am 18.45 ac wedyn ddim byd tan 21.09, sef y trên olaf. Mae angen gwella sylweddol gyda’r cysylltiadau i Ganolbarth Lloegr a’r Gogledd. Gofynnodd y Cadeirydd i Swyddogion ddilyn y mater hwn lan gyda Trafnidiaeth Cymru. |
|
Blaengynllun Gwaith PDF 429 KB Cofnodion: Nodwyd y blaengynllun gwaith fel y’i cylchredwyd. Gwahoddwyd i Addodau sydd ag awgrymiadau ar gyfer y blaengynllun i’w hanfon at wendybarnard3@monmouthshire.gov.uk . Mae angen ailflaenoriaethu’r cynllun a gofynnwyd i swyddogion adolygu’r cynnwys.
|
|
Cadarnhau nodiadau'r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2020 PDF 161 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf.
|
|
Cadarnhau dyddiad y cyfarfod nesaf sef dydd Mercher 25 Tachwedd 2020 |